Agenda item

Cais llawn ar gyfer codi adeilad deulawr sy'n darparu 18 uned hunan gynhaliol ar gyfer myfyrwyr, torri coed wedi eu gwarchod gan orchymyn gwarchod coed, newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerddwyr, a thirlunio.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd D. Gwynfor Edwards

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer codi adeilad deulawr sy'n darparu 18 uned hunan gynhaliol ar gyfer myfyrwyr, torri coed wedi eu gwarchod gan orchymyn gwarchod coed, newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerddwyr, a thirlunio.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn ardal breswyl ar gyrion Dinas Bangor.

 

Tynnwyd sylw at dablau yn yr adroddiad a oedd yn dangos y sefyllfa ddiweddaraf (Medi 2015) o ran datblygiadau llety myfyrwyr pwrpasol preifat ym Mangor. Nodwyd bod y wybodaeth yn amlygu nad yw holl anghenion llety ar gyfer myfyrwyr yn cael ei gyfarch o fewn llety myfyrwyr pwrpasol. Cyfeiriwyd at benderfyniad apêl cais i ddarparu llety myfyrwyr ar gyn safle Jewson, Bangor lle nododd yr Arolygydd bod ‘angen amlwg am ddarparu mwy o lety i fyfyrwyr ym Mangor’.

 

Ystyrir bod angen clir yn bodoli ar gyfer datblygiadau llety myfyrwyr pwrpasol, gyda datblygiadau o’r math yma gyda’r potensial i gael effaith bositif ar y farchnad dai lleol gan y gall ryddhau tai amlfeddiannaeth ar gyfer eu defnyddio gan aelwydydd lleol sydd angen tai o’r fath, a darparu cyfleusterau safonol i fyfyrwyr sydd wedi ei reoli mewn modd ffurfiol.

 

Nodwyd yr argymhellir yn yr adroddiad i’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 yn ymwneud â chyfraniad ar gyfer gwella a chynnal llecyn chwarae agored. Adroddwyd er sicrhau cysondeb yng nghyswllt ceisiadau llety pwrpasol myfyrwyr ni ystyrir ei bod yn rhesymol gofyn am gyfraniad o’r math yma gan y credir  bod darpariaeth chwaraeon y Brifysgol yn ymateb i’r angen yma ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd ar sail diogelwch ffyrdd, mynediad a chynnydd mewn traffig. Nodwyd bod y bwriad yn golygu gwella’r fynedfa bresennol a darperir 4 llecyn parcio ynghyd â lle ar gyfer troi cerbydau o fewn cwrtil yr adeilad. Ychwanegwyd yn dilyn derbyn cynllun diwygiedig yn dangos gosodiad y ffyrdd a phalmentydd cyfagos nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei bod yn byw yn yr adeilad rhestredig gyferbyn â’r safle a’i bod yn siarad ar ran y gymuned;

·         Bod y gymuned leol yn ceisio dod i arfer efo’r datblygiad llety myfyrwyr ar hen safle’r Santes Fair a byddai’r datblygiad yma yn ddatblygiad yn rhy bell;

·         Bod nifer o geisiadau ar gyfer y safle wedi eu cyflwyno dros y blynyddoedd gyda’r cais diwethaf yn 1990 wedi ei wrthod ar apêl oherwydd pryderon diogelwch o ran mynediad a’r effaith ar osodiad yr adeilad rhestredig;

·         Bod y Datganiad Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn nodi mai o Lôn Bopty fyddai mynediad i’r safle ond Bishops Mill Road sef lôn sengl serth gydag un man troi fyddai’r lôn mynediad;

·         Y byddai’r newidiadau i’r fynedfa yn Lôn Bopty yn gwella gwelededd fymryn ond ni fyddai’n gwella mynediad i’r safle;

·         Nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â pholisi CH33 na D19 o’r CDUG;

·         Y defnyddir cerbydau llai i gasglu gwastraff ar hyd y lôn oherwydd ei fod yn gul;

·         Byddai’r datblygiad yn effeithio ar osodiad yr adeilad rhestredig;

·         Effeithir ar breifatrwydd a distawrwydd trigolion os caniateir y cais;

·         Nad oes llawer o olau naturiol ar Lôn Bopty yn bresennol a byddai’r datblygiad yn ychwanegu at hyn;

·         Bod Gorchymyn Gwarchod Coed ar goed ar y safle;

·         Bod ystlumod a dallneidr yn bresennol ar y safle;

·         Ni fyddai’r datblygiad yn diwallu anghenion yr ardal.

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod safle’r datblygiad oddi mewn i’r ffin datblygu;

·         Bod angen am lety myfyrwyr fel y nodir ym mhenderfyniad apêl yr Arolygydd yng nghyswllt cais 110-114 Stryd Fawr, Bangor;

·         Bod y nifer unedau wedi gostwng o 32 i 18 uned;

·         Diwygiwyd dyluniad yr adeilad;

·         Y byddai’r adeilad wedi ei leoli digon pell o’r adeilad rhestredig;

·         Bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon efo’r gwelliannau bwriadedig i’r fynedfa;

·         Y diwigwyd y cais gwreiddiol i sicrhau bod y datblygiad yn dderbyniol.

 

(ch)   Nododd aelod ei bod wedi derbyn e-bost gan yr Aelod Lleol oedd yn nodi ei fod yn croesawu’r datblygiad ar safle’r hen Santes Fair ond ei fod yn gwrthwynebu’r datblygiad hwn oherwydd y straen ar y gymuned o ran parcio a threfniadau casglu sbwriel. Roedd o’r farn nad oedd angen mwy o ddarpariaeth i fyfyrwyr yn yr ardal yma.

 

          Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:

·         bod tystiolaeth glir o ran yr angen am lety myfyrwyr pwrpasol;

·         bod y cynllun wedi ei addasu a'i leihau’n sylweddol o’r bwriad gwreiddiol.

 

          Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(d)     Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed yr angen am lety myfyrwyr pwrpasol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod diffyg darpariaeth o oddeutu hanner gan y Brifysgol.

 

          Gwnaed cynnig gan aelod y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn cynnal ymweliad safle gan fod ceisiadau cynllunio blaenorol ar y safle wedi eu gwrthod oherwydd mynediad i’r safle.

 

          PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

 

Dogfennau ategol: