Cais i ddymchwel tŷ presennol ynghyd a chodi tŷ
newydd yn ei le (Cynllun Diwygiedig) (Ail gyflwyniad o gais C15/1027/11/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Cofnod:
Cais i ddymchwel tŷ presennol ynghyd a chodi tŷ newydd yn ei le (Cynllun
Diwygiedig) (Ail gyflwyniad
o gais C15/1027/11/LL)
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod hwn
yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd
y llynedd ar gyfer dymchwel byngalo gromen a modurdy presennol ac adeiladu tŷ newydd deulawr yn eu lle.
Byddai’r tŷ newydd o faint a swmp sylweddol fwy na'r
adeilad presennol gyda lefel y to yn codi o 5.5m i 7.2m. Bydd ne prif gyfeiriadedd yr adeilad yn
newid yn ogystal gan droi'r
brif echel drwy oddeutu 45˚. Prif newidiadau rhwng y cynllun hwn a'r cynllun
a wrthodwyd ydyw bod cyfeiriadedd yr adeilad wedi ei
droi.
Amlygywd mai prif ystyriaeth polisi yn yr
achos yma oedd Polisi CH13 sy’n ymwneud ag ystyried cynigion i ddymchwel ac ailadeiladu tai mewn pentrefi gwledig
ac yng nghefn gwlad. Rhoddwyd ystyriaeth i feini prawf y polisi hwnnw ac mewn egwyddor,
nodwyd bod y cynnig yn gydnaws
â’r polisi.
Dengys y cynlluniau
y bwriedir cael tair ffenestr yn
llawr cyntaf yr edrychiad gogleddol
a fyddai â'r potensial i or-edrych gardd tŷ Ashbrook
gerllaw. Nodwyd fodd bynnag fe
fyddai gan ddwy o'r ffenestri
hyn wydr afloyw ac fe fyddai'r
ffenestr llofft ym mhen gorllewinol
y tŷ. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n achosi gor-edrych uniongyrchol annerbyniol o rannau preifat o gwmpas tŷ’r cymdogion. Yn ogystal, ni
fyddai ffenestr yn llawr cyntaf
yr edrychiad dwyreiniol sy'n wynebu tuag Ashbrook.
Yn yr un modd, ni ystyriwyd
y byddai'r ddwy ffenestr do sydd yn y llethr gogleddol
yn creu problemau
gor-edrych gan nad oedd bwriad
wedi ei ddatgan
i ddefnyddio'r gofod to fel ystafell drigiannol.
Fe gredwyd y byddai'n rhesymol gosod amod i atal unrhyw
waith i ymestyn y to e.e. trwy osod
ffenestr gromen, a fyddai'n angenrheidiol er galluogi defnyddio'r
gofod to fel ystafell drigiannol. Trwy hynny fe
ellid sicrhau rheolaeth dros unrhyw berygl gor-edrych
yn y dyfodol.
Fe godwyd pryderon gan wrthwynebydd
ynghylch effaith y system draenio arfaethedig ar eiddo cyfagos,
ond fe ymgynghorwyd
gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ac ni godwyd unrhyw
wrthwynebiadau i'r bwriad gan unrhyw
un o'r sefydliadau hyn ac felly ystyrir fod y cais yn
gyson gyda pholisi CH18 y CDU.
Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio
perthnasol, nodwyd bod yr egwyddor o godi
tŷ o faint a dyluniad cyffelyb i'r hyn
a fwriedir yn y lleoliad hwn yn
dderbyniol. Nodwyd hefyd bod y newidiadau a wnaethpwyd i ddyluniad a lleoliad y tŷ arfaethedig wedi goresgyn mwyafrif o’r gwrthwynebiadau a bod y cynnig diwygiedig yn dderbyniol dan
bolisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
(b) Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd
i’r cais y prif bwyntiau canlynol:
• Nad oedd gwrthwynebiad
mewn egwyddor i ailddatblygu’r safle
• Dim
gwrthwynebiad i osodiad a dyluniad y tŷ
• Pryder y byddai tanc septig newydd
yn peryglu cyfanrwydd system draenio ac
felly awgrym i’w ail leoli
• Pryder y byddai dŵr wyneb yn casglu
• Byddi’r gosodiad yn atal goleuni
i’r ardd
(ch) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:
• Bod
y cais yn ail gyflwyniad o gais blaenorol - trafodaethau helaeth wedi eu
cynnal gyda’r Uned Gynllunio ac felly'r cynllun yn ymateb i’r
sylwadau hynny
• Y
safle yn un sydd angen ei
wella a’i ddatblygu
• Y
cymdogion sydd yn meddu ar
gyfamod dros unrhyw ddatblygiad adeiladu ar y llain
wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl
• Nid oes bwriad
adeiladu tŷ 3 llawr
• Nid oes bwriad
defnyddio’r gofod to fel ystafell drigiannol
• Bod
yr eiddo 5.5m o’r ffin sydd
wedi ei blannu
gyda gwyrch leilandi oddeutu 3 – 4 medr o uchder
• Bydd gwydr afloyw
yn cael ei
ddefnyddio i atal gor-edrych
• Y
bwriad yw adeiladu cartref – dim llawer o gyfleoedd yn codi yn
yr ardal
• Y
bwriad yw byw ar y safle
- llecyn delfrydol
• Y
bwriad yw byw mewn harmoni
gyda chymdogion
(d) Nododd yr Aelod
Lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:
• Croesawu'r datblygiad a’r bwriad i gynnwys
cartref i deulu
• Sawl cymydog wedi
amlygu pryderon ac felly angen mewnbwn swyddogion
ac Aelodau
• Cydnabod bod yr ymgeisydd wedi cyfarch nifer o bryderon
• Angen rhoi ystyriaeth
i bryderon cymdogion ynglŷn â dŵr wyneb / gwastraff - awgrym i symud y tanc septig
• O
ran ongl yr eiddo, gwahaniaeth barn yw hyn ac angen
ceisio cyfaddawd
(dd) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais gydag amodau
ychwanegol yn unol â sylwadau’r Aelod Lleol
(e) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y prif sylw canlynol:
• A
fyddai’r amodau a awgrymwyd yn briodol?
Mewn ymateb i’r sylw, amlygwyd
y byddai yn bosib cynnwys amod
yn cadarnhau lleoliad y tanc septig, ond o ran materion megis draeniad, byddai hynny yn dod
o dan Rheolaeth Adeiladu gyda chydymffurfiaeth
a gofynion Dŵr Cymru
(Cyfeiriwch at gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 22.2.16 am benderfyniad
ac amodau - diolch)
Dogfennau ategol: