Agenda item

Dymchwel modurdy presennol a chodi uned gwyliau deulawr.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eirwyn Williams

Cofnod:

Dymchwel modurdy presennol a chodi uned gwyliau deulawr

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai'r bwriad yw dymchwel modurdy presennol a chodi uned wyliau deulawr yn ei le. Mae’r safle wedi ei leoli gerllaw i ffin ddatblygu Criccieth. I’r gogledd o’r safle mae llinell Rheilffordd y Cambrian ac i’r de a’r gorllewin mae maes parcio cyhoeddus. Amlygwyd bod pensaernïaeth ganol Criccieth yn draddodiadol iawn, ond o gwmpas safle’r cais mae tai mwy modern ac mae caffi Morannedd wedi ei restru fel adeilad (modern) Gradd II. Mae dyluniad y bwriad yn fodern ond gyda defnydd gofalus o ddeunyddiau a lliwiau ni ystyrir bydd y datblygiad yn nodwedd estronol.

 

(b)       Derbyniwyd gwrthwynebiad gan berchennog yr eiddo sydd ar yr ochr arall i’r rheilffordd o’r safle yn datgan pryder ynghylch yr effeithiau mwynderol ar ei eiddo. Wrth dderbyn y byddai niwed i’r golygfeydd o’r tŷ tua’r castell, ni fyddai’r adeilad newydd yn union o flaen y tŷ presennol ac fe fyddai golygfeydd agored i’r de i gyfeiriad y môr yn parhau. Ni ystyriwyd felly y byddai’r datblygiad yn cael effaith gormesol ar drigolion Merllyn Crossing Cottage. Yn ogystal, o ystyried y pellter fydd rhwng yr adeiladau, ni ystyriwyd y byddai colled goleuni arwyddocaol yn deillio o’r datblygiad nac yn cael effaith gormesol.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. Amlygwyd bod amod ychwanegol i sicrhau preifatrwydd i Merllyn Crossing Cottage drwy osod sgrin preifatrwydd ar y balconi cefn a gwydr afloyw yn y ffenestr cefn ar y llawr cyntaf.

 

(c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol:-

·         Pryderon ynglyn a mynediad diogel i ddefnyddwyr Llwybr yr Arfordir

·         Pryderon ynglyn a diogelwch ffordd gan y buasai'r eiddo bwriadedig yn atal golygfa glir o drafnidiaeth yn dod i lawr yr allt a cherddwyr yn croesi'r ffordd

·         Pryderon y bydd golygfa'r tai cyfagos yn cael ei ddifetha

·         Bod ‘cyfamod’ i olygfa rhwng cymdogion

·         Bod adeilad deulawr yn difethaf golygfa o’u heiddo.

 

(ch)   Mynegodd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ar sail cynllunio nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais a'i fod yn cytuno gyda’r argymhelliad a’r amodau.

 

(d)      Mewn ymateb i’r sylw ynglyn â chyfamod preifat, mynegodd y Cyfreithiwr, mai trafodaeth rhwng y perchnogion yn unig yw hyn ac nid ydyw yn ystyriaeth i’r Pwyllgor Cynllunio.

(dd)    Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(e)     Nodwyd  sylwadau o’r drafodaeth:

·         Bod yr eiddo presennol yn ddolur llygad ar ochr y ffordd. Criccieth yn dref hyfyw a llewyrchus ac felly yn croesawu'r bwriad.

·         Garej oedd ar y safle ac felly wedi bod yn safle prysurach dros y blynyddoedd

·         Y gosodiad bwriadedig yn isel ac felly nid yw yn dramgwydd i eraill

·         Ystyried adeilad un llawr yn hytrach na deulawr?

 

(a)      Mewn ymateb i’r sylw ynglyn ag ystyried adeilad un llawr, nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi bod rhwng yr ymgeisydd a’r pensaer a derbyniwyd bod y dyluniad bwriadedig yn  cydweddu gydag adeiladau sydd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio. Pryder am olygfa yw prif reswm dros y gwrthwynebiad ac yng nghyd destun ‘golygfa’, nid oes ‘hawl i olygfa’ yn nhermau cynllunio.

         

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

         

          Amodau

1.            5 mlynedd

2.            Lliwiau a deunyddiau

3.            Defnydd gwyliau yn unig/cadw cofrestr

4.            Tynnu hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir

5.            Amodau dŵr

6.            Cydymffurfio gyda’r cynlluniau a gymeradwywyd

7.            Gwydr afloyw  yn y sgrin ar y balconi ac yn y ffenestr cefn llawr cyntaf

Dogfennau ategol: