Agenda item

Cais rhannol ol-weithredol ar gyfer codi adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol, newid adeilad a ganiatawyd ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel modurdy masnachol yn Gallt y Beren i ddefnydd amaethyddol, ynghyd a gwelliannau bwriedig i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Anwen J. Davies

Cofnod:

Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer codi adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol, newid adeilad a ganiatawyd ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel modurdy masnachol yn Gallt y Beren i ddefnydd amaethyddol, ynghyd a gwelliannau i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ar gefndir y cais.  Adroddwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ar y 27 Ebrill 2015 a bwriad y Pwyllgor oedd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad swyddogion. Y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor dros gefnogi’r cais oedd oherwydd eu bod yn ystyried bod y datblygiad yn cydymffurfio a pholisi D7 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gweithdai Gwledig neu Unedau Diwydiannol/Busnes ar raddfa fach tu allan i ffiniau datblygu); bod y datblygiad yn darparu cyflogaeth yn lleol; bod angen lleol yn ddaearyddol, a bod diffyg busnes cyffelyb o fewn cyrraedd y  safle.

 

Tynnwyd sylw y derbyniwyd 1 llythyr o gefnogaeth i’r cais ar y sail fod yr effaith weledol yn cael ei ystyried yn dderbyniol, nad oedd safleoedd amgen addas ac nad oedd yna effaith o ran trafnidiaeth, ers cyhoeddi’r adroddiad.

 

(b)       Manylwyd ar gefndir y cais gan nodi mai’r elfen ôl-weithredol o’r cais yw cadw adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol gydag arwynebedd llawr o 264m2 ger annedd a adnabyddir fel Hendre Wen, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen. O ran hanes cynllunio'r safle tynnwyd sylw y gwrthodwyd cais i newid defnydd sied amaethyddol yn Hendre Wen i fod yn garej a gorsaf MOT ar 21 Chwefror 2013, ac o ganlyniad rhoddwyd rhybudd gorfodaeth i ddiweddu’r defnydd a dymchwel yr adeilad a ddefnyddir fel modurdy masnachol a symud yr holl ddeunydd cysylltiedig â’r defnydd hwnnw oddi ar y safle.

 

Adroddwyd yr apeliwyd y rhybudd gorfodaeth a’r gwrthodiad cynllunio, gwrthodwyd y ddwy apêl yn Mai 2014. Diwygiwyd y rhybudd gorfodaeth, yn unol â phenderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio, er mwyn ymestyn y cyfnod cydymffurfio efo’r rhybudd i 12 mis. Nodwyd y byddai’r cyfnod yn dod i ben ar 4 Mai 2015, ond nad oedd unrhyw ymgais wedi ei wneud hyd yn hyn i gydymffurfio ag anghenion y rhybudd. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn gweithredu yn groes i’r argymhelliad yr Arolygydd ac felly yn troseddu. Pwysleiswyd fod yr hanes cynllunio diweddar i’r cais yn sefydlu’n gadarn a chlir beth oedd y safbwynt polisi cynllunio cyfredol gyda’r cais yma, a bod y cais yn gwbl groes i bolisi o ran egwyddor.

 

Nodwyd gan fod y datblygiad yn un diwydiannol ei fod yn hanfodol ystyried os oedd gan y datblygiad anghenion lleoli arbennig dan bolisi D5 o’r CDUG. Yn yr achos yma nid oes unrhyw anghenion lleoli arbennig i leoli busnes ar y safle penodol hwn yng nghefn gwlad agored, yn arbennig o gofio bod gan yr ymgeisydd fusnes sefydledig mewn sied ar y fferm deuluol gyferbyn a’r safle yn bresennol. Nodwyd bod unedau ar gael yn ardaloedd fel Nefyn ac Y Ffor a fyddai o bosib yn cydymffurfio gydag anghenion yr ymgeisydd, ac ystyriwyd y dylid archwilio’r posibilrwydd o addasu a defnyddio un o’r unedau yma yn hytrach na chaniatáu cadw uned o’r newydd ar leoliad cwbl annerbyniol. Nodwyd hefyd bod busnesau eraill yn yr ardal yn darparu'r math yma o wasanaeth ac felly nad oedd cyfiawnhad i dderbyn y bwriad fel ‘datblygiad anghenion lleol arbennig’.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal, ac nad oedd cyfiawnhad dros leoli’r datblygiad ar y safle. Pwysleisiwyd fod penderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio ar ran Gweinidogion Cymru i wrthod y cais yn cefnogi safbwynt y Cyngor yn yr achos hwn i wrthod apêl yn erbyn gwrthodiad cais cynllunio blaenorol a rhybudd gorfodaeth. I’r perwyl hyn, byddai’n anodd iawn i’r Pwyllgor allu cyfiawnhau mynd yn groes i’r penderfyniad apêl heb greu risgiau sylweddol i’r Cyngor. Amlygwyd bod y bwriad yn groes i’r cyfarwyddyd a geir yn y polisïau cenedlaethol a lleol.

 

Amlygwyd mai’r risg fwyaf i’r Cyngor fuasai i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn ffurfiol yn y modd y mae’r Cyngor yn darparu’r Gwasanaeth Cynllunio, fydd yn y pen draw, yn tynnu’r hawl i benderfynu ar geisiadau cynllunio yn gyfan gwbl, neu yn rhannol, oddi wrth y Cyngor. Rhestrwyd opsiynau i’r Pwyllgor eu hystyried yn yr adroddiad gan bwysleisio fod yr argymhelliad i wrthod y cais yn un cadarn a chlir gan ysytyried yr hanes cynllunio diweddar.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·        Bod diffyg penderfyniad ar y cais yn achosi pryder i’r teulu ac i’r gymuned leol.

·        Bod y busnes yn llwyddiannus yng nghanol cefn gwlad

·        Bod y cwmni yn cynnig gwasanaeth i beiriannau amaethyddol ac felly'r maint yn addas

·        Y busnes yn cyflogi 6 aelod o staff. Rhain yn deuluoedd ifanc, lleol yn ceisio dyfodol i’w plant;  yn swyddi gwerthfawr mewn ardal wledig lle nad oes llawer o swyddi;

·        Bod y busnes yn cyfrannu’n sylweddol i’r economi leol;

·        Bod yr ymgeisydd yn bwriadu newid lliw'r sied.

·        Byddai gwrthod y cais yn golygu colli gwaith yng nghefn gwlad ynghyd â bywoliaeth teulu’r ymgeisydd.

·        Ei bod yn gefnogol i’r cais

 

Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais  yn unol â’r argymhelliad gan awgrymu i’r ymgeisydd drafod posibiliadau gyda'r Gwasanaeth Cynllunio mewn perthynas â’r safle yn Gallt y Beren, a lleoliadau neillog addas eraill  - opsiwn 5.1(ii) o’r adroddiad.

 

(ch)   Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad:

 

·        Rhaid ystyried penderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio

·        Bod yr arolygydd wedi cefnogi penderfyniad y swyddogion ac ni ellir tanseilio penderfyniad yr arolygydd;

·        Bod angen penderfynu yn unol â’r polisïau er sicrhau tegwch a chysondeb i bob ymgeisydd.

·        Derbyn bod y penderfyniad yn un anodd ond rhaid bod yn ofalus a pheidio gosod cynsail peryg

·        Cytuno ar yr angen i gefnogi diwydiant a chyflogaeth yng nghefn gwlad, ond gan fod yr apêl wedi ei wrthod dwywaith, rhaid i’r Pwyllgor gadw at eu polisïau

·        Y bwriad yn mynd yn erbyn 7 polisi o’r CDUG;

 

(d)     Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad:

 

·        Bod y busnes yn fenter economaidd lwyddiannus ac yn un i’w groesawu.

·        Bod y busnes wedi datblygu’n naturiol, yn gefnogol i ffermwyr lleol ac yn profi bod angen i’r gwasanaeth barhau ar y safle

·        Bod adeiladau amaethyddol wedi bodoli ar y safle ers tro ac felly rhaid blaenoriaethu diwydiant yng nghefn gwlad a derbyn bod hyn yn eithriad.

·        Buasai gofyn i gwsmeriaid deithio yn bellach, gyda thractorau efallai, olygu cynnydd mewn lefelau traffig yn ystod yr Haf ar lonydd gwledig

·        Bod angen sicrhau swyddi a chefnogi cwmni sydd yn cefnogi'r iaith Gymraeg

·        Bod yr ymgeisydd yn bwriadu gwella’r safle drwy dirlunio i’w wneud yn llai gweledol

·        Nid oes unedau addas cyfagos

·        Os gosodir cynsail wrth ganiatáu’r datblygiad yna fyddai’n anfon neges bositif y cefnogir busnes lleol ac ieuenctid lleol.

 

(dd)   Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i wrthod y cais:

              

O blaid y cynnig i wrthod y cais, (8) Y Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, Dyfrig Wynn Jones, June Marshall, Michael Sol Owen, Tudor Owen, Eirwyn Williams a Hefin Williams.

 

Yn erbyn y cynnig i wrthod y cais, (7) Y Cynghorwyr: Elwyn Edwards, Alwyn Gruffydd, Dilwyn Lloyd, John Pughe Roberts, Gruffydd Williams, Owain Williams ac Eurig Wyn.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad gan awgrymu i’r ymgeisydd drafod posibiliadau gyda'r Gwasanaeth Cynllunio mewn perthynas â’r safle yn Gallt y Beren, a lleoliadau neillog addas eraill (opsiwn 5(ii)).

 

1.    Ystyrir bod y bwriad cyfystyr a chodi adeilad diwydiannol newydd yng nghefn gwlad ac nid yw’n bosib ystyried y bwriad hwn fel newid defnydd adeilad presennol. Nid oes cyfiawnhad dros ei leoli yng nghefn gwlad agored ac nid oes anghenion lleoli arbennig yn bodoli ar gyfer y datblygiad hwn. Mae’r bwriad felly yn groes i bolisïau D5, D7, D8 a C1 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

 

2.    Mae’r adeilad, fel a’i codwyd oherwydd ei liw, agoriadau a gorffeniadau, yn sefyll allan fel nodwedd amlwg ddiwydiannol nad yw’n parchu na gweddu i’w leoliad yng nghefn gwlad agored ac sydd wedi ei ddynodi’n Ardal Gwarchod y Tirlun. Yn ogystal ystyrir fod y  gwaith i’r fynedfa yn cael effaith niweidiol ar gymeriad a golwg yr ardal. Ystyrir felly nad yw’r bwriad yn cydymffurfio a gofynion polisïau B10, B22, B25 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

 

Dogfennau ategol: