Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gweno
Glyn
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod paneli
solar ffotofoltaidd ar dir amaethyddol am gyfnod o 30 mlynedd ar gyfer creu
fferm solar, ynghyd â gwaith atodol sy’n cynnwys gosod cyfarpar i gysylltu â’r rhwydwaith drydan, compownd
adeiladu, ffens ddiogelwch, gwelliannau tirweddu ac addasiadau i’r fynedfa.
Eglurwyd bod safle’r cais mewn cefn gwlad agored ymhlith tirwedd donnog, yn
mesur oddeutu 12 hectar (22.6 acer) ac yn cynnwys tir amaethyddol wedi ei leoli
ar lethr esmwyth oddeutu 700 medr i’r de ddwyrain o bentref Botwnnog. Nodwyd
bod coedwig aeddfed tuag at ffin ddwyreiniol y safle a gwrychoedd o amgylch
mwyafrif caeau’r safle.
Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a gyflwynwyd
Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru
bellach wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl. Amlygwyd bod prif fanylion y cais
wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a’r polisïau perthnasol wedi eu rhestru.
O ran egwyddor, nodwyd bod y
bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisi C1 o’r Cynllun
Datblygu Unedol. Ategwyd hefyd bod cyfres o feini prawf y dylid eu hystyried
wrth drafod cynlluniau ynni adnewyddadwy cynaliadwy sydd yn ymwneud ag effaith
ar ansawdd gweledol y dirwedd a ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol.
Mewn ymateb i wrthwynebiad gan
berchennog eiddo cyfagos yn gwrthwynebu ar sail effaith ar y golygfeydd o’r
eiddo ac effaith fflachio a llacharedd, nodwyd
bod bwriad plannu gwrych i dyfu i uchder o 3medr ar ffin ddwyreiniol y
cae. Byddai hyn yn fodd o sgrinio’r bwriad a lleihau ei ardrawiad gweledol o’r
eiddo cyfagos. Yng nghyd destun fflachio a llacharedd, nodwyd bod Asesiad
Fflachio wedi ei dderbyn fel rhan o’r cais yn cydnabod ‘potential
i fflachio fod yn bresennol’ ond, gyda sgrinio naturiol presennol o amgylch y
safle a bwriad i blannu gwrych o’r newydd, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn
achosi niwed arwyddocaol o safbwynt amwynder.
O ran materion trafnidiaeth a
mynediad amlygwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda'r bwriad o agwedd
diogelwch ffyrdd ac yn argymell amodau o ran cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau. O ran materion Cadwraeth ac
Archeolegol nodwyd y byddai patrymau
ffisegol y caeau ar y cyfan yn cael ei gadw ac yn sgil lleoliad y safle,
tirlunio a thirffurfiau ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu yn sylweddol
ar y Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Eglurwyd, er bod sylwadau
ychwanegol wedi ei derbyn gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd, bod
gwaith pellach yn cael ei wneud i gwblhau'r wybodaeth. O ran materion
Bioamrywiaeth nodwyd bod yr Uned o’r farn bod potential i’r datblygiad ddod a budd i fioamrywiaeth y
tymor hir ac yn sgil eu sylwadau bod y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai yn
cael effaith andwyol ar rywogaethau gwarchodedig na’i chynefinoedd os caiff ei
reoli yn unol â’r amodau a gynigiwyd.
Ni ystyriwyd bod y bwriad yn
groes i unrhyw un o’r polisïau perthnasol ac fel yr amlygwyd yn yr adroddiad,
nid oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn datgan i’r gwrthwyneb. Ystyriwyd
felly bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol a’r sail
gwybodaeth hwyr, yr argymhellion a’r wybodaeth ychwanegol sydd i’w dderbyn.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
• Ei fod yn aelod o grŵp cymunedol
YnNi Llŷn a’i fod yn croesawu'r bwriad
• Bod y datblygiad yn gam i’r cyfeiriad
cywir o ran lleihau ôl troed carbon ac arbedion allyriadau carbon
• Bod y grŵp cymunedol yn barod i
gynorthwyo ac addysgu cymunedau am ynni adnewyddiadol
• Bod
y bwriad yn fudd i’r gymuned leol
• Y cwmni i ddefnyddio contractwyr
lleol i wneud y gwaith gosod ynghyd â lletywyr ac arlwywyr
• Arolwg cyfartaledd costau ynni'r
ardal wedi amlygu tlodi tanwydd ymysg trigolion - y cwmni wedi cytuno i
gydweithio gydag YnNi Llŷn i gyfarch y materion
hyn.
(c) Nododd yr
Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
• Bod
y datblygiad yn gymharol fawr o ran maint
• Bod
y datblygiad yn creu effaith tu hwnt i gymuned Botwnnog
• Awgrym
y dylid cynnal ymweliad safle
(ch) Mewn ymateb
i’r uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio y gellid trefnu
ymweliad safle er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried yr effaith weledol.
(d) Cynigwyd ac
eiliwyd i ymweld á’r safle.
PENDERFYNWYD: Trefnu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.
Dogfennau ategol: