Agenda item

Newid defnydd adeilad swyddfa bresennol yn lety myfyrwyr pedair llofft gan gynnwys gosod tair ffenestr ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd June E Marshall

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Newid defnydd adeilad swyddfa bresennol yn llety myfyrwyr pedair llofft gan gynnwys gosod tair ffenestr ychwanegol

 

(a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais  llawn i newid defnydd swyddfeydd sydd ar hyn o bryd yn wag i lety myfyrwyr. Nodwyd bod yr adeilad dan sylw yn adeilad concrid / bric wedi'i rendro gyda tho o shîtiau concrid ac wedi ei leoli o fewn cwrtil eiddo sylweddol a ddefnyddir eisoes fel llety myfyrwyr. Amlygwyd nad oedd bwriad gwneud unrhyw newidiadau allanol i'r adeilad ar wahân i osod tair ffenestr ychwanegol, un yn yr edrychiad blaen a dwy yn yr edrychiad ochr deheuol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi ar Ffordd Caergybi mewn ardal defnydd cymysg o Ddinas Bangor nad ydyw wedi'i ddynodi at unrhyw ddiben arbennig yn y Cynllun Datblygu Unedol. Amlygwyd bod y cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd y derbyniwyd tri neu ragor o sylwadau'n groes i argymhelliad y swyddog.

 

Wedi  ystyried polisïau C1, C4 a CH3, nodwyd bod y datblygiad yn cyd-fynd a phrif bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol a bod y cynnig hwn yn dderbyniol mewn egwyddor o safbwynt cynllunio.

 

Yng nghyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl ni ystyriwyd fod gwahaniaeth arwyddocaol tebygol rhwng effeithiau mwynderol y defnydd awdurdodedig fel swyddfa a'r defnydd bwriedig fel llety myfyrwyr, yn enwedig wrth ystyried presenoldeb llety myfyrwyr presennol ar yr un safle. Amlygwyd bod y cynlluniau'n cynnwys defnyddio mynedfa gerbydol bresennol ynghyd â chlustnodi pedwar gofod parcio ar gyfer y datblygiad. Nodwyd bod yr  Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y trefniant hwn yn dderbyniol.

 

Amlygwyd bod  y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r cais ar sail addasrwydd yr adeilad presennol ar gyfer defnydd anheddol, ond o safbwynt ystyriaethau cynllunio mynegwyd bod maint, trefniant safle a lleoliad yr adeilad yn addas ac ni fyddai newid arwyddocaol yn natur edrychiad na defnydd y safle. Mater i'r ymgeisydd yw asesu addasrwydd strwythurol yr adeilad ar gyfer y defnydd bwriedig yn sgil y newidiadau a fwriedir a’r gallu i’r adeilad gydymffurfio gyda’r gyfundrefn rheolaeth adeiladu.

 

(b)        Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):

           Bod pryderon ynglŷn ag addasrwydd yr adeilad - yn debyg iawn i adeilad diwydiannol yn hytrach nag adeilad preswyl

           Nid yw yn ddeniadol ac nid yw yn ddelfrydol ar gyfer pobl ac felly angen ymgynghori gyda’r gyfundrefn rheolaeth adeiladu a Swyddogion Tîm Tai Amlfeddiannaeth

 

(c)        Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)      Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

           Bod angen gosod amodau tirlunio priodol i geisio edrychiad preswyl ynghyd ag awgrym i chwipio gyda gro

           A oes sylwadau wedi eu derbyn gan y Gwasanaeth Tân

           Pryder ynglŷn â’r nifer o ddatblygiadau myfyrwyr i Fangor

 

(d)        Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod modd trafod gyda’r ymgeisydd ynglŷn ag edrychiad y datblygiad ac y byddai’r Gwasanaeth Tân yn cael cyfle i gymeradwyo’r cais o dan y rheoliadau adeiladu perthnasol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd yr adeiladau ffiniol, nodwyd bod un yn ddeintyddfa a’r llall yn lety ar gyfer myfyrwyr.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais  gydag amodau :

 

            1.         5 mlynedd

            2.         Yn unol â'r cynlluniau

            3.         Amod Dŵr Cymru

            4.         Deunyddiau/gorffeniad allanol       

Dogfennau ategol: