Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 434301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Dilwyn Lloyd (eilydd), Eurig Wyn, a’r Cynghorwyr Jean Forsyth, Sian Gwenllian (oherwydd ei bod yn datgan buddiant personol) ac Ioan C. Thomas (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: DATGAN BUDDIANT PERSONOL (a) Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Michael Sol
Owen yn Eitem 5 ar y rhaglen – Ceisiadau Cynllunio (Cais Cynllunio Rhif
C15/0337/11/AM) oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd
Cartrefi Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Eitem 5 ar y rhaglen – Ceisiadau Cynllunio: (i) Cais Cynllunio Rhif C15/0337/11/AM - oherwydd
ei bod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (ii) Cais Cynllunio Rhif C15/0662/09/LL –
oherwydd ei bod yn Aelod o Gyngor Tref Tywyn a fydd yn derbyn cyfraniad
ariannol gan yr ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elwyn Edwards (a
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen - Ceisiadau cynllunio rhifau C14/0291/04/LL a
C15/0517/04/LL ·
Y Cynghorydd Aeron Maldwyn
Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen - Cais cynllunio rhif
C14/0386/24/LL ·
Y Cynghorydd John Brynmor
Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen - Cais cynllunio rhif
C15/0341/39/LL ·
Y Cynghorydd Simon Glyn (a
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen – Cais
cynllunio rhif C15/0424/46/LL ·
Y Cynghorydd John Wynn Jones (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen – Cais
cynllunio rhif C15/0507/11/LL ·
Y Cynghorydd Jason Humphreys
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen – Cais
cynllunio rhif C15/0748/44/LL Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau dan sylw ac ni
fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion yu cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 28 Medi 2015, fel rhai cywir. (Copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Medi 2015 fel
rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATAD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. (Copi ynghlwm) Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif. C14/0291/04/LL - Tir ger Bodelith Isaf, Llandderfel PDF 987 KB Codi 2 tyrbin gwynt 57m i’r hyb gyda cyfanswm uchder o 92.5m (yn lle 115m) at frig y llafnau (Uchafswm allbwn 5 Mw) ynghyd a thrac, adeilad ac offer atodol. Aelod Lleol: Cynghorydd Elwyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi 2 tyrbin gwynt 57m i’r hyb gyda chyfanswm uchder o
92.5m (yn lle 115m) at frig y llafnau (uchafswm allbwn 5MW) ynghyd a thrac,
adeilad ac offer atodol. ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn
y cyfarfod. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch SwyddogRheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn cynnwys gosod sylfeini, newidydd, ceblau tanddaeryddol, adeiladu
is-orsaf drydan, creu trac mynediad, creu compownd diogelwch dros dro ac iard
storio. Cyflwynwyd gyda’r cais asesiad
amgylcheddol sydd yn ystyried effeithiau posibl y datblygiad. Cyfeiriwyd at y prif bolisïau ac
ymgynghoriadau cyhoeddus a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at
brif bolisi C26 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ynghyd a meini prawf
perthnasol sydd yn ymdrin â datblygiadau melinau gwynt. Oherwydd byddai’r datblygiad arfaethedig yn gallu
cynhyrchu 5MW, nodwyd bod y cais o faint
sydd ar drothwy’r hyn sy’n dderbyniol o fewn polisi’r Cynllun Datblygu Unedol a
thynnwyd sylw bod Nodyn Cyngor Technegol 8 yn datgan ei fod yn dderbyniol
gwrthod ceisiadau cynllunio am
ddatblygiadau dros 5MW. Tynnwyd sylw’r
Pwyllgor bod rhaid pwyso a mesur yn ofalus os yw’r cynllun arfaethedig yn
dderbyniol o safbwynt polisi datblygiadau tu allan i Ardaloedd Chwilio
Strategol gan mai prif nod y polisi yw gwarchod y tirlun. Ystyriwyd bod modd rheoli datblygiadau ategol a datgomisynu gydag amodau
perthnasol. Nodwyd nad oedd gan Uned
Bioamrywiaeth nac ychwaith Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r
datblygiad heblaw am amodau perthnasol a cwblhau y datblygiad yn unol â’r
datganiad amgylcheddol. O safbwynt mwynderau preswyl a chyffredinol, nodwyd y derbyniwyd nifer o
wrthwynebiadau ynghylch sŵn ond nid oedd gan Uned Gwarchod y Cyhoedd
wrthwynebiad i’r bwriad a bod modd rheoli hyn drwy amodau perthnasol. Pe
byddai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai angen amodau priodol i sicrhau bod y
tyrbinau yn cael eu diffodd ar adegau pe byddai cysgodion symudol yn peri
problem. Prif bryder y swyddogion cynllunio ydoedd effaith ar fwynderau preswyl y
tai cyfagos sef Cistfaen a Cae Iago ac mewn ymateb i’r pryder yma mae asiant yr
ymgeisydd wedi cyflwyno dau gynllun “wireframe” i ddangos graddfa effaith
potensial y tyrbinau ar y ddau eiddo.
Cyfeiriwyd hefyd at dyrbinau gwynt cyfagos yn Syrior a’r potensial o
effaith o sŵn cronnol a gaiff y tyrbinau sydd yn destun y cais gerbron ar
y tai cyfagos. Yng nghyswllt materion priffyrdd a thrafnidiaeth, nodwyd bod dipyn o
wrthwynebiadau wedi eu derbyn yn seiliedig ar bryder o ddiogelwch ar y
briffordd yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu. Roedd camau lliniaru wedi eu
cynnwys yn yr asesiad amgylchedd a oedd yn cynnwys cynllun rheoli traffig ond
mewn ymateb i hyn ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan Uned Trafnidiaeth
y Cyngor. Ers ysgrifennu’r adroddiad, roedd Adran Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru
wedi cyflwyno sylwadau yn datgan ni chaniateir rhoddi caniatad hyd nes
derbynnir gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd. Tynnwyd sylw y ceir nifer o henebion cofrestredig wrth ymyl y safle gyda CADW a Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd yn gwrthwynebu’r cais yn seiliedig ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C14/0386/24/LL - Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda PDF 637 KB Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad. Aelod Lleol: Cynghorydd Aeron M. Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adnewyddu caniatad rhif
C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad. (a)
Cyflwynwyd y cais uchod i’r
Pwyllgor Cynllunio i ddiweddaru Aelodau gan eu hatgoffa y caniatawyd
y cais ym Mhwyllgor Cynllunio dyddiedig 28.07.14 yn ddarostyngedig bod yr ymgeisydd yn arwyddo
cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn
ymwneud a sicrhau bod 6 o’r 24 tŷ yn dai fforddiadwy
ar gyfer angen lleol cyffredinol
ynghyd â darparu cyfraniad addysgol gan yr amcangyfrif
nad oedd digon o gapasiti o fewn ysgol Felinwnda yn y flwyddyn academaidd 2013-14 ar gyfer cynnydd
ychwanegol dros 30 o ddisgyblion. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn 2014 adolygwyd capasiti ysgolion Gwynedd gan gynnwys yr ysgol
uchod ac o ganlyniad i’r adolygiad hyn
mae’r Adran Addysg wedi cadarnhau fod capasiti’r ysgol wedi cynyddu o 30 i 56 disgybl. Golygai hyn felly bod capasiti ar gael
yn yr ysgol
ar gyfer ychwaneg o ddisgyblion fydd yn deillio o’r
datblygiad yma. I’r perwyl hwn, ni
fydd angen mwyach i’r ymgeisydd
ddarparu cyfraniad ariannol. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad
ac argymhellwyd
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol. (b)
Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), y prif bwyntiau canlynol: ·
Nad oedd ar y cyfan yn gwrthwynebu’r
cais ond ei fod yn
cwestiynu cynnydd yng nghapasiti yr ysgol i 56 ac oherwydd bod y datblygiad yn un modern rhagwelir y byddai mwy o blant
na 3 plentyn yn debygol o fynd
i’r ysgol ac roedd wedi gofyn
i’r Cyfarwyddwr Addysg sut bod y capasiti wedi cynyddu ·
Apeliwyd ar y Pwyllgor Cynllunio i ymweld â’r safle
yn ogystal â’r ysgol sy’n
cynnwys dau ddosbarth a neuadd ·
Ei fod o blaid y datblygiad yn amodol
i drafodaethau gyda’r adeiladwr i ddarparu parc chwarae i’r
pentref a chyfraniad ariannol i’r ysgol ·
Byddai’r uchod yn galluogi’r adeiladwr i adeiladu un tŷ ychwanegol ar y llecyn man chwarae ar y stad arfaethedig
a fyddai’n gwneud cyfanswm o 25 o dai yn lle 24 ·
Pe byddir yn rhoi man chwarae ar y stad bod y lôn yn beryglus ·
Ni ragwelir unrhyw broblem gyda pholisi A2 gan mai Cymraeg
yw iaith pentref Dinas ·
Bod
y dyluniad o safon dda ond nad
oedd dim wedi digwydd ers cyflwyno’r
cais yn 2009 a bod gwir angen am dai
i bobl ifanc yn y pentref ·
Bod y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais gwreiddiol gan nad oedd
y fynedfa a’r ffordd sy’n arwain
heibio’r datblygiad yn addas ar
gyfer nifer o dai ond deallir
ers hynny bod y datblygwr wedi cytuno i ledu’r brif fynedfa (c) Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, eglurodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai’r brif ystyriaeth yn y cais gerbron ydoedd bod y Pwyllgor Cynllunio wedi caniatáu’r union gais yng Ngorffennaf 2014 ar gyfer 24 tŷ (gyda 6 ohonynt yn fforddiadwy) ond ers hynny bod Adran Addysg y Cyngor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C14/0532/14/LL - Plas Brereton, Ffordd Bangor, Caernarfon PDF 734 KB Addasu adeilad ar gyfer bwyty a gwesty (9 ystafell wely), newididau i’r fynedfa, torri coed, tirlunio, mannau parcio, addasu adeilad i gaffi a chodi unedau gwyliau newydd i greu cyfanswm o 18 uned wyliau. Aelod Lleol: Cynghorydd Ioan C. Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu adeilad ar gyfer
bwyty a gwesty (9 ystafell wely), newidiadau i’r fynedfa, torri coed, tirlunio, mannau parcio, addasu Bwthyn Glan
y Môr i gaffi a chodi unedau gwyliau
newydd i greu cyfanswm o 18 uned wyliau. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai’r
bwriad ydoedd trosi, ymestyn ac addasu’r eiddo fel amlinellir uchod. Lleolir yr eiddo
tu allan i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir
yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac yn ffinio i’r
gorllewin gyda’r Fenai sydd wedi
ei ddynodi fel Safle Cadwraeth
Natur o Bwysigrwydd rhyngwladol. Ymhellach draw i’r gorllewin ceir AHNE Arfordir Ynys Môn. Ceir llwybr troed/beics cyhoeddus Lôn Las Menai rhwng Bwthyn Glan y Môr
a Phlas Brereton.
Mae’r rhan yma o’r Fenai
wedi ei adnabod
gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel ardal sydd
yn rhannol o fewn Parth C2 fel
y’i cyfeirir ato yn Nodyn
Cyngor Technegol 15 ar “Datblygu a Pherygl Llifogydd” (2004) a bod rhan o safle’r cais o fewn cyrraedd llifogydd
eithafol. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. O safbwynt mwynderau gweledol, ni ystyrir
y byddai’r bwriad yn cael effaith
sylweddol nac arwyddocaol ar osodiad gweledol yr AHNE a bod y bwriad yn dderbyniol yn
seiliedig ar ofynion y polisïau perthnasol. Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i’r
cais yn ddarostyngedig
i gynnwys nifer o amodau sy’n ymwneud
a dyluniad i wella’r fynedfa bresennol. O safbwynt materion bioamrywiaeth, nodwyd bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno sy’n
cadarnhau bod clwydfannau ystlumod ym Mhlas
Brereton ac fe fydd angen i’r ymgeisydd
ymgymryd â mesurau lliniaru perthnasol i’w diogelu. Sicrhawyd bod y bwriad yn cydymffurfio a pholisiau perthnasol o safbwynt materion ieithyddol a chymunedol. Pe byddai’r cais yn cael ei
ganiatáu byddai’r datblygiad yn hwb
i’r economi leol ac yn osgoi
i’r adeilad ddirywio ymhellach. Tynnwyd sylw bod safle’r caffi bwriadedig oddi fewn Parth
C2 ac o fewn cyrraedd llifogydd ond fe
gyflwynwyd asesiad canlyniadau sy’n datgan gellir rheoli
canlyniadau llifogydd gydol oes y datblygiad
drwy ymgorffori mesurau lliniaru yn y cynllun i addasu’r adeilad ar gyfer y caffi. Derbyniwyd sylwadau gan yr Aelod
Lleol yn datgan nad oedd
ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais ond bod ganddo
ychydig o bryder am ddiogelwch wrth Fwthyn Glan y Môr
oherwydd bod strwythur y
doc yn fregus mewn rhai llefydd
ac angen diogelu na fydd cwsmeriaid
/ cyhoedd yn syrthio i’r dŵr. Hefyd roedd yn pryderu
am y fynedfa. Argymhellir i ganiatáu’r cais oherwydd ystyrir
bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a pholisïau a chanllawiau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod y safle yn wag ar hyn
o bryd mewn cyflwr gwael · Bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C15/0337/11/AM - Plas Llwyd, Stryd Fawr, Bangor PDF 819 KB Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely. Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cymerwyd y Gadair gan y
Cynghorydd Gwen Griffiths ar gyfer
y cais hwn oherwydd bod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol. Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm
o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio
yng nghyfarfod mis Medi o’r
Pwyllgor Cynllunio er mwyn cadarnhau’r
sefyllfa perchnogaeth tir a derbyn cadarnhad
o union fwriad yr ymgeiswyr ynghlyn a datblygu’r safle. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli o fewn ardal breswyl ar
y stryd fawr ym Mangor, sy’n
ffurfio rhan o ardal breswyl Hirael. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. Nodwyd er mai cais amlinellol
a gyflwynwyd, bod yr holl faterion a gadwyd yn ôl
wedi eu cynnwys, gyda’r cynlluniau llawn gan gynnwys
edrychiadau, fel rhan o’r cais. Cyflwynwyd y cais gan Cartrefi Cymunedol
Gwynedd ar gyfer tir sydd yn
eu perchnogaeth gyda’r bwriad o ddatblygu’r safle eu hunain i ddarparu
fflatiau i bobl leol ar rent fforddiadwy. Gan gymryd i ystyriaeth bod yr ymgeisydd yn
paratoi tai newydd cymdeithasol ar rent i drigolion lleol o dan eu cyfrifoldebau
statudol, credir y gellir ymdrin â’r
cais fel eithriad i bolisi CH6. Pwysleisiwyd gan mai Cartrefi
Cymunedol Gwynedd fydd y datblygwyr ni fydd
angen cytundeb 106. Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio gyda holl bolisïau
perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol a chyngor cenedlaethol perthnasol ac nad yw’r bwriad yn
debygol o achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r
ardal leol nac ar unrhyw
eiddo cyfagos. (b) Yn manteisio ar
y cyfle i siarad, nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol: ·
Bod
ychydig o ansicrwydd yn y cyfarfod diwethaf
o’r Pwyllgor Cynllunio o’r hyn
a fwriedir ac fe ymhelaethodd ar y bwriad o ddatblygu 9 fflat fforddiadwy ar gyfer rhent
cymdeithasol yn benodol ar gyfer
pobl leol yn ardal Bangor ac nid i fyfyrwyr ·
Bod cryn angen yn ardal
Bangor am fflatiau un llofft
a bod oddeutu 100 ar y rhestr aros tai Cyngor Gwynedd ·
Bod Adran Strategol Tai y Cyngor yn gefnogol i’r cynllun
·
Bod y cynllun wedi ei raglennu
ar raglen wrth gefn a hyderir
y bydd grant ar gael yn ystod
y flwyddyn gyfredol ·
Hyderir y bydd y materion a
gadwyd yn ôl hefyd yn
cael ystyriaeth ffafriol gan y Pwyllgor Cynllunio (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol
â’r argymhelliad. (ch) Cefnogwyd y cais gan y Pwyllgor
gan nodi bod gwir angen tai i bobl leol yn
ardal Bangor. PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 1.
Amod amser caniatâd amlinellol 2.
Amod cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ar ffurf
cais materion a gadwyd yn ôl. 3.
Amodau Dwr Cymru 4.
Dim ffenestri 5.
Rhaid cwblhau’r lle parcio fel y dangoswyd ar y
cynllun amgaeedig. 6. Rhaid cyflwyno, cytuno a gweithredu cynllun ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C15/0341/39/LL - Ynys Sant Tudwal (Gorllewin), Abersoch PDF 459 KB Gwaith peiriannyddol i greu llithrfa. Aelod Lleol: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gwaith peirianyddol i greu llithrfa. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu Rheolaeth ar gefndir y cais
sy’n ymwneud ag adeiladu llithrfa fyddai’n gallu lansio dau gwch. Nodwyd bod llawer o drafodaethau wedi mynd rhagddynt
ac yn benodol gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cais
er mwyn cael
datrysiad derbyniol i’r mater. Roedd y swyddogion hefyd wedi ymweld
â’r safle er mwyn gallu
rhoi barn gadarn ar y datblygiad. Cyfeiriwyd at yr holl bolisïau perthnasol
ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. O safbwynt egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw bod polisi CH47 yn gefnogol i gynigion
sydd yn gwella
a helaethu’r amrywiaeth o gyfleusterau morwrol yn y marinau presennol. Fodd bynnag, er bod y polisi yn gefnogol
i gynigion i wella darpariaeth bod hyn yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda gweddill meini prawf y polisi sy’n nodi “cyn
belled ag y bod graddfa a dyluniad
y datblygiad o’r safon uchaf ac yn addas ar
gyfer y safle dan sylw. Gwerthfawrogir bod y lleoliad yn eithaf sensitif
o safbwynt bioamrywiaeth a sicrhawyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei asesu yn
llawn yn erbyn y polisïau cynllunio perthnasol yn ogystal a’i
fod wedi ei asesu yng
nghyd destun ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd’ ac ‘Asesiad Priodol’. Cyflwynwyd fel rhan o’r
cais asesiad amgylcheddol anstatudol sydd yn cynnwys
arolygon ac asesiadau yn ymwneud gyda
sgil effeithiau’r bwriad ar yr
holl ddynodiadau perthnasol. Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio
a’r polisïau perthnasol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi’r
farn. O safbwynt mwynderau gweledol, cadarnhawyd yn dilyn asesiadau
llawn a gwblhawyd ynglŷn ag effaith gweladwy’r datblygiad arfaethedig ar y tirlun a’r
morlun, mai effaith dibwys niweidiol fyddai’r bwriad yn ei
gael. Tynnwyd sylw’r Aelodau at bwyntiau 5.8 - 5.26 o’r adroddiad sy’n cyfeirio at y dynodiadau a sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Uned
AHNE. Cyfeiriwyd yn ogystal
at effaith y datblygiad ar yr AHNE, gan
nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod ’'r casgliad
y byddai’r llithrfa arfaethedig ar adegau yn gwrthdaro
gyda chadwraeth statudol a phwrpas mwynhad dynodiad yr AHNE. Fodd bynnag, o ystyried dylanwad llanw ar y bwriad
a’r ffaith na fyddai’r llithrfa
ond yn weledol
i raddau amrywiol ar adegau o lanw
is ni fyddai effaith cyflawn y llithrfa o’r llwybr
arfordirol yn cael effaith andwyol
sylweddol ac o’r herwydd ni wrthwynebai
Cyfoeth Naturiol Cymru i ganiatâd cynllunio gael ei roi. Ystyrir felly bod y bwriad yn dderbyniol
o safbwynt bioamrywiaeth ac
y byddai angen cynnwys amodau perthnasol pe caniateir
y cais. O gymryd yr holl
sylwadau a gwybodaeth a gyflwynwyd ni ystyrir
y byddai’r bwriad yn achosi niwed
arwyddocaol i’r dirwedd na’r morlun
ychwaith. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: · Byddai’r llithrfa wedi ei orchuddio yn rhannol drwy dirwedd yr ynys ac yn rhannol drwy effaith y môr yn ôl cyflwr y llanw ac ar rai adegau bydd rhan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C15/0424/46/LL - Tir ger Garreg Lwyd, Dinas PDF 636 KB Adeiladu adeilad amaethyddol gyda storfa slyri oddi tanddo (gyda darn o’r storfa slyri tu allan i’r adeilad) ynghyd a chreu mynedfa amaethyddol, trac sial a iard. Aelod Lleol: Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu adeilad amaethyddol gyda storfa slyri
oddi tano (gyda darn o’r storfa
slyri tu allan i’r adeilad)
ynghyd a chreu mynedfa amaethyddol. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y byddai’r adeilad arfaethedig yn mesur 30.5 medr
wrth 36.6 medr, gyda rhan isaf
waliau allanol yr adeilad yn
baneli concrid gyda’r rhan uchaf
o fyrddau Swydd Efrog. Lleolir y safle yng nghefn gwlad
ac oddi fewn i’r AHNE Llyn ac Ynys Enlli. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor yn
sgil derbyn 3 neu fwy o lythyrau
o wrthwynebiad. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol
ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus. O safbwynt egwyddor y datblygiad, nid oedd amheuaeth bod angen wedi ei
brofi ar gyfer yr adeilad
amaethyddol newydd sy’n destun y cais
ac ystyrir ei fod yn rhesymol
angenrheidiol ar gyfer dibenion amaethyddiaeth. Er nad yw’r bwriad
wedi ei leoli
gerllaw adeiladau presennol nodwyd ei bod yn rhesymol
disgwyl y byddai daliad o dir sy’n
cynnwys 110 acer gydag adeilad amaethyddol wedi ei leoli
arno ac ystyrir fod y rhesymau’r ymgeisydd am yr angen i gael sied
ar y tir yn rhai rhesymol
a theilwng o ran hwyluso’r drefniadaeth ar y fenter amaethyddol. O safbwynt mwynderau gweledol, nodwyd er bod y sied yn sylweddol
ei faint bod y math yma o strwythur yn un sydd yn ddisgwyliedig
ei weld yng nghefn gwlad ac ni ystyrir y byddai’r
bwriad felly’n sefyll allan fel
nodwedd estron o fewn lleoliad gwledig
o fewn yr AHNE. Yn sgil newidiadau a gynigwyd a drwy roddi amod i sicrhau
bod clawdd pridd yn cael ei
godi er mwyn
plannu draenen ddu ystyrir na
fyddai’r bwriad yn achosi niwed
arwyddocaol i’r dirwedd a’i fod
felly yn dderbyniol o ran Polisi B8 CDUG. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn debygol o achosi
niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol a’i fod
yn dderbyniol o safbwynt y polisiau perthnasol. O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn amharu ar ddiogelwch
ffyrdd yn ddarostyngedig i amod priodol ynglŷn â sicrhau nad yw
dwr wyneb yn llifo o’r
safle i’r briffordd. Yng nghyd-destun materion
bioamrywiaeth, ystyrir bod
y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig
i amodau o ran cyflwyno a chytuno manylion y clawdd, cynllun cyfadferiad bioamrywiaeth ynghyd a gwneud y gwaith i’r llethr
y tu allan i’r tymor nythu
adar. Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau
perthnasol, ystyrir bod y bwriad arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellir i’w ganiatáu. (b)
Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn
Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol: ·
bod y cais gerbron oherwydd llythyr o wrthwynebiad gan berchennog eiddo oddeutu hanner
milltir i ffwrdd ·
bod y swyddogion cynllunio wedi trafod gyda’r ymgeisydd
ac wedi cytuno ar gyfaddawd sy’n
bodloni’r ddwy ochr ·
o
safbwynt materion bioamrywiaeth, nodir na fydd unrhyw
fygythiad i rywogaethau ·
bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r
cais (c) Cynigwyd ac eilwyd i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C15/0507/11/LL - 390 Stryd Fawr, Bangor PDF 852 KB Cais i ddymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 4 llawr sy’n darparu 7 uned byw hunan gynhaliol ynghyd a darparu mynedfa a pharcio cysylltiol. Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 4 llawr sy’n
darparu 7 uned byw hunan gynhaliol ynghyd a darparu mynedfa a pharcio
cysylltiol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
safle ar ran isaf Stryd Fawr, Bangor ac o fewn ffiniau datblygu’r ddinas. Nodwyd bod y safle presennol o ran ei
ddefnydd yn cael ei ddisgrifio fel canolfan busnes toeau’r ymgeisydd gyda
defnydd yr adeilad fel swyddfeydd a’r iard i’r cefn yn cael ei ddefnyddio i
barcio cerbydau a chadw deunyddiau ag offer. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r
ymgynghoriadau cyhoeddus a thynnwyd sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr
Asiant ar y daflen sylwadau ychwanegol a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor. O safbwynt mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle
wedi ei leoli mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda rhan isaf Stryd Fawr,
Bangor gyda’r safle yn cael ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint,
dyluniad ac edrychiadau gyda defnydd preswyl yn bennaf iddynt. Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai unrhyw ddatblygiad ar y safle yn debygol
o gael peth effaith ar fwynderau gweledol yr ardal ond fe fyddai’r bwriad yn yr
achos yma yn sylweddol gan greu gwahaniaeth o oddeutu 6 medr ychwanegol mewn
uchder o’i gymharu gydag uchder to'r adeilad presennol. Nodwyd y byddai llwyddiant datblygu’r safle yn
ddibynnol ar ystyriaeth lawn o effaith unrhyw adeilad ar edrychiadau presennol
gan gynnwys yr adeiladau rhestredig cyfochrog, ystyrir bod modd creu adeilad
addas a thrawiadol na fyddai’n dominyddu’r strydlun na’r adeiladau rhestredig
cyfochrog ond ni chredir fod hynny wedi ei gyflawni yn yr achos yma. Tynnwyd sylw bod yr adeilad sydd i’w ddymchwel
ynghlwm i ran o dalcen a blaen rhif 1 Rhesdai Friars, sydd yn ffurfio rhan o res o dri adeilad trawiadol
rhestredig gradd II. Mae cais ar wahân
wedi ei gyflwyno ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig i gynnal y gwaith yma. Datgan yr Uwch Swyddog Cadwraeth bod rhesdai Friars a Phlas Meuryn yn
adeiladau traddodiadol eu hedrychiad ac y byddai’r datblygiad newydd yn hollol
fodern. Ystyrir bod y bwriad yn rhy fawr
i’r safle ac na fyddai’n ategu at werth a chymeriad y rhesdai
rhestredig ond yn hytrach y byddai yn tanseilio’r cymeriad presennol. Fe fyddai codi adeilad newydd 4 llawr yn
dominyddu’r safle ac yn cael effaith andwyol ar gymeriad a gosodiad y rhesdai rhestredig cyfochrog. Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau, nodwyd nad
oedd egwyddor y datblygiad yn annerbyniol, ond bod angen diwygiadau sylweddol
yn nhermau dyluniad a graddfa’r adeiad a hynny er
mwyn creu cynllun sy’n addas a derbyniol ar gyfer y safle arbennig hwn ac sydd
yn mateb i bryderon y swyddogion. Ystyrir y bwriad felly yn annerbyniol gan nad
yw yn cydymffurfio a gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol. (b)
Deallwyd bod yr aelod lleol yn gefnogol i argymhelliad y swyddogion
cynllunio i’w wrthod. (c)
Cynigwyd ac eiliwyd yr
argymhelliad. PENDERFYNWYD: Gwrthod am y rhesymau canlynol: 1. Mae’r bwriad yn groes i holl ofynion Polisiau B22, B23 a B25 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C15/0533/11/LL - Railway Institute, Euston Road, Bangor PDF 1013 KB Cais ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 3 llawr i greu cyfanswm o 27 fflatiau ar gyfer myfyrwyr, ail osod pafin a chreu cilfan a parcio ar gyfer 7 cerbyd. Aelod Lleol: Cynghorydd John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer dymchwel
adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 3 llawr i greu cyfanswm o 27 fflatiau ar gyfer
myfyrwyr, ail osod pafin a chreu cilfan
a pharcio ar gyfer 7 cerbyd. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli
o fewn ardal breswyl yn Ninas
Bangor a thu mewn i’r ffin datblygu,
ar dir serth
ar hyd Ffordd
Euston, ger Swyddfa Sortio Post a’r rheilffordd. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau
fel y nodwyd yn yr adroddiad. O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd: ·
Nad yw’r adeilad
bellach mewn defnydd ·
Nad oedd CADW yn ystyried bod yr adeilad yn
cwrdd y meini prawf ar gyfer
ei restru ·
bod y bwriad ar gyfer codi
adeilad newydd ar gyfer darparu
llety myfyrwyr ac nad oedd polisi
penodol yn y CDU sy’n ymdrin gyda
datblygiad o’r math hwn ·
bod angen pwyso a mesur yr
ystyriaethau materol wrth benderfynu os yw’r egwyddor
y datblygiad yn y lleoliad penodol hwn yn dderbyniol ·
ffigyrau a thablau yn dangos sefyllfa
ddiweddaraf yn ymwneud a datblygiadau llety myfyrwyr ym Mangor O ganlyniad
i ddatganiadau ychwanegol a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais,
ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol. Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth
yn fodlon gyda’r ddarpariaeth parcio ar y stryd
ynghyd a chadw’r palmant. Cyflwynwyd datganiad effaith Ieithyddol a Chymunedol gyda’r cais ac wedi ymgynhgori gyda’r Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd ystyriwyd bod y bwriad yn unol
â’r polisïau perthnasol ac na fyddai’r bwriad yn cael effaith
ar yr iaith
Gymraeg. Yn seiliedig ar yr
holl ystyriaethau, ystyrir bod y cais yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol ac nad oes unrhyw ystyriaeth
materol arall yn datgan i’r
gwrthwyneb ac argymhelliad
y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol: ·
bod gormodedd
o lety myfyrwyr ym Mangor ac nid
oes angen mwy ·
nad oedd y neuaddau preswyl yn llawn ·
bod nifer sylweddol o lefydd gwag ar gael
mewn tai sector preifat ·
bod dirywiad yng nghyfanswm poblogaeth myfyrwyr Bangor ers sawl blwyddyn ·
mai’r prif wrthwynebiad ydoedd dymchwel yr adeilad sy'n
rhan bwysig o Fangor a Chymru gan fod treftadaeth bensaernïol yn diflannu’n gyflym ·
bod yr ystyriaeth cynllunio yn nodi "bod yr adeilad ar
y safle yn un hanesyddol, gydag elfennau pensaernïol pwysig a hanes cymunedol i'r ardal” ·
nad oedd CADW wedi rhoi statws
rhestredig i’r adeilad oherwydd bod y tu fewn wedi
colli llawer o'i nodweddion ·
bod dros 1,000 o bobl
wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn dymchwel
yr adeilad gan gynnwys y Gymdeithas
Fictoraidd a Chymdeithas Ddinesig Bangor. Fodd bynnag, pe byddir
yn penderfynu rhoi caniatâd ar
gyfer yr anheddau i fyfyrwyr anogwyd y Pwyllgor i’w wneud yn
amodol i ail-ddefnyddio’r adeilad ac nid i’w ddymchwel · gwnaed cais i’r Cadeirydd dderbyn y ddeiseb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C15/0662/09/LL - Tir yn Camp Morfa, Sandilands, Tywyn PDF 760 KB Gosod paneli solar PV (3.6 MW) i gynnwys adeiladau atodol, tirlunio a mynedfa i’r safle. Aelodau Lleol: Cynghorwyr Anne T. Lloyd Jones a Mike Stevens Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod paneli solar PV
(3.6MW) i gynnwys adeiladau atodol, tirlunio a mynedfa i’r safle. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi
bod safle’r cais yn mesur oddeutu 6.7 hectar ac mae’n cynnwys tir pori
amaethyddol gradd 4 sydd wedi ei leoli ar y morfa ar gyrion tref Tywyn. Mae’r
safle yn rhan o hen wersyll Awyrlu Morfa Camp.
Nodwyd bod Ardal Gadwraeth
Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau wedi ei leoli ym Mae Ceredigion sydd oddeutu 0.7km
i’r gorllewin o’r safle, ac mae dwy Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi
ei lleoli cyfagos, y naill ar y Morfa Gwyllt sydd o fewn 0.6km i’r safle i’r
gogledd a’r llall sef y Dyfi o fewn 1.4km i’r
de. Tynnwyd sylw bod henebion Caer Llechrwyd a Gwersyll Tal y Garreg wedi ei lleoli i ogledd y
safle, ac mae nifer o adeiladau rhestredig wedi eu lleoli nid nepell o’r safle
yn nhref Tywyn. Golygai’r bwriad osod
paneli solar ar gyfer creu parc solar fyddai’n creu 3.6MW o drydan i’r Grid
Cenedlaethol. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel
amlinellwyd yn yr adroddiad. O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd polisi C1 o’r Cynllun Datblygu Unedol
yn ymwneud â lleoli datblygiad newydd,
ac mae’n datgan mai tir o fewn ffiniau datblygu trefi a phentrefi a ffurf
ddatblygedig pentrefi gwledig fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau
newydd. Ystyrir bod y bwriad yn
dderbyniol o safbwynt polisïau perthnasol y CDUG ac yn cydymffurfio a’r polisi
priodol ar gyfer darparu ynni o ffynonellau adnewyddadwy. O safbwynt dyluniad a deunyddiau, tynnwyd sylw nad oedd y cynlluniau yn
manylu ar ddeunyddiau na’r gorffeniadau bwriedig y
strwythuron ond roedd modd cytuno defnyddio deunyddiau sy’n dderbyniol ac yn
gweddu i’r safle. Bwriedir tirweddu’r
safle drwy fesurau priodol ac ystyrir bod y bwriad felly yn cydymffurfio a
pholisïau perthnasol yn ddarostyngedig i amodau. O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod dogfennau ychwanegol wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r wybodaeth
sy’n cael ei gynnwys yn y dogfennau yn datgan na fydd y datblygiad yn achosi
unrhyw niwsans neu lacharedd anaddas o ganlyniad i’r haul ddisgleirio, ac na
fydd y bwriad yn achosi effaith weledol niweidiol arwyddocaol. Yng nghyd-destun llygredd golau a goleuni
ystyrir bod casgliadau'r adroddiad gerbron yn cadarnhau y gallai adlewyrchiadau
solar oddi ar y datblygiad effeithio ar dai a defnyddwyr ffyrdd cyfagos, serch
hynny ni ystyrir y byddai'r effaith hyn yn cael niwed arwyddocaol ar fwynderau
trigolion eiddo preswyl na diogelwch defnyddwyr ffyrdd cyfagos. Nodwyd mai dim ond yn ystod y cyfnod adeiladu bydd unrhyw gynnydd mewn llif
traffig, ac mae’r ymgeisydd wedi darparu cynllun rheoli llif traffig er mwyn
bodoli gofynion Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd. Ni dderbyniwyd ymateb gan Uwch Swyddog Cadwraeth y
Cyngor, serch hynny mae ymateb CADW yn nodi ei bod yn annhebygol y bydd y
datblygiad arfaethedig yn cael mwy nag effaith leol ar y dirwedd hanesyddol
cofrestredig O sicrhau y derbynnir cytundeb i weithredu mewn modd a fydd yn amddiffyn diddordeb bioamrywiaeth y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |
|
Cais Rhif C15/0748/44/LL - Cyn Safle Carafan Hamdden, Stryd Madog, Porthmadog PDF 854 KB Trosi ac ehangu cyn safle trwisio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan MOT a modurdy trwsio cerbydau. Aelod Lleol: Cynghorydd Jason Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi ac ehangu cyn
safle trwsio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan MOT a modurdy trwsio
cerbydau. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad yn cynnwys helaethu prif adeilad y safle drwy
ei ymestyn 2.3m ymlaen tuag at ffin y briffordd. Fe fyddai’r estyniad i'r
adeilad yn creu 37m2 ychwanegol o arwynebedd llawr. Lleolir y safle tu fewn i ffin datblygu
Porthmadog a nodwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais
yr Aelod Lleol. O safbwynt mwynderau
gweledol, gan fod y datblygiad ar safle
a ddefnyddiwyd o'r blaen at ddefnydd cyffelyb a'i fod gerllaw adeiladau o'r un
raddfa, ni ystyrir y byddai’n edrych
allan o le ac fe ystyrir y byddai edrychiad y datblygiad yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol. Ni ystyrir ychwaith y byddai
newid arwyddocaol yn effeithiau’r defnydd ar fwynderau’r ardal. Nodwyd y gellir sicrhau darpariaeth a threfniadau parcio derbyniol
ar y safle er cwrdd â gofynion yr Uned Drafnidiaeth ynghylch yr effaith ar
ddiogelwch priffyrdd . Yn seiliedig ar yr holl
ystyriaethau, nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail ei ddefnydd, lleoliad,
gosodiad, dyluniad, deunyddiau, graddfa ac unrhyw effaith bosibl ar fwynderau
cyffredinol yr ardal ac yn cwrdd â gofynion y polisïau perthnasol. (b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd Asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol: ·
Mai cyn garej Pennant Motors oedd ar y safle yn y gorffennol a bod y bwriad
yn creu 4 swydd newydd ac wedi cael ei llenwi gan Gymry
lleol ·
Bod y bwriad i greu y garej yn cydfynd hefo
busnes presennol yr ymgeisydd yn Nolgellau ac yn fodd o
helpu i wneud y busnes yn gynaliadwy a diogelu 20 swydd presennol ·
Noder bod yr estyniad yn gymharol fach ond yn angenrheidiol i gael lleoli
ceir i’w harddangos o fewn yr ystafell arddangos ·
Cychwynnwyd y gwaith
addasu i gael gwared ag asbestos cyn
gynted a bo modd ·
Bod caniatad cynllunio i ddatblygu ac ymestyn yr
adeilad yn bodoli eisoes ·
Ymatebwyd i’r ymgynghoriadau cyhoeddus drwy nodi o safbwynt gorddatblyu bod
y bwriad yn syml iawn i’r addasiad ar y
cyn-ddefnydd sydd wedi ei gymeradwyo gan y cynllunwyr yn barod ·
Creu mwy o drafnidiaeth – bod ystyriaeth yr arbenigwr priffyrdd yn
cadarnhau nad yw’r busnes yn mynd i greu ychwanegiad sylweddol o draffig ·
Effaith mwynderau trigolion cyfagos – nodir bod y safle wedi ei ddefnyddio
yn y gorffennol fel garej, safle trwsio carafanau a hefyd fel garej Pennant
Motors ·
Sylwadau trafnidiaeth – bod cynlluniau wedi addasu’n barod ar gyfer mannau
parcio ac wedi eu derbyn i fod yn addas a’r gofynion ·
Gwarchod y cyhoedd – dim cwynion ar gyfer defnydd o drwsio carafanau sy’n
gyffelyb i’r bwriad arfaethedig ·
Y byddai cyfyngu oriau gwaith yn creu pryder oherwydd bod y busnes angen
bod ar gael i drwsio ceir Heddlu Gogledd Cymru mewn argyfwng · Manylion o lefelau isel o ddisgleirio gan y goleuadau wedi eu cyflwyno ac sy’n dangos na fyddai mwynderau trigolion yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.10 |
|
Cais Rhif C15/0807/20/CR - Menai Marina, Hen Gei Llechi, Felinheli PDF 771 KB Cais ol-weithredol i adw pontwn o fewn y cei. Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i gadw pontŵn o fewn y cei. PENDERFYNWYD: Gohirio ystyried
y cais oherwydd gweithredu’r drefn siarad yn y Pwyllgor. |
|
Cais Rhif C15/0808/20/LL - Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli PDF 768 KB Cais ôl-weithredol i gadw pontwn o fewn y cei. Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i gadw pontŵn o fewn y cei. PENDERFYNWYD: Gohirio
ystyried y cais oherwydd gweithredu’r drefn siarad yn
y Pwyllgor |
|
Cais Rhif C15/0517/04/LL - Coed y Foel Uchaf, Frongoch PDF 757 KB Codi tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i’r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl. Aelod Lleol: Cynghorydd Elwyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i'r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli
a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl). ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld
â’r safle cyn y cyfarfod. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar dir
uchel gerllaw ffordd yr A4212 sydd yn rhedeg fel prif gyswllt rhwng tref Y Bala
a phentref Trawsfynydd. Nodwyd bod ffin
Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei leoli oddeutu 750 medr i’r gorllewin gyda
Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Y Bala a Glannau Tegid wedi ei leoli
oddeutu 2km i dde'r safle, ac mae ardal eang o Dir Mynediad Agored a ddynodwyd
dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2005) wedi ei leoli o fewn 300 medr i
ddwyrain y safle. Tynnwyd sylw bod y tir
yn borfa amaethyddol sydd wedi ei wella, gyda pheilonau trydan wedi eu lleoli
tua 450 medr i’r de o’r safle a cheir golygfeydd panoramig o’r mynyddoedd o
amgylch y safle hwn. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd a’r
ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw bod Asesiad Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd Ynys Mon,
Gwynedd a Pharc Cenedlaethol gan gwmni Gillespies yn
cadarnhau bod safle’r cais o fewn Ardal G12 Llandderfel ac yn disgrifio’r
tirwedd yr ardal yn gyffredinol fel un o raddfa ganolig sydd â chymeriad
tirwedd wledig a thonnog, sydd â sensitifrwydd canolig i uchel i ddatblygiadau ynni
gwynt. Rhagdybia’r polisi yn erbyn datblygiadau sy’n ymwthio’n sylweddol yn
weledol ac sydd wedi ei lleoli yn ansensitif ac yn
anghydnaws o fewn y tirwedd. Oherwydd amlygrwydd y datblygiad o fewn y tirlun
ac o ardal eang iawn o du fewn y Parc, ystyrir y byddai yn amharu yn sylweddol
ar fwynhad defnyddwyr y Parc Cenedlaethol.
Ystyrir y byddai’r tyrbin yn y lleoliad arfaethedig yn amharu ar y
tirlun, tynnu sylw oddi ar y Parc ac yn amharu ar ddynodiad y tir sydd o
bwysigrwydd rhyngwladol. Pwysleisiwyd oherwydd natur datblygiadau o’r math ei bod yn anodd ei
integreiddio gyda’r dirwedd a bod rhaid pwyso a mesur yn ofalus ei effaith
gweledol, statws y tirwedd, buddiannau economaidd a’r nod cenedlaethol o hybu
datblygiadau sydd yn creu ynni adweinyddol. Nodwyd yr ystyrir nad yw’r bwriad yn cwrdd â
gofynion y polisïau perthnasol a byddai’r tyrbin yn cael effaith sylweddol
arwyddocaol ar nodweddion a chymeriad arbennig y Parc Cenedlaethol.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais yn unol â’r rheswm amlinellir yn yr adroddiad. (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn): ·
Bod y cais yn ail-gyflwyniad gyda’r ymgeisydd wedi colli rhai
misoedd a’r gwrthwynebiad yn parhau gan y swyddogion ·
Nad oedd y datblygiad yn amharu
ar y dirwedd · O safbwynt toriad i’r gorwel, nodwyd bod oddeutu dwy res o beilonau yn rhedeg drwy diriogaeth y Parc Cenedlaethol sydd bron ‘run maint â’r tyrbin arfaethedig ond ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.13 |