Agenda item

Diddymu amod meddianiaeth

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Diddymu amod meddiannaeth

 

(a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddiddymu amod cynllunio sy’n cyfyngu defnydd adeilad, a gaiff ei adnabod fel ‘The CottageRhiwenfa, Rhiw, dim ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa gyfochrog. Rhoddwyd yr amod ar ganiatâd hanesyddol rhif 2/10/113A dyddiedig 20 Rhagfyr 1978 oedd yn ymwneud a newid defnydd yr adeilad o siop i dŷ. Adeilad bychan unllawr ydyw, sy’n cynnwys cegin, ystafell ymolchi, lolfa a dwy ystafell wely a cheir safle parcio bychan o’i flaen. Nid yw’r bwriad yn cynnwys unrhyw newidiadau i’r eiddo. Saif yr eiddo cyfochrog a ffordd ddi-ddosbarth mewn lleoliad canolog ym mhentref gwledig Rhiw ac mae o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cyfeiriwyd at Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014: ‘Defnyddio amodau cynllunio i reoli datblygiadau’, gan ei fod yn gosod meini prawf cyffredinol ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio. Gall defnyddio amodau cynllunio, o’u defnyddio yn briodol, alluogi cynigion a fyddai fel arall o bosib yn cael eu gwrthod, i fynd yn eu blaen. Mae’r Cylchlythyr ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai amodau ond cael eu gosod os ydynt yn bodloni gofynion y chwe phrawf isod, sef eu bod yn:

           angenrheidiol;

           perthnasol i gynllunio;

           perthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu;

           ymarferol i’w gorfodi;

           manwl;

           rhesymol ym mhob agwedd arall.

 

Ni ddylid cadw amodau os nad oes rheswm teilwng i wneud hynny. Bydd felly yn ofynnol asesu os yw’r amod i gyfyngu defnydd adeilad, ‘The Cottage’, Rhiw, ddim ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa gyfochrog yn parhau i gwrdd â gofynion y chwe phrawf uchod.

 

Yn ôl y wybodaeth ar y cais, roedd ‘The Cottage’ wedi ei adael i’r ymgeisydd mewn ewyllys. Ymddengys fod y cyn perchennog, arferai ddefnyddio’r adeilad yn achlysurol i letya ei ymwelwyr/teulu/ffrindiau yn unol â’r amod, wedi gwahanu’r ddau eiddo yn ei ewyllys. Dengys y ddogfen Gofrestrfa Dir gyda’r cais fod y ddau eiddo bellach mewn perchnogaeth wahanol ac wedi eu gwahanu’n gyfreithiol. Oherwydd y newid mewn amgylchiadau perchnogaeth, nid yw ffisegol bosib i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r amod ac felly dymuna ei dynnu.

 

Mae’r Cylchlythyr yn datgan na ddylid gosod amodau ar diroedd sydd tu allan i reolaeth yr ymgeisydd, er nad oedd hyn yn wir pan osodwyd yr amod yn wreiddiol, mae’r newid mewn sefyllfa yn ei gwneud yn amhosib i’r ymgeisydd i gydymffurfio. Ar sail y newid mewn amgylchiadau, sydd tu hwnt i reolaeth cynllunio, byddai’n anodd dadlau mewn sefyllfa apêl bod yr amod bellach yn angenrheidiol o ystyried na fyddai gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw ffordd o’i orfodi, oherwydd y gwahaniaeth mewn perchnogaeth.

 

Nid yw’r amod sy’n cyfyngu defnydd adeilad ‘The Cottage’ dim ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa fel ac y mae'n sefyll heddiw yn cwrdd â gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014. Am y rheswm hwn nid oes unrhyw gyfiawnhad rhesymol i gadw’r amod.

 

(b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nodwyd ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

           Bod y ddau adeilad bellach gyda pherchnogaeth gyfreithiol ar wahan

           Bod y bwthyn wedi bod yno ers degawdau

           Nid yw’r bwthyn yn amharu ar yr olygfa

           Nid oes lle i osod estyniad ar yr eiddo

           Er nad yw’r ymgeisydd yn lleol, yn gyfreithiol hi yw’r perchennog yr eiddo

 

(c)        Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)      Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

           Synhwyrol fuasai caniatáu

           Amgylchiadau wedi newid,  sefyllfa newydd wedi codi – angen addasu er mwyn symud ymlaen

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddiamodol

Dogfennau ategol: