Trosi ac ehangu cyn safle trwisio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan MOT a modurdy trwsio cerbydau.
Aelod Lleol: Cynghorydd Jason Humphreys
Cofnod:
Trosi ac ehangu cyn
safle trwsio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan MOT a modurdy trwsio
cerbydau.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad yn cynnwys helaethu prif adeilad y safle drwy
ei ymestyn 2.3m ymlaen tuag at ffin y briffordd. Fe fyddai’r estyniad i'r
adeilad yn creu 37m2 ychwanegol o arwynebedd llawr. Lleolir y safle tu fewn i ffin datblygu
Porthmadog a nodwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais
yr Aelod Lleol.
O safbwynt mwynderau
gweledol, gan fod y datblygiad ar safle
a ddefnyddiwyd o'r blaen at ddefnydd cyffelyb a'i fod gerllaw adeiladau o'r un
raddfa, ni ystyrir y byddai’n edrych
allan o le ac fe ystyrir y byddai edrychiad y datblygiad yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol. Ni ystyrir ychwaith y byddai
newid arwyddocaol yn effeithiau’r defnydd ar fwynderau’r ardal.
Nodwyd y gellir sicrhau darpariaeth a threfniadau parcio derbyniol
ar y safle er cwrdd â gofynion yr Uned Drafnidiaeth ynghylch yr effaith ar
ddiogelwch priffyrdd .
Yn seiliedig ar yr holl
ystyriaethau, nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail ei ddefnydd, lleoliad,
gosodiad, dyluniad, deunyddiau, graddfa ac unrhyw effaith bosibl ar fwynderau
cyffredinol yr ardal ac yn cwrdd â gofynion y polisïau perthnasol.
(b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd Asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol:
·
Mai cyn garej Pennant Motors oedd ar y safle yn y gorffennol a bod y bwriad
yn creu 4 swydd newydd ac wedi cael ei llenwi gan Gymry
lleol
·
Bod y bwriad i greu y garej yn cydfynd hefo
busnes presennol yr ymgeisydd yn Nolgellau ac yn fodd o
helpu i wneud y busnes yn gynaliadwy a diogelu 20 swydd presennol
·
Noder bod yr estyniad yn gymharol fach ond yn angenrheidiol i gael lleoli
ceir i’w harddangos o fewn yr ystafell arddangos
·
Cychwynnwyd y gwaith
addasu i gael gwared ag asbestos cyn
gynted a bo modd
·
Bod caniatad cynllunio i ddatblygu ac ymestyn yr
adeilad yn bodoli eisoes
·
Ymatebwyd i’r ymgynghoriadau cyhoeddus drwy nodi o safbwynt gorddatblyu bod
y bwriad yn syml iawn i’r addasiad ar y
cyn-ddefnydd sydd wedi ei gymeradwyo gan y cynllunwyr yn barod
·
Creu mwy o drafnidiaeth – bod ystyriaeth yr arbenigwr priffyrdd yn
cadarnhau nad yw’r busnes yn mynd i greu ychwanegiad sylweddol o draffig
·
Effaith mwynderau trigolion cyfagos – nodir bod y safle wedi ei ddefnyddio
yn y gorffennol fel garej, safle trwsio carafanau a hefyd fel garej Pennant
Motors
·
Sylwadau trafnidiaeth – bod cynlluniau wedi addasu’n barod ar gyfer mannau
parcio ac wedi eu derbyn i fod yn addas a’r gofynion
·
Gwarchod y cyhoedd – dim cwynion ar gyfer defnydd o drwsio carafanau sy’n
gyffelyb i’r bwriad arfaethedig
·
Y byddai cyfyngu oriau gwaith yn creu pryder oherwydd bod y busnes angen
bod ar gael i drwsio ceir Heddlu Gogledd Cymru mewn argyfwng
·
Manylion o lefelau isel o ddisgleirio gan y goleuadau wedi eu cyflwyno ac
sy’n dangos na fyddai mwynderau trigolion yn cael eu heffeithio drwy lygredd
golau
·
Bod y datblygiad yn cael
ei weld i fod yn wellhad o’r edrychiad presennol a’r bwriad yn cydymffurfio
gyda pholisïau cynllunio
(c) Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), y prif bwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn gyndyn i wrthwynebu cais gan fusnes lleol ond yn croesawu y cyfle
i nodi pryderon preswylwyr lleol a’r Cyngor Tref
·
Y byddai llygredd
goleuni o safbwynt tai gyferbyn sy’n wynebu’r safle yn annerbyniol - tra’n cydnabod bod busnesau
eraill ar y stryd does dim goleuadau yn cael eu goleuo o’r busnesau hyn
·
Pryder am golli golau yn nhai Heol Wyddfa -
wedi ymweld ag un o’r tai a thystiolaeth bod y cegin wedi tywyllu
·
Y byddai cynnydd sylweddol mewn sŵn yn y gweithdy
·
Pryderon am barcio gan mai dim ond lle i un cerbyd sydd yna
·
Cwynion wedi eu derbyn
am oryrru ar y stryd ac nad oedd ddigon o fesurau i liniaru goryrru
·
Gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais
(d) Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio tra’n cydymdeimlo gyda’r pryderon rhaid ystyried y defnydd
o’r cais yma a’i fod yn gyfle i gael
rheolaeth well o’r oriau gweithredu na’r hyn sydd wedi bod yn y
gorffennol. Nodwyd bod hanes cynllunio
i’r cais ac ni fyddai cynnydd o safbwynt yrr effaith ar drigolion lleol ac y
byddai mwy o reolaeth na’r hyn sy’n bodoli yn bresennol. Nodwyd ymhellach bod caniatad
wedi ei gytuno yn 2013 ar gyfer ymestyn blaen y siop.
(dd) Ategodd
yr Uwch Beiriannydd (Rheolaeth Datblygu) yn dilyn yr ymgynghoriad cyntaf,
gwnaed sylwadau ond ers hynny derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar sut y rheolir cerbydau a pharcio cerbydau staff ac
roedd yn fodlon gyda’r trefniadau.
Cyfeiriwyd at yr ynys ynghanol ffrynt y safle a bod cyfle i dynnu’r ynys
ac o ganlyniad yn ennill dipyn o le parcio ar gyfer trigolion a chwsmeriaid.
(e) Nododd Aelod bod y Cyngor Tref
yn gwrthwynebu ac fe gynigwyd ac eilwyd
i ymweld a’r safle.
PENDERFYNWYD: Gohirio
ystyried y cais a threfnu ymweliad i’r safle.
Dogfennau ategol: