Newid defnydd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau a gweithgynhyrchu tanwydd solet sydd wedi ei adfer.
Aelod Lleol: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths
Cofnod:
Newid defnydd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau a gweithgynhyrchu tanwydd
solet sydd wedi ei adfer
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau
a Gwastraff bod y cais hwn yn rhannol ôl-weithredol ac yn ymwneud â newid
defnydd perthnasol o uned ddiwydiannol sy’n bodoli i gyfleuster ailgylchu
deunyddiau ar gyfer gweithgynhyrchu Ynni Solid wedi’i Adfer (SRF) allan o
wastraff sgip o ffynonellau lleol, wedi’i ddidoli ac sydd heb fod yn. Bydd y
datblygiad yn destun mewnbwn o 72,000 tunnell y flwyddyn a bydd yr holl
weithgaredd yn cael ei gynnal tu mewn i’r adeilad. Bwriedir gweithgynhyrchu SRF
i’w werthu i gwmnïau cynhyrchu ynni a rhai eraill sy’n defnyddio tanwydd solid.
(b)
O ran egwyddor y datblygiad, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud
yn glir drwy
fabwysiadu dogfen strategaeth gwastraff cyffredinol i Gymru,
Tuag at Ddyfodol Ddiwastraff, ei fod wedi ymrwymo
i strategaeth hirdymor ar gyfer
effeithlonrwydd adnoddau a rheoli gwastraff rhwng nawr a 2050, yn seiliedig ar
lefelau uchel iawn o ailgylchu gwastraff a chompostio ynghyd â’r lefelau
isaf posib o dirlenwi.
(c)
Amlygwyd bod datblygu cyfleuster i gynhyrchu ynni
solid wedi’i adfer yn dderbyniol mewn
egwyddor yn y lleoliad hwn ac yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cenedlaethol a rhanbarthol a hefyd gyda Pholisïau
C3, C22 a D2 y CDU yn amodol
ar asesiad o'r ystyriaethau cynllunio perthnasol. Mynegwyd bod yr adeilad yn adeilad
pwrpasol ar gyfer y math yma o weithgaredd.
Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd
(ch) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Mai amrywiad
bychan ydyw o’r defnydd presennol
·
Y lleoliad yn
addas, yr adeilad wedi ei insiwleiddio i safon uchel
·
Ni
fydd ardrawiad sŵn
·
Oriau gwaith yn y dydd yn unig,
6 diwrnod yr wythnos
·
Cyflawni tuag at her Gwynedd i
gyflawni eu targedau rheoli gwastraff
·
Tystiolaeth yn dangos fod y cais yn
un dilys
·
Bydd cyflogaeth o 11 person ar y dechrau
·
Bod y lleoliad yn
cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau a rhanbarthol
·
Bod y safle eisoes
gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer warws a chanolfan dosbarthu
(d)
Gwnaed y pwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
· Bod y safle wedi
bod yn wag ers tro
· Pryderon pobl leol yn cynnwys, materion iechyd a
diogelwch, llwch a safon yr awyr, effaith sŵn o’r gwaith a sŵn o
drafnidiaeth
· Os daw ceisiadau am ychwanegiadau
neu ehangu pellach bod rhaid cyflwyno cais cynllunio
penodol
· Angen sicrhau monitro
rheolaidd yng nghyd-destun y gwaith fydd yn cael
ei gyflawni ar y safle ynghyd
â monitro diogelwch tân
· A fydd y dŵr ar y safle yn cael ei storio? A fydd y
dŵr yn llifo allan? Angen eglurder.
· Angen i oriau gwaith gyd-fynd ac oriau derbyn a danfon
deunyddiau
(dd)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
(e)
Nodwyd y sylwadau canlynol
o blaid yr argymhelliad
·
Er yn derbyn pryderon Cyngor Tref Porthmadog a’r gymuned leol,
amodau wedi eu gosod at y dibenion
hyn
·
Nid oes simnai i’r
adeilad ar gwaith yn gaeedig, felly ni fydd sŵn yn debygol
·
Cefnogol i fenter
sydd yn osgoi tir lenwi
·
Cyfleon cyflogaeth
lleol
(f) Derbyniwyd y sylw am oriau gwaith ac i’r
sylw i sicrhau fod yr amodau yn unol gyda’r sylwadau hwyr oedd wedi’u derbyn
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio
gymeradwyo’r cais yn ddibynnol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori a’r amodau a
ganlyn a chadarnhad o’r oriau gweithredu: -
Dogfennau ategol: