Agenda item

Gosod paneli solar PV  (3.6 MW) i gynnwys adeiladau atodol, tirlunio a mynedfa i’r safle.  

 

Aelodau Lleol:  Cynghorwyr Anne T. Lloyd Jones a Mike Stevens

Cofnod:

Gosod paneli solar PV (3.6MW) i gynnwys adeiladau atodol, tirlunio a mynedfa i’r safle.

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod safle’r cais yn mesur oddeutu 6.7 hectar ac mae’n cynnwys tir pori amaethyddol gradd 4 sydd wedi ei leoli ar y morfa ar gyrion tref Tywyn. Mae’r safle yn rhan o hen wersyll Awyrlu Morfa Camp.  Nodwyd bod  Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau wedi ei leoli ym Mae Ceredigion sydd oddeutu 0.7km i’r gorllewin o’r safle, ac mae dwy Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi ei lleoli cyfagos, y naill ar y Morfa Gwyllt sydd o fewn 0.6km i’r safle i’r gogledd a’r llall sef y Dyfi o fewn 1.4km i’r de.  Tynnwyd sylw bod henebion Caer Llechrwyd a Gwersyll Tal y Garreg wedi ei lleoli i ogledd y safle, ac mae nifer o adeiladau rhestredig wedi eu lleoli nid nepell o’r safle yn nhref Tywyn.  Golygai’r bwriad osod paneli solar ar gyfer creu parc solar fyddai’n creu 3.6MW o drydan i’r Grid Cenedlaethol.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd polisi C1 o’r Cynllun Datblygu Unedol yn ymwneud â  lleoli datblygiad newydd, ac mae’n datgan mai tir o fewn ffiniau datblygu trefi a phentrefi a ffurf ddatblygedig pentrefi gwledig fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd.  Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau perthnasol y CDUG ac yn cydymffurfio a’r polisi priodol ar gyfer darparu ynni o ffynonellau adnewyddadwy.

 

O safbwynt dyluniad a deunyddiau, tynnwyd sylw nad oedd y cynlluniau yn manylu ar ddeunyddiau na’r gorffeniadau bwriedig y strwythuron ond roedd modd cytuno defnyddio deunyddiau sy’n dderbyniol ac yn gweddu i’r safle.

 

Bwriedir tirweddu’r safle drwy fesurau priodol ac ystyrir bod y bwriad felly yn cydymffurfio a pholisïau perthnasol yn ddarostyngedig i amodau.

 

O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod  dogfennau ychwanegol  wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r wybodaeth sy’n cael ei gynnwys yn y dogfennau yn datgan na fydd y datblygiad yn achosi unrhyw niwsans neu lacharedd anaddas o ganlyniad i’r haul ddisgleirio, ac na fydd y bwriad yn achosi effaith weledol niweidiol arwyddocaol.  Yng nghyd-destun llygredd golau a goleuni ystyrir bod casgliadau'r adroddiad gerbron yn cadarnhau y gallai adlewyrchiadau solar oddi ar y datblygiad effeithio ar dai a defnyddwyr ffyrdd cyfagos, serch hynny ni ystyrir y byddai'r effaith hyn yn cael niwed arwyddocaol ar fwynderau trigolion eiddo preswyl na diogelwch defnyddwyr ffyrdd cyfagos.

 

Nodwyd mai dim ond yn ystod y cyfnod adeiladu bydd unrhyw gynnydd mewn llif traffig, ac mae’r ymgeisydd wedi darparu cynllun rheoli llif traffig er mwyn bodoli gofynion Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd.

 

Ni dderbyniwyd ymateb gan Uwch Swyddog Cadwraeth y Cyngor, serch hynny mae ymateb CADW yn nodi ei bod yn annhebygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael mwy nag effaith leol ar y dirwedd hanesyddol cofrestredig

 

O sicrhau y derbynnir cytundeb i weithredu mewn modd a fydd yn amddiffyn diddordeb bioamrywiaeth y safle drwy amod, fe ystyrir y byddai'r cynllun yn cwrdd ag amcanion polisi B20 o’r Cynllun Datblygu Unedol.

 

Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau perthnasol, ni ystyrir bod y bwriad yn groes i unrhyw un o’r polisïau perthnasol ac felly bod y bwriad yn dderbyniol.  Argymhella’r swyddogion cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

(b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod y cynllun  ar ymyl yr anheddiad ar dir o ansawdd amaethyddol gwael ac mae'r cynllun wedi'i gynllunio gydag ystyriaeth i’r tirwedd a bioamrywiaeth  ac felly bod yr ymgeisydd yn fodlon cytuno ar gynllun tirwedd ar gyfer oes y datblygiad

·         Byddai hyn yn edrych ar wella cyfleoedd i ehedydd ac ymlusgiaid

·         Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus eang ac er nad yn fater cynllunio bydd cyfraniad ariannol yn cael ei gyflwyno i'r gymuned leol

·         O ran y carthffosydd sy'n croesi'r safle, rhoddwyd sicrwydd bod cysylltiad wedi ei wneud â Dŵr Cymru i ddiogelu asedau'r

 

(c)           Nododd y Cadeirydd bod y ddau aelod lleol wedi gorfod datgan diddordeb oherwydd cyfraniad ariannol i’r gymuned.

 

 (ch)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Bod barn y Cyngor Tref wedi ei rannu ar y mater

·         Ni chytunai rhai gyda’r argymhelliad yn wyneb y ffaith bod y Parc Cenedlaethol yn amgylchynu’r safle ac ardal gadwraeth arbennig Pen Llyn a’r Sarnau oddeutu 0.7km i’r gorllewin o’r safle ynghyd a dwy ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig wedi ei lleoli  gyfagos, ac     felly ni welir sut y gellir cyfiawnhau caniatau’r cais

·         Awgrymwyd y dylid ymweld â gwaith cyffelyb sydd wedi dechrau ar  safle Tyddyn Cae ym Mhen Llyn a oedd ym marn Aelod yn llanast ar y dirwedd

·         Bod ceisiadau cyffelyb yn cynyddu a phryderwyd am yr effaith gweledol a chytunwyd gyda’r awgrym uchod bod y Pwyllgor yn ymweld â’r safle ym Mhen Llyn gydag meddwl agored er mwyn deall yn iawn beth yw’r effaith gweledol ar y tirlun.

·         Gwnaed cais i’r swyddogion cynllunio i lunio adroddiad ardrawiad am y math yma o geisiadau ar y tirlun ac iddynt ddarparu canllawiau / rheoliadau yn union fel y gwnaed gyda melinau gwynt.

                       

(d)                      Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr mai holl bwrpas cais cynllunio yw asesu’r safle sydd           yn destun y cais a mynegwyd pryder sylweddol i’r awgrym o fynd i weld safle arall er mwyn gallugoi gwneud penderfyniad ar y cais gerbron.  Cynghorwyd  y Pwyllgor Cynllunio bod risg          sylweddol i wneud  penderfyniad ar safle yn Nhywyn yn seiliedig ar weld safle ym Mhen Llyn.

                         

(dd)      Mynegodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fod yn deall y sylw yn sgil bod y  math yma o ddatblygiad yn newydd i’r Cyngor.  O safbwynt tyrbinau gwynt trefnwyd ymweliad safle i’r Pwyllgor Cynllunio mewn Sir arall fel rhan o

hyfforddiant  ac fe ellir gwneud trefniadau cyffelyb gyda’r math yma o      

ddatblygiadau ond pwysleisiwyd bod rhaid ystyried pob cais ar ei haeddiant.

 

O ran asesiad ardrawiad tirlun, pwysleiswyd bod adroddiad swmpus gerbron sydd yn rhoi barn proffesiynol swyddogion ynghyd a’r cyrff statudol eraill ar yr effaith weledol.  Nodwyd ymhellach bod gwaith penodol wedi ei wneud gan Gallespies sydd yn edrych ar gapasiti y tirwedd yng Ngwynedd ac Ynys Mon a bod cynnwys yr adroddiad yn rhoi ystyriaeth i’r ymchwil uchod.   Nodwyd bod yr argymhellion gerbron yn seiliedig ar sylwadau yr ymgynghoriadau gyda’r swyddogion cynllunio wedi ystyried y sylwadau ac wedi dod i’r farn bod y cais yn dderbyniol.

 

(e)                      Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. 

 

 

PENDERFYNWYD:               (a)        Caniatáu gyda’r  amodau canlynol:

 

1.         5 mlynedd

2.         Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau

3.         Rhaid lleoli’r paneli yn y lleoliadau a ddangosir ar y cynlluniau neu fel y cytunwyd mewn ysgrifen gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.         Cytuno deunyddiau/lliwiau'r fframiau a’r gorchudd di-llacharedd.

5.         Cytuno ar ddeunyddiau/lliwiau'r ffens a’r polion camerâu

4.         Cytuno a chwblhau cynllun tirlunio a chynllun rheolaeth tirlunio

5.         Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Dŵr Wyneb a Chynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol.

6.         Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Bioamrywiaeth

7.         Cytuno a gweithredu cynllun rheoli llif traffig gwaith

8.         Cytuno a gweithredu Rhaglen Waith Archeolegol

10.       Dylid gosod unrhyw geblau trydan o’r datblygiad i’r cysylltiad trydanol o dan ddaear, a’i gytuno yn gyntaf gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

11.       O fewn 25 mlynedd i gwblhau'r datblygiad neu o fewn 12 mis i'r paneli solar a ganiateir drwy hyn beidio cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan, rhaid eu tynnu’n barhaol oddi ar y tir ac adfer y safle yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol.

12.       Amodau safonol Dŵr Cymru

13.       Cytuno deunyddiau allanol yr holl adeiladau.

14.       Amodau Priffyrdd.

15.       Rhaid gyrru manylion system goleuo'r safle, gan gynnwys math, union leoliad, lefel goleuedd a'r modd o ddiogelu rhag llygredd neu gorlif golau  i'r Awdurdod Cynllunio Lleol am gymeradwyaeth ysgrifenedig ac i fod yn gwbl weithredol cyn fo'r datblygiad a ganiateir trwy hyn yn cael ei gwblhau a'r safle yn dod yn weithredol

 

(b) Gofyn i’r swyddogion cynllunio drefnu hyfforddiant i’r Pwyllgor Cynllunio i’r dyfodol i gyfarch canllawiau / rheoliadau ceisiadau am osod paneli solar.

 

Dogfennau ategol: