Creu safle carafanau teithiol 12 llain gan gynnwys gwelliannau ffyrdd
AELOD LLEOL:
Cynghorydd W Gareth Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Creu safle carafanau
teithiol 12 llain gan gynnwys gwelliannau ffyrdd.
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais a nodi'r bwriad
i sefydlu safle carafanau teithiol newydd ar gyfer lleoli 12 o garafanau ynghyd
â gwneud gwelliannau ffyrdd. Byddai'r 12 carafán deithiol yn cael eu lleoli ger
ffiniau’r cae ac wedi ei gosod ar
lleiniau caled o wyneb llechi man.
Ategwyd bod bwriad hefyd gwneud gwelliannau i ddau gilfan
anffurfiol ar y ffordd a bydd tanc septig newydd i wasanaethu’r bwriad hefyd yn
cael ei osod. Defnyddir y safle ers sawl blwyddyn ar gyfer lleoli 5 carafán
deithiol gyda chlybiau carafán ble nad oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol.
Deallir bod darpariaeth ymolchi, golchi a chyfleusterau ailgylchu yn barod ar y
safle.
Mae polisi D19 yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau teithiol ac unedau teithiol newydd os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf perthnasol. Lleolir y safle yng
nghefn gwlad ac oddi fewn i Ardal Gwarchod y Dirwedd a’r Dirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Ni ystyriwyd fod y safle wedi ei
leoli mewn man ymwthiol yn y dirwedd, gan ei fod yn weddol guddiedig wedi ei
amgylchynu gyda gwrychoedd presennol a ffiniau aeddfed. Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod rhai tai annedd i’w cael yn y
cyffiniau er hyn ni ystyriwyd y byddai safle o 12 carafan
deithiol yn golygu gôr ddatblygu safle.
O safbwynt agosrwydd at y rhwydwaith ffyrdd, lleoli’r y
safle oddeutu 850 medr oddi wrth ffordd sirol trydydd dosbarth. Nid oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r
fynedfa fel rhan o’r cais ond amlygywd y bydd amod i
sicrhau bod y gwaith o wella’r cilfanau yn cael ei
wneud cyn bod y defnydd fel safle carafanau yn dechrau. Ystyriwyd hefyd na fydd
ychwanegiad mewn traffig yn cael niwed arwyddocaol ar fwynderau lleol.
Er
bod ambell faes carafannau teithiol arall yn y
cyffiniau, nid yw’r bwriad yn mynd tu
hwnt i allu rhesymol y cyffiniau i gynnwys datblygiad o’r fath wrth ystyried
effaith gronnol safleoedd presennol yn yr ardal.
Nodwyd , gan fod y
bwriad yn ymwneud a datblygiad twristiaeth a fydd yn creu deg neu fwy o unedau
gwyliau, bod gofyn i Ddatganiad Ieithyddol a Chymunedol gael ei baratoi er mwyn cydymffurfio gyda
gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg. Cadarnhawyd bod
datganiad ieithyddol wedi ei gynnwys fel rhan o’r cais a bod yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd wedi ymateb gan nodi na fyddai natur na graddfa’r datblygiad
yn debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.
(b)
Nodwyd nad oedd gan yr
Aelod Lleol wrthwynebiad i’r cais
(c) Yn manteisio ar ei hawl i
siarad, nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd:
·
Bod 5 llain ar gyfer carafanau eisoes ar y safle
- cais i gynyddu i
12 llain
·
Bod yr adnoddau a’r
cyfleusterau sydd ar y safle yn gallu ymdopi a’r ychwanegiadau heb unrhyw
addasiadau pellach
·
Bydd dau fae pasio
yn cael eu
creu ermwyn gwella diogelwch y ffordd
·
Hawliau pysgota gan y fferm
ac felly adnodd i ddenu ymwelwyr i hybu yr
economi leol
·
Bod y datblygiad yn gwarchod swyddi lleol
(ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais
(d) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r nifer o
geisiadau cynllunio oedd yn berthnasol i’r eiddo dan sylw, nodwyd nad oedd y
ceisiadau blaenorol yn berthnasol i’r cais carafanau. Amlygwyd mai ceisiadau oeddynt i wella’r tŷ ac
adnoddau’r fferm ac felly nid oedd pryder am orddatblygu
y safle.
Mewn ymateb i gwestiwn
pellach ynglŷn â phwy sydd yn rhoi arweiniad ar y nifer o feysydd
carafanau yng nghefn gwlad ac ar hyd yr arfordir, nodwyd bod y polisi
perthnasol yn gofyn ystyried unrhyw effaith cronnol ac fod hyn yn cael ei wneud
ar gyfer pob cais o’r fath.Amlygywd hefyd bod gwaith
diweddar ar gapasiti y tirwedd gan cwmni Gillespies yn ogystal a Land Map
yn cael eu defnyddio ar gyfer asesuceisiadau
cynllunio.
·
Gwnaed sylw nad oedd sylwadau
wedi eu cyflwyno
gan y Cyngor Cymuned
(dd)
Penderfynwyd caniatau y cais yn unol a’r
argymhelliad diwygiedig,
PENDERFYNWYD caniatáu y cais
Amodau:
1. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
2. Nifer o unedau ar y safle ar
unrhyw un adeg i’w cyfyngu
i 12.
3. Amodau cyfnod gosod
carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd.
4. Dim storio ar y tir.
5. Rhestr cofnodi.
6. Tirlunio.
7. Cwblhau’r mannau pasio cyn dechrau
ar y defnydd a ganiateir
Nodiadau:
1. Nodiadau priffyrdd.
2. Copi o sylwadau
safonol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dogfennau ategol: