Agenda item

Gosod tyrbin gwynt fferm 85kw ar dwr 25m cyfanswm uchder 37m at frig y llafn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen W Chrchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Gosod tyrbin gwynt fferm 85kw ar dwr 25m cyfanswm uchder 37m at frig y llafn

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi tyrbin gwynt 85kw ar dŵr 25m gyda chyfanswm uchder o 37m at ei frig (gan gynnwys y llafnau) ar dir amaethyddol rhwng pentrefi Bryncir a Garndolbenmaen. Eglurwyd bod lleoliad y tyrbin o fewn oddeutu 260m i eiddo preswyl Llystyn Ganol ac o fewn 150m i’r tyrbin presennol sydd ar y tir. Amlygwyd bod ffin Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei leoli oddeutu 440m i gyfeiriad y dwyrain o’r safle.

 

Cafodd y cais ei sgrinio yn ffurfiol ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (fel y’i diwygiwyd) ac ni ystyriwyd bod effaith y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda’r cais hwn.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod hyn yn dderbyniol a bod polisiau cynllunio cenedlaethol perthnasol ynghylch datblygiadau ynni adnewyddadwy  wedi eu hystyried ynghyd a pholisi C26..

 

Yng ngyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod pellter sylweddol rhwng safle’r tyrbin arfaethedig ag unrhyw dŷ preswyl cyfagos (ar wahan yn amlwg i eiddo’r ymgeisydd ). Asesiwyd y asesiad swn a gyflwynwyd gyda’r cais gan Uned Gwarchod y Cyhoedd a cadarnhawyd na fyddai lefelau swn y tyrbin arfaethedig ynghyd a swn y tyrbin presennol yn codi’n uwch na lefelau swn priodol. O ganlyniad, awgrymwyd cynnwys amod yn sicrhau na fyddai lefelau swn yn newid i raddau annerbyniol gan amharu ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal gyfagos nac o safbwynt taflu cysgod.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned AHNE nad oedd unrhyw bryderon am effaith y datblygiad arfaethedig o safbwynt golygfeydd i mewn ag allan o’r AHNE. Mewn ymateb i wrthwynebiadau'r Parc Cenedlaethol, Cymdeithas Eryri, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ac aelodau o’r cyhoedd sydd yn nodi y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar osodiad y Parc a bod effaith cronnol annerbyniol o ystyried tyrbin arall ar y safle ag ar diroedd eraill gerllaw, nodwyd na fyddai'r bwriad yn debygol o niweidio nodweddion a chymeriad arbennig y Parc trwy ymwthio yn sylweddol yn weledol ac/neu drwy leoli ansensitif ac anghydnaws o fewn y dirwedd.

 

O ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ogystal â pholisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ategwyd na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar fwynderau’r ardal leol gan gynnwys y tirlun yn gyffredinol nag edrychiadau i mewn ag allan o’r Parc Cenedlaethol gerllaw.

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais a bod manylion yr adroddiad yn gywir

·         Bod y tyrbin ychydig yn fwy na’r un sydd eisoes ar y safle, ond yn cydweddu yn dda i’r cefndir

·         Bod y Parc Cenedlaethol yn gwrthod pob tyrbin sydd yn agos at eu ffiniau

·         Bod y cais yn unol â pholisiau cyfredol

·         Nad oedd gwrthwynebiad gan drigolion lleol – dim gwrthwynebiadau / sylwadau wedi dod i law 

·         Yr ymgeisydd yn cadw ffarm draddodiadol ac angen arallgyfeirio

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion cynllunio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha bwyslais sydd yn cael ei roi ar sylwadau'r Parc Cenedlaethol fel bod modd eu diystyru, nodwodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu fod y sylwadau hyn wedi eu hasesu yn llawn yn yr adroddiad ac yng nghyd destun sylwadau CNC sydd ddim yn gwrthwynebu er gwaethaf lleoliad y Parc.

 

(c)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Bod y tyrbin bwriadedig mewn safle llai amlwg na llawer

·         Cefnogol i ynni adnewyddol

·         Croesawu arallgyfeirio o ystyried y bydd taliadau sylfaenol yn lleihau ac yn dod i ben yn 2020

 

Penderfynwyd caniatáu y cais.

 

Amodau

            1. Amser – cychwyn gwaith o fewn 2 flynedd

            2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

            3. Caniatâd am gyfnod o 25 mlynedd

            4. Lliw/gorffeniad

            5. Sŵn

            6. Dadgomisiynu

            7. Archeoleg

            8. Bioamrywiaeth

            9. Ceblau tanddaearol yn unig

            10. Cyflwyno manylion unrhyw offer neu beirianwaith

            11. amod cynllun cwtogi ar gyfer gwarchod ystlumod

Dogfennau ategol: