Agenda item

Cais i estynnu a trosi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

COFNODION:

Cais i estynnu a throsi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd

 

Roedd yr aelodau wedi ymweld ar safle

 

(a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi  y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 30.11.2015 ar gyfer ymweliad safle. Gofynnwyd i’r ymgeisydd gysidro newid maint a dyluniad yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor ar 30.11.2015, ond nid oedd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn. Amlygwyd bod yr annedd presennol yn dŷ sy’n sefyll ar ei ben ei hun o fewn cwrtil sylweddol ar gyrion pentref Bethel. Yr eiddo wedi ei leoli tu allan i ffin ddatblygu’r pentref ac e’i diffinnir fel safle sydd yng nghefn gwlad agored yn nhermau polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol.  Eglurwyd bod yr eiddo presennol yn dy 4 ystafell wely gyda 2 o’r ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod gyda modurdy cysylltiol presennol yn unllawr ac ynghlwm i ochr yr annedd. Y bwriad yn golygu trosi ac ymestyn y modurdy cysylltiol er mwyn creu ‘anecs’ a chodi modurdy ar wahân gyda storfa uwchben. Ategwyd bod yr Aelod Lleol wedi galw’r cais  i mewn er mwyn cael penderfyniad gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

Y bwriad yw trosi ac ymestyn modurdy cysylltiol i ffurfio anecs hunangynhaliol ar ochr yr eiddo presennol. Gellid diffinio anecs preswyl fel llety sy’n ategol i’r prif dŷ, sydd ar raddfa addas ac wedi ei leoli o fewn ei gwrtil. Dylid ei ddefnyddio yn benodol ar gyfer y pwrpas hwn h.y. nid fel tŷ ar wahân. Amlygwyd bod  arwynebedd llawr mewnol yr eiddo presennol (o’u mesur ar y cynlluniau bwriadedig sy’n cynnwys iwtiliti ychwanegol a ffenestri dormer) yn mesur oddeutu 157m sgwâr, tra mae’r anecs bwriadedig yn mesur 127m sgwâr. Er mwyn rhoi maint yr anecs mewn cyd-destun amlygwyd fod maint yr anecs yn fwy na’r hyn a ganiateir ar gyfer tŷ fforddiadwy deulawr gyda 2 ystafell wely (sef 90m sgwâr). I bob pwrpas, nodwyd bod yr anecs yn dŷ newydd all fodoli yn gwbl ar wahân i’r eiddo presennol ar y safle. Byddai’r  anecs yn gyfystyr a thŷ newydd yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac felly yn groes i Bolisi CH9 o’r CDU yn ogystal â’r cyngor cenedlaethol. Yn ogystal, ystyriwyd fod y modurdy deulawr a’r estyniad bwriadedig i’r tŷ yn debygol o greu nodwedd estron a chreu effaith annerbyniol ar yr eiddo presennol a mwynderau gweledol yr ardal. Ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion polisi B24 a B22 yn ogystal.

 

(b)        Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:

           Bod y cais yn gais rhesymol a'i fod yn gefnogol iddo

           Croesawu dymuniad y teulu i ddarparu annedd ar gyfer eu teulu estynedig

           Trigolion a chymdogion Penrhos, Bethel yn gefnogol i’r cais

           Nad oedd bwriad  i adeiladu tŷ o’r newydd - estyniad ydyw i raddau

           Swyddogion yn unig sydd yn gwrthwynebu - dim gwrthwynebiad lleol

           Derbyn yr angen i gadw at bolisïau ond rhaid defnyddio synnwyr cyffredin mewn rhai amgylchiadau

           Bwriad defnyddio adeiladwyr lleol a defnyddio deunydd sydd yn gweddu fel na fydd effaith gweledol

           Rhaid cefnogi cymunedau Cymreig

 

(c)        Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn groes i’r argymhelliad

 

(ch )     Mewn ymateb i’r cynnig nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod y cais yn un anarferol  - cais ydoedd am anecs sydd yn ymdebygu i dŷ mawr ac nad oedd dim amheuaeth bod yr eiddo o fewn cefn gwlad agored. Ategwyd, os y bwriad oedd caniatáu, rhaid sicrhau rheolaeth dros gadw'r anecs yn rhan o’r tŷ. Ategwyd bod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad yn rhai cadarn, ond awgrymwyd, mewn ymateb i’r cynnig, i'r pwyllgor ystyried gosod Cytundeb 106 ar yr eiddo er mwyn sicrhau na ellid ei werthu ar wahân ac i gael amod i sicrhau linc fewnol rhwng y prif annedd a’r anecs.

 

(d)        Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

           Gosod Cytundeb 106 yn sicrhau'r hyn sydd yn cael ei geisio

           Derbyn bod yr awgrym yn un creadigol

           Amlinellu pwysigrwydd bod linc gysylltiol rhwng y ddwy annedd  - hwn i’w gynnwys fel amod

 

           Bod caniatáu y cais yn groes i bolisi ac yn debygol o osod cynsail beryglus

 

PENDERFYNWYD:  

Caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo Cytundeb 106 er mwyn sicrhau na ellir gwerthu’r prif annedd a’r anecs ar wahân i’w gilydd ac i amodau safonol yn ymwneud gyda:

 

1.         Amser

2.         Yn unol gyda’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Deunyddiau

5.         sicrhau linc mewnol rhwng y prif annedd a’r anecs

Dogfennau ategol: