Agenda item

Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad.  

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Aeron M. Jones

Cofnod:

Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad.

 

(a)          Cyflwynwyd y cais uchod i’r Pwyllgor Cynllunio i ddiweddaru Aelodau gan eu hatgoffa y caniatawyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio dyddiedig 28.07.14 yn ddarostyngedig bod yr ymgeisydd yn arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn ymwneud a sicrhau bod 6 o’r 24 yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ynghyd â darparu cyfraniad addysgol gan yr amcangyfrif nad oedd digon o gapasiti o fewn ysgol Felinwnda  yn y flwyddyn academaidd 2013-14 ar gyfer cynnydd ychwanegol dros 30 o ddisgyblion.

           

Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn 2014 adolygwyd capasiti ysgolion Gwynedd gan gynnwys yr ysgol uchod ac o ganlyniad i’r adolygiad hyn mae’r Adran Addysg wedi cadarnhau fod capasiti’r ysgol wedi     cynyddu o 30 i 56 disgybl.  Golygai hyn felly bod capasiti ar gael yn yr ysgol ar gyfer ychwaneg o ddisgyblion fydd yn deillio o’r datblygiad yma.  I’r perwyl hwn, ni fydd angen mwyach i’r ymgeisydd ddarparu cyfraniad ariannol.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad ac             argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol.

 

(b)  Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y prif bwyntiau canlynol:

·         Nad oedd ar y cyfan yn gwrthwynebu’r cais ond ei fod yn cwestiynu cynnydd yng nghapasiti yr ysgol i 56 ac oherwydd bod y datblygiad yn un modern rhagwelir y byddai mwy o blant na 3 plentyn yn debygol o fynd i’r ysgol ac roedd wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Addysg sut bod y capasiti wedi cynyddu

·         Apeliwyd ar y Pwyllgor Cynllunio i ymweld â’r safle yn ogystal â’r ysgol sy’n cynnwys dau ddosbarth a neuadd

·         Ei fod o blaid y datblygiad yn amodol i drafodaethau gyda’r adeiladwr i ddarparu parc chwarae i’r pentref a chyfraniad ariannol i’r ysgol

·         Byddai’r uchod yn galluogi’r adeiladwr i adeiladu un ychwanegol ar y llecyn man chwarae ar y stad arfaethedig a fyddai’n gwneud cyfanswm o 25 o dai yn lle 24

·         Pe byddir yn rhoi man chwarae ar y stad bod y lôn yn beryglus

·         Ni ragwelir unrhyw broblem gyda pholisi A2 gan mai Cymraeg yw iaith pentref Dinas

·         Bod y dyluniad o safon dda ond nad oedd dim wedi digwydd ers cyflwyno’r cais yn 2009 a bod gwir angen am dai i bobl ifanc yn y pentref

·         Bod y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais gwreiddiol gan nad oedd y fynedfa a’r ffordd sy’n arwain heibio’r datblygiad yn addas ar gyfer nifer o dai ond deallir ers hynny bod y datblygwr wedi cytuno i ledu’r brif fynedfa

 

(c)  Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, eglurodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai’r brif ystyriaeth yn y cais gerbron ydoedd bod y Pwyllgor Cynllunio wedi caniatáu’r union gais yng Ngorffennaf 2014 ar gyfer 24 (gyda 6 ohonynt yn fforddiadwy) ond ers hynny bod Adran Addysg y Cyngor wedi cynnal asesiad o gapasiti’r ysgol a bod modd gwneud gwell defnydd o’r gofod sydd ar gael yn yr ysgol.  Felly yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Adran Addysg bod posib i ganiatáu’r cais am 24 gyda’r llecyn chwarae heb gyfraniad ariannol addysgol.

 

            (ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol â’r argymhelliad.

 

(d)  Cynigwyd gwelliant i’r cynnig sef i ymweld â’r safle ac fe nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid y gwelliant:

 

·         Bod yr Aelod lleol wedi crybwyll negodi gyda’r adeiladwr i adleoli’r man chwarae  ar gyfer y gymuned gyfan

·         Pryder ar sut mae’r Awdurdod Addysg wedi cyrraedd ffigwr o 56 a bod goblygiadau i hyn a olygai bod yr ysgol yn hanner gwag ar hyn o bryd.  Os oes 56 o blant yn yr ysgol bod potensial i ddenu mwy o gyllideb i’r ysgol

·         Ei fod yn ddyletswydd ar y Pwyllgor Cynllunio i fynd i ymweld â’r safle

·         Y byddai plant y stad yn gwarchod y parc chwarae ar y stad ac o bosib yn rhwystro plant y pentref gael defnydd ohono

 

 

(dd)   Pe byddir yn caniatau’r cais nododd Aelod ei dymuniad i ychwanegu amod i ddiogelu rhan helaeth o’r gwrych presennol ar y lôn i Rhos Isaf.

 

(e)  Esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr mewn ymateb i sylw wnaed ynglŷn ag ymweld â’r ysgol, ar sail y materion ger bron na ellir cyfiawnhau mynd i weld yr ysgol gan na fyddai hyn yn effeithio ar y dystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ynglyn a chapasiti yr ysgol. Eglurwyd efallai y byddai yn ddoeth i’r Pwyllgor ofyn am wybodaeth ychwanegol gan yr Adran Addysg ynglŷn â chyfiawnhad o’r cynnydd yng nghapasiti yr ysgol os nad oedd y wybodaeth yma yn glir iddynt..  Nodwyd hefyd bod angen i’r Pwyllgor ystyried yn ddwys os oedd cyfiawnhad iddynt gynnal ymwleiad safle  er mwyn ystyried y llecyn agored o fewn y sfale gan fod hwn yn unol a pholisïau'r Cyngor.

   

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant i ymweld â’r safle ac fe gariodd y gwelliant hwn.

 

 

PENDERFYNWYD:   Gohirio ystyried y cais a gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

 

Dogfennau ategol: