Agenda item

Adeiladu annedd gyda modurdy cysylltiol a ffurfio mynedfa a llefydd parcio a throi ynghyd a gwaith cysylltiol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Michael Sol Owen

Cofnod:

Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan yr Is-gadeirydd.

 

Adeiladu annedd gyda modurdy cysylltiol a ffurfio mynedfa a llefydd parcio a throi ynghyd a gwaith cysylltiol.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle o fewn parth llifogydd C1. Adroddwyd y derbyniwyd asesiad canlyniadau llifogydd diwygiedig yn dilyn derbyn cadarnhad gan Ymgynghoriaeth Gwynedd bod cwrs dŵr ar y safle dal yn weithredol. Nodwyd mai’r bwriad bellach oedd adlinio’r cwrs dŵr oddeutu 5 medr ymhellach draw tuag at ffin orllewinol y safle gyda’r cwrs dŵr newydd yn gadael y safle yn y lleoliad presennol yn dilyn pryder Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

 

Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth yn nodi nad oedd pryderon bioamrywiaeth.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd ei werthfawrogiad o waith y swyddogion a’i obaith y byddai’r Pwyllgor yn caniatáu’r cais.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Y dylid sicrhau yn dilyn pryderon CNC bod y cwrs dŵr yn gadael y safle yn y lleoliad presennol;

·         Ei fod yn ddigon rhesymol i amodi y dylid defnyddio bricsen lliw addas yn hytrach na coch ar y plinth gan ei fod ddim yn nodweddiadol o’r ardal a bod angen i’r adeilad gydweddu â phensaernïaeth yr ardal;

·         Bod yr amodau a argymhellir o ran gosod sgrin preifatrwydd 1.7 medr o uchel ar ochr orllewinol a dwyreiniol y balconi ar bob adeg a dim gosod ffenestri ychwanegol i’r rhai a ddangosir ar y cynlluniau yn holl bwysig er cyfarch y pryderon o ran preifatrwydd;

·         Ei fod yn hanfodol fod lefel llawr gorffenedig y tŷ ddim is na 4.717mAOD oherwydd lleoliad y safle;

·         Y byddai adlinio’r cwrs dŵr yn diogelu tai o gwmpas y safle o ystyried y risg llifogi.

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed adlinio’r cwrs dŵr, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu byddai rhaid i’r ymgeisydd wneud cais ffurfiol tu allan i’r drefn gynllunio er mwyn gwneud hyn, ond ni ragwelir unrhyw broblem.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol gyda’r cynlluniau diwygiedig dderbyniwyd 24 Gorffennaf 2015.

3.     Llechi ar y to.

4.     Cytuno gorffeniad waliau allanol, gan gynnwys lliw'r fricsen.

5.     Sgrin preifatrwydd 1.7 medr o uchel i’w osod ar ochr orllewinol a dwyreiniol y balconi ar bob adeg.

6.     Dim gosod ffenestri ychwanegol i’r rhai ddangosir ar y cynlluniau.

7.     Tirlunio.

8.     Lefel llawr gorffenedig i fod ddim is na 4.717mAOD.

9.     Y llefydd parcio a throi i fod yn weithredol cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

10.   Amodau Dŵr Cymru ynglŷn â draeniad dŵr wyneb, dŵr budr a draeniad tir.

11.   Oriau adeiladu i’w gyfyngu i 08.00 - 18.00 Llun i Gwener, 08.00 - 13.00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl Banc oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

          Nodyn – Angen ail leoli’r cwrs dŵr cyn i weddill y datblygiad gychwyn. 

 

Dogfennau ategol: