Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely.
Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth
Cofnod:
Cymerwyd y Gadair gan y
Cynghorydd Gwen Griffiths ar gyfer
y cais hwn oherwydd bod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol.
Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm
o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely).
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio
yng nghyfarfod mis Medi o’r
Pwyllgor Cynllunio er mwyn cadarnhau’r
sefyllfa perchnogaeth tir a derbyn cadarnhad
o union fwriad yr ymgeiswyr ynghlyn a datblygu’r safle. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli o fewn ardal breswyl ar
y stryd fawr ym Mangor, sy’n
ffurfio rhan o ardal breswyl Hirael.
Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
Nodwyd er mai cais amlinellol
a gyflwynwyd, bod yr holl faterion a gadwyd yn ôl
wedi eu cynnwys, gyda’r cynlluniau llawn gan gynnwys
edrychiadau, fel rhan o’r cais.
Cyflwynwyd y cais gan Cartrefi Cymunedol
Gwynedd ar gyfer tir sydd yn
eu perchnogaeth gyda’r bwriad o ddatblygu’r safle eu hunain i ddarparu
fflatiau i bobl leol ar rent fforddiadwy. Gan gymryd i ystyriaeth bod yr ymgeisydd yn
paratoi tai newydd cymdeithasol ar rent i drigolion lleol o dan eu cyfrifoldebau
statudol, credir y gellir ymdrin â’r
cais fel eithriad i bolisi CH6. Pwysleisiwyd gan mai Cartrefi
Cymunedol Gwynedd fydd y datblygwyr ni fydd
angen cytundeb 106.
Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio gyda holl bolisïau
perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol a chyngor cenedlaethol perthnasol ac nad yw’r bwriad yn
debygol o achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r
ardal leol nac ar unrhyw
eiddo cyfagos.
(b) Yn manteisio ar
y cyfle i siarad, nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:
·
Bod
ychydig o ansicrwydd yn y cyfarfod diwethaf
o’r Pwyllgor Cynllunio o’r hyn
a fwriedir ac fe ymhelaethodd ar y bwriad o ddatblygu 9 fflat fforddiadwy ar gyfer rhent
cymdeithasol yn benodol ar gyfer
pobl leol yn ardal Bangor ac nid i fyfyrwyr
·
Bod cryn angen yn ardal
Bangor am fflatiau un llofft
a bod oddeutu 100 ar y rhestr aros tai Cyngor Gwynedd
·
Bod Adran Strategol Tai y Cyngor yn gefnogol i’r cynllun
·
Bod y cynllun wedi ei raglennu
ar raglen wrth gefn a hyderir
y bydd grant ar gael yn ystod
y flwyddyn gyfredol
·
Hyderir y bydd y materion a
gadwyd yn ôl hefyd yn
cael ystyriaeth ffafriol gan y Pwyllgor Cynllunio
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol
â’r argymhelliad.
(ch) Cefnogwyd y cais gan y Pwyllgor
gan nodi bod gwir angen tai i bobl leol yn
ardal Bangor.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1.
Amod amser caniatâd amlinellol
2.
Amod cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ar ffurf
cais materion a gadwyd yn ôl.
3.
Amodau Dwr Cymru
4.
Dim ffenestri
5.
Rhaid cwblhau’r lle parcio fel y dangoswyd ar y
cynllun amgaeedig.
6.
Rhaid cyflwyno, cytuno a gweithredu cynllun ar gyfer gwaredu
gwastraff
7.
Deunyddiau allanol
8.
Llechi ar y to.
Nodyn: Priffyrdd, Dwr
Cymru, Wal Gydrannol ac ystlumod/adar sy’n nythu.
Dogfennau ategol: