Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Dyfrig Jones, Mair Rowlands (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitemau a nodir: • Y Cynghorydd Gweno Glyn (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1
ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0793/32/LL ); • Y Cynghorydd Sion Jones (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2
ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0915/18/LL ); • Y Cynghorydd Eurig Wyn (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio
C15/0994/26/LL) • Y Cynghorydd June Marshall (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais cynllunio
C15/1217/11/LL) • Y Cynghorydd Elin Walker Jones (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio
C15/1281/11/LL); Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2015 a 11 Ionawr 2016 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016 a 14 Rhagfyr 2015 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i
ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD: |
|
CAIS RHIF: C15/0793/32/LL - Nanhoron Estate, Botwnnog PDF 639 KB Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gweno
Glyn Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod paneli
solar ffotofoltaidd ar dir amaethyddol am gyfnod o 30 mlynedd ar gyfer creu
fferm solar, ynghyd â gwaith atodol sy’n cynnwys gosod cyfarpar i gysylltu â’r rhwydwaith drydan, compownd
adeiladu, ffens ddiogelwch, gwelliannau tirweddu ac addasiadau i’r fynedfa.
Eglurwyd bod safle’r cais mewn cefn gwlad agored ymhlith tirwedd donnog, yn
mesur oddeutu 12 hectar (22.6 acer) ac yn cynnwys tir amaethyddol wedi ei leoli
ar lethr esmwyth oddeutu 700 medr i’r de ddwyrain o bentref Botwnnog. Nodwyd
bod coedwig aeddfed tuag at ffin ddwyreiniol y safle a gwrychoedd o amgylch
mwyafrif caeau’r safle. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a gyflwynwyd Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru
bellach wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl. Amlygwyd bod prif fanylion y cais
wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a’r polisïau perthnasol wedi eu rhestru. O ran egwyddor, nodwyd bod y
bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisi C1 o’r Cynllun
Datblygu Unedol. Ategwyd hefyd bod cyfres o feini prawf y dylid eu hystyried
wrth drafod cynlluniau ynni adnewyddadwy cynaliadwy sydd yn ymwneud ag effaith
ar ansawdd gweledol y dirwedd a ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol. Mewn ymateb i wrthwynebiad gan
berchennog eiddo cyfagos yn gwrthwynebu ar sail effaith ar y golygfeydd o’r
eiddo ac effaith fflachio a llacharedd, nodwyd
bod bwriad plannu gwrych i dyfu i uchder o 3medr ar ffin ddwyreiniol y
cae. Byddai hyn yn fodd o sgrinio’r bwriad a lleihau ei ardrawiad gweledol o’r
eiddo cyfagos. Yng nghyd destun fflachio a llacharedd, nodwyd bod Asesiad
Fflachio wedi ei dderbyn fel rhan o’r cais yn cydnabod ‘potential
i fflachio fod yn bresennol’ ond, gyda sgrinio naturiol presennol o amgylch y
safle a bwriad i blannu gwrych o’r newydd, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn
achosi niwed arwyddocaol o safbwynt amwynder. O ran materion trafnidiaeth a
mynediad amlygwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda'r bwriad o agwedd
diogelwch ffyrdd ac yn argymell amodau o ran cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau. O ran materion Cadwraeth ac
Archeolegol nodwyd y byddai patrymau
ffisegol y caeau ar y cyfan yn cael ei gadw ac yn sgil lleoliad y safle,
tirlunio a thirffurfiau ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu yn sylweddol
ar y Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Eglurwyd, er bod sylwadau
ychwanegol wedi ei derbyn gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd, bod
gwaith pellach yn cael ei wneud i gwblhau'r wybodaeth. O ran materion
Bioamrywiaeth nodwyd bod yr Uned o’r farn bod potential i’r datblygiad ddod a budd i fioamrywiaeth y
tymor hir ac yn sgil eu sylwadau bod y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai yn
cael effaith andwyol ar rywogaethau gwarchodedig na’i chynefinoedd os caiff ei
reoli yn unol â’r amodau a gynigiwyd. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i unrhyw un o’r polisïau perthnasol ac fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, nid oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn datgan i’r gwrthwyneb. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS RHIF :C15/0915/18/LL - Cil Fynydd, Penrhos, Bethel PDF 604 KB Cais i estynnu a trosi modurdy
cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i estynnu a throsi modurdy
cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd Roedd yr aelodau wedi ymweld ar safle (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd
y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 30.11.2015 ar gyfer ymweliad safle. Gofynnwyd i’r
ymgeisydd gysidro newid maint a dyluniad yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor ar
30.11.2015, ond nid oedd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn. Amlygwyd bod yr annedd
presennol yn dŷ sy’n sefyll ar ei ben ei hun o fewn cwrtil sylweddol ar
gyrion pentref Bethel. Yr eiddo wedi ei leoli tu allan i ffin ddatblygu’r
pentref ac e’i diffinnir fel safle sydd yng nghefn
gwlad agored yn nhermau polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol. Eglurwyd bod yr eiddo presennol yn dy 4
ystafell wely gyda 2 o’r ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod gyda modurdy
cysylltiol presennol yn unllawr ac ynghlwm i ochr yr
annedd. Y bwriad yn golygu trosi ac ymestyn y modurdy cysylltiol er mwyn creu ‘anecs’ a chodi modurdy ar wahân gyda storfa uwchben.
Ategwyd bod yr Aelod Lleol wedi galw’r cais
i mewn er mwyn cael penderfyniad gan y Pwyllgor Cynllunio. Y bwriad yw trosi ac ymestyn
modurdy cysylltiol i ffurfio anecs hunangynhaliol ar
ochr yr eiddo presennol. Gellid diffinio anecs
preswyl fel llety sy’n ategol i’r prif dŷ, sydd ar raddfa addas ac wedi ei
leoli o fewn ei gwrtil. Dylid ei ddefnyddio yn benodol ar gyfer y pwrpas hwn
h.y. nid fel tŷ ar wahân. Amlygwyd bod
arwynebedd llawr mewnol yr eiddo presennol (o’u mesur ar y cynlluniau bwriadedig sy’n cynnwys iwtiliti
ychwanegol a ffenestri dormer) yn mesur oddeutu 157m sgwâr, tra mae’r anecs bwriadedig yn mesur 127m
sgwâr. Er mwyn rhoi maint yr anecs mewn cyd-destun
amlygwyd fod maint yr anecs yn fwy na’r hyn a
ganiateir ar gyfer tŷ fforddiadwy deulawr gyda 2 ystafell wely (sef 90m
sgwâr). I bob pwrpas, nodwyd bod yr anecs yn dŷ
newydd all fodoli yn gwbl ar wahân i’r eiddo presennol ar y safle.
Byddai’r anecs
yn gyfystyr a thŷ newydd yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac
felly yn groes i Bolisi CH9 o’r CDU yn ogystal â’r
cyngor cenedlaethol. Yn ogystal, ystyriwyd fod y modurdy deulawr a’r estyniad bwriadedig i’r tŷ yn debygol o greu nodwedd estron a
chreu effaith annerbyniol ar yr eiddo presennol a mwynderau gweledol yr ardal.
Ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion polisi B24 a B22 yn ogystal. (b) Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol: • Bod
y cais yn gais rhesymol a'i fod yn gefnogol iddo • Croesawu dymuniad y teulu i ddarparu
annedd ar gyfer eu teulu estynedig • Trigolion
a chymdogion Penrhos, Bethel yn gefnogol i’r cais • Nad
oedd bwriad i adeiladu tŷ o’r
newydd - estyniad ydyw i raddau • Swyddogion
yn unig sydd yn gwrthwynebu - dim gwrthwynebiad lleol • Derbyn yr angen i gadw at bolisïau ond rhaid defnyddio synnwyr cyffredin mewn rhai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CAIS RHIF: C15/0994/26/LL - Tyn Cae Newydd, Waunfawr PDF 249 KB Cais ôl-weithredol i newid defnydd i adeilad amaethyddol i ddefnydd cymysg o amaethyddiaeth ac fel sefydliad marchogaeth
ceffylau (yn cynnwys man ymarfer), adeiladu estyniad i gynnwys bocsys ceffylau a man storio ar gyfer paratoi
llysiau, ynghyd a darparu man parcio ac llawr caled ar
gyfer ceffylau AELOD LLEOL: Cynghorydd Eurig Wyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i newid defnydd i adeilad amaethyddol i
ddefnydd cymysg o amaethyddiaeth ac fel sefydliad marchogaeth ceffylau (yn
cynnwys man ymarfer), adeiladu estyniad i gynnwys bocsys ceffylau a man storio
ar gyfer paratoi llysiau, ynghyd a darparu man parcio a llawr caled ar gyfer
ceffylau (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ôl-weithredol i newid
defnydd adeilad amaethyddol i ddefnydd amaethyddol cymysg gyda sefydliad
marchogaeth ceffylau, sydd yn cynnwys man ymarfer dan do, ardal paratoi
llysiau, ardal storio peiriannau/offer amaethyddol ac ardal storio bwyd
ceffylau. Nodwyd bod y cais hefyd yn
cynnwys cadw estyniad unllawr sy'n cynnwys naw bocs
rhydd ac ystafell tac, ynghyd â darparu man parcio a llawr caled ar gyfer
ceffylau. Nodwyd bod y safle wedi'i leoli
tu allan i ffin ddatblygu Waunfawr gyda’r adeilad ei hun wedi'i leoli oddeutu
72m o'r eiddo preswyl agosaf. Ni ystyriwyd
y byddai'r defnydd cymysg a wneir o'r adeilad yn achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau'r gymdogaeth leol a'i fod yn dderbyniol o ran Polisi
B23. Disgrifiwyd yr adeilad fel un o wneuthuriad amaethyddol safonol o’i fath,
ei ddyluniad a'i faint; bydd yr estyniad i'r adeilad cyfredol yn cyd-weddu â'r adeilad amaethyddol cyfredol ar y tu allan gyda chladin
o ddalenni gwyrdd tywyll ar y waliau ac ar y to. Er bod pryder ymysg trigolion
lleol o ran pa mor ddigonol yw'r briffordd ddi-ddosbarth bresennol sy'n
gwasanaethu'r safle i ymdopi â'r cynnydd mewn
traffig, ystyriwyd na fydd y cynnig ei hun yn gwaethygu'r sefyllfa i'r fath
raddau fel y dylid gwrthod y cais ar sail diogelwch priffyrdd. Cafodd gwrthwynebiadau’r
preswylwyr lleol ystyriaeth lawn ac fe amlygwyd hyn yn yr adroddiad. O
ganlyniad, ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio â’r
polisïau cynllunio lleol a'r canllawiau cynllunio cenedlaethol. Ni ystyriwyd
bod y cynnig yn achosi niwed sylweddol i fwynderau gweledol yr ardal, mwynderau
cyffredinol eiddo preswyl cyfagos, nac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch
priffyrdd ar y briffordd gyfagos, ac felly, yn dderbyniol i’w gymeradwyo gydag
amodau perthnasol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:- • Bod y ffordd at y safle yn sengl a
chul - yn anodd hyd yn oed i gerbyd basio cerddwyr • Pryder
ynglŷn â chynnydd mewn traffig o ganlyniad i lwyddiant y fenter • Parod i ystyried cyfyngiadau gan osod
amodau perthnasol i’r cyfyngiadau hynny er mwyn atal unrhyw berchennog newydd
i’r dyfodol anghytuno gyda’r cyfyngiadau • Awgrymu
ymweliad safle er mwyn gweld pa mor gul yw’r ffordd (c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: • Y
bwriad yw derbyn 8 – 12 client y diwrnod mewn gwersi un i un • Y safle yn gyraeddadwy o ddau
gyfeiriad - y ffordd lydan yn un fyddai yn cael ei ddefnyddio amlaf • Clientau
tebygol eisoes yn byw yn Waunfawr yn
cyrraedd ar droed neu ar geffyl • Mae’n ddatblygiad arbenigol ac nid yn ysgol farchogaeth draddodiadol - ni fydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CAIS RHIF: C15/1115/25/LL - Goetre Uchaf, Off Ffordd Penrhos, Bangor PDF 523 KB Addasiad rhannol i 174 o dai
preswyl fel a ganiatawyd o dan gyfeirnod C12/1347/25/LL trwy gynyddu cyfanswm y
tai o 245 i 266 gan gynnwys tai ar wahan, tai par a fflatiau gydag unedau fforddiadwy (35%) a llecynnau
parcio a gerddi cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd John Wyn Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Nododd
yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio bod gwybodaeth hwyr wedi dod i law'r
swyddogion gan wrthwynebydd i’r cais. Amlygwyd bod Aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn y ddogfen (asesiad ar yr
Iaith Gymraeg) yn ystod yr
wythnos flaenorol, ond y ddogfen wedi
dod i law'r swyddogion fore’r Pwyllgor. Nodwyd nad oedd
amser priodol i’r ymgeisydd a’r
swyddogion asesu’r wybodaeth ac felly, er mwyn sicrhau ystyriaeth
lawn i’r sylwadau, awgrymwyd gohirio'r penderfyniad gan gyflwyno adroddiad o’r newydd i gynnwys
sylwadau o’r asesiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais (c) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol: • Croesawyd yr argymhelliad
i ohirio'r penderfyniad ar sail materion iaith • Croesawyd bod asesiad iaith wedi ei
gyflwyno • Awgrym i’r swyddogion
hefyd ystyried y ddogfen ’Cymru: Gwlad sy’n Creu
Cyfle i Chwarae’sydd yn ofyn statudol
ers 2014 • Cais am dystiolaeth o’r ‘angen wedi
ei asesu’ ar bolisïau CH1 a CH6 – Nodwyd yn yr
adroddiad, ‘nad yw polisïau CH1 a CH6 yn gofyn i ddatblygwr
tai brofi angen am dai ar safleoedd
sydd wedi eu clustnodi oherwydd
bod yr angen wedi ei gydnabod
a’i asesu yn ystod y broses o baratoi’r CDU’ PENDERFYNWYD: Gohirio
penderfyniad |
|
CAIS RHIF: C15/1217/11/LL - Sherwood, 4, Ffordd Caergybi, Bangor PDF 866 KB Newid defnydd adeilad swyddfa bresennol yn lety myfyrwyr pedair llofft gan gynnwys gosod tair ffenestr ychwanegol AELOD LLEOL:
Cynghorydd June E Marshall Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd adeilad swyddfa bresennol yn llety myfyrwyr
pedair llofft gan gynnwys gosod tair ffenestr ychwanegol (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais llawn i newid defnydd swyddfeydd sydd ar hyn
o bryd yn wag i lety myfyrwyr. Nodwyd bod yr adeilad dan sylw yn adeilad
concrid / bric wedi'i rendro gyda tho o shîtiau
concrid ac wedi ei leoli o fewn cwrtil eiddo sylweddol a ddefnyddir eisoes fel
llety myfyrwyr. Amlygwyd nad oedd bwriad gwneud unrhyw newidiadau allanol i'r
adeilad ar wahân i osod tair ffenestr ychwanegol, un yn yr edrychiad blaen a
dwy yn yr edrychiad ochr deheuol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi ar
Ffordd Caergybi mewn ardal defnydd cymysg o Ddinas Bangor nad ydyw wedi'i
ddynodi at unrhyw ddiben arbennig yn y Cynllun Datblygu Unedol. Amlygwyd bod y
cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd y derbyniwyd tri neu ragor o sylwadau'n
groes i argymhelliad y swyddog. Wedi ystyried polisïau C1, C4 a CH3, nodwyd bod y
datblygiad yn cyd-fynd a phrif bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol a
bod y cynnig hwn yn dderbyniol mewn egwyddor o safbwynt cynllunio. Yng nghyd destun mwynderau
cyffredinol a phreswyl ni ystyriwyd fod gwahaniaeth arwyddocaol tebygol rhwng
effeithiau mwynderol y defnydd awdurdodedig fel
swyddfa a'r defnydd bwriedig fel llety myfyrwyr, yn
enwedig wrth ystyried presenoldeb llety myfyrwyr presennol ar yr un safle.
Amlygwyd bod y cynlluniau'n cynnwys defnyddio mynedfa gerbydol bresennol ynghyd
â chlustnodi pedwar gofod parcio ar gyfer y datblygiad. Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y
trefniant hwn yn dderbyniol. Amlygwyd bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r cais ar
sail addasrwydd yr adeilad presennol ar gyfer defnydd anheddol, ond o safbwynt
ystyriaethau cynllunio mynegwyd bod maint, trefniant safle a lleoliad yr
adeilad yn addas ac ni fyddai newid arwyddocaol yn natur edrychiad na defnydd y
safle. Mater i'r ymgeisydd yw asesu addasrwydd strwythurol yr adeilad ar gyfer
y defnydd bwriedig yn sgil y newidiadau a fwriedir
a’r gallu i’r adeilad gydymffurfio gyda’r gyfundrefn rheolaeth adeiladu. (b) Nododd yr
Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn): • Bod pryderon ynglŷn ag
addasrwydd yr adeilad - yn debyg iawn i adeilad diwydiannol yn hytrach nag
adeilad preswyl • Nid yw yn ddeniadol ac nid yw yn
ddelfrydol ar gyfer pobl ac felly angen ymgynghori gyda’r gyfundrefn rheolaeth
adeiladu a Swyddogion Tîm Tai Amlfeddiannaeth (c) Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: • Bod angen gosod amodau tirlunio
priodol i geisio edrychiad preswyl ynghyd ag awgrym i
chwipio gyda gro • A
oes sylwadau wedi eu derbyn gan y Gwasanaeth Tân • Pryder
ynglŷn â’r nifer o ddatblygiadau myfyrwyr i Fangor (d) Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod modd trafod gyda’r ymgeisydd ynglŷn ag edrychiad y datblygiad ac y byddai’r Gwasanaeth Tân yn cael cyfle i gymeradwyo’r cais o dan y rheoliadau adeiladu perthnasol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
CAIS RHIF: C15/1239/30/LL - The Cottage, Rhiw PDF 557 KB Diddymu amod meddianiaeth AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diddymu amod meddiannaeth (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddiddymu amod cynllunio
sy’n cyfyngu defnydd adeilad, a gaiff ei adnabod fel ‘The Cottage’
Rhiwenfa, Rhiw, dim ond fel uned breswyl mewn
cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa gyfochrog. Rhoddwyd yr
amod ar ganiatâd hanesyddol rhif 2/10/113A dyddiedig 20 Rhagfyr 1978 oedd yn
ymwneud a newid defnydd yr adeilad o siop i dŷ. Adeilad bychan unllawr ydyw, sy’n cynnwys cegin, ystafell ymolchi, lolfa a
dwy ystafell wely a cheir safle parcio bychan o’i flaen. Nid yw’r bwriad yn
cynnwys unrhyw newidiadau i’r eiddo. Saif yr eiddo cyfochrog a ffordd
ddi-ddosbarth mewn lleoliad canolog ym mhentref gwledig Rhiw ac mae o fewn
dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cyfeiriwyd at Cylchlythyr
Llywodraeth Cymru 016/2014: ‘Defnyddio amodau cynllunio i reoli datblygiadau’,
gan ei fod yn gosod meini prawf cyffredinol ar gyfer dilysrwydd amodau
cynllunio. Gall defnyddio amodau cynllunio, o’u defnyddio yn briodol, alluogi
cynigion a fyddai fel arall o bosib yn cael eu gwrthod, i fynd yn eu blaen.
Mae’r Cylchlythyr ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai amodau ond
cael eu gosod os ydynt yn bodloni gofynion y chwe
phrawf isod, sef eu bod yn: • angenrheidiol; • perthnasol
i gynllunio; • perthnasol
i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu; • ymarferol
i’w gorfodi; • manwl; • rhesymol
ym mhob agwedd arall. Ni ddylid cadw amodau os nad oes
rheswm teilwng i wneud hynny. Bydd felly yn ofynnol asesu os yw’r amod i
gyfyngu defnydd adeilad, ‘The Cottage’, Rhiw, ddim
ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa
gyfochrog yn parhau i gwrdd â gofynion y chwe phrawf
uchod. Yn ôl y wybodaeth ar y cais,
roedd ‘The Cottage’ wedi ei adael i’r ymgeisydd mewn ewyllys.
Ymddengys fod y cyn perchennog, arferai ddefnyddio’r adeilad yn achlysurol i
letya ei ymwelwyr/teulu/ffrindiau yn unol â’r amod,
wedi gwahanu’r ddau eiddo yn ei ewyllys. Dengys y ddogfen Gofrestrfa Dir gyda’r
cais fod y ddau eiddo bellach mewn perchnogaeth wahanol ac wedi eu gwahanu’n
gyfreithiol. Oherwydd y newid mewn amgylchiadau perchnogaeth, nid yw ffisegol
bosib i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r amod ac felly
dymuna ei dynnu. Mae’r Cylchlythyr yn datgan na
ddylid gosod amodau ar diroedd sydd tu allan i reolaeth yr ymgeisydd, er nad
oedd hyn yn wir pan osodwyd yr amod yn wreiddiol, mae’r newid mewn sefyllfa yn
ei gwneud yn amhosib i’r ymgeisydd i gydymffurfio. Ar sail y newid mewn
amgylchiadau, sydd tu hwnt i reolaeth cynllunio, byddai’n anodd dadlau mewn
sefyllfa apêl bod yr amod bellach yn angenrheidiol o ystyried na fyddai gan yr
Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw ffordd o’i orfodi,
oherwydd y gwahaniaeth mewn perchnogaeth. Nid yw’r amod sy’n cyfyngu
defnydd adeilad ‘The Cottage’ dim ond fel uned breswyl
mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa fel ac y mae'n
sefyll heddiw yn cwrdd â gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014. Am y
rheswm hwn nid oes unrhyw gyfiawnhad rhesymol i gadw’r amod. (b) Yn manteisio ar yr hawl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
CAIS RHIF: C15/1281/11/LL - Coach House, Belmont Road, Bangor PDF 953 KB Cais i ddymchwel tŷ presennol ynghyd a chodi tŷ
newydd yn ei le (Cynllun Diwygiedig) (Ail gyflwyniad o gais C15/1027/11/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddymchwel tŷ presennol ynghyd a chodi tŷ newydd yn ei le (Cynllun
Diwygiedig) (Ail gyflwyniad
o gais C15/1027/11/LL) (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod hwn
yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd
y llynedd ar gyfer dymchwel byngalo gromen a modurdy presennol ac adeiladu tŷ newydd deulawr yn eu lle.
Byddai’r tŷ newydd o faint a swmp sylweddol fwy na'r
adeilad presennol gyda lefel y to yn codi o 5.5m i 7.2m. Bydd ne prif gyfeiriadedd yr adeilad yn
newid yn ogystal gan droi'r
brif echel drwy oddeutu 45˚. Prif newidiadau rhwng y cynllun hwn a'r cynllun
a wrthodwyd ydyw bod cyfeiriadedd yr adeilad wedi ei
droi. Amlygywd mai prif ystyriaeth polisi yn yr
achos yma oedd Polisi CH13 sy’n ymwneud ag ystyried cynigion i ddymchwel ac ailadeiladu tai mewn pentrefi gwledig
ac yng nghefn gwlad. Rhoddwyd ystyriaeth i feini prawf y polisi hwnnw ac mewn egwyddor,
nodwyd bod y cynnig yn gydnaws
â’r polisi. Dengys y cynlluniau
y bwriedir cael tair ffenestr yn
llawr cyntaf yr edrychiad gogleddol
a fyddai â'r potensial i or-edrych gardd tŷ Ashbrook
gerllaw. Nodwyd fodd bynnag fe
fyddai gan ddwy o'r ffenestri
hyn wydr afloyw ac fe fyddai'r
ffenestr llofft ym mhen gorllewinol
y tŷ. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n achosi gor-edrych uniongyrchol annerbyniol o rannau preifat o gwmpas tŷ’r cymdogion. Yn ogystal, ni
fyddai ffenestr yn llawr cyntaf
yr edrychiad dwyreiniol sy'n wynebu tuag Ashbrook. Yn yr un modd, ni ystyriwyd
y byddai'r ddwy ffenestr do sydd yn y llethr gogleddol
yn creu problemau
gor-edrych gan nad oedd bwriad
wedi ei ddatgan
i ddefnyddio'r gofod to fel ystafell drigiannol.
Fe gredwyd y byddai'n rhesymol gosod amod i atal unrhyw
waith i ymestyn y to e.e. trwy osod
ffenestr gromen, a fyddai'n angenrheidiol er galluogi defnyddio'r
gofod to fel ystafell drigiannol. Trwy hynny fe
ellid sicrhau rheolaeth dros unrhyw berygl gor-edrych
yn y dyfodol. Fe godwyd pryderon gan wrthwynebydd
ynghylch effaith y system draenio arfaethedig ar eiddo cyfagos,
ond fe ymgynghorwyd
gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ac ni godwyd unrhyw
wrthwynebiadau i'r bwriad gan unrhyw
un o'r sefydliadau hyn ac felly ystyrir fod y cais yn
gyson gyda pholisi CH18 y CDU. Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio
perthnasol, nodwyd bod yr egwyddor o godi
tŷ o faint a dyluniad cyffelyb i'r hyn
a fwriedir yn y lleoliad hwn yn
dderbyniol. Nodwyd hefyd bod y newidiadau a wnaethpwyd i ddyluniad a lleoliad y tŷ arfaethedig wedi goresgyn mwyafrif o’r gwrthwynebiadau a bod y cynnig diwygiedig yn dderbyniol dan
bolisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd. (b) Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd (c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd
i’r cais y prif bwyntiau canlynol: • Nad oedd gwrthwynebiad mewn egwyddor i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |