Cais amlinellol i godi hyd at 366 o unedau byw, gyda
datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd fynedfa, llecynnau parcio ag
adnoddau cysylltiol
AELOD LLEOL
Cynghorydd Gareth Anthony Roberts
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais amlinellol i godi hyd
at 366 o unedau byw, gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd fynedfa, llecynnau parcio ag adnoddau
cysylltiol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd
(a) Ymhelaethodd Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cynllunio ac Amgylchedd ar gefndir y cais, gan amlinellu bod y cais
wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio Rhagfyr 2015. Penderfyniad y pwyllgor hwnnw oedd i
wrthod y cais, yn groes i argymhellion swyddogion, ar sail
i.
y byddai’n cael effaith
andwyol ar yr iaith Gymraeg,
ii.
bod diffyg tystiolaeth yn
adrodd sut y byddai’r isadeiledd yn gallu ymdopi,
iii.
nad oedd tystiolaeth ddigonol
wedi ei gyflwyno yn dangos fod ysgolion lleol yn gallu ymdopi
iv.
nad oedd tystiolaeth ddigonol yn dangos fod y
rhwydwaith priffyrdd yn ddigonol.
O ganlyniad i benderfyniad y Pwyllgor, cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil
yn unol â rheolau sefydlog y Pwyllgor.
Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y pwyllgor cynllunio am yr agweddau
uchod cyflwynwyd adroddiad yn ymateb yn benodol i’r materion hyn. Amlygwyd bod
oediad i’r ymateb oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno gan
wrthwynebydd, a’r ymgeisydd, a bod penderfyniad wedi ei wneud gan y gwasanaeth
i ail ymgynghori yn ffurfiol ar y
wybodaeth ychwanegol yma. Nodwyd bod yr adroddiad cnoi cil yn cynnwys asesiad
o’r holl wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyd-destun y 4 rheswm gwrthod a roddwyd
gan y Pwyllgor yn y cyfarfod yn Rhagfyr 2015.
Cyfeiriwyd hefyd at yr adroddiad cynllunio llawn oedd yn Atodiad 1 oedd
yn cynnwys asesiad o’r holl ystyriaethau cynllunio yng nghyd-destun y polisïau cynllunio
perthnasol.
(b) Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli
oddi mewn i ffiniau datblygu dinas Bangor, ac wedi ei ddynodi’n benodol ar
gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gorffennaf 2009) a bod yr
egwyddor o dai ar y safle felly’n dderbyniol.
(c) O safbwynt y 4 rheswm gwrthod a roddwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod yn
Rhagfyr 2015 cadarnhaodd yr Uwch Reolwr :
i.
Roedd asesiad trylwyr wedi ei
gynnal o’r holl wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyd-destun yr effaith bosib ar yr
iaith Gymraeg. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ar sail
Datganiad o Effaith Ieithyddol a Chymunedol yn unol â gofynion polisïau cynllunio’r Cyngor ac ar sail y dystiolaeth
roedd y datblygiad yn unol â’r polisïau cynllunio
perthnasol
ii.
Nid oedd gan Dŵr Cymru na
Chyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r cais yn ddarostyngedig i amodau
cynllunio ac felly roedd y datblygiad yn
dderbyniol o safbwynt materion isadeiledd.
iii.
Roedd materion addysg o ran
materion capasiti wedi cael eu hasesu’n unol a
gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol perthnasol oedd yn cynnwys mewnbwn gan
Adran addysg y Cyngor. Yn sgil hyn
datblygwr yn rhoi cyfraniad ariannol o £907,018 drwy drefniant cytundeb
106 er mwyn diwallu’r anghenion addysg a fuasai’n deillio o'r datblygiad. Roedd
y datblygiad felly’n unol a’r polisïau perthnasol o
safbwynt materion addysg.
iv.
Roedd tystiolaeth sylweddol
wedi ei gyflwyno ac wedi ei asesu yng nghyd-destun materion trafnidiaeth ac yn
sgil hyn nid oedd Uned Drafnidiaeth y Cyngor yn gwrthwynebu’r cais.
(ch) Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr hefyd at faterion
argaeledd / angen tai oedd wedi ei gynnwys yn
yr adroddiad cnoi cil er nad oedd hyn yn rheswm gwrthod. Pwysleisiodd
fod yr wybodaeth o ran angen yn bwysig yng nghyd-destun y cais yma oedd yn
darparu 366 o dai gyda (110 yn dai fforddiadwy), ac yn profi fod tystiolaeth
gadarn fod angen am dai yn yr ardal.
(d) Pwysleisiwyd nad oedd tystiolaeth
gadarn i wrthod y cais, ac ar sail y wybodaeth a’r dystiolaeth a gyflwynwyd a’r
ymatebion a dderbyniwyd, roedd y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda
gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol. Tynnwyd sylw at
y risgiau i’r Cyngor o wrthod y cais a hefyd i’r opsiynau oedd yn agored i’r
Pwyllgor wrth benderfynu ar y cais. Amlygwyd bod risgiau sylweddol ynghlwm â
gwrthod y cais gyda risgiau ariannol yn gysylltiedig â phob un o’r rhesymau
gwrthod, oherwydd buasai apêl yn erbyn gwrthodiad yn debygol o olygu cais
llwyddiannus am gostau yn erbyn y Cyngor gan nad oes tystiolaeth i gefnogi’r
rhesymau gwrthod.
Argymhellwyd yn seiliedig ar y
dystiolaeth , i ganiatáu y cais yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb 106 ar gyfer
tai fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at addysg, gydag amodau perthnasol fel sydd wedi eu
hamlinellu yn yr adroddiadau.
Nododd yr Uwch Reolwr hefyd os oedd y Pwyllgor yn bwriadu gwrthod y cais
yna buasai disgwyl i’r cynigydd a’r eilydd gynrychiol’r
Cyngor i amddiffyn apêl yn erbyn y gwrthodiad, yn unol a’r trefniadau arferol.
(dd) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a oedd yn gwrthwynebu y
cais:
·
Bod y datblygiad
yn un dadleuol
·
Bod y datblygiad
yn rhy fawr ac yn ddiangen
·
Yn bentref newydd ar drothwy
cymuned sydd eisoes mewn bodolaeth - angen datblygu a
buddsoddi yn y cymunedau hyn ac nid adeiladu o’r newydd
·
Datblygiadau mawr
cyfagos llai na 1km o’r safle. Dros 250 o dai ar werth ym Mangor
ar hyn o bryd felly nid oes angen mwy.
·
Os caniatáu, beth
fydd y goblygiadau? Ni all isadeiledd lleol presennol ymdopi gyda maint y
datblygiad ac mae ysgolion lleol yn llawn. Nid yw’r cyfraniad addysg yn
ddigonol
·
Dyletswydd y Cyngor
yw gwarchod yr Iaith Gymraeg a’r hunaniaeth ddiwylliannol
·
Penrhosgarnedd yn ardal Gymraeg – unig ran bellach lle siaredir
Cymraeg yn gyson - y datblygiad yn sicr o greu
effaith niweidiol yma
·
Cyngor Dinas yn gwrthwynebu
ynghyd a nifer o drigolion lleol
(e)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
(f)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif sylwadau
canlynol yn cefnogi’r cais:
·
Rhaid ystyried bod angen tai newydd o safon ym Mangor
i ddenu pobl
i weithio yn yr ardal
ac i annog pobl ifanc i
aros yn lleol
·
Angen amod i’r bwriad ddatblygu
gam wrth gam fel nad ydyw yn
ormesol
·
Croesawu 110 o dai fforddiadwy
·
Bod y safle wedi ei leoli
o fewn ffin datblygu
·
Bod angen cydymffurfio a
pholisïau Gwynedd
·
Bod y tai ar gael i Gymry
eu prynu
·
Nid oes tystiolaeth ddigonol bod tai myfyrwyr yn dychwelyd
i ddefnydd teuluoedd
·
Croesawu'r datblygiad - o fudd i bobl Bangor.
(ff) Gwnaed awgrym gan un aelod i
ystyried moratoriwm, sef gohirio penderfyniad dros dro hyd nes bydd gwell trefn
o ddadansoddi data wedi cael ei sefydlu. Awgrymwyd bod angen gwell methodoleg
wrth asesu asesiadau iaith ac asesiadau cyfraniadau addysg a derbyn adroddiad
manylach ar sut cafodd y wybodaeth ei bwyso a’i fesur. Amlygwyd bod hyn yn
fater arwyddocaol o safbwynt hunaniaeth a dyfodol yr iaith Gymraeg.
Mewn ymateb i’r sylw, nododd yr Uwch Gyfreithiwr
nad oedd gan y Pwyllgor hawl i wneud cais am foratoriwm na hawl i wneud cais i
addasu polisiau. Eglurwyd, petai y cais yn cael ei
ohirio, y tebygolrwydd yw y byddai’n cael ei gyfeirio at apêl yn erbyn diffyg
penderfyniad.
Amlygodd
yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod Polisiau
Cenedlaethol a Lleol ynghyd a Chanllawiau Atodol yn gosod rheolau pendant ar y
drefn cynllunio ac ategwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi ei asesu yn
drylwyr a’r holl gasgliadau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad o fewn cyd-destun polisiau Gwynedd. Yng nghyd-destun cyfraniadau addysgol,
adroddwyd bod canllawiau a fformiwla cenedlaethol ar gyfer adnabod symiau
ariannol sydd yn gyfatebol i’r angen. Ategwyd bod yr Adran Addysg wedi cael eu
cynnwys yn y trafodaethau. Pwysleisiwyd mai polisiau
cyfredol Gwynedd sydd wedi cael eu hystyried wrth asesu materion addysg ac
iaith, ac bod Cyngor Gwynedd yn mynd tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol yn
genedlaethol wrth asesu materion ieithyddol.
(g)
Nodwyd y prif sylwadau
canlynol yn gwrthwynebu’r cais
·
Bod y datblygiad yn rhy fawr
ac yn fygythiad i un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg
ym Mangor
·
Nad yw'r tir wedi ei glustnodi
ar gyfer ei ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly nid yw’r
angen yn bodoli mwyach
·
Er bod cynnig i adeiladu gam wrth gam, ni fyddai
hyn yn hyfyw
– cysur ar bapur yn unig
ydyw
·
Ffolineb fyddai dibynnu ar asesiadau
Mewn ymateb i sylw
am y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,
nododd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd wedi
bod drwy’r broses Archwiliad
Cyhoeddus eto, ac felly ni ellid rhoi
fawr ddim o bwysau i’r mater yng nhyd-destun y cais
(ng) Yn
unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais
ganlynol i ganiatáu y cais:
O blaid
(4) Y Cynghorwyr Gwen Griffith, Anne Lloyd Jones,
June Marshall a Michael Sol Owen
Yn Erbyn (10) Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Simon
Glyn, Eric M. Jones, Tudor Owen, John Pughe Roberts, Eirwyn Williams, Gruffydd
Williams, Hefin Williams, John Wyn
Williams ac Eurig Wyn
Atal (0)
(h) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
(i)
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn,
cofnodwyd y bleidlais ganlynol i wrthod
y cais:
O blaid (10) Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Simon Glyn, Eric M. Jones, Tudor
Owen, John Pughe Roberts, Eirwyn
Williams, Gruffydd Williams, Hefin
Williams, John Wyn Williams ac Eurig
Wyn
Yn Erbyn (3) Y Cynghorwyr Gwen
Griffith, Anne Lloyd Jones a June Marshall
Atal (0)
PENDERFYNIAD gwrthod yn
groes i argymhelliad y swyddogion.
Rheswm:
Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi’i argyhoeddi
yn llawn fod y wybodaeth sydd wedi ei
gyflwyno yn profi na fydd
yna effaith andwyol ar yr
iaith Gymraeg ac felly ystyrir fod y cais
yn groes i Bolisiau A2 ag A3 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, CCA: Cynllunio a'r Iaith Gymraeg
(Tachwedd 2009) a pholisi a
chyngor cenedlaethol a gynhwysir yn NCT 20: Cynllunio a'r Iaith
Gymraeg ag o fewn pennod 4.13 o Bolisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 8 Ionawr 2016).
Nodir yng nghyd-destun apel posib yn erbyn y gwrthodiad mai’r Cynghorydd John Wyn Williams oedd y cynigydd a’r Cynghorydd Simon Glyn oedd yr eilydd.
Dogfennau ategol: