Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Endaf Cooke a Jean Forsyth (Aelod Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Datganodd y Cynghorydd Gwen Griffith fuddiant personol yn Eitem 1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C13/1412/13/LL) oherwydd bod ei mab yn byw gerllaw mewn safle allasai gael ei orlifo ag hefyd yn amharu ar ei fwynderau ef a’i deulu.

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei bod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·      Y Cynghorydd John Wyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C14/1111/25/LL).

·      Y Cynghorydd E Selwyn Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C15/0109/44/LL);

·        Y Cynghorydd Anwen Davies, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C15/0162/33/LL);

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4  ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0226/35/LL).

·        Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0255/44/LL).

·        Y Cynghorydd Gwen Griffith, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0345/15/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 165 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor

hwn, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2015, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mai 2015 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

        

 

6.

Cais rhif C13/0412/13/AM - Tir Maes Coetmor, Bethesda pdf eicon PDF 983 KB

Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai, gan gynnwys 20 uned fforddiadwy.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Ann Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai, gan gynnwys 20 uned fforddiadwy

 

(a)      PENDERFYNWYD o ganlyniad i sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Bioamrywiaeth, gohirio’r cais er mwyn derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn ag ystlumod, coed a cholli cynefin pwysig.

 

(b)      Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chais i ddosbarthu'r datganiad iaith gyda’r rhaglen, cynigiwyd bod modd trafod cytundeb y broses dosbarthu yn y Pwyllgor Craffu priodol neu’r Pwyllgor Iaith.

 

7.

Cais rhif C14/1111/25/LL - Coed Fodol, Y Felinheli pdf eicon PDF 613 KB

Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn caled gyda unedau parhaol, creu mynedfa a trac gerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd John Wyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno er mwyn darparu safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys 8 llecyn caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont dros yr afon, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar ddarn o dir rhwng y B4547 a’r A487 ger cylchfan rhwng Felinheli a Bangor. Nodwyd bod rhannau o’r safle, ynghyd a rhannau o’r fynedfa a’r briffordd B4547 wedi eu lleoli o fewn parth llifogi C2.

 

(b)       O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod polisi CH16 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn ymwneud a chynigion ar gyfer safleoedd sipsiwn newydd, a bod y polisi yn caniatáu cynigion am safleoedd newydd yn ardal y Cynllun ar yr amod y darparwyd tystiolaeth o wir angen am y datblygiad. Nid yw’r cynllun gosodiad safle er hynny yn dangos llecynnau parcio ar gyfer cerbydau mawrion, carafanau teithiol nac ardal agored ar gyfer amwynder/sychu dillad/chwarae ar gyfer plant, ac oherwydd y nifer uchel o leiniau ni ystyrir fod lle digonol ar gyfer troi cerbydau mawrion/cerbydau sy’n towio. Ychwanegwyd nad yw’r bwriad yn darparu cyfleusterau mwynderau ar wahân i bob llain, sydd yn cael ei gynnig fel rhan o’r cais ac sydd i’w rannu rhwng yr 8 uned yn ddigonol. Nid oedd gwybodaeth ddigonol ar gyfer asesu effaith sŵn y briffordd a’r gefnffordd gerllaw ar drigolion y safle bwriadedig wedi ei gyflwyno.

 

(c)     Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn cadarnhau fod y safle wedi ei leoli ar dir coediog gydag afon yn rhedeg drwy’r safle. Mae’r tir yn wlyb. Mae cofnod o foch daear a draenog ar y briffordd ger y safle ac mae trochydd yn yr afon a thebygolrwydd fod dyfrgwn yno hefyd. Mae afonydd yn gynefin a choridor bywyd gwyllt pwysig ac y dylid osgoi datblygiad sy’n debygol o gael effaith arnynt. Yn ychwanegol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn fod diffyg gwybodaeth ecolegol er mwyn gwneud asesiad llawn o’r bwriad, a hefyd yn nodi fod yr adeiladau toiled/storfa yn rhy agos i’r afon. Nodir fod angen adroddiad coed, cynllun rheoli rhododendron, ac y dylid gwahardd cŵn o’r safle oherwydd bod dyfrgwn yn bresennol yno, ac nad yw’n glir os bydd y gofyniad hynny yn realistig ar safle fel hyn.

 

(ch)   Ar sail sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, ystyriwyd nad yw’r datblygiad yn addas ar gyfer safle mor sensitif, ac y byddai’n debygol o gael effaith andwyol ar goridor bywyd gwyllt sydd o werth uchel. Tynnwyd sylw bod Asesiad Canlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac yn dilyn asesu’r Asesiad Canlyniad Llifogydd, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais rhif C14/1248/11/AM - Cyn Safle Jewsons, Penlon Works, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 616 KB

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ol i godi 4 adeilad fyddai'n cynnwys 77 uned byw, creu mynedfa gerbydol newydd gyda lonydd cysylltiol, mannau parcio a chyfleusterau cysylltiol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Jean Forsyth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 4 adeilad fyddai'n cynnwys 77 uned byw, creu mynedfa gerbydol newydd gyda lonydd cysylltiol, mannau parcio a chyfleusterau cysylltiol.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar y cais gan egluro mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer  bwriad sydd yn cynnwys manylion mynedfa gerbydol a gosodiad yr adeiladau oddi mewn i’r safle fydd yn cynnwys 4 adeilad gyda 77 uned byw neu fflatiau hunan gynhaliol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffiniau datblygu dinas Bangor, sydd wedi ei ddynodi fel canolfan isranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gorffennaf 2009). Mae’r safle mewn lleoliad gymharol amlwg yn gyfochrog gyda rhan isaf y Stryd Fawr o fewn ardal a adnabyddir fel Hirael. Defnydd diweddaraf y safle oedd fel busnes gwerthu nwyddau adeiladu (Jewsons), sydd bellach wedi dod i ben. Mae’r holl adeiladau wedi eu dymchwel a’r safle cyfan bellach yn segur.

 

(b)       Egwyddor y datblygiad yw’r ystyriaeth bennaf yn yr achos yma ac o ystyried y manylion sydd wedi’u cyflwyno am gymeradwyaeth fel rhan o gais amlinellol ynghyd a lleoliad y safle o fewn ardal breswyl ag o fewn ffin datblygu dinas Bangor credwyd fod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt y mater hwn.

 

(c)     Nodwyd y byddai’r unedau unigol yn amrywio o ran eu maint yn ddibynnol ar iddynt fod yn uned 1 neu 2 ystafell wely ond maent oll yn cynnwys cegin, ystafell fyw ac ystafelloedd ymolchi ar wahân. Mae’r safle mewn lleoliad gymharol amlwg yn y rhan yma o’r Ddinas Bangor. Mae tai preswyl yn amgylchynu’r safle ac yn amrywio o ran eu maint, dyluniad a gorffeniad. Datganiad yr Uned Strategol Tai yw bod galw cyffredinol am dai fforddiadwy ym Mangor ac felly y dylid cynnwys 23 yn uned fforddiadwy fel rhan o’r cynllun hwn. Mae’n ymddangos mai pris cyfartaledd fflat 2 lofft yn ardal Bangor yw £116,000 tra bod fflat 1 ystafell wely yn £90,000.  Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu adroddiad manwl ar ffurf asesiad o’r farchnad dai yn lleol a’r angen ac yn yr achos yma oherwydd maint a phrisiad yr unedau, credir fod yr unedau eisoes yn fforddiadwy beth bynnag.

         

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno.

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig. Disgynnodd y cynnig

 

          Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

(d)     Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad

·         Cymeradwyo bod y datblygwyr wedi gwrando ac ymateb i sylwadau’r Pwyllgor

·         Nifer yr unedau wedi lleihau yn sylweddol ynghyd â gofod addas rhwng y blociau

·         Y safle wedi bod yn segur ers peth amser ac yn denu llygredd

·         Nid oes darpariaeth ddigonol yn lleol am unedau i bobl sengl ac felly'r datblygiad yn ymateb i’r galw

·         Cais am amod tai fforddiadwy ac amod mai unedau ar gyfer bobl leol ydynt

 

(dd)    Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad

·         Pryder nad oes buddsoddiad i adfer canol y ddinas

·         Pryder  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais rhif C15/0109/44/LL - Gelert House, Ffordd Penamser, Porthmadog pdf eicon PDF 684 KB

Newid defnydd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau a gweithgynhyrchu tanwydd solet sydd wedi ei adfer.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau a gweithgynhyrchu tanwydd solet sydd wedi ei adfer

       

(a)      Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais hwn yn rhannol ôl-weithredol ac yn ymwneud â newid defnydd perthnasol o uned ddiwydiannol sy’n bodoli i gyfleuster ailgylchu deunyddiau ar gyfer gweithgynhyrchu Ynni Solid wedi’i Adfer (SRF) allan o wastraff sgip o ffynonellau lleol, wedi’i ddidoli ac sydd heb fod yn. Bydd y datblygiad yn destun mewnbwn o 72,000 tunnell y flwyddyn a bydd yr holl weithgaredd yn cael ei gynnal tu mewn i’r adeilad. Bwriedir gweithgynhyrchu SRF i’w werthu i gwmnïau cynhyrchu ynni a rhai eraill sy’n defnyddio tanwydd solid.

(b)      O ran egwyddor y datblygiad, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir drwy fabwysiadu dogfen strategaeth gwastraff cyffredinol i Gymru, Tuag at Ddyfodol Ddiwastraff, ei fod wedi ymrwymo i strategaeth hirdymor ar gyfer effeithlonrwydd adnoddau a rheoli gwastraff rhwng nawr a 2050, yn seiliedig ar lefelau uchel iawn o ailgylchu gwastraff a chompostio ynghyd â’r lefelau isaf posib o dirlenwi.

 

(c)      Amlygwyd bod datblygu cyfleuster i gynhyrchu ynni solid wedi’i adfer yn dderbyniol mewn egwyddor yn y lleoliad hwn ac yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cenedlaethol a rhanbarthol a hefyd gyda Pholisïau C3, C22 a D2 y CDU yn amodol ar asesiad o'r ystyriaethau cynllunio perthnasol. Mynegwyd bod yr adeilad yn adeilad pwrpasol ar gyfer y math yma o weithgaredd.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(ch)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Mai amrywiad bychan  ydyw o’r defnydd presennol

·         Y lleoliad yn addas, yr adeilad wedi ei insiwleiddio i safon uchel

·         Ni fydd ardrawiad sŵn

·         Oriau gwaith yn y dydd yn unig, 6 diwrnod yr wythnos

·         Cyflawni tuag at her Gwynedd i gyflawni eu targedau rheoli gwastraff

·         Tystiolaeth yn dangos fod y cais yn un dilys

·         Bydd cyflogaeth o 11 person ar y dechrau

·         Bod y lleoliad yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau a rhanbarthol

·         Bod y safle eisoes gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer warws a chanolfan dosbarthu

 

(d)       Gwnaed y pwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·      Bod y safle wedi bod yn wag ers tro

·      Pryderon pobl leol yn cynnwys, materion iechyd a diogelwch, llwch a safon yr awyr, effaith sŵn o’r gwaith a sŵn o drafnidiaeth

·      Os daw ceisiadau am ychwanegiadau neu ehangu pellach bod rhaid cyflwyno cais cynllunio penodol

·      Angen sicrhau monitro rheolaidd yng nghyd-destun y gwaith fydd yn cael ei gyflawni ar y safle ynghyd â monitro diogelwch tân

·      A fydd y dŵr ar y safle yn cael ei storio? A fydd y dŵr yn llifo allan? Angen eglurder.

·      Angen i oriau gwaith gyd-fynd ac oriau derbyn a danfon deunyddiau

 

(dd)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

(e)          Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad

·         Er yn derbyn pryderon Cyngor Tref Porthmadog a’r gymuned  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais rhif C15/0119/15/HY - Siop Spar, Stryd Fawr, Llanberis pdf eicon PDF 577 KB

Gosod arwyddion newydd gan gynnwys arwyddion wedi eu goleuo.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Trevor Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod arwyddion newydd gan gynnwys arwyddion wedi eu goleuo

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi ei fod yn gais arddangos hysbysebion yw hyn sy’n cynnwys amryw arwyddion wedi eu goleuo ar edrychiad blaen Siop Spar ac un wrth y mannau parcio ar Stryd Fawr, Llanberis. Daw hyn ar

ar sail bod defnyddiwr ychwanegol yn cael ei sefydlu oddi fewn i’r siop sydd angen hysbysebu drwy osod arwyddion yn allanol. Yn dilyn pryderon y Cyngor Cymuned a’r gwrthwynebwyr ac yn dilyn ymweliad safle gan y Swyddog Cynllunio cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig oedd yn nodi :-

 

·         Mai dim ond rhan o’r arwydd sy’n sefyll ar ben ei hun sy’n cael ei oleuo erbyn hyn yn hytrach na’r  arwydd yn ei gyfanrwydd fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol.

·         Lleihad yn hyd yr arwyddion ffasgia uwchben y prif ddrws o 4.1m i 3.1m gyda’r llythrennau yn unig i’w goleuo.

·         Arwyddion wedi eu haddasu i fod yn ddwyieithog.

 

Ategwyd bod y ddogfen NCT 7 Rheoli Hysbysebion awyr Agored yn datgan dim ond er budd amwynder a diogelwch y cyhoedd (effaith ar ddefnydd a gweithrediad diogel unrhyw fath o draffig neu drafnidiaeth) y gellir rheoli arddangos hysbysebion awyr agored. Gan ystyried cynnwys yr asesiad yn ei gyfanrwydd nodwyd fod y bwriad, fel y’i diwygiwyd, yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn cydymffurfio â pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

(b)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

(c)       Nodwyd  sylwadau o’r drafodaeth:

·            Bod angen rheoli goleuadau masnacha

·           Rhaid ystyried llygredd goleuni - yr adeilad yn amlwg yng nghanol y pentref ac felly beth yw’r angen am arwyddion wedi eu goleuo

·            Angen arwyddion i hysbysebu busnesau

·            Angen sicrhau bod yr arwyddion yn ddwyieithog

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

Amodau:

1.            Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

2.            Cyfyngiadau ar lefel goleuo’r arwyddion.

3.            Goleuo’r arwyddion rhwng 7:00 – 23:00 Llun i Sul (sydd yn cyd-fynd ac oriau agor y siop).

11.

Cais rhif C15/0162/33/LL - Gallt y Beren, Rhydyclafdy pdf eicon PDF 360 KB

Cais rhannol ol-weithredol ar gyfer codi adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol, newid adeilad a ganiatawyd ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel modurdy masnachol yn Gallt y Beren i ddefnydd amaethyddol, ynghyd a gwelliannau bwriedig i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Anwen J. Davies

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer codi adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol, newid adeilad a ganiatawyd ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel modurdy masnachol yn Gallt y Beren i ddefnydd amaethyddol, ynghyd a gwelliannau i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ar gefndir y cais.  Adroddwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ar y 27 Ebrill 2015 a bwriad y Pwyllgor oedd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad swyddogion. Y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor dros gefnogi’r cais oedd oherwydd eu bod yn ystyried bod y datblygiad yn cydymffurfio a pholisi D7 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gweithdai Gwledig neu Unedau Diwydiannol/Busnes ar raddfa fach tu allan i ffiniau datblygu); bod y datblygiad yn darparu cyflogaeth yn lleol; bod angen lleol yn ddaearyddol, a bod diffyg busnes cyffelyb o fewn cyrraedd y  safle.

 

Tynnwyd sylw y derbyniwyd 1 llythyr o gefnogaeth i’r cais ar y sail fod yr effaith weledol yn cael ei ystyried yn dderbyniol, nad oedd safleoedd amgen addas ac nad oedd yna effaith o ran trafnidiaeth, ers cyhoeddi’r adroddiad.

 

(b)       Manylwyd ar gefndir y cais gan nodi mai’r elfen ôl-weithredol o’r cais yw cadw adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol gydag arwynebedd llawr o 264m2 ger annedd a adnabyddir fel Hendre Wen, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen. O ran hanes cynllunio'r safle tynnwyd sylw y gwrthodwyd cais i newid defnydd sied amaethyddol yn Hendre Wen i fod yn garej a gorsaf MOT ar 21 Chwefror 2013, ac o ganlyniad rhoddwyd rhybudd gorfodaeth i ddiweddu’r defnydd a dymchwel yr adeilad a ddefnyddir fel modurdy masnachol a symud yr holl ddeunydd cysylltiedig â’r defnydd hwnnw oddi ar y safle.

 

Adroddwyd yr apeliwyd y rhybudd gorfodaeth a’r gwrthodiad cynllunio, gwrthodwyd y ddwy apêl yn Mai 2014. Diwygiwyd y rhybudd gorfodaeth, yn unol â phenderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio, er mwyn ymestyn y cyfnod cydymffurfio efo’r rhybudd i 12 mis. Nodwyd y byddai’r cyfnod yn dod i ben ar 4 Mai 2015, ond nad oedd unrhyw ymgais wedi ei wneud hyd yn hyn i gydymffurfio ag anghenion y rhybudd. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn gweithredu yn groes i’r argymhelliad yr Arolygydd ac felly yn troseddu. Pwysleiswyd fod yr hanes cynllunio diweddar i’r cais yn sefydlu’n gadarn a chlir beth oedd y safbwynt polisi cynllunio cyfredol gyda’r cais yma, a bod y cais yn gwbl groes i bolisi o ran egwyddor.

 

Nodwyd gan fod y datblygiad yn un diwydiannol ei fod yn hanfodol ystyried os oedd gan y datblygiad anghenion lleoli arbennig dan bolisi D5 o’r CDUG. Yn yr achos yma nid oes unrhyw anghenion lleoli arbennig i leoli busnes ar y safle penodol hwn yng nghefn gwlad agored, yn arbennig o gofio bod gan yr ymgeisydd fusnes sefydledig mewn sied ar y fferm deuluol gyferbyn a’r safle yn bresennol. Nodwyd bod unedau ar gael yn ardaloedd fel Nefyn ac Y Ffor a fyddai o bosib yn cydymffurfio gydag anghenion yr ymgeisydd, ac ystyriwyd y dylid archwilio’r posibilrwydd o addasu a defnyddio un  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais rhif C15/0226/35/LL - Garage, Lôn Merllyn, Cricieth pdf eicon PDF 494 KB

Dymchwel modurdy presennol a chodi uned gwyliau deulawr.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eirwyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel modurdy presennol a chodi uned gwyliau deulawr

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai'r bwriad yw dymchwel modurdy presennol a chodi uned wyliau deulawr yn ei le. Mae’r safle wedi ei leoli gerllaw i ffin ddatblygu Criccieth. I’r gogledd o’r safle mae llinell Rheilffordd y Cambrian ac i’r de a’r gorllewin mae maes parcio cyhoeddus. Amlygwyd bod pensaernïaeth ganol Criccieth yn draddodiadol iawn, ond o gwmpas safle’r cais mae tai mwy modern ac mae caffi Morannedd wedi ei restru fel adeilad (modern) Gradd II. Mae dyluniad y bwriad yn fodern ond gyda defnydd gofalus o ddeunyddiau a lliwiau ni ystyrir bydd y datblygiad yn nodwedd estronol.

 

(b)       Derbyniwyd gwrthwynebiad gan berchennog yr eiddo sydd ar yr ochr arall i’r rheilffordd o’r safle yn datgan pryder ynghylch yr effeithiau mwynderol ar ei eiddo. Wrth dderbyn y byddai niwed i’r golygfeydd o’r tŷ tua’r castell, ni fyddai’r adeilad newydd yn union o flaen y tŷ presennol ac fe fyddai golygfeydd agored i’r de i gyfeiriad y môr yn parhau. Ni ystyriwyd felly y byddai’r datblygiad yn cael effaith gormesol ar drigolion Merllyn Crossing Cottage. Yn ogystal, o ystyried y pellter fydd rhwng yr adeiladau, ni ystyriwyd y byddai colled goleuni arwyddocaol yn deillio o’r datblygiad nac yn cael effaith gormesol.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. Amlygwyd bod amod ychwanegol i sicrhau preifatrwydd i Merllyn Crossing Cottage drwy osod sgrin preifatrwydd ar y balconi cefn a gwydr afloyw yn y ffenestr cefn ar y llawr cyntaf.

 

(c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol:-

·         Pryderon ynglyn a mynediad diogel i ddefnyddwyr Llwybr yr Arfordir

·         Pryderon ynglyn a diogelwch ffordd gan y buasai'r eiddo bwriadedig yn atal golygfa glir o drafnidiaeth yn dod i lawr yr allt a cherddwyr yn croesi'r ffordd

·         Pryderon y bydd golygfa'r tai cyfagos yn cael ei ddifetha

·         Bod ‘cyfamod’ i olygfa rhwng cymdogion

·         Bod adeilad deulawr yn difethaf golygfa o’u heiddo.

 

(ch)   Mynegodd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ar sail cynllunio nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais a'i fod yn cytuno gyda’r argymhelliad a’r amodau.

 

(d)      Mewn ymateb i’r sylw ynglyn â chyfamod preifat, mynegodd y Cyfreithiwr, mai trafodaeth rhwng y perchnogion yn unig yw hyn ac nid ydyw yn ystyriaeth i’r Pwyllgor Cynllunio.

(dd)    Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(e)     Nodwyd  sylwadau o’r drafodaeth:

·         Bod yr eiddo presennol yn ddolur llygad ar ochr y ffordd. Criccieth yn dref hyfyw a llewyrchus ac felly yn croesawu'r bwriad.

·         Garej oedd ar y safle ac felly wedi bod yn safle prysurach dros y blynyddoedd

·         Y gosodiad bwriadedig yn isel ac felly nid yw yn dramgwydd i eraill

·         Ystyried adeilad un llawr yn hytrach na deulawr?

 

(a)      Mewn ymateb i’r sylw ynglyn ag ystyried adeilad un llawr, nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi bod rhwng yr ymgeisydd a’r pensaer a derbyniwyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais rhif C15/0255/44/LL - Cyn Furniture Wales, Heol Dulyn, Tremadog pdf eicon PDF 494 KB

Newid defnydd o ddosbarth busnes A1 (siopau) i ddosbarth busnes D2 (ymgynnull a hamdden) er galluogi darparu dosbarthiadau celfyddyd milwrol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Alwyn Gruffydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd o ddosbarth busnes A1 (siopau) i ddosbarth busnes D2 (ymgynnull a hamdden) er galluogi darparu dosbarthiadau celfyddyd milwrol.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer newid adeilad (cyn warws manwerthu) o ddefnydd A1 (siop) i ddefnydd D2 (ymgynnull a hamdden) ar gyfer defnydd fel stiwdio i ddarparu dosbarthiadau celfydd milwrol (martial arts). Nodwyd bod yr uned wedi bod yn wag ers cyfnod ac nad oes bwriad gwneud unrhyw newidiadau allanol.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol, a nodwyd bod polisi C3 yn cymeradwyo ceisiadau sy’n rhoi blaenoriaeth i ail defnyddio adeiladau a ddatblygwyd o’r blaen yn hytrach na defnyddio safleoedd tir glas. Nodwyd hefyd bod gwrthwynebiadau gan drigolion lleol wedi derbyn ystyriaeth lawn a bod ymatebion i’r cyfnod ymgynghorol wedi ei rhestru yn yr adroddiad.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a hefyd bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth o ran maint y dosbarthiadau fydd yn cael eu cynnal.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Bod y cwmni yn rhedeg dosbarthiadau drwy Wynedd.

·         Bod y cwmni yn dysgu parch, rhoi hyder, gwybodaeth iechyd a lles i blant

·         Yn llogi ystafell yn yr ysgol leol, ond y bwriad yw sefydlu safle eu hunain

·         Y busnes yn cefnogi busnesau lleol eraill yn yr ardal

 

(c)       Mynegodd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol:

·         Y busnes blaenorol wedi cau oherwydd datblygiad y ffordd osgoi ac o ganlyniad wedi gosod her i’r pentref barhau yn hyfyw

·         Gwrthwynebiadau yng nghyd destun parcio. Ymddengys er hynny mai  safle gollwng a chodi fydd ei angen ac nid safleoedd parcio parhaol

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais ar fenter yn ychwanegiad cyffrous i fwrlwm y pentref.

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ar argymhelliad

 

Amodau

1.  Cychwyn datblygiad o fewn 5 mlynedd

2. Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r Datganiad Dyluniad a Mynediad a’r cynlluniau a gyflwynwyd

 

14.

Cais rhif C15/0276/16/LL - Zip World, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor pdf eicon PDF 530 KB

Cais llawn i godi adeilad tri llawr newydd ar gyfer canolfan cwmni Zip World i gynnwys derbynfa/adnoddau cysylltiol gan gynnwys caffi a bar ynghyd a gwaredu adeiladau dros dro presennol, codi cwrs weiren sip newydd, creu maes parcio, codi llwybr troed pren cysylltiol a'r maes parcio presennol i ymwelwyr a gosod gwaith trin

carthffosiaeth.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gwen Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad tri llawr newydd ar gyfer canolfan cwmni Zip World i gynnwys derbynfa/adnoddau cysylltiol gan gynnwys caffi a bar ynghyd a gwaredu adeiladau dros dro presennol, codi cwrs weiren sip newydd, creu maes parcio, codi llwybr troed pren cysylltiol o’r maes parcio presennol i ymwelwyr a gosod gwaith trin carthffosiaeth. Mae’r safle’r cais ei hun ar blatfform o wastraff llechi/carreg sydd wedi ei leoli’n is na’r safle sydd yn cael ei  ddefnyddio’n bresennol.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffiniau Chwarel Penrhyn ar gyrion Bethesda, gan ddefnyddio’r un fynedfa i’r Chwarel ag sydd yn bresennol. Mae busnes Zip World wedi ei sefydlu o fewn y Chwarel ac wedi datblygu fel atyniad llwyddiannus a phoblogaidd iawn sydd yn cyfrannu i’r economi  leol ynghyd a chynnig ffordd i gysylltu gyda threftadaeth economaidd yr ardal. O ganlyniad mae galw am ddarparu adeilad o safon fydd yn gwella delwedd yr atyniad i’r dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at bolisi D8 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud ac ehangu mentrau diwydiannol a busnesau presennol neu fentrau eraill os gellir cydymffurfio gyda meini prawf penodol yn ymwneud gydag addasrwydd y defnydd presennol o safbwynt yr ardal o’i amgylch a defnyddiau cyfagos a’i berthynas a’r gwaith presennol. Nodwyd hefyd ei bod yn ofynnol cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol ar gyfer y bwriad oherwydd maint ei arwynebedd llawr, sy’n fwy na 1000m sgwâr. Eglurwyd bod yr Uned Bolisi ar y Cyd wedi cadarnhau na ragwelir bydd y datblygiad yn cael adrawiad arwyddocaol ar fewnfudiad i’r ardal ac felly yn unol gyda gofynion polisi A2.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ynghyd a gwybodaeth hwyr sydd i law yn gofyn ystyried  ail leoli’r adeilad a’r maes parcio ar safle arall o fewn y linell goch oherwydd problemau sydd wedi dod i’r amlwg gyda datblygu yn y lleoliad sydd wedi ei ddangos fel rhan o’r cais presennol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd  y pwyntiau canlynol:-

·         Bod angen symud y lleoliad rhyw ychydig, o fewn y llinell goch, gan nad yw’r sylfaeni yn addas

·         Yr atyniad yn denu ymwelwyr i Ogledd Cymru

·         Adnoddau presennol ddim yn dderbyniol ar gyfer ymwelwyr a staff ac felly angen gwella'r ddarpariaeth

·         Bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel Pencadlys y Cwmni sydd bellach yn gweithredu drwy’r Deyrnas Unedig

·         Bydd 20 person ychwanegol yn cael eu cyflogi.

 

(c)       Mynegodd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol:

·         Cyflogaeth y cwmni yn bwysig i Wynedd

·         Bydd zip fechan i’r plant yn cynnig atyniad i’r teulu

·         Angen adnoddau gwell i’r staff

·         Cwmni yn buddsoddi yn lleol

·         Bod penderfyniad y Cwmni i leoli eu Pencadlys yng Ngwynedd yn arwydd calonogol o’u hymrwymiad i’r Sir

·         85,000 yn defnyddio'r wifren yn flynyddol - y busnes yn datblygu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Cais rhif C15/0345/15/LL - Rhan o Lyn Padarn, ger Ystad Diwydiannol y Glyn, Llanberis pdf eicon PDF 582 KB

Gwaith peirianyddol i greu llithfra (lleoliad diwygiedig i'r hyn a ganiatawyd yn flaenorol o dan gyfeirnod C15/0022/15/LL).

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Trevor Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Gwaith peirianyddol i greu llithrfa (lleoliad diwygiedig i'r hyn a ganiatawyd yn flaenorol o dan gyfeirnod C15/0022/15/LL).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais am ganiatâd, ar gyfer gwaith peirianyddol i osod llithrfa ar gyfer defnyddwyr Llyn Padarn er mwyn hwyluso mynediad uniongyrchol i mewn i’r llyn. Mae’r safle yn rhan o ardal a adnabyddir fel ‘Y Glyn’ ar gyrion pentref Llanberis sef ardal gymysg o ran defnydd. Nodwyd bod y bwriad yn golygu cynnal gwaith ail raddio tir ansylweddol ar lan y llyn er mwyn creu dynesiad addas tuag at ac i mewn i’r llyn. Bwriedir gosod y llithrfa, fyddai’n mesur 3m o lêd ac oddeutu 11m o hyd, ar y tir ac ar wely’r llyn wedi hynny. Byddai’r llithrfa o wneuthuriad concrid ‘pre-cast’ tebyg i fath o ‘lain’ sydd yn cael ei osod ar ben y tir gan ei ddiogelu i’r ddaear trwy ei angori i drawst concrid o dan y ddaear ac yna gyda chyfres o begiau. Bydd y bwriad yn gwella cyfleusterau hamddena ar y Llyn o gymharu â’r ddarpariaeth bresennol.

 

(b)       Yng nghyd destun ystyriaethau eraill nodwyd oherwydd bod lleoliad y safle o fewn SSSI ac er mwyn cydymffurfio gyda gofynion cyfredol, mae’r datblygiad arfaethedig wedi cael ei sgrinio yn ffurfiol i ganfod os oes angen cyflwyno Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA). Roedd canlyniad y sgrinio yn cadarnhau na fyddai angen cyflwyno AEA yn yr achos yma.

 

(c)       O ran y cyfnod ymgynghori, nodwyd bod nifer o wrthwynebiadau i’r cais oherwydd pryderon bod y llithrfa ar gyfer cychod pŵer. Amlygwyd mai nad dyna oedd y bwriad. Er eglurdeb cychod rhwyfo a chychod hwylio yn unig sydd yn cael defnyddio Llyn Padarn ac ni chaniateir cychod pŵer ar y llyn oni bai fod y cwch pŵer yn goruchwylio neu’n gwarchod diogelwch digwyddiad neu weithgaredd ble mae gofyn am oruchwyliaeth cwch pŵer.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(d)       Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

·         A oedd yr adran wedi ymgynghori gyda Chlwb Pysgota Seiont a Chyngor Plwyf Llanddeiniolen?

·         O ran yr elfen iechyd a diogelwch, croesawyd llithrfa gan fod llechi miniog yn y dŵr.

·         Y llithrfa yn fudd i bobl leol ac ymwelwyr

 

(dd)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â’r ymgynghori, nodwyd bod yr adran wedi ymgynghori yn unol gyda’r gofynion statudol a bod y llithrfa a phopeth ar y safle bellach yn dderbyniol ac wedi derbyn cefnogaeth yr ymghynghorwyr statudol.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

          Amodau

          1. Amser

          2. Cydymffurfio gyda chynlluniau