Agenda item

Codi tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i'r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad  o gais a dynnwyd yn ol).

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Elwyn Edwards

Cofnod:

Codi tyrbin gwynt gyda mesur o 30.5m i'r hwb (48.01m i frig y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiedig (ail gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar dir uchel gerllaw ffordd yr A4212 sydd yn rhedeg fel prif gyswllt rhwng tref Y Bala a phentref Trawsfynydd.

 

Nodwyd byddai’r strwythur arfaethedig yn uchel ac o waith dyn (manmade) ac yn sefyll yn arunig ar dir uchel gyda’r safle i’w weld o amryw o safbwyntiau yn yr ardal gyfagos a thu hwnt, byddai’r tyrbin i’w weld yn arbennig o weladwy wrth deithio ar hyd y A4212 i lawr y dyffryn i gyfeiriad y safle o’r gorllewin. Byddai hyn oherwydd ei leoliad uchel a chwbl amlwg ar y nenlinell o olygfeydd o bell ac agos oddi fewn ac oddi allan y Parc Cenedlaethol. Ystyrir y byddai’r effaith ar fwynderau gweledol yr ardal yn sylweddol, er bod peilonau trydan wedi eu lleoli i de'r safle, ni ystyrir y byddai hyn yn lleddfu effaith niweidiol y datblygiad ar gymeriad gwledig a thirwedd yr ardal gan ei fod yn strwythur sylweddol ac yn un symudol sydd yn sefyll yn arunig.

 

Tynnwyd sylw bod safle’r cais yn agos at ffin Parc Cenedlaethol Eryri a bod gwrthwynebiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’r datblygiad yn nodi y byddai effaith ar olygfeydd o fewn ffiniau’r Parc. Ystyrir oherwydd amlygrwydd y datblygiad o fewn y tirlun ac o ardal eang iawn o du fewn y Parc y byddai’n amharu’n sylweddol ar fwynhad defnyddwyr y Parc Cenedlaethol.

 

Yn ogystal, nodwyd nad oedd swyddogion wedi’u hargyhoeddi fod y bwriad yn weithgaredd arallgyfeirio dilys a bod hyn wedi ei gefnogi gan benderfyniadau apêl diweddar am dyrbeini ar safleoedd eraill o fewn y Sir.

 

Nodwyd yr ystyrir nad yw’r bwriad yn cwrdd â gofynion y polisïau perthnasol a byddai’r tyrbin yn cael effaith sylweddol arwyddocaol ar nodweddion a chymeriad arbennig y Parc Cenedlaethol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cefnogwr ir cais y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod safle’r cais yn lled-ddiwydiannol gyda dwy res o beilonau ar y safle sydd yn dalach na’r tyrbin gwynt;

·         Byddai’r tyrbin ond yn amlwg o’r lôn am 1.5 milltir wrth deithio i gyfeiriad Bala;

·         Mai byr yw’r cyfnod twristiaeth a bod y ddadl o ran effaith ar dwristiaeth yn amwys;

·         Y bwriedai’r ymgeisydd roi cyfraniadau ariannol i wahanol endidau cymunedol am gyfnod o 20 mlynedd ac os yn bosib dylid gosod amod i’r perwyl hwn.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Mai gwrthwynebiad gan swyddog Parc Cenedlaethol yr Eryri yn hytrach na chyfarfod o’r Awdurdod a dderbyniwyd;

·         Mai mater o farn oedd o ran effaith ar yr olygfa;

·         Bod dwy res o beilonau yn yr ardal gyda rhai mor uchel â 47 medr felly ni fyddai’r tyrbin yn cael mwy o effaith ar y dirwedd;

·         Bod Cyngor Cymuned Llandderfel yn gefnogol i’r cais;

·         Nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru na CADW yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Nad oedd datblygiadau tyrbinau gwynt yn effeithio ar dwristiaeth;

·         Bod 3 tyrbin wedi eu caniatáu eisoes wrth lan yr afon;

·         Bod cyfraniadau ariannol i’r gymuned wedi eu cynnig;

·         Bod y ‘feed-in tariff’ ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy yn dod i ben ond ei fod yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth yn ail feddwl;

·         Gofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r cais.

 

(ch)   Yng nghyswllt y sylwadau uchod, pwysleisiodd yr Uwch Gyfreithiwr na ddylid rhoi ystyriaeth i gyfraniadau ariannol gan y delir â hyn tu allan i’r drefn gynllunio, nac ychwaith y mater ‘feed-in tariff’. Dylid asesu’r cais gan ystyried y manylion gerbron. 

 

          Cynigwyd a eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

 

Dogfennau ategol: