Agenda item

Gwaith peiriannyddol i greu llithrfa.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd John Brynmor Hughes

Cofnod:

Gwaith peirianyddol i greu llithrfa.

 

(a)          Ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu Rheolaeth ar gefndir y cais sy’n ymwneud ag adeiladu llithrfa fyddai’n gallu lansio dau gwch.  Nodwyd bod llawer o drafodaethau wedi mynd rhagddynt ac yn benodol gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cais er mwyn cael datrysiad derbyniol i’r mater.  Roedd y swyddogion hefyd wedi ymweld â’r safle er mwyn gallu rhoi barn gadarn ar y datblygiad.

           

Cyfeiriwyd at yr holl bolisïau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.

           

O safbwynt egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw bod polisi CH47 yn gefnogol i gynigion sydd yn gwella a helaethu’r amrywiaeth o gyfleusterau morwrol yn y marinau presennol.  Fodd bynnag, er bod y polisi yn gefnogol i gynigion i wella darpariaeth bod hyn yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda gweddill meini prawf y polisi sy’n nodicyn belled ag y bod graddfa a dyluniad y datblygiad o’r safon uchaf ac yn addas ar gyfer y safle dan sylw.

 

Gwerthfawrogir bod y lleoliad yn eithaf sensitif o safbwynt bioamrywiaeth a sicrhawyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei asesu yn llawn yn erbyn y polisïau cynllunio perthnasol yn ogystal a’i fod wedi ei asesu yng nghyd destunAsesiad Rheoliadau Cynefinoedd’ ac ‘Asesiad Priodol’. Cyflwynwyd fel rhan o’r cais asesiad amgylcheddol anstatudol sydd yn cynnwys arolygon ac asesiadau yn ymwneud gyda sgil effeithiau’r bwriad ar yr holl  ddynodiadau perthnasol.  Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a’r polisïau perthnasol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi’r farn.

 

O safbwynt mwynderau gweledol, cadarnhawyd yn dilyn asesiadau llawn a gwblhawyd  ynglŷn ag effaith gweladwy’r datblygiad arfaethedig ar y tirlun a’r morlun, mai effaith dibwys niweidiol fyddai’r bwriad yn ei gael.  Tynnwyd sylw’r Aelodau at bwyntiau 5.8 - 5.26 o’r adroddiad sy’n cyfeirio at y  dynodiadau a sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Uned AHNE.

 

Cyfeiriwyd yn ogystal at effaith y datblygiad ar yr AHNE, gan nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod ’'r casgliad y byddai’r llithrfa arfaethedig ar adegau yn gwrthdaro gyda chadwraeth statudol a phwrpas mwynhad dynodiad yr AHNE.  Fodd bynnag, o ystyried dylanwad llanw ar y bwriad a’r ffaith na fyddai’r llithrfa ond yn weledol i raddau amrywiol ar adegau o lanw is ni fyddai effaith cyflawn y llithrfa o’r llwybr arfordirol yn cael effaith andwyol sylweddol ac o’r herwydd ni wrthwynebai Cyfoeth Naturiol Cymru i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

 

Ystyrir felly bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt bioamrywiaeth ac y byddai angen cynnwys amodau perthnasol pe caniateir y cais.  O gymryd yr holl sylwadau a gwybodaeth a gyflwynwyd ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i’r dirwedd na’r morlun ychwaith.

 

(b)                  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Byddai’r llithrfa wedi ei orchuddio yn rhannol drwy dirwedd yr ynys ac yn rhannol drwy effaith y môr yn ôl cyflwr y llanw ac ar rai adegau bydd rhan fwyaf y strwythur o dan y dŵr

·         Bod y ddarpariaeth ar gyfer dau gwch “rib” yn unig ac yn ôl anghenraid yn cael eu cadw uwchlaw'r llanw uchaf ar ben uchaf y llithrfa a byddent wedi eu cuddio drwy effaith y tirwedd

·         Ategwyd paragraph 5.26 o adroddiad y swyddogion cynllunio

·         Bod hyd y llithrfa yn ystod llanw uchel yn cael ei gwtogi i lawr i oddeutu 13m

·         Bod golygfeydd yr ynys yn aml yn cael eu cuddio  drwy niwl,  tarth ac amodau tywydd gwael

·         Nid yw’r llithrfa yn ffurfio rhan o farina neu harbwr fel y mae ac nid oes bwriad gan yr ymgeisydd i’w gynnwys fel rhan o ddarpariaeth o’r fath i’r dyfodol

·         O safbwynt angen, bod yr ymgeisydd angen mynediad i ac o’r ynys ar gyfnodau o amrediadau a chyfyngiadau ac nid yw strwythur glanfa Trinity House yn darparu hyn

·         Bod yr ymgeisydd wedi cydweithio gyda’r ymgynghorwyr statudol a darparwyd tystiolaeth ychwanegol drwy asesiad tirlun a gweledol yn unol â rheolau cenedlaethol

·         Bod paragraph 5.25 o’r adroddiad yn casglu bod y bwriad yn ei gyfanrwydd yn ei hanfod yn strwythur statig ac na fyddai yn cael effaith ehangach ar y dirwedd hanesyddol

·         Bod yr ymgeisydd wedi ceisio dyluniad sensitif a darpariaeth bositif tuag at gymeriad yr ynys ac nid yw’r bwriad yn groes i bolisïau cynllunio perthnasol

 

(c)                Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd neb wedi cysylltu ag ef fel yr Aelod Lleol ond yn hytrach wedi cysylltu â’r Cynghorydd R H Wyn Williams ac o ganlyniad ei fod wedi trafod y cynllun yn fanwl gyda’r Cynghorydd Wyn Williams a’u bod i’ll dau yn gefnogol i’r cais.  Amlinellwyd eu sylwadau fel a ganlyn:

·         Ers y storm enfawr yn 2004 bod y llithrfa wedi dirywio a’i fod yn anodd glanio ar yr ynys

·         Bod gan Trinity House sydd yn goruchwylio’r goleudy hawl glanio a nhw yw perchnogion y glanfa presennol a deallir bod cydweithrediad rhwng Trinity House a pherchennog yr ynys i wneud y gwelliannau

·         Bod adroddiad cynhwysfawr gan yr Uned Bioamrywiaeth yn ymateb i unrhyw bryderon ac nad oedd y bwriad yn amharu ar fwynderau gweledol

·         O ran iechyd a diogelwch bod gwir angen llithrfa newydd

·         Bod angen i’r llithrfa gael ei baentio gyda lliw sy’n gweddu

·         bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio a gofynion ac amodau’r cais

 

(ch)      Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol â’r argymhelliad.

 

(d)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

           

·         Faint o bwyslais a fyddir yn rhoi ar farn Cyfoeth Naturiol Cymru

·         A fyddai modd amodi lliw llwyd ar gyfer darpariaeth y ddau gwch “rib”

·         Tra’n ymwybodol bod y lanfa ym mherchnogaeth Trinity House, a fyddai modd rhoi amod bod arwydd dwyieithog “Dim Tresbasu / Dim mynediad i’r cyhoeddyn cael ei roi ar y lanfa rhag i gychod eraill lanio ar yr ynys

 

(dd)Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth

            Cynllunio fel a ganlyn:

·         Bod cydweithio a thrafodaethau trylwyr wedi digwydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a bod y swyddogion cynllunio yn rhoi gwerth i’w barn a’u harbenigedd

·         Y byddai’n amhosib amodi lliw'r cychod “rib”

·         Y byddir yn anfon nodyn i’r ymgeisydd i’w annog i roi mesurau priodol dwyieithog yn eu lle o safbwynt defnydd yr ynys

 

 

            PENDERFYNWYD:   Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda chynlluniau.

3.         Cyflwyno a chytuno Cynllun Adeiladu Rheolaeth Amgylcheddol cyn i’r gwaith ddechrau.

4.         Cwblhau’r gwaith yn unol gyda’r mesurau lliniaru ceir yn rhan 2.2 o’r Asesiad Rheoliadau Cynefin.

5.         Cytuno ar y lliw paent llwyd ar gyfer gorchuddio’r llithrfa.

 

 

Dogfennau ategol: