Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Dyfrig Jones ac W Gareth Roberts (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Sian Gwenllian,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth A Roberts,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C13/113/11/AM); ·
Y Cynghorydd Stephen
Churchman, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1296/36/LL) ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams, (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
6.3 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0034/42/LL) ·
Y Cynghorydd John W
Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 6.5 ar
y rhaglen, (cais rhif C16/0154/25/LL) ·
Y Cynghorydd Michael Sol Owen,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.8 ar y rhaglen, (cais
rhif C14/1118/45/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14.3.2016 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2016, fel
rhai cywir yn ddarostyngedig ar gynnwys enw'r Cynghorydd Gwen Griffith ar y
rhestr presenoldeb yn y fersiwn Saesneg.
|
|
Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio ac Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio yn gofyn
i’r Pwyllgor gymeradwyo bwriad i baratoi Gorchymyn Creu Adran 26 i’w gyflwyno
i’r Arolygaeth Gynllunio benderfynu os bydd y Cyngor yn derbyn gwrthwynebiad
i’r gorchymyn na ellir ei ddatrys. Nodwyd bod gan Awdurdodau Lleol ddisgresiwn
o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980 i lunio Gorchymyn Creu os ydynt yn ystyried
bod angen llwybr troed mewn ardal ddynodedig. Adroddodd Swyddog Prosiect Llwybr yr Arfordir bod
nifer o drafodaethau wedi eu cynnal gyda’r tirfeddiannwr presennol ynglŷn
â mabwysiadu darn o dir ar gyfer mynediad cyhoeddus drwy ardal y Marina dros yn agos i
8 mlynedd. Eglurwyd bod amgylchiadau a chymhlethdod perchnogaeth eiddo wedi
golygu bod y broses hyd yma wedi bod yn
araf ac ar adegau yn rhwystredig
iawn. Bellach, mae cynllun Llwybr
yr Arfordir yn
agos i gyrraedd
y nod ag eithr y llain 8m yma. Y dymuniad yw ceisio sicrhau hawliau mynediad cyhoeddus
drwy gytundeb ond gan nad yw cytundeb
wedi ei gyrraedd, er gwaethaf yr holl ymdrechion, y dewis bellach yw dilyn trefn gorchymyn A26 er mwyn cael symud
ymlaen i gwblhau Llwybr yr Arfordir. Nodwyd bod y bwriad yn cael ei gefnogi gan Gyfoeth
Naturiol Cymru gan ei fod yn rhan allweddol o’r Llwybr Arfordir Cenedlaethol
gyda chyllid wedi ei glustnodi i wneud y gwaith angenrheidiol i greu’r llwybr.
Byddai cwblhau'r llwybr troed yn dod â manteision sylweddol o ran darparu cyswllt
deniadol, diogel a chyfleus i ddefnyddwyr y Llwybr Arfordir ynghyd a budd o ran hamdden a mwynhad i’r gymuned leol
fydd yn cynnwys rhieni gyda phramiau, defnyddwyr cadair olwyn ag ati. b)
Nododd yr Aelod Lleol (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol: ·
Bod y cynllun yn un cymhleth a sawl rhwystr yn
ystod y daith wedi ei goresgyn ·
Bod swyddogion wedi bod yn gweithio yn ddygn
iawn i geisio Llwybr Arfordir ·
Bod lleoli Llwybr yr Arfordir
wrth yr arfordir yn gaffaeliaid ac o fudd economaidd i Felinheli a Bangor.
Amlygwyd bod nifer o fusnesau bychain wedi agor yn ardal y Doc ac y byddai
cwblhau'r llwybr cyhoeddus yn hwb pellach i’r economi leol. ·
Creu Gorchymyn yw'r opsiwn
gorau i symud ymlaen ·
Opsiwn amgen wedi ei ystyried ond nid yn addas o
ran diogelwch ffyrdd ·
Cefnogol i’r cais ac yn gofyn
am gefnogaeth y Pwyllgor i’r gorchymyn c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
gymeradwyo Gorchymyn Creu Adran 26 yn unol ag argymhelliad y swyddogion
cynllunio. ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Cefnogol i’r gwaith ac angen dod i gytundeb er
mwyn cwblhau y llwybr ·
Y Llwybr Arfordir yn bwysig i
hybu twristiaeth i’r ardal ·
Croesawu'r datblygiad PENDERFYNWYD ·
Cyflwyno Gorchymyn Creu Adran 26 er mwyn sicrhau
mynediad cyhoeddus dros 8m o dir ym mherchnogaeth Gwesty Plas Port Dinorwig, Y
Felinheli. ·
Os
derbynnir gwrthwynebiad sydd ddim yn cael ei dynnu’n ôl bod y cyngor yn ei
gyflwyno i’r Arolygaeth Gynllunio am
ddyfarniad |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais C13/1143/11/AM - Tir yn Pen y Ffridd, Bangor PDF 1 MB Cais amlinellol i godi hyd at 366 o unedau byw, gyda
datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd fynedfa, llecynnau parcio ag
adnoddau cysylltiol AELOD LLEOL
Cynghorydd Gareth Anthony Roberts Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i godi hyd
at 366 o unedau byw, gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd fynedfa, llecynnau parcio ag adnoddau
cysylltiol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd (a) Ymhelaethodd Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cynllunio ac Amgylchedd ar gefndir y cais, gan amlinellu bod y cais
wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio Rhagfyr 2015. Penderfyniad y pwyllgor hwnnw oedd i
wrthod y cais, yn groes i argymhellion swyddogion, ar sail i.
y byddai’n cael effaith
andwyol ar yr iaith Gymraeg, ii.
bod diffyg tystiolaeth yn
adrodd sut y byddai’r isadeiledd yn gallu ymdopi, iii.
nad oedd tystiolaeth ddigonol
wedi ei gyflwyno yn dangos fod ysgolion lleol yn gallu ymdopi iv.
nad oedd tystiolaeth ddigonol yn dangos fod y
rhwydwaith priffyrdd yn ddigonol. O ganlyniad i benderfyniad y Pwyllgor, cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil
yn unol â rheolau sefydlog y Pwyllgor. Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y pwyllgor cynllunio am yr agweddau
uchod cyflwynwyd adroddiad yn ymateb yn benodol i’r materion hyn. Amlygwyd bod
oediad i’r ymateb oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno gan
wrthwynebydd, a’r ymgeisydd, a bod penderfyniad wedi ei wneud gan y gwasanaeth
i ail ymgynghori yn ffurfiol ar y
wybodaeth ychwanegol yma. Nodwyd bod yr adroddiad cnoi cil yn cynnwys asesiad
o’r holl wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyd-destun y 4 rheswm gwrthod a roddwyd
gan y Pwyllgor yn y cyfarfod yn Rhagfyr 2015.
Cyfeiriwyd hefyd at yr adroddiad cynllunio llawn oedd yn Atodiad 1 oedd
yn cynnwys asesiad o’r holl ystyriaethau cynllunio yng nghyd-destun y polisïau cynllunio
perthnasol. (b) Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli
oddi mewn i ffiniau datblygu dinas Bangor, ac wedi ei ddynodi’n benodol ar
gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gorffennaf 2009) a bod yr
egwyddor o dai ar y safle felly’n dderbyniol. (c) O safbwynt y 4 rheswm gwrthod a roddwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod yn
Rhagfyr 2015 cadarnhaodd yr Uwch Reolwr :
i.
Roedd asesiad trylwyr wedi ei
gynnal o’r holl wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyd-destun yr effaith bosib ar yr
iaith Gymraeg. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ar sail
Datganiad o Effaith Ieithyddol a Chymunedol yn unol â gofynion polisïau cynllunio’r Cyngor ac ar sail y dystiolaeth
roedd y datblygiad yn unol â’r polisïau cynllunio
perthnasol
ii.
Nid oedd gan Dŵr Cymru na
Chyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r cais yn ddarostyngedig i amodau
cynllunio ac felly roedd y datblygiad yn
dderbyniol o safbwynt materion isadeiledd.
iii.
Roedd materion addysg o ran
materion capasiti wedi cael eu hasesu’n unol a
gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol perthnasol oedd yn cynnwys mewnbwn gan
Adran addysg y Cyngor. Yn sgil hyn
datblygwr yn rhoi cyfraniad ariannol o £907,018 drwy drefniant cytundeb
106 er mwyn diwallu’r anghenion addysg a fuasai’n deillio o'r datblygiad. Roedd
y datblygiad felly’n unol a’r polisïau perthnasol o
safbwynt materion addysg. iv. Roedd tystiolaeth sylweddol wedi ei gyflwyno ac wedi ei asesu yng nghyd-destun materion trafnidiaeth ac yn sgil hyn nid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.1 |
|
Cais C15/1296/36/LL - Llystyn Ganol, Garndolbenmaen, Gwynedd PDF 739 KB Gosod tyrbin gwynt fferm 85kw ar dwr 25m cyfanswm uchder 37m at frig y llafn AELOD LLEOL:
Cynghorydd Stephen W Chrchman Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod tyrbin gwynt fferm 85kw ar dwr 25m cyfanswm
uchder 37m at frig y llafn (a)
Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn
ydoedd i godi tyrbin gwynt 85kw ar dŵr 25m gyda chyfanswm uchder o 37m at
ei frig (gan gynnwys y llafnau) ar dir amaethyddol rhwng pentrefi Bryncir a
Garndolbenmaen. Eglurwyd bod lleoliad y tyrbin o fewn oddeutu 260m i eiddo
preswyl Llystyn Ganol ac o fewn 150m i’r tyrbin presennol sydd ar y tir.
Amlygwyd bod ffin Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei leoli oddeutu 440m i
gyfeiriad y dwyrain o’r safle. Cafodd y cais ei sgrinio yn ffurfiol ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol
dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol) (Cymru a
Lloegr) 1999 (fel y’i diwygiwyd) ac ni ystyriwyd bod effaith y datblygiad
arfaethedig ar yr amgylchedd yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau cyflwyno
datganiad amgylcheddol gyda’r cais hwn. O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod hyn yn
dderbyniol a bod polisiau cynllunio cenedlaethol
perthnasol ynghylch datblygiadau ynni adnewyddadwy wedi eu hystyried ynghyd a pholisi C26.. Yng ngyd destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod pellter sylweddol rhwng safle’r
tyrbin arfaethedig ag unrhyw dŷ preswyl cyfagos (ar wahan
yn amlwg i eiddo’r ymgeisydd ). Asesiwyd y asesiad swn a gyflwynwyd gyda’r cais gan Uned Gwarchod y Cyhoedd a
cadarnhawyd na fyddai lefelau swn y tyrbin
arfaethedig ynghyd a swn y tyrbin presennol yn codi’n
uwch na lefelau swn priodol. O ganlyniad, awgrymwyd
cynnwys amod yn sicrhau na fyddai lefelau swn yn
newid i raddau annerbyniol gan amharu ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr
ardal gyfagos nac o safbwynt taflu cysgod. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned AHNE
nad oedd unrhyw bryderon am effaith y datblygiad arfaethedig o safbwynt
golygfeydd i mewn ag allan o’r AHNE. Mewn ymateb i wrthwynebiadau'r Parc
Cenedlaethol, Cymdeithas Eryri, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ac aelodau o’r
cyhoedd sydd yn nodi y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar osodiad y
Parc a bod effaith cronnol annerbyniol o ystyried tyrbin arall ar y safle ag ar
diroedd eraill gerllaw, nodwyd na fyddai'r bwriad yn debygol o niweidio
nodweddion a chymeriad arbennig y Parc trwy ymwthio yn sylweddol yn weledol
ac/neu drwy leoli ansensitif ac anghydnaws o fewn y
dirwedd. O ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ogystal â pholisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol, ategwyd na fyddai’r datblygiad arfaethedig
yn cael effaith niweidiol ar fwynderau’r ardal leol gan gynnwys y tirlun yn
gyffredinol nag edrychiadau i mewn ag allan o’r Parc Cenedlaethol gerllaw. (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais a bod manylion yr adroddiad yn
gywir ·
Bod y tyrbin ychydig yn fwy na’r
un sydd eisoes ar y safle, ond
yn cydweddu yn dda
i’r cefndir ·
Bod y Parc Cenedlaethol yn gwrthod pob
tyrbin sydd yn agos at eu
ffiniau · Bod y cais yn unol â pholisiau cyfredol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.2 |
|
Cais C16/0034/42/LL - Fron Hyfryd, Mynydd Nefyn PDF 668 KB Adeiladu estyniad unllawr a porth i'r ty, trosi modurdy presennol yn uned wyliau hunangynhaliol ac adeiladu stablau AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu estyniad unllawr a phorth i'r tŷ,
trosi modurdy presennol yn uned wyliau hunangynhaliol ac adeiladu stablau Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bwriad i adeiladu estyniad unllawr a phorth i’r tŷ, trosi’r modurdy presennol yn
uned wyliau hunangynhaliol ynghyd ag adeiladu stablau. Nodwyd bod y safle yn gorwedd yng nghefn
gwlad ac oddi fewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn, ac o fewn
Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Amlygwyd
bod ardal Mynydd Nefyn yn nodweddiadol yn cynnwys tai ac adeiladau cysylltiol
sydd wedi eu lleoli yn wasgaredig o fewn yr ardal ac i’w gweld o ardal eithaf
eang. Heb amheuaeth, mae’r ardal yn un
sydd yn weladwy yn y tirlun. Er hynny,
nodwyd, er bod safle yn weladwy nid yw hyn yn gwneud pob datblygiad yn anghywir
ac os bydd datblygiadau o ddyluniad a gorffeniad addas gallant
fod yn dderbyniol. Ar Fynydd Nefyn mae nifer o’r tai wedi eu paentio yn wyn ac
ystyriwyd felly y byddai’n rhesymol rhoddi amod i gytuno gorffeniad y rendr allanol ar gyfer yr estyniadau ar gyfer y bwriad dan
sylw. O ystyried ei leoliad ystyriwyd
mai lliw gwyn fyddai’r mwyaf addas gan y byddai hyn yn sicrhau cysondeb gyda
thai eraill yn y cyffiniau. Byddai’r stablau siâp ‘L’ wedi eu lleoli yng
nghornel cae gyda chlawdd tua’r gogledd a’r dwyrain ac roedd bwriad hefyd i
dirweddu o gwmpas y stablau. Roedd y cynnig i wared ar y garafán sefydlog
bresennol hefyd yn welliant sylweddol i’r safle. Tynnwyd
sylw at hanes cynllunio'r safle ac at gais ôl-weithredol (C09D/0039/42/LL) i gadw modurdy ynghyd
a newid defnydd rhan o gae i
ddefnydd anheddol yn gysylltiedig â'r tŷ a pharhau
i gadw carafán
sefydlog a sied ar y tir. Cafodd
y cais ei wrthod ar apel
yn 2010 ac un o’r rhesymau oedd bod maint ac uchder y modurdy fel yr
oedd wedi ei adeiladu yn
creu perthynas anfoddhaol rhwng y modurdy ar tŷ
annedd yn sgil agosatrwydd y ddau at ei gilydd. Roedd yr Arolygydd hefyd
yn ystyried bod y bwriad yn ei
gyfanrwydd yn cael effaith ar
harddwch naturiol yr AHNE. Bu i lefel
to y modurdy gael ei leihau wedi
hynny ac bu i gais pellach
(C10D/0183/42/LL) gael ei gyflwyno a’i ganiatau
er mwyn ymestyn
cwrtil y ty annedd ac adeiladu clawdd newydd ynghyd a chadw sied a charafan.
Roedd gwelliannau yn cael eu
dangos mewn ymateb i bryderon
yr Arolygydd ar yr apel. O ystyried yr holl faterion
perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ynghyd a sylwadau a dderbyniwyd nid yw y bwriad
yn annerbyniol nac yn groes
i ofynion y polisïau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Eu bod yn
ddiolchgar o gefnogaeth y swyddogion ·
Eu bod yn berchnogion
newydd ar Bryn Hyfryd · Eu bod yn derbyn sylwadau'r gwrthwynebwyr ond eu bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3 |
|
Cais C16/0073/30/LL - Bodrydd, Rhoshirwaun PDF 553 KB Creu safle carafanau teithiol 12 llain gan gynnwys gwelliannau ffyrdd AELOD LLEOL:
Cynghorydd W Gareth Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle carafanau
teithiol 12 llain gan gynnwys gwelliannau ffyrdd. Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais a nodi'r bwriad
i sefydlu safle carafanau teithiol newydd ar gyfer lleoli 12 o garafanau ynghyd
â gwneud gwelliannau ffyrdd. Byddai'r 12 carafán deithiol yn cael eu lleoli ger
ffiniau’r cae ac wedi ei gosod ar
lleiniau caled o wyneb llechi man.
Ategwyd bod bwriad hefyd gwneud gwelliannau i ddau gilfan
anffurfiol ar y ffordd a bydd tanc septig newydd i wasanaethu’r bwriad hefyd yn
cael ei osod. Defnyddir y safle ers sawl blwyddyn ar gyfer lleoli 5 carafán
deithiol gyda chlybiau carafán ble nad oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol.
Deallir bod darpariaeth ymolchi, golchi a chyfleusterau ailgylchu yn barod ar y
safle. Mae polisi D19 yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau teithiol ac unedau teithiol newydd os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf perthnasol. Lleolir y safle yng
nghefn gwlad ac oddi fewn i Ardal Gwarchod y Dirwedd a’r Dirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Ni ystyriwyd fod y safle wedi ei
leoli mewn man ymwthiol yn y dirwedd, gan ei fod yn weddol guddiedig wedi ei
amgylchynu gyda gwrychoedd presennol a ffiniau aeddfed. Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod rhai tai annedd i’w cael yn y
cyffiniau er hyn ni ystyriwyd y byddai safle o 12 carafan
deithiol yn golygu gôr ddatblygu safle. O safbwynt agosrwydd at y rhwydwaith ffyrdd, lleoli’r y
safle oddeutu 850 medr oddi wrth ffordd sirol trydydd dosbarth. Nid oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r
fynedfa fel rhan o’r cais ond amlygywd y bydd amod i
sicrhau bod y gwaith o wella’r cilfanau yn cael ei
wneud cyn bod y defnydd fel safle carafanau yn dechrau. Ystyriwyd hefyd na fydd
ychwanegiad mewn traffig yn cael niwed arwyddocaol ar fwynderau lleol. Er
bod ambell faes carafannau teithiol arall yn y
cyffiniau, nid yw’r bwriad yn mynd tu
hwnt i allu rhesymol y cyffiniau i gynnwys datblygiad o’r fath wrth ystyried
effaith gronnol safleoedd presennol yn yr ardal. Nodwyd , gan fod y
bwriad yn ymwneud a datblygiad twristiaeth a fydd yn creu deg neu fwy o unedau
gwyliau, bod gofyn i Ddatganiad Ieithyddol a Chymunedol gael ei baratoi er mwyn cydymffurfio gyda
gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg. Cadarnhawyd bod
datganiad ieithyddol wedi ei gynnwys fel rhan o’r cais a bod yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd wedi ymateb gan nodi na fyddai natur na graddfa’r datblygiad
yn debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. (b)
Nodwyd nad oedd gan yr
Aelod Lleol wrthwynebiad i’r cais (c) Yn manteisio ar ei hawl i
siarad, nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd: ·
Bod 5 llain ar gyfer carafanau eisoes ar y safle
- cais i gynyddu i
12 llain ·
Bod yr adnoddau a’r
cyfleusterau sydd ar y safle yn gallu ymdopi a’r ychwanegiadau heb unrhyw
addasiadau pellach · Bydd dau fae pasio yn cael eu creu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.4 |
|
Cais C16/0154/25/LL - The Book People Ltd, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor PDF 885 KB Estyniad 75,000 troedfedd sgwar i'r warws presennol AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Wyn Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad 75,000 troedfedd sgwâr i'r warws presennol (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi
mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn warws llyfrau ‘The Book
People’ ym Mharc Menai er mwyn creu storfa ychwanegol atodol i’r warws
presennol. Nodwyd bod safle’r estyniad wedi ei leoli ar dalcen gorllewinol yr adeilad
presennol ac yn cynnwys llecyn o dir gwastad o wyneb llechi a greuwyd pan godwyd yr adeilad gwreiddiol yn 2002. Amlygwyd bod egwyddor o ymestyn ac ehangu mentrau cymdeithasol wedi ei
selio ar bolisi D8 o CDUG sydd yn datgan y
bydd cynigion o’r fath yn cael eu cymeradwyo os gellid cydymffurfio gyda
nifer o ganllawiau sydd yn datgan nad yw’r defnydd presennol yn achosi difrod
arwyddocaol i’r ardal, bod y bwriad wedi ei leoli o fewn y datblygiad
presennol, bod y bwriad yn ategol i’r gwaith presennol ac na fydd graddfa'r
bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r amgylchedd a’r rhwydwaith
ffyrdd lleol. Nodwyd bod manylion y bwriad
wedi ei gynnwys yn y cais gwreiddiol yn 2002 ar gyfer codi’r adeilad presennol
sydd yn cadarnhau bwriad yr ymgeisydd i ehangu’r fenter. Cadarnahwyd y byddai’r estyniad yn adlewyrchiad
o’r adielad presennol ac wedi ei sgrinio yn
sylweddol gan goedlan sefydlog . Gan fod
y estyniad o’r un edrychiad ac o’r un uchder ni
fydd gwahaniaeth sylweddol nac arwyddocaol
yn nhrawiad yr estyniad ar
fwynderau gweledol. Nodwyd hefyd bod y safle
wedi ei leoli
o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd yn CDUG yn ogystal
a bod o fewn Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig. Nodwyd, oherwydd bod y safle eisoes wedi
ei ddynodi ar gyfer defnyddiau
diwydiannol o safon uchel, ni fyddai
yn cael effaith
sylweddol bellach ar osodiad a chymeriad
y tirlun hanesyddol. Amlygywd bod y safle nepell i’r de o ardal gadwraeth Stad y Faenol ynghyd
a wal restredig gradd II y stad sydd wedi ei
leoli i’r dwyrain o’r safle
– er hynny ni ystyriwyd y byddai unrhyw effaith
negyddol sylweddol ar osodiad nac
integredd yr ardal gadwraeth na’r wal restredig
o ystyried lleoliad a dyluniad yr estyniad
ynghyd a sgrinio a tirweddu sydd yn
lleihau yr adrawiad ar yr
amgylchedd lleol. Amlygwyd nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno i’r cais yn wreiddiol
gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno i ymateb yn llawn iddo. Gwnaed
cais i’r ymgeisydd am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud a chynllun goleuo ac
asesiad risg bioamrywiaeth ac effaith y datblygiad ar rywogaethau gwarchodedig.
Er nad oedd ymateb ysgrifenedig wedi ei dderbyn ar ôl ymgynghori pellach gyda
Cyfoeth Naturiol Cymru, cynigiwyd bod modd gosod amodau priodol i reoli'r sefyllfa os oedd sylwadau CNC yn gofyn am
hyn. Yn unol â gofynion
perthnasol cyflwynwyd Datganiad Ieithyddol a Chymunedol gyda’r cais a
cyfeiriwyd at yr ymateb yn y sylwadau ychwanegol a ddosbarthwyd. Wrth ystyried yr asesiad ac yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffarfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol ar sail graddfa, lleoliad, dyluniad, ffurf ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5 |
|
Cais C16/0155/11/R3 - Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Bangor PDF 871 KB Dymchwel adeilad ysgol presennol a chodi adeilad ysgol newydd ynghyd a gwaith cysylltiedig AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Nigel W Pickavance a’r Cynghorydd Christopher J O’Neal Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel adeilad ysgol bresennol a chodi adeilad ysgol newydd ynghyd a
gwaith cysylltiedig. Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad ysgol
newydd ar dir yr ysgol
bresennol gan ddymchwel yr ysgol
bresennol unwaith y bydd yr ysgol
newydd wedi agor. Amlygwyd bod y cynllun
hefyd yn cynnwys gwaith tirweddu sylweddol, darpariaeth o lefydd chware newydd, mynedfeydd a darpariaeth parcio newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
stad Maesgeirchen sydd o fewn ffiniau
datblygu Bangor. Byddai’r ysgol newydd yn
darparu lle ar gyfer 210 o blant a 30 o lefydd meithrin. Oherwydd natur serth y tir
bydd yr adeilad
ar ddwy lefel
er mwyn gwneud
defnydd gorau o’r tir a lefelau
presennol. Ategwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda
gofynion polisiau perthnasol. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal
breswyl gyda chymysg o gyfleusterau cymunedol ar wasgar trwy’r
stad. Cydnabuwyd bod adeilad yr ysgol bresennol wedi cyrraedd diwedd ei oes ac
nad oedd rheswm dylunio / pensaernïol i gyfiawnhau cadw’r adeilad. Wrth ystyried maint, dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig amlygwyd na
fyddai’r bwriad yn debygol o gael unrhyw niwed sylweddol ar fwynderau gweledol
yr ardal leol. Derbyniwyd sylwadau yn
ymwneud a chysgodi a cholli golau, ond wedi ystyried y lefelau tir presennol,
lleoliad yr ysgol newydd a pharth yr haul, ni ystyriwyd y byddai lleoliad yr
ysgol newydd yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau preswyl
tai cyfagos nac yn creu nodwedd ormesol. Cydnabyddwyd
y byddai cyfnod o aflonyddwch anarferol yn ystod y cyfnod adeiladu, ond nid
oedd hynny yn ddigonol i wrthod y cais a bod modd cynnwys amod i reoli hyn. Yng nghyd
destun materion trafnidaieth a mynediad, amlygywd bod yr adran wedi cael
mewnbwn sylweddol i’r trafodaethau cyn i’r cais
gael ei gyflwyno
ac o ran materion ieithyddol
a chymunedol awgrymwyd y
gall y datblygiad wneud cyfraniad pwysig i’r gymuned a hynny
drwy gyfrannu tuag at warchod a chryfhau gwead cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol y gymuned. Wedi ystyried
y sylwadau a dderbyniwyd, yr holl bolisïau
a materion cynllunio perthnasol ni
ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael
effaith negyddol arwyddocaol ar fwynderau preswyl a gweledol yr ardal,
ddiogelwch ffyrdd na bioamrywiaeth ac yng nghyd-destun polisïau cenedlaethol ni chredir fod
y bwriad yn groes i’r polisïau
perthnasol hyn. (a) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau y cais (b) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Croesawu buddsoddiad i’r ardal ·
Ysgol newydd yn sicr o godi
uchelgais a hyder plant yr ardal ·
Siom nad oedd yr Aelodau Lleol
yn bresennol i groesawu a chefnogi ysgol newydd PENDERFYNWYD caniatáu y cais: Amodau 1. Amser 2. Unol â’r
cynlluniau 3. Amodau trafnidiaeth 4. Amodau bioamrywiaeth (os oes angen) 5. Cyflwyno cynllun draenio tir manwl. 6. Dymchwel yr ysgol bresennol, adfer y tir a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.6 |
|
Cais C16/0157/11/LL - Maesgeirchen Social Club, 90 Penrhyn Avenue, Bangor PDF 961 KB Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch AELOD LLEOL:
Cynghorydd Nigel W Pickavance a’r Cynghorydd
Christopher J O’Neal Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel Clwb Cymdeithasol Presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop
(yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu
arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch. Cafodd y cais ei dynnu yn ôl cyn y
Pwyllgor. |
|
Cais C14/1118/45/LL - Tir ger Ala Cottage, Pwllheli PDF 841 KB Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o
unedau) ynghyd a chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir AELOD LLEOL: Cynghorydd Michael Sol Owen Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a
chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir. Cadeiriwyd y cais gan
yr Is Gadeirydd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor 22 Chwefror
2016 er mwyn derbyn mwy o wybodaeth yn ymwneud gyda phris marchnad agored yr
unedau, materion hyfywdra ac eglurhad pam fod y dyluniad ar gyfer adeilad 3
llawr. Ymhelaethwyd bod y datblygiad ar gyfer dymchwel
adeiladau presennol ac adeiladu adeilad newydd ar gyfer darparu 30 o fflatiau
ymddeol ynghyd â chyfleusterau cymunedol a fewn y datblygiad ar gyfer y
preswylwyr. Byddai’r bwriad dan sylw yn cyfrannu tuag at ddarpariaeth o dai
ymddeol yn lleol ble nad oes y math yma
o gartrefi i’w cael. O’r wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais nodwyd y byddai’r
unedau yn cael eu gwerthu ar les 125 mlynedd a’r llety i’w feddiannu gan berson
dros 60 mlwydd oed neu yn achos cwpl fod un ohonynt dros 60 oed a’r llall dros 55 oed. Nodwyd, fel rhan o’r cais, y cyflwynodd yr
ymgeisydd ddatganiad
ymrwymiadau cynllunio a thai fforddiadwy. O fewn y ddogfen nodwyd bod prisiau marchnad agored yr unedau 1 ystafell
wely yn £157,000 a’r unedau 2 ystafell
wely yn £215,000. Amlygwyd hefyd bod yr ymgeisydd yn
parahu i ddadlau nad
yw’n hyfyw cael unrhyw gyfraniad
tuag at dai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad. Atgoffwyd yr aelodau, pan gyflwynwyd y cais 22 Chwefror 2016 roedd yr ymgeisydd wedi
cynnig swm cymudol tuag at dai fforddiadwy o £40,000 er mwyn symud
pethau ymlaen. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i ohirio’r
cais, cysylltwyd gyda’r ymgeisydd ynglŷn â’r materion hyfywdra ac fe’i heriwyd am gyfraniad cymudol uwch. Adroddwyd bod yr ymgeisydd erbyn hyn wedi cynnig
£94,000 tuag at dai
fforddiadwy sydd yn cyd-fynd gyda’r
swm roedd asesiad yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi
ei ddatgan. Nodwyd bod y cyfraniad ariannol yma wedi ei
glustnodi ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle. Ystyriwyd, yn
sgil materion hyfywdra sydd yn ymwneud gyda’r datblygiad ei bod yn rhesymol
derbyn y cynnig o £94,000 tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle
ac, yn yr achos yma, bod y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi
CH6 CDUG. Ychwanegwyd, ers Chwefror 2016, bod Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Uned
Bioamrywiaeth wedi eu hargyhoeddi na fyddai’r bwriad yn achosi aflonyddwch neu
niwed annerbyniol i rywogaethau a warchodir ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn
dderbyniol o safbwynt Polisi A1 a B20 CDUG.
(b)
Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Ei fod wedi derbyn nifer o
alwadau a chefnogaeth leol gryf i’r datblygiad ·
Gwaith
ymgynghori da wedi ei wneud rhwng y swyddogion ar ymgeisydd ·
Safbwynt
llifogydd bellach wedi ei ddatrys – hyn yn galonogol ·
Croesawu
bod y swm hyfywdra wedi codi i’r swm llawn · Awgrymu yn gryf i’r Pwyllgor ganiatáu y cais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.8 |