Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn caled gyda unedau parhaol, creu mynedfa a trac gerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu.
Aelod Lleol: Cynghorydd John Wyn Williams
Cofnod:
Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn
caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont, codi bloc
toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth
a gwaith tirweddu
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y
cais wedi ei gyflwyno er mwyn darparu safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys 8
llecyn caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont dros
yr afon, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith
trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar
ddarn o dir rhwng y B4547 a’r A487 ger cylchfan rhwng
Felinheli a Bangor. Nodwyd bod rhannau o’r safle, ynghyd a rhannau o’r fynedfa
a’r briffordd B4547 wedi eu lleoli o fewn parth llifogi
C2.
(b)
O ran egwyddor y datblygiad,
nodwyd bod polisi CH16 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn ymwneud a chynigion
ar gyfer safleoedd sipsiwn newydd, a bod y polisi yn caniatáu cynigion am
safleoedd newydd yn ardal y Cynllun ar yr amod y darparwyd tystiolaeth o wir
angen am y datblygiad. Nid yw’r cynllun gosodiad safle er hynny
yn dangos llecynnau parcio ar gyfer cerbydau
mawrion, carafanau teithiol nac ardal
agored ar gyfer amwynder/sychu dillad/chwarae
ar gyfer plant, ac oherwydd y nifer uchel o leiniau ni ystyrir
fod lle digonol
ar gyfer troi cerbydau mawrion/cerbydau sy’n towio.
Ychwanegwyd nad
yw’r bwriad yn darparu cyfleusterau
mwynderau ar wahân i bob llain,
sydd yn cael
ei gynnig fel rhan o’r
cais ac sydd i’w rannu rhwng
yr 8 uned yn ddigonol. Nid
oedd gwybodaeth ddigonol ar gyfer
asesu effaith sŵn y briffordd a’r gefnffordd gerllaw ar drigolion
y safle bwriadedig wedi ei gyflwyno.
(c) Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn cadarnhau fod y safle wedi
ei leoli ar dir coediog gydag afon yn rhedeg drwy’r
safle. Mae’r tir yn wlyb. Mae cofnod o foch daear a draenog ar y briffordd ger
y safle ac mae trochydd yn yr afon a thebygolrwydd
fod dyfrgwn yno hefyd. Mae afonydd yn gynefin a choridor bywyd gwyllt pwysig ac
y dylid osgoi datblygiad sy’n debygol o gael effaith arnynt. Yn ychwanegol, mae
Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn fod diffyg gwybodaeth
ecolegol er mwyn gwneud asesiad llawn o’r bwriad, a hefyd yn nodi fod yr
adeiladau toiled/storfa yn rhy agos i’r afon. Nodir fod angen adroddiad coed,
cynllun rheoli rhododendron, ac y dylid gwahardd cŵn o’r safle oherwydd
bod dyfrgwn yn bresennol yno, ac nad yw’n glir os bydd y gofyniad hynny yn
realistig ar safle fel hyn.
(ch) Ar sail sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth,
ystyriwyd nad yw’r datblygiad yn addas ar gyfer safle mor sensitif, ac y
byddai’n debygol o gael effaith andwyol ar goridor bywyd gwyllt sydd o werth
uchel. Tynnwyd sylw bod Asesiad Canlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan
o’r cais ac yn dilyn asesu’r Asesiad Canlyniad Llifogydd, roedd Cyfoeth
Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r cais oherwydd nad yw lefel y platform yn ddigonol ar gyfer goresgyn digwyddiad
llifogydd. Ychwanegwyd bod y Swyddog Cynllunio Argyfwng hefyd wedi cadarnhau ei
fod yn gwrthwynebu’r bwriad oherwydd bod mynediad i’r safle o’r briffordd a’r
bont dros yr afon o fewn parth C2, ac oherwydd bod potensial creu bwrdwn ychwanegol i’r gwasanaethau brys mewn argyfwng
llifogydd.
Cydnabuwyd bod yr angen ar gyfer lleiniau parhaol ar gyfer
sipsiwn wedi ei brofi, ac mae’n hanfodol fod cynigion ar gyfer safleoedd yn
cydymffurfio gyda pholisïau o fewn y Cynllun Datblygu Unedol. Yn yr achos yma,
ystyriwyd fod y bwriad yn orddatblygiad ac nad oedd
gwybodaeth ddigonol ar gyfer asesu effaith sŵn y briffordd a’r gefnffordd
gerllaw ar drigolion y safle bwriadedig.
(d) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn gwneud y cais ar
ran ei deulu oherwydd bod y safle sydd yn cael
ei ddarparu ar eu cyfer
yn Llandygai yn llawn ac nad oedd lleoliad addas arall ar gael
i Sipsiwn a Theithwyr yng Ngwynedd.
·
Ei fod yn berchen ar y tir ac
nad oedd yn gofyn am unrhyw gefnogaeth bellach gan yr Awdurdod Lleol.
(dd) Gwnaed y pwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod tystiolaeth ac angen lleol
am fwy o leoliadau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ond bod cwestiwn yn codi pam
fod rhaid i Fangor ddiwallu anghenion y Sir.
·
Roedd yn adnabod y teulu ac yn parchu
eu dymuniad.
·
Hanfodol rhoi ystyriaeth i’r
ffaith bod yr ardal yn debygol o orlifo, bod pryder o ran trafnidiaeth sŵn
a phrysurdeb.
·
Mynegodd ei fod o’r farn nad oedd y safle yn addas
ar gyfer y datblygiad.
(e) Cynigwyd a eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r
argymhelliad.
(f)
Nodwyd y sylwadau canlynol
o blaid yr argymhelliad:
·
Bod gofyn statudol i ddarparu
safle a gan fod y safle yma ar gael ac ar gyrion y ddinas ei fod yn lleoliad
addas.
(ff) Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r
argymhelliad
·
Bod gofyn statudol i ddarparu
safle i Sipsiwn a Theithwyr ond nad oedd y safle yma yn addas
·
Cydnabod bod yr angen yn
amlwg, ond bod rhaid rhoi ystyriaeth i faterion iechyd a diogelwch
·
Cais i’r Cyngor edrych am dir er
mwyn ymateb i’r dyletswydd
·
Amlwg bod galw am y gwasanaeth
- angen cynnal trafodaethau
·
Oes modd rhoi hawl dros dro
hyd nes bydd safle addas?
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod
trafodaethau ynglŷn â gwella ac ymestyn safle Sipsiwn presennol y safle yn
Llandegai yn digwydd, ond nad oedd cais cynllunio ffurfiol wedi ei gyflwyno hyd
yn hyn ac felly nid yw’n ystyriaeth faterol. O ran dyletswydd yr Awdurdod,
nodwyd bod cais i ymateb i hynny yn y Cynllun Datblygu Lleol. O ran caniatâd
dros dro, nodwyd y buasai niwed i fioamrywiaeth yr un mewn dros gyfnod dros dro
ag y buasai yn barhaol.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
1.Ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion polisi B23 a B33 o’r Cynllun
Datblygu Unedol sy’n ymwneud a diogelu mwynderau a delio gyda datblygiadau sy’n
creu llygredd neu boendod. O ganlyniad ystyrir fod y bwriad yn orddatblygiad o’r safle ar sail nifer yr unedau a diffyg
cyfleusterau mwynderol ac ardal agored mwynderol a lle digonol ar gyfer cadw a throi cerbydau
cysylltiol/cyflogaeth a gynigir. Yn ogystal, nid oes
gwybodaeth digonol ar gyfer asesu effaith sŵn y briffordd a’r gefnffordd
gerllaw ar drigolion y safle bwriadedig.
2.Nid oes gwybodaeth digonol wedi ei
gyflwyno er mwyn sicrhau nad
yw’r bwriad yn gwneud niwed
i gyfanrwydd neu barhad y tirwedd
sy’n bwysig iawn ar gyfer
fflora a ffawna, ac felly ystyrir nad yw’r
datblygiad yn addas ar safle
mor sensitif, ac y byddai yn debygol
o gael effaith andwyol ar goridor
bywyd gwyllt sydd o werth uchel.
Ystyrir
felly fod y bwriad yn groes i
ofynion polisi B21 o’r Cynllun Datblygu
Unedol sy’n diogelu corridor bywyd gwyllt.
3.Mae carafanau a datblygiadau preswyl yn cael ei ddiffinio fel datblygiad sy’n agored iawn i niwed. Mae rhan o’r safle gan gynnwys y mynediad wedi ei leoli o fewn parth llifogi C2, ac ni ddylid lleoli datblygiad fel sy’n destun y cais o fewn parth C2. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi B29 o’r Cynllun Datblygu Unedol, Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd yn ogystal â Chylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 30/2007 Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr sy’n cadarnhau na ddylid lleoli datblygiad preswyl (ac yn benodol carafanau) o fewn parth llifogi C2.
Dogfennau ategol: