Codi 2 tyrbin gwynt 57m i’r hyb gyda cyfanswm uchder o 92.5m (yn lle 115m) at frig y llafnau (Uchafswm allbwn 5 Mw) ynghyd a thrac, adeilad ac offer atodol.
Aelod Lleol: Cynghorydd Elwyn Edwards
Cofnod:
Cais llawn i godi 2 tyrbin gwynt 57m i’r hyb gyda chyfanswm uchder o
92.5m (yn lle 115m) at frig y llafnau (uchafswm allbwn 5MW) ynghyd a thrac,
adeilad ac offer atodol.
‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn
y cyfarfod.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch SwyddogRheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn
cynnwys gosod sylfeini, newidydd, ceblau tanddaeryddol, adeiladu
is-orsaf drydan, creu trac mynediad, creu compownd diogelwch dros dro ac iard
storio. Cyflwynwyd gyda’r cais asesiad
amgylcheddol sydd yn ystyried effeithiau posibl y datblygiad. Cyfeiriwyd at y prif bolisïau ac
ymgynghoriadau cyhoeddus a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at
brif bolisi C26 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ynghyd a meini prawf
perthnasol sydd yn ymdrin â datblygiadau melinau gwynt. Oherwydd byddai’r datblygiad arfaethedig yn gallu
cynhyrchu 5MW, nodwyd bod y cais o faint
sydd ar drothwy’r hyn sy’n dderbyniol o fewn polisi’r Cynllun Datblygu Unedol a
thynnwyd sylw bod Nodyn Cyngor Technegol 8 yn datgan ei fod yn dderbyniol
gwrthod ceisiadau cynllunio am
ddatblygiadau dros 5MW. Tynnwyd sylw’r
Pwyllgor bod rhaid pwyso a mesur yn ofalus os yw’r cynllun arfaethedig yn
dderbyniol o safbwynt polisi datblygiadau tu allan i Ardaloedd Chwilio
Strategol gan mai prif nod y polisi yw gwarchod y tirlun.
Ystyriwyd bod modd rheoli datblygiadau ategol a datgomisynu gydag amodau
perthnasol. Nodwyd nad oedd gan Uned
Bioamrywiaeth nac ychwaith Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r
datblygiad heblaw am amodau perthnasol a cwblhau y datblygiad yn unol â’r
datganiad amgylcheddol.
O safbwynt mwynderau preswyl a chyffredinol, nodwyd y derbyniwyd nifer o
wrthwynebiadau ynghylch sŵn ond nid oedd gan Uned Gwarchod y Cyhoedd
wrthwynebiad i’r bwriad a bod modd rheoli hyn drwy amodau perthnasol. Pe
byddai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai angen amodau priodol i sicrhau bod y
tyrbinau yn cael eu diffodd ar adegau pe byddai cysgodion symudol yn peri
problem.
Prif bryder y swyddogion cynllunio ydoedd effaith ar fwynderau preswyl y
tai cyfagos sef Cistfaen a Cae Iago ac mewn ymateb i’r pryder yma mae asiant yr
ymgeisydd wedi cyflwyno dau gynllun “wireframe” i ddangos graddfa effaith
potensial y tyrbinau ar y ddau eiddo.
Cyfeiriwyd hefyd at dyrbinau gwynt cyfagos yn Syrior a’r potensial o
effaith o sŵn cronnol a gaiff y tyrbinau sydd yn destun y cais gerbron ar
y tai cyfagos.
Yng nghyswllt materion priffyrdd a thrafnidiaeth, nodwyd bod dipyn o
wrthwynebiadau wedi eu derbyn yn seiliedig ar bryder o ddiogelwch ar y
briffordd yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu. Roedd camau lliniaru wedi eu
cynnwys yn yr asesiad amgylchedd a oedd yn cynnwys cynllun rheoli traffig ond
mewn ymateb i hyn ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan Uned Trafnidiaeth
y Cyngor. Ers ysgrifennu’r adroddiad, roedd Adran Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru
wedi cyflwyno sylwadau yn datgan ni chaniateir rhoddi caniatad hyd nes
derbynnir gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd.
Tynnwyd sylw y ceir nifer o henebion cofrestredig wrth ymyl y safle gyda
CADW a Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd yn gwrthwynebu’r cais yn seiliedig ar
effaith y datblygiad ar osodiad yr henebion.
Yn ychwanegol cyfeirwyd at Gapel rhestredig ym Methel lle mae blaen y
capel yn wynebu’r safle.
O safbwynt effaith ar y tirlun, nodwyd y
byddai’r tyrbinau yn weladwy o Barc Cenedlaethol Eryri ac o’r AHNE. Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi
pryder am effaith lleol ond ddim yn gwrthwynebu ar sail golygfeydd ehangach ar
y tirweddau dynodedig.
O safbwynt effaith ar y dirwedd, er bod y Parc Cenedlaethol wedi
gwrthwynebu’r cais nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdod lleol wedi
asesu’r cais ac o’r farn er nad oedd yn cael effaith niweidiol o’r Parc
Cenedlaethol a’r AHNE y byddai’n cael effaith ar y dirwedd leol a’i edrychiad
yn y dirwedd. Pwysleisiwyd y gall
cymeriad tirwedd Bethel a dyffryn Glanrafon newid yn sylweddol oherwydd y
bwriad ac hefyd o safbwynt effaith cronnol tyrbinau gwynt ac yn unol ag arweiniad
TAN8 ni ddylai datblygiadau o dyrbinau gwynt achosi newid sylweddol i gymeriad
tirwedd.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
gwrthod y cais yn seiliedig ar effaith:
·
I’r
dirwedd lleol
·
I osodiad adeilad rhestredig
·
I
osodiad henebion cofrestredig
·
Ar fwynderau preswyl
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau
canlynol:
·
Bod
y cais arfaethedig o’r cychwyn yn groes i ganllawiau cynllunio'r Cyngor ar
ddatblygiadau tyrbinau gwynt ac yn enwedig C26 sy’n nodi mai dim ond
datblygiadau cymunedol bychan neu ddomestig fyddai’n derbyn caniatad - nid yw’r
cais gerbron yn ddatblygiad bychan
·
Ceir
tystiolaeth arbenigol sylweddol yn nodi y byddai’r datblygiad yn cael effaith
andwyol ar y tirwedd ac yn gwrth-ddweud honiad yr ymgeisydd na fyddai’n cael
effaith gronnol gyda’r datblygiadau sy’n bodoli eisoes
·
Bod y ddadl uchod wedi cael ei wrthod gan CADW a
hefyd yn yr adroddiad arbenigol
·
Ymhellach bod adroddiad diweddar gan gwmni
Gillespies yn dod i’r casgliad nad oes gan yr ardal unrhyw gapasiti ar gyfer
datblygiadau ynni gwynt pellach ac yn gweithredu fel byffer rhwng y tirweddau
gwarchodedig o gwmpas
·
Nodir yn yr adroddiad hefyd bod y cais yn groes i
ganllawiau TAN8 sy’n nodi y tu allan i ardaloedd chwilio strategol na ddylai
fod unrhyw newid sylweddol i dirwedd sy’n deillio o dyrbinau gwynt – yn bendant
byddai newid sylweddol yn deillio o’r cais hwn
·
Bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gofyn am osod
goleuadau coch ar ben y mastiau a fyddai’n fflachio 60 gwaith y funud - byddai hyn yn bendant yn newid i gymeriad y
tirwedd
·
O
ystyried yr aflonyddwch yn deillio o’r prif waith adeiladu, yna trac, craen ac
adeiladau allanol parhaol yn ogystal â’r tyrbinau gwynt byddai hyn yn
diwydiannu cefn gwlad agored o ansawdd uchel ac nad oedd lle i ddatblygiad o’r
fath mewn cornel brydferth o Wynedd
(c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd Asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Diolchwyd
i’r swyddogion cynllunio am y broses adeiladol mewn ymdrin â’r cais a theimlwyd
bod y cwmni wedi dod i fyny gyda chynllun sydd wedi llwyddo i osgoi effeithiau
ar y Parc Cenedlaethol a’r AHNE
·
Yr
unig faterion sy’n achosi pryder rhwng yr ymgeisydd a’r swyddogion cynllunio
ydoedd materion lleol. Tra ddim yn gwadu
bod yna effaith sylweddol yn lleol ond o ystyried cyd-destun newid hinsawdd a’r
gorchymyn cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddol a gyflwynwyd yn ddiweddar gan
Weinidog Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru,
teimlwyd nad oedd effeithiau lleol mor ddigonol i orbwyso argymhelliad
cadarnhaol i ganiatáu’r cynllun
·
O
safbwynt effaith ar eiddo preswyl cyfagos, nodwyd bod y tirfeddiannwr sydd yn
hyrwyddo’r cynllun yn berchen un o’r eiddo ac o’r fframiau gwifren (wireframes)
a gynhyrchwyd roedd yn amlwg mai dim ond blaen y llafnau a welir ac y byddai’r
tyrbinau wedi eu sgrinio’n dda o ran topograffeg
·
Sylweddolir
bod CADW yn pryderu o ran henebion hanesyddol, ond nid ydynt yn sicr os yw’r
henebion yn gyn-hanesydd neu ganoloesol sy’n awgrymu y bydd yn anodd diffinio
lleoliad a hefyd pwysigrwydd y lleoliad
·
Bod CADW hefyd yn cydnabod effeithiau newid
hinsawdd ar henebion hanesyddol
(ch) Nododd
yr Aelod Lleol (a oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) fel a ganlyn:
·
Ei
fod yn anodd iddo wrthwynebu’r cais gan ei fod wedi cefnogi cais tyrbinau gwynt
ym Mraich Ddu gydag uchder o 94m
·
Tynnwyd sylw bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r
cais
·
Bod y Capel ym Methel yn wag ers o leiaf 20 mlynedd ac mewn cyflwr
gwael
·
Bod y Cwmni yn cynnig arian sylweddol i’r gymuned
(d)
Mewn
ymateb i’r sylw wnaed ynglŷn â chyfraniad ariannol, cynghorwyd yr Uwch
Gyfreithiwr y Pwyllgor Cynllunio na ddylid cymryd hyn i ystyriaeth o gwbl gan
ei fod tu allan i’r drefn cynllunio.
(dd) Cynigiwyd ac eiliwyd i’w
wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddogion.
(e)
Nodwyd y
sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad i’w wrthod:
·
Bod y cais yn gyffelyb i gais cynllunio tyrbinau
gwynt Braich Du ac sydd wedi derbyn caniatad
·
Bod y Gweinidog Adnoddau Naturiol, Llywodraeth
Cymru, yn gefnogol i ddatblygiad o dyrbini gwynt
·
Pryder
pe byddai’r ymgeisydd yn ei gyfeirio am apêl, y tebygolrwydd y byddai’r
awdurdod yn colli’r apêl
PENDERFYNWYD: Gwrthod
am y rhesymau a ganlyn:
1. Byddai’r
bwriad ar ei ben ei hun ac ar y cyd gyda’r tyrbinau sydd eisoes yn agos i’r
safle yn niweidiol i gymeriad ac edrychiad yr ardal leol oherwydd maint,
lleoliad ac amlygrwydd y datblygiad arfaethedig a byddai’n cael effaith andwyol
ar fwynderau gweledol trigolion gerllaw a’r rhai hynny sy’n defnyddio’r safle
a’r ardal o’i gwmpas at ddibenion hamdden/mwynderol. Ystyrir bod y bwriad yn
groes i bolisïau B23 ac C26, Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Ynni Gwynt ar y Tir
ac arweiniad sydd yn NTC 8.
2. Oherwydd
ei faint, ei leoliad a’i amlygrwydd, byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar
leoliad yr adeilad rhestredig Graddfa II a adwaenir fel Capel Bethel. O’r
herwydd, ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisïau C26, B3 Cynllun Datblygu
Unedol Gwynedd, Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru, Adran 66(1) y Ddeddf Cynllunio
(Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) ac i Gylchlythyr 61/96 Cynllunio
a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.
3. Oherwydd
ei faint, ei leoliad a’i amlygrwydd, byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar
leoliad yr Henebion Cofrestredig a adwaenir fel Clostir Mynydd Mynyllod,
Gwersyll Euni, Cylchoedd Cerrig Caer Euni a Charnedd Gron Cern Caer Euni. Nid
yw, ychwaith, yn glir a gaiff y datblygiad effaith annerbyniol ar archeolegol
nad yw wedi’i hadnabod ac a ellid
lliniaru’r effeithiau’n foddhaol. O’r herwydd, ystyrir bod y cais yn
groes i bolisi C26 a B7 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Pennod 6 Polisi
Cynllunio Cymru a Chylchlythyr 60/96 Cynllunio
a’r Amgylchedd Hanesyddol: Archeoleg.
4. Oherwydd
nad oes digon o wybodaeth am yr effaith ar fwynderau preswyl o ran yr
effeithiau gweledol, sy’n benodol gysylltiedig â’r eiddo a adwaenir fel
‘Cistfaen’ a ‘Cae Iago’, ystyrir bod y cais yn groes i bolisïau C26 a B23
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
Dogfennau ategol: