Agenda item

Cais ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 3 llawr i greu cyfanswm o 27 fflatiau ar gyfer myfyrwyr, ail osod pafin a chreu cilfan a parcio ar gyfer 7 cerbyd.  

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd John Wynn Jones

Cofnod:

Cais ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad 3 llawr i greu cyfanswm o 27 fflatiau ar gyfer myfyrwyr, ail osod pafin a chreu cilfan a pharcio ar gyfer 7 cerbyd. 

 

(a)          Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ardal breswyl yn Ninas Bangor a thu mewn i’r ffin datblygu, ar dir serth ar hyd Ffordd Euston, ger Swyddfa Sortio Post a’r rheilffordd.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd:

 

·                Nad yw’r adeilad bellach mewn defnydd

·                Nad oedd CADW yn ystyried bod yr adeilad yn cwrdd y meini prawf ar gyfer ei restru

·                bod y bwriad ar gyfer codi adeilad newydd ar gyfer darparu llety myfyrwyr ac nad oedd polisi penodol yn y CDU sy’n ymdrin gyda datblygiad o’r math hwn

·                bod angen pwyso a mesur yr ystyriaethau materol wrth benderfynu os yw’r egwyddor y datblygiad yn y lleoliad penodol hwn yn dderbyniol

·                ffigyrau a thablau yn dangos sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud a datblygiadau llety myfyrwyr ym Mangor

 

O ganlyniad i ddatganiadau ychwanegol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.

 

Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn fodlon gyda’r ddarpariaeth parcio ar y stryd ynghyd a chadw’r palmant.

 

Cyflwynwyd datganiad effaith Ieithyddol a Chymunedol gyda’r cais ac wedi ymgynhgori gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ystyriwyd bod y bwriad yn unol â’r polisïau perthnasol ac na fyddai’r bwriad yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg.

 

 

Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau, ystyrir bod y cais yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol ac nad oes unrhyw ystyriaeth materol arall yn datgan i’r gwrthwyneb ac argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

(b)             Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         bod gormodedd o lety myfyrwyr ym Mangor ac nid oes angen mwy

·         nad oedd y neuaddau preswyl yn llawn

·         bod nifer sylweddol o lefydd gwag ar gael mewn tai sector preifat

·         bod dirywiad yng nghyfanswm poblogaeth myfyrwyr Bangor ers sawl blwyddyn

·         mai’r prif wrthwynebiad ydoedd dymchwel yr adeilad sy'n rhan bwysig o Fangor a Chymru  gan fod treftadaeth bensaernïol yn diflannu’n gyflym

·         bod yr ystyriaeth cynllunio yn nodi "bod yr adeilad ar y safle yn un hanesyddol, gydag elfennau pensaernïol pwysig a hanes cymunedol i'r ardal

·         nad oedd CADW wedi rhoi statws rhestredig i’r adeilad oherwydd bod y tu fewn wedi colli llawer o'i nodweddion

·         bod dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn dymchwel yr adeilad gan gynnwys y Gymdeithas Fictoraidd a Chymdeithas Ddinesig Bangor. Fodd bynnag, pe byddir yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer yr anheddau i fyfyrwyr anogwyd y Pwyllgor i’w wneud yn amodol i ail-ddefnyddio’r adeilad ac nid i’w ddymchwel

·         gwnaed cais i’r Cadeirydd dderbyn y ddeiseb

 

 

(c)             Yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, gwrthododd y Cadeirydd dderbyn y ddeiseb oherwydd y dylai fod wedi bod yn rhan o’r ffeil o wybodaeth cynllunio. 

 

 

(ch)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd fel a ganlyn:

 

·         Bod y  cais hwn ar gyfer 27 fflat sydd yn wahanol iawn i'r nifer uchel o lety bychan iawn adeiladwyd mewn mannau eraill yn y ddinas ac y byddai yn cynnwys stiwdios hunangynhaliol gyda’r  llawr uchaf yn cynnwys fflatiau ac i’w targedu ar gyfer myfyriwyd aeddfed ac nid myfyrwyr flwyddyn gyntaf

·         Byddai’r llety myfyrwyr o safon uchel yn cyfrannu at y stoc dai lleol drwy ganiatáu myfyrwyr fyddent fel arall yn meddiannu'r ystafelloedd i adael ystafelloedd hynny sy'n darparu llety cost isel i bobl leol eu rhentu

·         Nodir sylw Cyngor Tref o bryder ynglyn a’r datblygiad mewn ardal breswyl ond byddir yn cael gwared a chlwb nos swnllyd

·         Bod Clwb y Rheilffordd a ddefnyddia’r adeilad bellach wedi symud i safle newydd

·         Sicrheir strategaeth rheoli lym i ddelio a myfyrwyr allai achosi unrhyw niwsans i gymdogion lleol

·         Bod y Gymdeithas Archeoleg wedi awgrymu cadwraeth neu gofnod a bod yr ymgeisydd yn hapus i gynnig strategaeth gofnodi ond nad oedd cadw'r adeilad yn opsiwn gan fod diffygion strwythurol difrifol ac ni ellir ei inswleiddio'n ddigonol i safonau modern

·         Bod y Llywodraeth yn annog defnydd o safleoedd tir llwyd ar gyfer datblygiad a bod y safle hwn ar gyrion ardal ddiwydiannol

·         Bod ail-ddatblygu yn ateb cadarnhaol i'r hyn sy'n adeilad adfeiliedig segur  ar hyn o bryd

 

 

(d)        Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod Cyngor Dinas Bangor yn gwrthwynebu yn seiliedig ar or-ddatblygiad

·         Noda’r Swyddog Cadwraeth bod hanes i’r adeilad gyda chysylltiad gyda’r rheilffordd ac yn awgrymu i’r ymgeisydd y dylid ystyried cadw’r adeilad a’i drosi yn hytrach na’i ddymchwel

·         Datganwyd siom nad oedd ymdrech wedi ei wneud i gadw’r adeilad gan ei fod yn un hardd gyda nodweddion sydd yn haeddu cael eu  cadw sydd yn holl bwysig a bod gan yr adeilad werth hanesyddol a diwylliannol lleol

·         Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ond deallir mai dim ond un unigolyn a fynychwyd gan nad oedd pobl yn ymwybodol o’r cyfarfod. 

·         Bod dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ac ni ddylid diystyru hyn 

·         Bod rhan helyw o fyfyrwyr yn byw yn ward Deiniol / Menai ac ni ddylid ehangu’r ddarpariaeth myfyrwyr i bob rhan o’r ddinas ac oni ddylid dynodi Pont y Rheilffordd fel y terfyn

·         Bod digon o lety a neuaddau wedi eu hadeiladu i gyfarch y ffigyrau a ddynodir gan yr Arolygydd yn 2015 

 

(dd)        Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio

                                   

·         Materion hanesyddol a statws yr adeilad – bod ystyriaeth wedi ei roi i hyn gan swyddogion ond yn dilyn ystyriaethau yn sgil archwiliad CADW nid yw yn dod o fewn criteria rhestru nac ychwaith o fewn ardal Cadwraeth felly nid oes angen caniatad cynllunio i ddymchwel yr adeilad

·         O safbwynt yr angen am lety myfyrwyr, cyfeiriwyd at y tablau yn yr adroddiad ac yn benodol at dabl 4 ac fe welir bod angen o’r math yma o ddatblygiad yn helpu i ddiwallu’r angen.

 

(e) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio oherwydd gorddatblygiad ac effaith ar fwynderau preswyl.

 

(f)        Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid y cynnig i wrthod:

 

·         Bod yr adeilad yn hanesyddol o safbwynt diwydiant y rheilffordd ac yn colli cymeriad y Ddinas

·         Siomedig nad oedd ymdrech wedi ei wneud i drosi’r adeilad

·         Dros 1,000 o drigolion Bangor yn gwrthwynebu a rhaid gwrando ar lais y bobl a’r Aelod lleol

·         Anghytunir hefo’r ffigyrau yn yr adroddiad am y galw am lety myfyrwyr ym Mangor ac y dylid cefnogi hyn gyda thystiolaeth gadarn i’r dyfodol

·         Ni ddylid lledaenu llety myfyrwyr ar draws y Ddinas

 

 

(ff)  Mewn ymateb i’r sylw ynglyn â’r galw am lety myfyrwyr, nododd yr Uwch Reolwr

Gwasanaeth Cynllunio bod y broses o ddatblygu’r Cynllun Unedol ar y Cyd yn mynd

rhagddo ac y bydd yn cyfarch polisiau llety myfyrwyr a thai amlbreswyliaeth a bod y

wybodaeth o fewn yr adroddiad yn dystiolaeth gyfredol fel rhan o’r broses hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:               Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio oherwydd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn or-ddatblygiad ac yn cael effaith ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos.

 

Dogfennau ategol: