Agenda item

Cais llawn i godi adeilad tri llawr newydd ar gyfer canolfan cwmni Zip World i gynnwys derbynfa/adnoddau cysylltiol gan gynnwys caffi a bar ynghyd a gwaredu adeiladau dros dro presennol, codi cwrs weiren sip newydd, creu maes parcio, codi llwybr troed pren cysylltiol a'r maes parcio presennol i ymwelwyr a gosod gwaith trin

carthffosiaeth.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gwen Griffith

Cofnod:

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad tri llawr newydd ar gyfer canolfan cwmni Zip World i gynnwys derbynfa/adnoddau cysylltiol gan gynnwys caffi a bar ynghyd a gwaredu adeiladau dros dro presennol, codi cwrs weiren sip newydd, creu maes parcio, codi llwybr troed pren cysylltiol o’r maes parcio presennol i ymwelwyr a gosod gwaith trin carthffosiaeth. Mae’r safle’r cais ei hun ar blatfform o wastraff llechi/carreg sydd wedi ei leoli’n is na’r safle sydd yn cael ei  ddefnyddio’n bresennol.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffiniau Chwarel Penrhyn ar gyrion Bethesda, gan ddefnyddio’r un fynedfa i’r Chwarel ag sydd yn bresennol. Mae busnes Zip World wedi ei sefydlu o fewn y Chwarel ac wedi datblygu fel atyniad llwyddiannus a phoblogaidd iawn sydd yn cyfrannu i’r economi  leol ynghyd a chynnig ffordd i gysylltu gyda threftadaeth economaidd yr ardal. O ganlyniad mae galw am ddarparu adeilad o safon fydd yn gwella delwedd yr atyniad i’r dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at bolisi D8 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud ac ehangu mentrau diwydiannol a busnesau presennol neu fentrau eraill os gellir cydymffurfio gyda meini prawf penodol yn ymwneud gydag addasrwydd y defnydd presennol o safbwynt yr ardal o’i amgylch a defnyddiau cyfagos a’i berthynas a’r gwaith presennol. Nodwyd hefyd ei bod yn ofynnol cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol ar gyfer y bwriad oherwydd maint ei arwynebedd llawr, sy’n fwy na 1000m sgwâr. Eglurwyd bod yr Uned Bolisi ar y Cyd wedi cadarnhau na ragwelir bydd y datblygiad yn cael adrawiad arwyddocaol ar fewnfudiad i’r ardal ac felly yn unol gyda gofynion polisi A2.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ynghyd a gwybodaeth hwyr sydd i law yn gofyn ystyried  ail leoli’r adeilad a’r maes parcio ar safle arall o fewn y linell goch oherwydd problemau sydd wedi dod i’r amlwg gyda datblygu yn y lleoliad sydd wedi ei ddangos fel rhan o’r cais presennol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd  y pwyntiau canlynol:-

·         Bod angen symud y lleoliad rhyw ychydig, o fewn y llinell goch, gan nad yw’r sylfaeni yn addas

·         Yr atyniad yn denu ymwelwyr i Ogledd Cymru

·         Adnoddau presennol ddim yn dderbyniol ar gyfer ymwelwyr a staff ac felly angen gwella'r ddarpariaeth

·         Bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel Pencadlys y Cwmni sydd bellach yn gweithredu drwy’r Deyrnas Unedig

·         Bydd 20 person ychwanegol yn cael eu cyflogi.

 

(c)       Mynegodd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol:

·         Cyflogaeth y cwmni yn bwysig i Wynedd

·         Bydd zip fechan i’r plant yn cynnig atyniad i’r teulu

·         Angen adnoddau gwell i’r staff

·         Cwmni yn buddsoddi yn lleol

·         Bod penderfyniad y Cwmni i leoli eu Pencadlys yng Ngwynedd yn arwydd calonogol o’u hymrwymiad i’r Sir

·         85,000 yn defnyddio'r wifren yn flynyddol - y busnes yn datblygu

·         Cais i annog arwyddion dwyieithog

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

(d)       Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

·         Yr atyniad wedi datblygu yn gyflym ac felly croesawu bod y cwmni yn gwella'r adnodd ymhellach ac o ganlyniad yn uwchraddio atyniadau Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau yn ymwneud gyda lleoliad newydd yr adeilad a’r maes parcio ac i dderbyn sylwadau ffafriol yn dilyn cyfnod ail-ymgynghori.

 

Amodau:

1.            5 mlynedd

2.            Unol a’r cynlluniau

3.            Rhaid ymgymryd â’r mesurau lliniaru yn unol â’r adroddiad ecolegol a’r addendum.

4.            Cyfyngir defnydd y caffi/bar a’r siop o fewn yr adeilad a ganiateir drwy hyn i ddefnyddiau cysylltiol gyda’r prif ddefnydd cwrs weiren sip yn unig.

5.            Rhaid cyflawni’r lliniaru yn unol â gofynion adroddiad ecolegol 05.05.2015

6.            Rhaid cyflwyno rhaglen o waith archeolegol

7.            Llechi

8.            Deunyddiau

 

Nodyn: arywddion dwyieithog

 

 

Dogfennau ategol: