Agenda item

Addasu adeilad ar gyfer bwyty a gwesty (9 ystafell wely), newididau i’r fynedfa, torri coed, tirlunio, mannau parcio, addasu adeilad i gaffi a chodi unedau gwyliau newydd i greu cyfanswm o 18 uned wyliau.  

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Ioan C. Thomas

Cofnod:

Addasu adeilad ar gyfer bwyty a gwesty (9 ystafell wely), newidiadau i’r fynedfa, torri coed, tirlunio, mannau parcio, addasu Bwthyn Glan y Môr i gaffi a chodi unedau gwyliau newydd i greu cyfanswm o 18 uned wyliau.

 

 

(a)           Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai’r bwriad ydoedd trosi, ymestyn ac addasu’r eiddo fel amlinellir uchod.  Lleolir yr eiddo tu allan i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac yn ffinio i’r gorllewin gyda’r Fenai sydd wedi ei ddynodi fel Safle Cadwraeth Natur o Bwysigrwydd rhyngwladol.  Ymhellach draw i’r gorllewin ceir AHNE Arfordir Ynys Môn.  Ceir llwybr troed/beics cyhoeddus Lôn Las Menai rhwng Bwthyn Glan y Môr a Phlas Brereton.  Mae’r rhan yma o’r Fenai wedi ei adnabod gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel ardal sydd yn rhannol o fewn Parth C2 fel y’i cyfeirir ato yn Nodyn Cyngor Technegol 15 arDatblygu a Pherygl Llifogydd” (2004) a bod rhan o safle’r cais o fewn cyrraedd llifogydd eithafol.

 

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.

 

O safbwynt mwynderau gweledol, ni ystyrir y byddai’r bwriad yn cael effaith sylweddol nac arwyddocaol ar osodiad gweledol yr AHNE a bod y bwriad yn dderbyniol yn seiliedig ar ofynion y polisïau perthnasol.

           

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i’r cais yn ddarostyngedig i gynnwys nifer o amodau sy’n ymwneud a dyluniad i wella’r fynedfa bresennol. 

 

O safbwynt materion bioamrywiaeth, nodwyd bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno sy’n cadarnhau bod clwydfannau ystlumod ym Mhlas Brereton ac fe fydd angen i’r ymgeisydd ymgymryd â mesurau lliniaru perthnasol i’w diogelu.

 

Sicrhawyd bod y bwriad yn cydymffurfio a pholisiau perthnasol o safbwynt materion ieithyddol a chymunedol.

 

Pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai’r datblygiad yn hwb i’r economi leol ac yn osgoi i’r adeilad ddirywio ymhellach.

 

Tynnwyd sylw bod safle’r caffi bwriadedig oddi fewn Parth C2 ac o fewn cyrraedd llifogydd ond fe gyflwynwyd asesiad canlyniadau sy’n datgan gellir rheoli canlyniadau llifogydd gydol oes y datblygiad drwy ymgorffori mesurau lliniaru yn y cynllun i addasu’r adeilad ar gyfer y caffi. 

 

Derbyniwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol yn datgan nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais ond bod ganddo ychydig o bryder am ddiogelwch wrth Fwthyn Glan y Môr oherwydd bod strwythur y doc yn fregus mewn rhai llefydd ac angen diogelu na fydd cwsmeriaid / cyhoedd yn syrthio i’r dŵr.  Hefyd roedd yn pryderu am y fynedfa.

 

Argymhellir i ganiatáu’r cais oherwydd ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a pholisïau a chanllawiau perthnasol.

 

 

(b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod y safle yn wag ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael

·         Bwriad yw adfer y Plas fel gwesty 9 ystafell gydag estyniad cymedrol i anheddu bwyty

·         Caffi arfaethedig ar gyfer Bwthyn Ceidwad y Doc ar lannau’r Fenai gyda’r porthdy ar y brifodd yn cael ei adfer ar gyfer cyfleusterau staff

·         Bydd clwydfan addas yn cael ei adeiladu ar gyfer ystlumod

·         Bydd y safle yn cael ei reoli yn briodol

·         Byddai’r datblygiad arfaethedig yn atyniad ar gyfer twristiaeth gwerthfawr i’r ardal ac yn gyflogwr pwysig ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol

·         Bydd safon uchel y dyluniad a gorffeniadau'r adeilad yn denu ymwelwyr lleol ac o bell ac yn creu gwariant o fewn y datblygiad ac i’r ardal gyfagos

·         Bydd y datblygiad yn bodloni gofynion lleol a chymunedol drwy ddarparu cyfleusterau hamdden sef caffi a thŷ bwyty mewn adeilad sy’n adnabyddus ac yn cael ei werthfawrogi yn lleol

·         Bod y cais yn cydymffurfio a pholisïau lleol a phob pwynt perthnasol wedi cael ystyriaeth

·         Bod y safle yn agos i dref Caernarfon a Bangor gyda hygyrchedd gwych i’r A55 gerllaw a’r dyluniad wedi cael ei ddylunio i eistedd yn gyfforddus o fewn y cyd-destun  presennol a’r amgylchedd

·         Bod galw mawr am ddatblygiad llwyddiannus i’r eiddo i arbed dirywiad parhaol ac er mwyn darparu golygfa ddeniadol ar gyfer mynediad i Gaernarfon    

 

(c)  Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Trist nad yw Plas Coch yn rhan o’r datblygiad

·         A ddylid derbyn asesiad amgylcheddol i dawelu pryderon ynghylch posibilrwydd bod asbestos yn treiddio i mewn i’r môr o gyn safle ffatri Friction Dynamics (Ferodo)

·         Pryder ynglŷn â pherygl trafnidiaeth o safbwynt troi i mewn i fynedfa’r  safle o ystyried y lôn gul a chynnydd traffig yn ystod yr haf ac oni ddylid creu llain welededd 

·         A fyddai modd cynnwys amodau ar gyfer y canlynol:

Ø  i blannu coed yn lle'r rhai a fyddir yn torri;

Ø  sicrhau nad yw’r unedau gwyliau yn newid i unedau parhaol;

Ø  lliniaru sŵn ac aflonyddwch goleuadau o  gychod a fydd yn glanio i’r caffi

 

                                                  

(d) Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd y swyddogion:

 

·         Bod Uned Cefnffyrdd, Llywodraeth Cymru, wedi cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd ynglŷn â’r fynedfa ac wedi cyflwyno amodau sy’n datgan nad oes rhaid cael ffordd ychwanegol mwyach ond yn hytrach lledu’r fynedfa bresennol i gael gwelededd addas tuag at Gaernarfon.  Yn ogystal, bydd ffordd osgoi arfaethedig Caernarfon yn lleihau’r baich trafnidiaeth yn y tymor hir.

·         Bod y swyddogion wedi ymgynghori gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ac nad oedd pryderon penodol wedi codi o safbwynt llygredd tir a sicrhawyd bod asesiadau wedi eu cwblhau gyda’r cais o ran draenio'r dŵr wyneb. 

 

PENDERFYNWYD:                  Caniatau’r cais yn ddarostyngedig i

amodau:-

 

            1.         5 mlynedd.

            2.         Yn unol â’r cynlluniau.

            3.         Llechi naturiol.

            4.         Tirweddu.

            5.         Diogelwch ffyrdd (amodau Llywodraeth CymruTrafnidiaeth).

6.         Amodau mesuriadau lliniaru bioamrywiaeth yn ymwneud ac ystlumod, llystyfiant ac ymlusgiaid.

7          Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed mesuriadau lliniaru rhag     llifogydd, goleuo, draenio ynghyd a diogelu rhywogaethau gwarchodedig (ystlumod).

            8.         Deunyddiau allanol ynghyd a samplau.

           9.          Manylion y mannau caled i’w cymeradwyo.

           10.        Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir o’r llety gwyliau.

           11.        Cyfyngu defnydd yr unedau i ddefnydd gwyliau yn unig ynghyd â chadw cofrestr.

12.        Trosi’r gwesty fel ei fod yn agored i’r cyhoedd cyn preswylio’r 9 uned gwyliau cyntaf.

            13.       Cyfyngu ar oriau agor y caffi.

 

Dogfennau ategol: