Agenda item

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ol i godi 4 adeilad fyddai'n cynnwys 77 uned byw, creu mynedfa gerbydol newydd gyda lonydd cysylltiol, mannau parcio a chyfleusterau cysylltiol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Jean Forsyth

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 4 adeilad fyddai'n cynnwys 77 uned byw, creu mynedfa gerbydol newydd gyda lonydd cysylltiol, mannau parcio a chyfleusterau cysylltiol.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar y cais gan egluro mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer  bwriad sydd yn cynnwys manylion mynedfa gerbydol a gosodiad yr adeiladau oddi mewn i’r safle fydd yn cynnwys 4 adeilad gyda 77 uned byw neu fflatiau hunan gynhaliol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffiniau datblygu dinas Bangor, sydd wedi ei ddynodi fel canolfan isranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gorffennaf 2009). Mae’r safle mewn lleoliad gymharol amlwg yn gyfochrog gyda rhan isaf y Stryd Fawr o fewn ardal a adnabyddir fel Hirael. Defnydd diweddaraf y safle oedd fel busnes gwerthu nwyddau adeiladu (Jewsons), sydd bellach wedi dod i ben. Mae’r holl adeiladau wedi eu dymchwel a’r safle cyfan bellach yn segur.

 

(b)       Egwyddor y datblygiad yw’r ystyriaeth bennaf yn yr achos yma ac o ystyried y manylion sydd wedi’u cyflwyno am gymeradwyaeth fel rhan o gais amlinellol ynghyd a lleoliad y safle o fewn ardal breswyl ag o fewn ffin datblygu dinas Bangor credwyd fod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt y mater hwn.

 

(c)     Nodwyd y byddai’r unedau unigol yn amrywio o ran eu maint yn ddibynnol ar iddynt fod yn uned 1 neu 2 ystafell wely ond maent oll yn cynnwys cegin, ystafell fyw ac ystafelloedd ymolchi ar wahân. Mae’r safle mewn lleoliad gymharol amlwg yn y rhan yma o’r Ddinas Bangor. Mae tai preswyl yn amgylchynu’r safle ac yn amrywio o ran eu maint, dyluniad a gorffeniad. Datganiad yr Uned Strategol Tai yw bod galw cyffredinol am dai fforddiadwy ym Mangor ac felly y dylid cynnwys 23 yn uned fforddiadwy fel rhan o’r cynllun hwn. Mae’n ymddangos mai pris cyfartaledd fflat 2 lofft yn ardal Bangor yw £116,000 tra bod fflat 1 ystafell wely yn £90,000.  Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu adroddiad manwl ar ffurf asesiad o’r farchnad dai yn lleol a’r angen ac yn yr achos yma oherwydd maint a phrisiad yr unedau, credir fod yr unedau eisoes yn fforddiadwy beth bynnag.

         

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno.

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig. Disgynnodd y cynnig

 

          Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

(d)     Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad

·         Cymeradwyo bod y datblygwyr wedi gwrando ac ymateb i sylwadau’r Pwyllgor

·         Nifer yr unedau wedi lleihau yn sylweddol ynghyd â gofod addas rhwng y blociau

·         Y safle wedi bod yn segur ers peth amser ac yn denu llygredd

·         Nid oes darpariaeth ddigonol yn lleol am unedau i bobl sengl ac felly'r datblygiad yn ymateb i’r galw

·         Cais am amod tai fforddiadwy ac amod mai unedau ar gyfer bobl leol ydynt

 

(dd)    Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad

·         Pryder nad oes buddsoddiad i adfer canol y ddinas

·         Pryder mai ar gyfer myfyrwyr fydd yr unedau ac nid ar gyfer y farchnad agored. Niferoedd myfyrwyr yn lleihau ac o ganlyniad bydd yr unedau yma yn ychwanegu at y nifer o unedau gwag fydd yn y ddinas

 

(e)       Mewn ymateb i’r sylw nodwyd bod tystiolaeth ystadegol yn profi nad oes amheuaeth am yr angen am unedau o’r maint yma. O ran darparu tai ar gyfer bobl leol, mynegwyd nad oedd polisi cynllunio perthnasol ar gyfer rhoi amod am ddarpariaeth i bobl leol yn unig. O ran yr elfen tai fforddiadwy, cytunwyd cynnwys amod i sicrhau mecanwaith tai fforddiadwy

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytuno ar gael trefniadau yn eu lle ar gyfer sicrhau darpariaeth briodol o dai fforddiadwy.

 

          Amodau:

          1.            Amser cychwyn y datblygiad ac amser cyflwyno materion a gadwyd yn ôl

          2.            Manylion y materion a gadwyd yn ôl

          3.            Deunyddiau

          4.            Llechi

          5.            Tir llygredig/sŵn

          6.            Dŵr wyneb/ amodau Dwr Cymru

          7.            Amodau priffyrdd

          8.            Archeoleg

          9.            Gwaredu planhigion ymledol

            10.          Uchafswm uchder adeiladau

            11.          Trefniadau tai fforddiadwy

 

Dogfennau ategol: