Adeiladu estyniad unllawr a porth i'r ty, trosi modurdy presennol yn uned wyliau hunangynhaliol ac adeiladu stablau
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Adeiladu estyniad unllawr a phorth i'r tŷ,
trosi modurdy presennol yn uned wyliau hunangynhaliol ac adeiladu stablau
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bwriad i adeiladu estyniad unllawr a phorth i’r tŷ, trosi’r modurdy presennol yn
uned wyliau hunangynhaliol ynghyd ag adeiladu stablau. Nodwyd bod y safle yn gorwedd yng nghefn
gwlad ac oddi fewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn, ac o fewn
Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli.
Amlygwyd
bod ardal Mynydd Nefyn yn nodweddiadol yn cynnwys tai ac adeiladau cysylltiol
sydd wedi eu lleoli yn wasgaredig o fewn yr ardal ac i’w gweld o ardal eithaf
eang. Heb amheuaeth, mae’r ardal yn un
sydd yn weladwy yn y tirlun. Er hynny,
nodwyd, er bod safle yn weladwy nid yw hyn yn gwneud pob datblygiad yn anghywir
ac os bydd datblygiadau o ddyluniad a gorffeniad addas gallant
fod yn dderbyniol. Ar Fynydd Nefyn mae nifer o’r tai wedi eu paentio yn wyn ac
ystyriwyd felly y byddai’n rhesymol rhoddi amod i gytuno gorffeniad y rendr allanol ar gyfer yr estyniadau ar gyfer y bwriad dan
sylw. O ystyried ei leoliad ystyriwyd
mai lliw gwyn fyddai’r mwyaf addas gan y byddai hyn yn sicrhau cysondeb gyda
thai eraill yn y cyffiniau. Byddai’r stablau siâp ‘L’ wedi eu lleoli yng
nghornel cae gyda chlawdd tua’r gogledd a’r dwyrain ac roedd bwriad hefyd i
dirweddu o gwmpas y stablau. Roedd y cynnig i wared ar y garafán sefydlog
bresennol hefyd yn welliant sylweddol i’r safle.
Tynnwyd
sylw at hanes cynllunio'r safle ac at gais ôl-weithredol (C09D/0039/42/LL) i gadw modurdy ynghyd
a newid defnydd rhan o gae i
ddefnydd anheddol yn gysylltiedig â'r tŷ a pharhau
i gadw carafán
sefydlog a sied ar y tir. Cafodd
y cais ei wrthod ar apel
yn 2010 ac un o’r rhesymau oedd bod maint ac uchder y modurdy fel yr
oedd wedi ei adeiladu yn
creu perthynas anfoddhaol rhwng y modurdy ar tŷ
annedd yn sgil agosatrwydd y ddau at ei gilydd. Roedd yr Arolygydd hefyd
yn ystyried bod y bwriad yn ei
gyfanrwydd yn cael effaith ar
harddwch naturiol yr AHNE. Bu i lefel
to y modurdy gael ei leihau wedi
hynny ac bu i gais pellach
(C10D/0183/42/LL) gael ei gyflwyno a’i ganiatau
er mwyn ymestyn
cwrtil y ty annedd ac adeiladu clawdd newydd ynghyd a chadw sied a charafan.
Roedd gwelliannau yn cael eu
dangos mewn ymateb i bryderon
yr Arolygydd ar yr apel.
O ystyried yr holl faterion
perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ynghyd a sylwadau a dderbyniwyd nid yw y bwriad
yn annerbyniol nac yn groes
i ofynion y polisïau perthnasol.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Eu bod yn
ddiolchgar o gefnogaeth y swyddogion
·
Eu bod yn berchnogion
newydd ar Bryn Hyfryd
·
Eu bod yn derbyn
sylwadau'r gwrthwynebwyr ond eu bwriad yw gwella'r safle a chadw cymeriad y
bwthyn traddodiadol.
·
Ni fydd maint y
garej yn cynyddu
·
Bydd y garafán yn
cael ei symud yn gyfan gwbl
·
Bod cynllun y stablau
wedi ei addasu a bod bwriad i dirweddu drwy osod gwrych
(c)
Nododd yr Aelod
Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
Ei fod wedi galw y
cais i mewn o flaen y Pwyllgor
·
Bod angen ystyried
blaenoriaethau ac egwyddorion yr ANHE - pryder nad oes blaenoriaeth ddigonol yn
cael ei roi i warchod ac ystyried prydferthwch a harddwch naturiol yr ardal
·
Addasiadau ansensitif yn creu effaith ar gefn gwlad
·
Effaith gronnol yr holl ychwanegiadau ar osodiad yr ANHE
·
Bod sawl llwybr
cyhoeddus yn mynd heibio i’r safle
·
Siomedig nad oedd
ymgynghoriad gyda CADW
·
Cyngor Tref wedi
gwrthod y cais
·
Angen sicrhau bod
y sefyllfa yn cael ei rheoli yn dilyn hanes nifer ceisiadau ar y safle yn y
gorffennol
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod
yr addasiadau i’r modurdy wedi eu gweithredu yn unol a gofynion yr Arolygydd a
bod rheolaeth y safle wedi ei wireddu.
Mewn
ymateb i awgyrm y gall y garafan
static ddychwelyd i’r safle, amlygwyd y bydd modd
gosod amod penodol yn nodi na chaniateir lleoli carafán o fewn y cwrtil eiddo
ac felly y’r ymgeisydd yn colli yr hawl i osod y garfan yn ôl.
(d)
Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle.
Dogfennau ategol: