Agenda item

 

Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Michael Sol Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir.

 

Cadeiriwyd y cais gan yr Is Gadeirydd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor 22 Chwefror 2016 er mwyn derbyn mwy o wybodaeth yn ymwneud gyda phris marchnad agored yr unedau, materion hyfywdra ac eglurhad pam fod y dyluniad ar gyfer adeilad 3 llawr. 

 

Ymhelaethwyd bod y datblygiad ar gyfer dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu adeilad newydd ar gyfer darparu 30 o fflatiau ymddeol ynghyd â chyfleusterau cymunedol a fewn y datblygiad ar gyfer y preswylwyr. Byddai’r bwriad dan sylw yn cyfrannu tuag at ddarpariaeth o dai ymddeol yn lleol  ble nad oes y math yma o gartrefi i’w cael. O’r wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais nodwyd y byddai’r unedau yn cael eu gwerthu ar les 125 mlynedd a’r llety i’w feddiannu gan berson dros 60 mlwydd oed neu yn achos cwpl fod un ohonynt dros 60 oed a’r llall  dros 55 oed.

 

Nodwyd, fel rhan o’r cais, y cyflwynodd yr ymgeisydd ddatganiad ymrwymiadau cynllunio a thai fforddiadwy. O fewn y ddogfen nodwyd bod prisiau marchnad agored yr unedau 1 ystafell wely yn £157,000 a’r unedau 2 ystafell wely yn £215,000. Amlygwyd hefyd bod yr ymgeisydd yn parahu i ddadlau nad yw’n hyfyw cael unrhyw gyfraniad tuag at dai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.  Atgoffwyd yr aelodau, pan gyflwynwyd y cais 22 Chwefror 2016 roedd yr ymgeisydd wedi cynnig swm cymudol tuag at dai fforddiadwy o £40,000 er mwyn symud pethau ymlaen.  Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i ohirio’r cais, cysylltwyd gyda’r ymgeisydd ynglŷn â’r materion hyfywdra ac fe’i heriwyd am gyfraniad cymudol uwch.  Adroddwyd bod yr ymgeisydd erbyn hyn wedi cynnig £94,000 tuag at dai fforddiadwy sydd yn cyd-fynd gyda’r swm roedd asesiad yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ei ddatgan. Nodwyd bod y cyfraniad ariannol yma wedi ei glustnodi ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle. Ystyriwyd, yn sgil materion hyfywdra sydd yn ymwneud gyda’r datblygiad ei bod yn rhesymol derbyn y cynnig o £94,000 tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle ac, yn yr achos yma, bod y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi CH6 CDUG.

 

Ychwanegwyd, ers Chwefror 2016, bod Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Uned Bioamrywiaeth wedi eu hargyhoeddi na fyddai’r bwriad yn achosi aflonyddwch neu niwed annerbyniol i rywogaethau a warchodir ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt Polisi A1 a B20 CDUG. 

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·            Ei fod wedi derbyn nifer o alwadau a chefnogaeth leol gryf i’r datblygiad

·            Gwaith ymgynghori da wedi ei wneud rhwng y swyddogion ar ymgeisydd

·            Safbwynt llifogydd bellach wedi ei ddatrys – hyn yn galonogol

·            Croesawu bod y swm hyfywdra wedi codi i’r swm llawn

·            Awgrymu yn gryf i’r Pwyllgor ganiatáu y cais

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut a phwy fydd yn penderfynu ar y gwariant £94k, nodwyd mai cyfrifoldeb yr Uned Strategol Tai fydd hyn sydd â chyswllt agos gyda Chymdeithasau Tai y Sir. Cadarnhawyd mai Ardal Dibyniaeth Llyn fyddai yn derbyn yr arian.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn â sicrhau bod y cwmni yn arddel yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’i gwaith, boed yn weinyddol neu yn weledol, nodwyd nad oedd modd gosod amod benodol ond bod modd tynnu sylw'r ymgeisydd at y sylw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a nifer y mannau parcio nodwyd bod y cynnig o 22 safle parcio yn ddigonol, a nodwyd bod modd defnyddio’r maes parcio cyhoeddus cyfagos ac fod bwriad o wneud llwybr troed cysylltiol tuag at y cyferiad yma.

 

(d)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

·            Croesawu'r datblygiad - yn annog pobl hyn i fyw yn annibynnol

·            Croesawu bod y cyfraniad ariannol wedi cynyddu, ond parhau i weld yn swm isel o ystyried costau tai

·            Pryder am daliadau ychwnaegol – costau yr unedau i weld yn gostus ac felly pryder y byddai trigolion lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad

 

Penderfynwyd caniatáu yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 er mwyn sicrhau y cyfraniad o  £94,000 tuag at dai fforddiadwy oddi ar y safle ac i amodau -

 

1.      Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.      Unol gyda chynlluniau.

3.      Cytuno deunyddiau waliau allanol a llechi to.

4.      Amodau priffyrdd i gynnwys - llefydd parcio i fod yn weithredol cyn meddiannu’r unedau, cadw 22 o fannau parcio ar bob amser, cwblhau’r fynedfa yn unol gyda chynlluniau, cwblhau’r fynedfa gyda cherrig sadio wedi eu cywasgu a’u gwastatau a’u sicrhau fod y system draenio dŵr wyneb wedi ei chwblhau.

5.      Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt materion llifogydd -  cynlluniau lefel safle, lefel llawr daear i fod dim is na 3.87m

6.      Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru ac Uned Bioamrywiaeth o safbwynt materion tirlunio, lefel goleuo ac unol gyda manylion ystlumod a gyflwynwyd.

7.      Amodau Dwr Cymru yn ymwneud gyda dŵr wyneb, dwr aflan a draeniad tir.

8.      Gwaith i gydymffurfio gydag adroddiad coed a chynllun gwarchod gwreiddiau coed.

9.      Dim gwaith i goed heb ganiatâd.

10.    Ail-blannu coed sy’n cael eu colli o fewn 5 mlynedd.

11.    Cwblhau rhaglen o waith archeolegol.

12.    Ymgymryd gyda’r gwaith yn unol gydag argymhellion yr Adroddiad Halogiad Tir.

13.    Angen gwaredu Llysiau’r Dial.

14.    Cyfyngu oed preswylwyr yr unedau byw i rai dros 60 oed neu mew nachos cwpl fod un ohonynt dros 60 oed a’r llall dros 55 oed.

 

Dogfennau ategol: