Dymchwel adeilad ysgol presennol a chodi adeilad ysgol newydd ynghyd a gwaith cysylltiedig
AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Nigel W Pickavance a’r Cynghorydd Christopher J O’Neal
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Dymchwel adeilad ysgol bresennol a chodi adeilad ysgol newydd ynghyd a
gwaith cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad ysgol
newydd ar dir yr ysgol
bresennol gan ddymchwel yr ysgol
bresennol unwaith y bydd yr ysgol
newydd wedi agor. Amlygwyd bod y cynllun
hefyd yn cynnwys gwaith tirweddu sylweddol, darpariaeth o lefydd chware newydd, mynedfeydd a darpariaeth parcio newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
stad Maesgeirchen sydd o fewn ffiniau
datblygu Bangor. Byddai’r ysgol newydd yn
darparu lle ar gyfer 210 o blant a 30 o lefydd meithrin. Oherwydd natur serth y tir
bydd yr adeilad
ar ddwy lefel
er mwyn gwneud
defnydd gorau o’r tir a lefelau
presennol.
Ategwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda
gofynion polisiau perthnasol. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal
breswyl gyda chymysg o gyfleusterau cymunedol ar wasgar trwy’r
stad. Cydnabuwyd bod adeilad yr ysgol bresennol wedi cyrraedd diwedd ei oes ac
nad oedd rheswm dylunio / pensaernïol i gyfiawnhau cadw’r adeilad.
Wrth ystyried maint, dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig amlygwyd na
fyddai’r bwriad yn debygol o gael unrhyw niwed sylweddol ar fwynderau gweledol
yr ardal leol. Derbyniwyd sylwadau yn
ymwneud a chysgodi a cholli golau, ond wedi ystyried y lefelau tir presennol,
lleoliad yr ysgol newydd a pharth yr haul, ni ystyriwyd y byddai lleoliad yr
ysgol newydd yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau preswyl
tai cyfagos nac yn creu nodwedd ormesol. Cydnabyddwyd
y byddai cyfnod o aflonyddwch anarferol yn ystod y cyfnod adeiladu, ond nid
oedd hynny yn ddigonol i wrthod y cais a bod modd cynnwys amod i reoli hyn.
Yng nghyd
destun materion trafnidaieth a mynediad, amlygywd bod yr adran wedi cael
mewnbwn sylweddol i’r trafodaethau cyn i’r cais
gael ei gyflwyno
ac o ran materion ieithyddol
a chymunedol awgrymwyd y
gall y datblygiad wneud cyfraniad pwysig i’r gymuned a hynny
drwy gyfrannu tuag at warchod a chryfhau gwead cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol y gymuned.
Wedi ystyried
y sylwadau a dderbyniwyd, yr holl bolisïau
a materion cynllunio perthnasol ni
ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael
effaith negyddol arwyddocaol ar fwynderau preswyl a gweledol yr ardal,
ddiogelwch ffyrdd na bioamrywiaeth ac yng nghyd-destun polisïau cenedlaethol ni chredir fod
y bwriad yn groes i’r polisïau
perthnasol hyn.
(a) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau y cais
(b) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Croesawu buddsoddiad i’r ardal
·
Ysgol newydd yn sicr o godi
uchelgais a hyder plant yr ardal
·
Siom nad oedd yr Aelodau Lleol
yn bresennol i groesawu a chefnogi ysgol newydd
PENDERFYNWYD caniatáu y cais:
Amodau
1. Amser
2. Unol â’r
cynlluniau
3. Amodau trafnidiaeth
4. Amodau bioamrywiaeth (os oes angen)
5. Cyflwyno cynllun draenio tir manwl.
6. Dymchwel yr ysgol bresennol, adfer y tir a
chwblhau'r gwaith tirweddu o fewn cyfnod rhesymol (i’w gytuno).
7. Cyflwyno cynlluniau manwl o’r storfa
biniau.
8. Amser gwaith yn ystod y cyfnod adeiladu.
Dogfennau ategol: