Agenda item

Adeiladu adeilad amaethyddol gyda storfa slyri oddi tanddo (gyda darn o’r storfa slyri tu allan i’r adeilad) ynghyd a chreu mynedfa amaethyddol, trac sial a iard.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Simon Glyn

Cofnod:

Adeiladu adeilad amaethyddol gyda storfa slyri oddi tano (gyda darn o’r storfa slyri tu allan i’r adeilad) ynghyd a chreu mynedfa amaethyddol.

 

(a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y byddai’r adeilad arfaethedig yn mesur 30.5 medr wrth 36.6 medr, gyda rhan isaf waliau allanol yr adeilad yn baneli concrid gyda’r rhan uchaf o fyrddau Swydd Efrog.  Lleolir y safle yng nghefn gwlad ac oddi fewn i’r AHNE Llyn ac Ynys Enlli.  Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor yn sgil derbyn 3 neu fwy o lythyrau o wrthwynebiad.

           

Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus.

 

O safbwynt egwyddor y datblygiad, nid oedd amheuaeth bod angen wedi ei brofi ar gyfer yr adeilad amaethyddol newydd sy’n destun y cais ac ystyrir ei fod yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer dibenion amaethyddiaeth.

 

Er nad yw’r bwriad wedi ei leoli gerllaw adeiladau presennol nodwyd ei bod yn rhesymol disgwyl y byddai daliad o dir sy’n cynnwys 110 acer gydag adeilad amaethyddol wedi ei leoli arno ac ystyrir fod y rhesymau’r ymgeisydd am yr angen i gael sied ar y tir yn rhai rhesymol a theilwng o ran hwyluso’r drefniadaeth ar y fenter amaethyddol.

 

O safbwynt mwynderau gweledol, nodwyd er bod y sied yn sylweddol ei faint bod y math yma o strwythur yn un sydd yn ddisgwyliedig ei weld yng nghefn gwlad ac ni ystyrir y byddai’r bwriad felly’n sefyll allan fel nodwedd estron o fewn lleoliad gwledig o fewn yr AHNE.  Yn sgil newidiadau a gynigwyd a drwy roddi amod i sicrhau bod clawdd pridd yn cael ei godi er mwyn plannu draenen ddu ystyrir na fyddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i’r dirwedd a’i fod felly yn dderbyniol o ran Polisi B8 CDUG.

 

Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn debygol o achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol a’i fod yn dderbyniol o safbwynt y polisiau perthnasol.

 

O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd yn ddarostyngedig i amod priodol ynglŷn â sicrhau nad yw dwr wyneb yn llifo o’r safle i’r briffordd.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau o ran cyflwyno a chytuno manylion y clawdd, cynllun cyfadferiad bioamrywiaeth ynghyd a gwneud y gwaith i’r llethr y tu allan i’r tymor nythu adar.

 

Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau perthnasol, ystyrir bod y bwriad arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellir i’w ganiatáu.

 

(b)       Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:

·         bod y cais gerbron oherwydd llythyr o wrthwynebiad gan berchennog eiddo oddeutu hanner milltir i ffwrdd

·         bod y swyddogion cynllunio wedi trafod gyda’r ymgeisydd ac wedi cytuno ar gyfaddawd sy’n bodloni’r ddwy ochr

·         o safbwynt materion bioamrywiaeth, nodir na fydd unrhyw fygythiad i rywogaethau

·         bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

 

(c)                  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

 

PENDERFYNWYD:   Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau.

3.         To i fod o liw llwyd siarcol RAL 7016.

4.         Y byrddau Swydd Efrog i gael eu gadael i hindreulio yn naturiol.

5.         Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig.

6.         Rhaid adeiladu’r cloddiau ger y fynedfa i fanyleb a gytunir ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

7.         Cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun cyfadferiad bioamrywiaeth sy’n argeisio i drawsleoli’r glaswelltir iseldir asid a’i reoli ar gyfer bioamrywiaeth.

8.         Dim gwaith i’w wneud i’r llethr yn ystod y tymor nythu adar sef rhwng 1 Ebrill a 1 Awst oni bai y gellir dangos i’r Awdurdod Cynllunio Lleol nad oes adar yn nythu.

9.         Cytuno cynllun tirlunio o amgylch yr adeilad a’r ffordd fynediad newydd a fydd yn cynnwys clawdd pridd gyda phlannu ar ei ben.

10.       Yr ymgeisydd i gymryd pob cam posibl i atal dŵr wyneb o’r safle rhag arllwys i’r briffordd.

 

Nodiadau-

1.         Rhedeg y safle yn unol gyda dogfen DEFRA “A Code of Good Agricultural Practice for Farmers, Growers and Land Managers” 2009.

2.         Adeiladu a gweithredu’r safle yn unol gyda chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a gynhwysir yn eu llythyr dyddiedig 11 Medi 2015.

3.         Angen hawl o dan Adran 171/184 Deddf Priffyrdd ar gyfer gwaith sydd i’w wneud o fewn y ffordd / palmant / ymyl glas.

 

Dogfennau ategol: