Cais ôl-weithredol i newid defnydd i adeilad amaethyddol i ddefnydd cymysg o amaethyddiaeth ac fel sefydliad marchogaeth
ceffylau (yn cynnwys man ymarfer), adeiladu estyniad i gynnwys bocsys ceffylau a man storio ar gyfer paratoi
llysiau, ynghyd a darparu man parcio ac llawr caled ar
gyfer ceffylau
AELOD LLEOL: Cynghorydd Eurig Wyn
Cofnod:
Cais ôl-weithredol i newid defnydd i adeilad amaethyddol i
ddefnydd cymysg o amaethyddiaeth ac fel sefydliad marchogaeth ceffylau (yn
cynnwys man ymarfer), adeiladu estyniad i gynnwys bocsys ceffylau a man storio
ar gyfer paratoi llysiau, ynghyd a darparu man parcio a llawr caled ar gyfer
ceffylau
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ôl-weithredol i newid
defnydd adeilad amaethyddol i ddefnydd amaethyddol cymysg gyda sefydliad
marchogaeth ceffylau, sydd yn cynnwys man ymarfer dan do, ardal paratoi
llysiau, ardal storio peiriannau/offer amaethyddol ac ardal storio bwyd
ceffylau. Nodwyd bod y cais hefyd yn
cynnwys cadw estyniad unllawr sy'n cynnwys naw bocs
rhydd ac ystafell tac, ynghyd â darparu man parcio a llawr caled ar gyfer
ceffylau.
Nodwyd bod y safle wedi'i leoli
tu allan i ffin ddatblygu Waunfawr gyda’r adeilad ei hun wedi'i leoli oddeutu
72m o'r eiddo preswyl agosaf. Ni ystyriwyd
y byddai'r defnydd cymysg a wneir o'r adeilad yn achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau'r gymdogaeth leol a'i fod yn dderbyniol o ran Polisi
B23. Disgrifiwyd yr adeilad fel un o wneuthuriad amaethyddol safonol o’i fath,
ei ddyluniad a'i faint; bydd yr estyniad i'r adeilad cyfredol yn cyd-weddu â'r adeilad amaethyddol cyfredol ar y tu allan gyda chladin
o ddalenni gwyrdd tywyll ar y waliau ac ar y to.
Er bod pryder ymysg trigolion
lleol o ran pa mor ddigonol yw'r briffordd ddi-ddosbarth bresennol sy'n
gwasanaethu'r safle i ymdopi â'r cynnydd mewn
traffig, ystyriwyd na fydd y cynnig ei hun yn gwaethygu'r sefyllfa i'r fath
raddau fel y dylid gwrthod y cais ar sail diogelwch priffyrdd.
Cafodd gwrthwynebiadau’r
preswylwyr lleol ystyriaeth lawn ac fe amlygwyd hyn yn yr adroddiad. O
ganlyniad, ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio â’r
polisïau cynllunio lleol a'r canllawiau cynllunio cenedlaethol. Ni ystyriwyd
bod y cynnig yn achosi niwed sylweddol i fwynderau gweledol yr ardal, mwynderau
cyffredinol eiddo preswyl cyfagos, nac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch
priffyrdd ar y briffordd gyfagos, ac felly, yn dderbyniol i’w gymeradwyo gydag
amodau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:-
• Bod y ffordd at y safle yn sengl a
chul - yn anodd hyd yn oed i gerbyd basio cerddwyr
• Pryder
ynglŷn â chynnydd mewn traffig o ganlyniad i lwyddiant y fenter
• Parod i ystyried cyfyngiadau gan osod
amodau perthnasol i’r cyfyngiadau hynny er mwyn atal unrhyw berchennog newydd
i’r dyfodol anghytuno gyda’r cyfyngiadau
• Awgrymu
ymweliad safle er mwyn gweld pa mor gul yw’r ffordd
(c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
• Y
bwriad yw derbyn 8 – 12 client y diwrnod mewn gwersi un i un
• Y safle yn gyraeddadwy o ddau
gyfeiriad - y ffordd lydan yn un fyddai yn cael ei ddefnyddio amlaf
• Clientau
tebygol eisoes yn byw yn Waunfawr yn
cyrraedd ar droed neu ar geffyl
• Mae’n ddatblygiad arbenigol ac nid yn
ysgol farchogaeth draddodiadol - ni fydd gwersi grŵp na llwybr
• Bod llysiau yn cael eu gwerthu oddiar yr eiddo – darparu a chludo nwyddau yn unig
• Lonydd cul yn nodweddiadol o ardal
wledig Cymru ac felly ni ellir gwahaniaethu yma
• Nid
yw’r cyfleusterau yn ddigonol i alluogi sefydliad mawr
• Nid oes modd cyrraedd y safle gyda
cherbydau mawr oherwydd maint y fynedfa
(ch) Nododd yr
Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:
• Yn gefnogol i’r fenter ac yn croesawu
datblygiad fydd a chysylltiad creadigol posib gyda mentrau lleol eraill
• Rhaid
gwarchod diwydiant cefn gwlad
• Pwysleisio'r angen i wella llwybrau
cyhoeddus sydd ar gyrion y safle ac i annog y datblygydd i wneud hyn a chlirio
dipyn ar y safle
• Hybu
bywyd iach
(d) Mewn ymateb i bryderon traffig a’r
lonydd culion, sydd yn nodweddiadol i natur wledig ardal Waunfawr amlygodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth nad oedd y datblygiad yn debygol o
arwain at gynnydd llif traffig. Bydd y fenter yn cynnig gwersi ar lefel un i un
yn hytrach na dosbarthiadau ac felly ni chaiff hyn effaith debygol ar y ffyrdd.
(dd) Mewn ymateb i
sylw'r Aelod Lleol at lwybrau cyhoeddus, nodwyd y byddai’r sylw yn cael ei
gyfeirio at yr Uned Cefn Gwlad a Mynediad.
(e) Cynigwyd ac eiliwyd
i ganiatáu’r cais
(f) Yn ystod y
drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:
• Ffyrdd
gwledig yn rhan o batrwm cefn gwlad Cymru
• Cyfle
i arall gyfeirio'r diwydiant
• Dosbarthu
llysiau yw eu bwriad
PENDERFYNWYD: Caniatáu gyda’r amodau canlynol:
1. Defnyddir
yr adeilad/eiddo er dibenion amaethyddol ac fel sefydliad marchogaeth/hyfforddi ceffylau, ac nid ar
gyfer unrhyw ddiben arall (yn cynnwys unrhyw ddiben arall yn nosbarth D2
Gorchymyn Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (neu mewn unrhyw ddarpariaeth
sydd gyfystyr â'r dosbarth hwnnw mewn unrhyw offeryn
statudol sy'n disodli ac yn ailddeddfu'r gorchymyn hwnnw gydag addasiadau neu
heb addasiadau).
2. Bydd
y pum gofod parcio ychwanegol yn cael eu gosod allan yn unol â'r cynlluniau cymeradwy o fewn tri mis i ddyddiad y
caniatâd cynllunio yn unol â'r manylion sydd i'w
cytuno â'r Awdurdod Cynllunio Lleol ymlaen llaw. Bydd
y gofod parcio a ddarperir ar gael ar gyfer parcio cerbydau ynddo bob amser.
Dogfennau ategol: