Codi tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i’r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl.
Aelod Lleol: Cynghorydd Elwyn Edwards
Cofnod:
Codi
tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i'r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli
a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl).
‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld
â’r safle cyn y cyfarfod.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar dir
uchel gerllaw ffordd yr A4212 sydd yn rhedeg fel prif gyswllt rhwng tref Y Bala
a phentref Trawsfynydd. Nodwyd bod ffin
Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei leoli oddeutu 750 medr i’r gorllewin gyda
Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Y Bala a Glannau Tegid wedi ei leoli
oddeutu 2km i dde'r safle, ac mae ardal eang o Dir Mynediad Agored a ddynodwyd
dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2005) wedi ei leoli o fewn 300 medr i
ddwyrain y safle. Tynnwyd sylw bod y tir
yn borfa amaethyddol sydd wedi ei wella, gyda pheilonau trydan wedi eu lleoli
tua 450 medr i’r de o’r safle a cheir golygfeydd panoramig o’r mynyddoedd o
amgylch y safle hwn.
Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd a’r
ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
Cyfeiriwyd at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.
Tynnwyd sylw bod Asesiad Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd Ynys Mon,
Gwynedd a Pharc Cenedlaethol gan gwmni Gillespies yn
cadarnhau bod safle’r cais o fewn Ardal G12 Llandderfel ac yn disgrifio’r
tirwedd yr ardal yn gyffredinol fel un o raddfa ganolig sydd â chymeriad
tirwedd wledig a thonnog, sydd â sensitifrwydd canolig i uchel i ddatblygiadau ynni
gwynt.
Rhagdybia’r polisi yn erbyn datblygiadau sy’n ymwthio’n sylweddol yn
weledol ac sydd wedi ei lleoli yn ansensitif ac yn
anghydnaws o fewn y tirwedd. Oherwydd amlygrwydd y datblygiad o fewn y tirlun
ac o ardal eang iawn o du fewn y Parc, ystyrir y byddai yn amharu yn sylweddol
ar fwynhad defnyddwyr y Parc Cenedlaethol.
Ystyrir y byddai’r tyrbin yn y lleoliad arfaethedig yn amharu ar y
tirlun, tynnu sylw oddi ar y Parc ac yn amharu ar ddynodiad y tir sydd o
bwysigrwydd rhyngwladol.
Pwysleisiwyd oherwydd natur datblygiadau o’r math ei bod yn anodd ei
integreiddio gyda’r dirwedd a bod rhaid pwyso a mesur yn ofalus ei effaith
gweledol, statws y tirwedd, buddiannau economaidd a’r nod cenedlaethol o hybu
datblygiadau sydd yn creu ynni adweinyddol.
Nodwyd yr ystyrir nad yw’r bwriad yn cwrdd â
gofynion y polisïau perthnasol a byddai’r tyrbin yn cael effaith sylweddol
arwyddocaol ar nodweddion a chymeriad arbennig y Parc Cenedlaethol.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais yn unol â’r rheswm amlinellir yn yr adroddiad.
(b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
Bod y cais yn ail-gyflwyniad gyda’r ymgeisydd wedi colli rhai
misoedd a’r gwrthwynebiad yn parhau gan y swyddogion
·
Nad oedd y datblygiad yn amharu
ar y dirwedd
·
O safbwynt toriad i’r gorwel,
nodwyd bod oddeutu dwy res o beilonau yn rhedeg drwy
diriogaeth y Parc Cenedlaethol sydd bron ‘run maint â’r tyrbin arfaethedig
ond nid yw'r
rhain yn weladwy oherwydd bod y llygaid wedi cynefino
a hwy
·
Teulu ifanc a gyflwynir y
cais sydd yn dechrau ffarmio
·
Cyngor Cymuned yn gefnogol
i’r cais
·
Pe byddai’r tyrbin yn cael ei
baentio yn llwyd teimlir y byddai’n gweddu’n naturiol gyda’r adeiladau, peilonau, a.y.b.
·
Mai dim ond dau wrthwynebiad
a gyflwynwyd sef gan Swyddog y Parc
Cenedlaethol a Chyfeillion
y Parc
·
Nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu a’r swyddogion wedi nodi mewn
cais cynharach bod sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru o bwys sylweddol
·
Apeliwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r cais
(c) Yng
nghyswllt y sylwadau uchod, pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio yn wahanol i’r peilonau bod y strwythur
yn un symudol a ddim yn
dderbyniol o safbwynt effaith weledol.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad i’w wrthod.
(ch) Nododd Aelod ei gefnogaeth i’r cais oherwydd
bod y datblygiad yn gyfle i deulu ifanc fedru cynyddu incwm. Yn dilyn yr
ymweliad safle, nid oedd yr Aelod o’r farn y byddai’r
datblygiad arfaethedig yn ymwthiol ac y byddai’n siomedig iawn pe bai’r cais yn
cael ei wrthod.
PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais oherwydd ystyrir y byddai natur estron a graddfa’r tyrbin yn ogystal â’i
leoliad ansensitif ac anghydnaws o fewn y dirwedd yn
ymwthio’n sylweddol yn weledol yn y dirwedd o gwmpas gan gael effaith niweidiol
ar olygfeydd amlwg a phanoramig sydd gan y cyhoedd i mewn, allan, ac ar draws y
tirwedd o gwmpas sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri a chefn gwlad agored a
thrwy hynny niweidio nodweddion a chymeriad arbennig Parc Cenedlaethol Eryri yn
groes i Bolisïau B14 a C26, a Pholisïau Strategol 2 a 9 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd (2009), Canllawiau Cynllunio Atodol: Ynni Gwynt ar y Tir (2014),
Pholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 7, Gorffennaf 2014) a Nodyn Cyngor Technegol 8:Ynni Adnewyddadwy
(2005).
Dogfennau ategol: