Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Dilwyn Lloyd (eilydd), John Pughe Roberts a’r Cynghorwyr D. Gwynfor
Edwards a Sian Gwenllian (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Michael Sol Owen,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0282/45/LL); ·
Y Cynghorydd Aled Ll. Evans, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C15/0421/41/LL a
C15/0751/41/LL); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0429/35/LL); ·
Y Cynghorydd Sion Wyn Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0757/18/LL); ·
Y Cynghorydd Elwyn Edwards,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0517/04/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2015, fel rhai cywir (copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 7 Medi 2015 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm). Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais rhif C13/1298/11/AM - Tir ger Lôn Pobty, Lôn Pobty, Bangor PDF 1 MB Cais llawn ar gyfer codi adeilad deulawr sy'n darparu 18 uned hunan gynhaliol ar gyfer myfyrwyr, torri coed wedi eu gwarchod gan orchymyn gwarchod coed, newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerddwyr, a thirlunio. Aelod Lleol: Cynghorydd D. Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn ar gyfer codi
adeilad deulawr sy'n darparu 18 uned hunan gynhaliol
ar gyfer myfyrwyr, torri coed wedi eu
gwarchod gan orchymyn gwarchod coed, newidiadau i'r fynedfa gerbydol
bresennol ynghyd a chreu mynedfa newydd
i gerddwyr, a thirlunio. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli o
fewn ardal breswyl ar gyrion Dinas Bangor. Tynnwyd sylw at dablau yn yr adroddiad a oedd yn dangos y sefyllfa
ddiweddaraf (Medi 2015) o ran datblygiadau llety myfyrwyr pwrpasol preifat ym Mangor. Nodwyd bod y wybodaeth yn amlygu nad yw holl
anghenion llety ar gyfer myfyrwyr yn cael ei gyfarch o fewn llety myfyrwyr
pwrpasol. Cyfeiriwyd at benderfyniad apêl cais i ddarparu llety myfyrwyr ar gyn safle Jewson, Bangor lle
nododd yr Arolygydd bod ‘angen amlwg am ddarparu mwy o lety i fyfyrwyr ym Mangor’. Ystyrir bod angen clir yn bodoli ar gyfer datblygiadau llety myfyrwyr
pwrpasol, gyda datblygiadau o’r math yma gyda’r potensial i gael effaith
bositif ar y farchnad dai lleol gan y gall ryddhau tai amlfeddiannaeth ar gyfer
eu defnyddio gan aelwydydd lleol sydd angen tai o’r fath, a darparu
cyfleusterau safonol i fyfyrwyr sydd wedi ei reoli mewn modd ffurfiol. Nodwyd yr argymhellir yn yr adroddiad
i’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb
106 yn ymwneud â chyfraniad ar gyfer
gwella a chynnal llecyn chwarae agored. Adroddwyd er sicrhau cysondeb
yng nghyswllt ceisiadau llety pwrpasol myfyrwyr ni ystyrir ei
bod yn rhesymol gofyn am gyfraniad o’r math yma gan
y credir bod darpariaeth
chwaraeon y Brifysgol yn ymateb i’r
angen yma ar hyn o bryd. Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd ar sail diogelwch ffyrdd, mynediad a chynnydd mewn traffig.
Nodwyd bod
y bwriad yn golygu gwella’r fynedfa bresennol a darperir 4 llecyn parcio ynghyd â lle ar gyfer
troi cerbydau o fewn cwrtil yr
adeilad. Ychwanegwyd yn dilyn derbyn cynllun diwygiedig yn dangos
gosodiad y ffyrdd a phalmentydd cyfagos nid oedd gan
yr Uned Drafnidiaeth
wrthwynebiad i’r bwriad. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei bod yn byw yn yr adeilad
rhestredig gyferbyn â’r safle a’i
bod yn siarad ar ran y gymuned; ·
Bod y gymuned leol yn
ceisio dod i arfer efo’r
datblygiad llety myfyrwyr ar hen safle’r Santes Fair a byddai’r datblygiad yma yn ddatblygiad
yn rhy bell; ·
Bod nifer
o geisiadau ar gyfer y safle wedi
eu cyflwyno dros y blynyddoedd gyda’r cais diwethaf
yn 1990 wedi ei wrthod ar
apêl oherwydd pryderon diogelwch o ran mynediad a’r effaith
ar osodiad yr adeilad rhestredig; · Bod y Datganiad Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn nodi mai o Lôn Bopty fyddai mynediad i’r safle ond Bishops Mill Road sef lôn sengl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais rhif C14/1222/30/LL - Bryn Gwynt, Anelog, Aberdaron PDF 596 KB Defnyddio safle carafanau eithriedig Clwb Gwersylla a Charafanau fel safle annibynnol ar gyfer lleoli 10 o garafanau teithiol tymhorol a 5 pabell. Aelod Lleol: Cynghorydd W. Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Defnyddio safle carafanau eithriedig Clwb Gwersylla a Charafanau fel safle annibynnol
ar gyfer lleoli 10 o garafanau teithiol tymhorol a 5 pabell. (a) Adroddwyd y derbyniwyd cais gan Asiant yr
ymgeisydd i ohirio trafod y cais er mwyn
cynnal trafodaethau pellach. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais rhif C15/0282/45/LL - Villa Fioretta, Yr Ala, Pwllheli PDF 829 KB Adeiladu tŷ annedd gyda modurdy cysylltiol a ffurfio mynedfa a llefydd parcio a throi ynghyd a gwaith cysylltiol. Aelod Lleol: Cynghorydd Michael Sol Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan
yr Is-gadeirydd. Adeiladu tŷ annedd gyda modurdy cysylltiol
a ffurfio mynedfa a llefydd parcio a throi ynghyd a gwaith cysylltiol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle o fewn parth
llifogydd C1. Adroddwyd y derbyniwyd asesiad canlyniadau llifogydd diwygiedig
yn dilyn derbyn cadarnhad gan Ymgynghoriaeth Gwynedd
bod cwrs dŵr ar y safle dal yn weithredol. Nodwyd mai’r bwriad bellach
oedd adlinio’r cwrs dŵr oddeutu 5 medr ymhellach draw tuag at ffin
orllewinol y safle gyda’r cwrs dŵr newydd yn gadael y safle yn y lleoliad
presennol yn dilyn pryder Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth yn nodi nad
oedd pryderon bioamrywiaeth. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd ei werthfawrogiad o waith y swyddogion a’i obaith y byddai’r Pwyllgor yn caniatáu’r
cais. (c) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Y dylid sicrhau yn dilyn
pryderon CNC bod y cwrs dŵr yn gadael y safle yn y lleoliad presennol; ·
Ei fod yn ddigon rhesymol i
amodi y dylid defnyddio bricsen lliw addas yn hytrach na coch ar y plinth gan
ei fod ddim yn nodweddiadol o’r ardal a bod angen i’r adeilad gydweddu â
phensaernïaeth yr ardal; ·
Bod yr amodau a argymhellir o
ran gosod sgrin preifatrwydd 1.7 medr
o uchel ar ochr orllewinol a dwyreiniol y balconi ar bob adeg a dim gosod ffenestri ychwanegol i’r rhai a ddangosir ar y cynlluniau yn holl bwysig
er cyfarch y pryderon o ran preifatrwydd; ·
Ei fod yn hanfodol fod lefel
llawr gorffenedig y tŷ ddim is na 4.717mAOD oherwydd lleoliad y safle; ·
Y byddai adlinio’r cwrs
dŵr yn diogelu tai o gwmpas y safle o ystyried y risg llifogi.
(ch) Cynigwyd
a eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed adlinio’r cwrs dŵr, nododd y
Rheolwr Rheolaeth Datblygu byddai rhaid i’r ymgeisydd wneud cais ffurfiol tu
allan i’r drefn gynllunio er mwyn gwneud hyn, ond ni ragwelir unrhyw broblem. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Cychwyn
o fewn 5 mlynedd. 2. Unol
gyda’r cynlluniau diwygiedig dderbyniwyd 24 Gorffennaf 2015. 3. Llechi
ar y to. 4. Cytuno gorffeniad waliau allanol, gan gynnwys lliw'r fricsen. 5. Sgrin
preifatrwydd 1.7 medr o uchel i’w osod ar ochr orllewinol a dwyreiniol y
balconi ar bob adeg. 6. Dim
gosod ffenestri ychwanegol i’r rhai ddangosir ar y cynlluniau. 7. Tirlunio. 8. Lefel
llawr gorffenedig i fod ddim is na 4.717mAOD. 9. Y
llefydd parcio a throi i fod yn weithredol cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y
tro cyntaf. 10. Amodau
Dŵr Cymru ynglŷn â draeniad dŵr wyneb, dŵr budr a draeniad
tir. 11. Oriau adeiladu i’w gyfyngu i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais rhif C15/0421/41/LL - Llety Plu, Llangybi, Pwllheli PDF 609 KB Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL). Aelod Lleol: Cynghorydd Aled Ll. Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun
a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL). ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Medi 2015
er mwyn cynnal ymweliad safle. Nodwyd yr ystyrir y byddai estyniad pellach i’r modurdy yn creu adeilad a
fyddai o raddfa a dyluniad estron i’r lleoliad o safbwynt adeilad atodol o’r
fath ac fe fyddai’n or-ddatblygiad anghydnaws o’r
safle. Tynnwyd sylw bod lleoliad y cais oddi mewn Ardal Gadwraeth Llangybi a ni
ystyrir y byddai graddfa, maint na ffurf yr estyniad yn gyson gydag adeiladau
na phatrwm yr ardal gadwraeth. Nodwyd fod y bwriad yn groes
i bolisïau B4, B22 a B24 o’r CDUG. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Ei fod yn gwerthfawrogi’r
ymweliad safle; ·
Bod disgrifio'r datblygiad fel
‘gor-ddatblygiad estron’ yn mynd braidd dros ben
llestri; ·
Bod
arwynebedd y tŷ yn ddigonol i dderbyn maint yr estyniad i’r modurdy; ·
Nad
oedd gwrthwynebiad wedi dod i law gan gymdogion; ·
Y cwrtil eisoes wedi ei
ymestyn; ·
Pwrpas yr adeilad yw darparu
mwy o le i’r ymgeisydd gadw offer a hen beiriannau; ·
Na fyddai’r datblygiad yn
effeithio ar yr ardal gadwraeth; ·
Gobeithio y caniateir y cais. Cynigwyd a eiliwyd i wrthod
y cais. (c) Yn
ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Nad oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r
bwriad ac mai mater o farn ydoedd o ran ei faint; ·
Nad oedd arwydd i ddynodi’r
llwybr a oedd yn rhedeg heibio’r
safle fel llwybr cyhoeddus ac os caniateir dylid
sicrhau bod arwydd o’r fath yno; ·
Bod y llwybr cyhoeddus ddim yn hygyrch i
bobl anabl yn bresennol a byddai’r estyniad arfaethedig yn nes at y llwybr; ·
Bod yr ymgeisydd angen adeilad o’r maint
yma ar gyfer
adfer hen gelfi a oedd yn holl
bwysig er parhau a gwarchod traddodiad; ·
Pryder o ran maint yr adeilad wedi
cwblhau’r estyniad arfaethedig; ·
Bod estyniad mawr wedi ei
ganiatáu yn barod a byddai’r estyniad arfaethedig yn or-ddatblygiad. (ch) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:- ·
Bod ceisiadau cynllunio
blaenorol wedi eu cefnogi a gwelir ymgais dameidiog i greu estyniad sydd yn
cynyddu; ·
Bod yr estyniad a ganiatawyd o
dan gais C13/0162/41/LL yn golygu y byddai cyfanswm arwynebedd llawr y modurdy
yn 62m2 a thybir y byddai’n ddigonol ar gyfer y defnydd sydd yn
is-wasanaethol i ddefnydd yr eiddo; ·
Na fyddai’r estyniad
arfaethedig yn cyd-fynd â’r ardal gadwraeth gan y
byddai’n hynod weledol; ·
Bod angen i estyniadau fod yn
gymesur â’r adeilad gwreiddiol ag yn parchu’r
lleoliad; ·
Bod arwyddion i ddynodi’r
llwybr cyhoeddus wedi bod yn bresennol yn y gorffennol a chynhelir
trafodaethau efo’r Uned Hawliau Tramwy o ran os byddai’r datblygiad yn amharu
ar y llwybr. (d) Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais rhif C15/0429/35/LL - Llwyn Madyn, Muriau, Criccieth PDF 667 KB Estyniad llawr cyntaf gan gynnwys codi lefel y to creu balconi a newidiadau i'r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn gwrthod cais C14/1152/35/LL). Aelod Lleol: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad llawr cyntaf gan
gynnwys codi lefel y to creu balconi a newidiadau i'r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn
gwrthod cais
C14/1152/35/LL). ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle
cyn y cyfarfod. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod
y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2015 er mwyn cynnal ymweliad safle. Nodwyd byddai’r estyniad bwriadedig yn creu
tŷ a fyddai’n sylweddol fwy na’r eiddo presennol mewn stad dai a
ddominyddir gan fyngalos a byngalos gromen, felly ni ystyrir y byddai maint,
swmp ac uchder yr adeilad ar ei newydd wedd yn parchu graddfa, gwedd na ffurf
ddatblygedig y drefwedd gyfagos ac y byddai’n creu
nodwedd amlwg ac anghydnaws yn y stad gweddol unffurf. Nodwyd yr ystyrir y byddai’r dyluniad a gynigir,
oherwydd ei uchder a’i swmp, yn creu elfen ymwthiol a fyddai’n dominyddu’r
olygfa yn y rhan hon o’r stad ac y byddai’n ymwthiad annerbyniol ac anghydnaws
yn y patrwm anheddol lleol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Ei fod yn gwerthfawrogi’r
ymweliad safle; ·
Nad oedd gwrthwynebiad gan y
Cyngor Tref nac ychwaith trigolion cyfagos i’r bwriad; ·
Y nodir yn yr adroddiad bod y
safle wedi ei leoli mewn safle amlwg ar gyffordd rhwng dwy ffordd
gyhoeddus ond nad oedd llawer o
bobl yn teithio ar y lôn felly ni fyddai effaith gweledol; ·
Dim ond oddeutu 1 medr yn uwch
na’r tŷ cyfagos byddai’r datblygiad wedi ei orffen. Cynigwyd a eiliwyd i
ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad
y swyddogion oherwydd bod yr effaith weledol
yn dderbyniol. (c) Yn
ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau
canlynol: ·
Bod croesdoriad o dai gwahanol yn
y stad; ·
Bod estyniadau wedi eu hadeiladu
ar dai eraill
yn y stad; ·
Nad oedd y Cyngor Tref nac
ychwaith trigolion cyfagos yn gwrthwynebu’r
bwriad; ·
Na fyddai goredrych o gefn yr estyniad a byddai’n
cydweddu i’r stad; ·
Ni fyddai llawer o wahaniaeth o ran uchder yr estyniad
a’r tŷ cyfagos; ·
Bod angen cadw cymeriad y stad felly dylid gwrthod y cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion. (ch) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio er bod dyluniad yr
estyniad o ansawdd, ystyrir y byddai’n creu nodwedd amlwg ac anghydnaws yn y
stad gweddol unffurf. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol â’r cynlluniau 3. Llechi 4. Deunyddiau i’w cytuno 5. Tynnu PD ffenestri ychwanegol 6. Oriau adeiladu i’w gyfyngu i
08.00 - 18.00 Llun i Gwener, 08.00 - 13.00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl
Banc oni bai y cytunir yn wahanol
ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol |
|
Cais rhif C15/0751/41/LL - Fferm Bryn Bachau, Chwilog PDF 937 KB Gosod system ynni ffotovoltaidd (pv) ar ddaear hyd at 4.42 mw ar 14.22 o dir amaethyddol a gwaith cysylltiol gan gynnwys dau adeilad is-orsaf a ffensys diogelwch a strwythurau trawsnewid. Aelod Lleol: Cynghorydd Aled Ll. Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod system ynni ffotofoltaidd (pv)
ar ddaear hyd at 4.42 MW ar 14.22 o dir amaethyddol a gwaith cysylltiol gan gynnwys dau
adeilad is-orsaf a ffensys diogelwch a strwythurau trawsnewid. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle yng nghefn
gwlad agored yn y dirwedd donnog
sydd rhwng ucheldiroedd canol Llŷn â Bae Ceredigion gyda chloddiau a gwrychoedd o amgylch caeau'r safle a chaeau eraill yr ardal. Nodwyd yr ystyrir bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau C1, C27 a C28 o’r CDUG ac yn cyd-fynd gyda Pholisi
Strategol 9 ar gyfer darparu ynni
o ffynonellau adnewyddadwy. Amlygwyd gwrthwynebiad a dderbyniwyd oddi wrth berchennog ffermdy cyfagos yn bennaf ar
sail yr effaith ar y tirlun a'r
golygfeydd o'i eiddo. Wrth dderbyn
ei fod yn
bosibl bydd rhannau o'r safle
yn weladwy o'r eiddo, oherwydd
ffurf y tir, tyfiant presennol a phellter yr eiddo
o'r safle, dros 360m, ni chredir
bydd y datblygiad yn ormesol i
breswylwyr y ffermdy ac na fyddai'r effaith
ar y tirlun mor niweidiol i
gyfiawnhau gwrthod y cais. Tynnwyd sylw at gynllun lleoli’r paneli solar a rannwyd gyda’r aelodau yn y cyfarfod ynghyd
â sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod y Swyddog Coed wedi adnabod
bod helygen lwyd hynafol yn tyfu
ar y safle ac argymhellir gosod amod bod rhaid amddiffyn y goeden yn ystod y datblygiad.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod eu fferm deuluol gyfagos
i safle’r cais a tra’n gefnogol
i ddatblygiadau solar eu bod o’r farn
y dylid eu gosod ar doeau
adeiladau yn hytrach nac ar
y tir; ·
Nad oedd y Cyngor Cymuned yn ymwybodol
o’u pryderon; ·
Y dylai’r
aelodau wedi ymweld â’r safle; ·
Bod cae
rhif 2 wedi ei leoli ar
fryn sydd yn edrych i
lawr ar y fferm; ·
Nad oedd plannu coed yn ymateb
priodol o ran sgrinio; ·
Eu pryder o ran graddfa a maint y datblygiad a fyddai’n gyfystyr â 15 cae pêl droed; ·
Byddai’r tir yn ddiwydiannol yn hytrach na amaethyddol
os caniateir y cais; ·
Y byddai
effaith ar fwynderau’r ffermdy oherwydd llacharedd yn ogystal â’r
risg o gynyddu damweiniau. (c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd cynrychiolydd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod yr adroddiad yn arfarniad
helaeth o’r cais a chytunir efo’r casgliadau; ·
Na fyddai
effaith gweledol sylweddol o ganlyniad i’r datblygiad; ·
Bod y tir lle bwriedir lleoli’r
datblygiad yn dir amaethyddol dosbarth 4 a 5 felly ni chollir tir amaethyddol
gwerthfawr; ·
Nad oedd y bwriad yn groes i
unrhyw bolisi; ·
Y parchir
barn y gwrthwynebydd ond
bod y materion perthnasol wedi eu hystyried
yn yr asesiad; · Y byddai rhai rhannau o’r datblygiad i’w weld o fannau eraill ond y gwnaed ymgais i ddethol y caeau byddai’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais rhif C15/0757/18/LL - Llain y Rhos, 2 Parc y Wern, Bethel PDF 792 KB Codi estyniad ar ochr yr eiddo. Aelod Lleol: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad ar ochr
yr eiddo. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad wedi ei ddiwygio
ers ei gyflwyniad
gwreiddiol trwy ddileu ffenestri a oedd i’w cynnwys
ar dalcen cefn yr estyniad
a chynnwys ffenestri ‘velux’ yn eu
lle o fewn y to newydd, newidir hefyd osodiad mewnol
llawr cyntaf yr estyniad trwy
ddileu un ystafell wely ond bod arwynebedd
llawr yr estyniad arfaethedig yn aros yr
un peth. Nodwyd y cyfeiriwyd at bryder am raddfa a swmp yr estyniad arfaethedig o’i
gymharu â’r eiddo presennol yn ymateb ffurfiol y
Gwasanaeth i ymholiad cyn cyflwyno cais a bod angen lleihau maint yr estyniad
arfaethedig er mwyn bodloni gofynion polisïau perthnasol. Ychwanegwyd bod y
bwriad fodd bynnag wedi ei gyflwyno yn yr un ffurf a’r ymholiad cyn cyflwyno
cais (heb unrhyw newid) ac ystyrir fod y bwriad yn ymddangos yn nodwedd
anghydweddol gyda’r eiddo presennol. Cydnabyddir fod datblygiadau gymharol debyg o fewn yr ardal leol, ond ni
chredir fod y sefyllfa yr un peth sef natur a ffurf yr eiddo presennol a’i
berthynas gyda’r eiddo sydd yn gyfochrog. Nodwyd fod y bwriad yn annerbyniol o
ran Polisi B23 CDUG gan y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r
gymdogaeth leol drwy or-ddatblygu’r safle. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd partner yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei bod hi a’i phlant yn byw
mewn tŷ rent a’u bod yn dymuno
byw efo’i phartner a’i blant
yn y tŷ dan sylw; ·
Nad oedd tŷ ym Methel
yn diwallu eu hanghenion felly estyniad i’r tŷ
yw’r unig opsiwn; ·
Bod ei
theulu yn rhan o’r gymuned
ac eisiau parhau i fod; ·
Bod llythyr
o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan
eu cymdogion; ·
Bod Cyngor
Cymuned Llanddeiniolen yn cefnogi’r cais. (c) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bu trafodaeth cyn cyflwyno’r
cais ond parhawyd gyda cais ar gyfer estyniad o’r maint yma gan dyma fyddai’n
diwallu eu hanghenion teuluol; ·
Nad oedd y tŷ wedi ei
leoli mewn man sensitif a bod ceisiadau am dai wedi eu caniatáu yn y gorffennol
yng nghefn gwlad agored; ·
Cymdogion, Cyngor Cymuned Llanddeiniolen
a’r gymuned yn gefnogol i’r bwriad; ·
Bod tŷ 4 llofft ym Methel costio oddeutu £230,000 ac felly estyniad oedd yr
unig opsiwn; ·
Bod angen cefnogi pobl ifanc
er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymunedau; ·
Bod addasiad i’r cynllun
gwreiddiol o ran lleoliad ffenestr ar gefn yr estyniad arfaethedig oherwydd
pryderon goredrych; ·
Y gellir
sicrhau cynnal yr Iaith Gymraeg yn y pentref drwy ganiatáu’r cais; ·
Ei fod yn deall barn y
swyddogion ond bod angen bod yn hyblyg i anghenion lleol. Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais yn groes i argymhelliad y swyddogion. (ch) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Nad oedd y bwriad yn or-ddatblygiad; · Bod y dyluniad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais rhif C15/0760/20/LL - Laurence House, Stad Tafarngrisiau, Y Felinheli PDF 777 KB Codi estyniadau i greu fflat hunan gynhaliol ychwanegol. Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniadau i greu
fflat hunan
gynhaliol ychwanegol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai’r bwriad oedd codi dau
estyniad, un ar edrychiad ochr ac un ar edrychiad cefn yr adeilad i ddarparu ystafell wely i’r fflat llawr
gwaelod presennol, a galluogi i ran arall o’r llawr gwaelod ffurfio fflat ar
wahân. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am
y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol o ran y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd:- ·
Bod yr
arglawdd yn aros; ·
Nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
wrthwynebiad i’r bwriad; ·
Y byddai
lle ar gyfer
parcio 2 gar ychwanegol a darperir lle troi; ·
Bod yr estyniad yn fach
a byddai 3 medr yn is na
thai Tafarn Grisiau felly ni fyddai effaith ar olau haul ar
y tai gyda’r nos. (c) Nodwyd nad
oedd gan yr Aelod Lleol
wrthwynebiad i’r bwriad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Cwblhau yn unol â’r cynlluniau 3. Cytuno deunyddiau
allanol 4. Llechi ar y
to crib 5. Rhaid cwblhau’r
llecynnau parcio cyn meddiannu’r uned byw ychwanegol
a ganiateir drwy hyn. Nodyn Dwr Cymru, Wal Gydrannol |
|
Cais rhif C15/0517/04/LL - Coed y Foel Uchaf, Frongoch PDF 757 KB Codi tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i'r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ol). Aelod Lleol: Cynghorydd Elwyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi tyrbin gwynt gyda
mesur o 30.5m i'r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli
a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
safle wedi ei leoli ar dir uchel gerllaw ffordd yr A4212 sydd yn rhedeg fel
prif gyswllt rhwng tref Y Bala a phentref Trawsfynydd. Nodwyd byddai’r strwythur arfaethedig yn uchel ac o waith dyn (manmade) ac yn sefyll yn arunig ar dir uchel gyda’r safle
i’w weld o amryw o safbwyntiau yn yr ardal gyfagos a thu hwnt, byddai’r tyrbin
i’w weld yn arbennig o weladwy wrth deithio ar hyd y A4212 i lawr y dyffryn i
gyfeiriad y safle o’r gorllewin. Byddai hyn oherwydd ei leoliad uchel a chwbl
amlwg ar y nenlinell o olygfeydd o bell ac agos oddi fewn ac oddi allan y Parc
Cenedlaethol. Ystyrir y byddai’r effaith ar fwynderau gweledol yr ardal yn
sylweddol, er bod peilonau trydan wedi eu lleoli i de'r safle, ni ystyrir y
byddai hyn yn lleddfu effaith niweidiol y datblygiad ar gymeriad gwledig a
thirwedd yr ardal gan ei fod yn strwythur sylweddol ac yn un symudol sydd yn
sefyll yn arunig. Tynnwyd sylw bod safle’r cais yn agos at ffin Parc Cenedlaethol Eryri a bod
gwrthwynebiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’r datblygiad yn nodi y byddai
effaith ar olygfeydd o fewn ffiniau’r Parc. Ystyrir oherwydd amlygrwydd y
datblygiad o fewn y tirlun ac o ardal eang iawn o du fewn y Parc y byddai’n
amharu’n sylweddol ar fwynhad defnyddwyr y Parc Cenedlaethol. Yn ogystal, nodwyd nad oedd swyddogion wedi’u hargyhoeddi fod y bwriad yn
weithgaredd arallgyfeirio dilys a bod hyn wedi ei gefnogi gan benderfyniadau
apêl diweddar am dyrbeini ar safleoedd eraill o fewn
y Sir. Nodwyd yr ystyrir nad yw’r bwriad yn cwrdd â gofynion y polisïau perthnasol
a byddai’r tyrbin yn cael effaith sylweddol arwyddocaol ar nodweddion a
chymeriad arbennig y Parc Cenedlaethol. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd cefnogwr i’r cais y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod safle’r
cais yn lled-ddiwydiannol
gyda dwy res o beilonau ar y safle
sydd yn dalach
na’r tyrbin gwynt; ·
Byddai’r tyrbin ond yn
amlwg o’r lôn am 1.5 milltir wrth deithio i
gyfeiriad Bala; ·
Mai byr
yw’r cyfnod twristiaeth a bod y ddadl o ran effaith ar dwristiaeth
yn amwys; ·
Y bwriedai’r ymgeisydd roi cyfraniadau
ariannol i wahanol endidau cymunedol am gyfnod o 20 mlynedd ac os yn
bosib dylid gosod amod i’r
perwyl hwn. (c)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Mai gwrthwynebiad gan swyddog Parc
Cenedlaethol yr Eryri yn hytrach
na chyfarfod o’r Awdurdod a dderbyniwyd; ·
Mai mater o farn oedd o ran effaith ar yr
olygfa; ·
Bod dwy res o beilonau yn yr
ardal gyda rhai mor uchel
â 47 medr felly ni fyddai’r tyrbin yn cael mwy
o effaith ar y dirwedd; · Bod Cyngor Cymuned ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
Cais rhif C15/0783/42/MG - Safle Capel Caersalem, Lon Terfyn, Morfa Nefyn PDF 699 KB Materion a gadwyd yn ôl ar gyfer adeiladu 4 tŷ. Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Materion a gadwyd yn ôl
ar gyfer adeiladu 4 tŷ. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi bod caniatâd amlinellol wedi ei roi o dan gais C06D/0703/42/AM, ar gyfer datblygiad trigiannol o 4 tŷ annedd gydag un ohonynt yn
fforddiadwy ond nad oedd y llain fforddiadwy wedi ei bennu hyd yma. Nodwyd mai materion yn ymwneud â maint, ymddangosiad a thirlunio yr ystyrir fel
rhan o’r cais hwn. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am
y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Unol gyda’r cynlluniau. 2. Lleiniau gwelededd 2.4m x 45m. Nodiadau Priffyrdd o ran hawl o dan Adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd
1980 i gario allan gwaith
ger y briffordd a chymryd gofal i
atal dŵr wyneb o’r cwrtil
arllwys i’r briffordd. Rhaid
cydymffurfio gyda’r amodau ar ganiatâd amlinellol C06D/0703/42/AM. |