Cais i ddymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 4 llawr sy’n darparu 7 uned byw hunan gynhaliol ynghyd a darparu mynedfa a pharcio cysylltiol.
Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth
Cofnod:
Cais i ddymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 4 llawr sy’n
darparu 7 uned byw hunan gynhaliol ynghyd a darparu mynedfa a pharcio
cysylltiol.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
safle ar ran isaf Stryd Fawr, Bangor ac o fewn ffiniau datblygu’r ddinas. Nodwyd bod y safle presennol o ran ei
ddefnydd yn cael ei ddisgrifio fel canolfan busnes toeau’r ymgeisydd gyda
defnydd yr adeilad fel swyddfeydd a’r iard i’r cefn yn cael ei ddefnyddio i
barcio cerbydau a chadw deunyddiau ag offer.
Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r
ymgynghoriadau cyhoeddus a thynnwyd sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr
Asiant ar y daflen sylwadau ychwanegol a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor.
O safbwynt mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle
wedi ei leoli mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda rhan isaf Stryd Fawr,
Bangor gyda’r safle yn cael ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint,
dyluniad ac edrychiadau gyda defnydd preswyl yn bennaf iddynt.
Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai unrhyw ddatblygiad ar y safle yn debygol
o gael peth effaith ar fwynderau gweledol yr ardal ond fe fyddai’r bwriad yn yr
achos yma yn sylweddol gan greu gwahaniaeth o oddeutu 6 medr ychwanegol mewn
uchder o’i gymharu gydag uchder to'r adeilad presennol.
Nodwyd y byddai llwyddiant datblygu’r safle yn
ddibynnol ar ystyriaeth lawn o effaith unrhyw adeilad ar edrychiadau presennol
gan gynnwys yr adeiladau rhestredig cyfochrog, ystyrir bod modd creu adeilad
addas a thrawiadol na fyddai’n dominyddu’r strydlun na’r adeiladau rhestredig
cyfochrog ond ni chredir fod hynny wedi ei gyflawni yn yr achos yma.
Tynnwyd sylw bod yr adeilad sydd i’w ddymchwel
ynghlwm i ran o dalcen a blaen rhif 1 Rhesdai Friars, sydd yn ffurfio rhan o res o dri adeilad trawiadol
rhestredig gradd II. Mae cais ar wahân
wedi ei gyflwyno ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig i gynnal y gwaith yma.
Datgan yr Uwch Swyddog Cadwraeth bod rhesdai Friars a Phlas Meuryn yn
adeiladau traddodiadol eu hedrychiad ac y byddai’r datblygiad newydd yn hollol
fodern. Ystyrir bod y bwriad yn rhy fawr
i’r safle ac na fyddai’n ategu at werth a chymeriad y rhesdai
rhestredig ond yn hytrach y byddai yn tanseilio’r cymeriad presennol. Fe fyddai codi adeilad newydd 4 llawr yn
dominyddu’r safle ac yn cael effaith andwyol ar gymeriad a gosodiad y rhesdai rhestredig cyfochrog.
Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau, nodwyd nad
oedd egwyddor y datblygiad yn annerbyniol, ond bod angen diwygiadau sylweddol
yn nhermau dyluniad a graddfa’r adeiad a hynny er
mwyn creu cynllun sy’n addas a derbyniol ar gyfer y safle arbennig hwn ac sydd
yn mateb i bryderon y swyddogion. Ystyrir y bwriad felly yn annerbyniol gan nad
yw yn cydymffurfio a gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.
(b)
Deallwyd bod yr aelod lleol yn gefnogol i argymhelliad y swyddogion
cynllunio i’w wrthod.
(c)
Cynigwyd ac eiliwyd yr
argymhelliad.
PENDERFYNWYD: Gwrthod am y rhesymau canlynol:
1.
Mae’r bwriad yn groes
i holl ofynion Polisiau B22, B23 a B25 o
GDUG gan nad yw’r dyluniad
yn ymgorffori egwyddorion dylunio da trwy ddefnyddio dulliau sy’n gyson
â natur, lleoliad a graddfa’r datblygiad.
2.
Byddai’r bwriad, oherwydd ei ddyluniad, maint,
uchder, graddfa, ffurf a’i leoliad
i ochr yr adeiladau rhestredig yn ymddangos fel
nodwedd anghydweddol gyda’r adeiladau hyn ac yn cael
effaith andwyol ar edrychiad, cymeriad
a gosodiad y safle hanesyddol. Mae’r bwriad felly yn groes i bolisiau B2 a B3 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd a chyngor o fewn pennod 6 Polisi
Cynllunio Cymru a pharagraff 11 o gylchlythyr 61/96
Y Swyddfa Gymreig sy’n datgan na
ddylai cynigion achosi niwed arwyddocaol
i gymeriad pensaernïol neu hanesyddol arbennig adeiladau rhestredig na’u gosodiad.
Dogfennau ategol: