Codi estyniad ar ochr yr eiddo.
Aelod Lleol: Cynghorydd Sion Wyn Jones
Cofnod:
Codi estyniad ar ochr
yr eiddo.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad wedi ei ddiwygio
ers ei gyflwyniad
gwreiddiol trwy ddileu ffenestri a oedd i’w cynnwys
ar dalcen cefn yr estyniad
a chynnwys ffenestri ‘velux’ yn eu
lle o fewn y to newydd, newidir hefyd osodiad mewnol
llawr cyntaf yr estyniad trwy
ddileu un ystafell wely ond bod arwynebedd
llawr yr estyniad arfaethedig yn aros yr
un peth.
Nodwyd y cyfeiriwyd at bryder am raddfa a swmp yr estyniad arfaethedig o’i
gymharu â’r eiddo presennol yn ymateb ffurfiol y
Gwasanaeth i ymholiad cyn cyflwyno cais a bod angen lleihau maint yr estyniad
arfaethedig er mwyn bodloni gofynion polisïau perthnasol. Ychwanegwyd bod y
bwriad fodd bynnag wedi ei gyflwyno yn yr un ffurf a’r ymholiad cyn cyflwyno
cais (heb unrhyw newid) ac ystyrir fod y bwriad yn ymddangos yn nodwedd
anghydweddol gyda’r eiddo presennol.
Cydnabyddir fod datblygiadau gymharol debyg o fewn yr ardal leol, ond ni
chredir fod y sefyllfa yr un peth sef natur a ffurf yr eiddo presennol a’i
berthynas gyda’r eiddo sydd yn gyfochrog. Nodwyd fod y bwriad yn annerbyniol o
ran Polisi B23 CDUG gan y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r
gymdogaeth leol drwy or-ddatblygu’r safle.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
(b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd partner yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei bod hi a’i phlant yn byw
mewn tŷ rent a’u bod yn dymuno
byw efo’i phartner a’i blant
yn y tŷ dan sylw;
·
Nad oedd tŷ ym Methel
yn diwallu eu hanghenion felly estyniad i’r tŷ
yw’r unig opsiwn;
·
Bod ei
theulu yn rhan o’r gymuned
ac eisiau parhau i fod;
·
Bod llythyr
o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan
eu cymdogion;
·
Bod Cyngor
Cymuned Llanddeiniolen yn cefnogi’r cais.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bu trafodaeth cyn cyflwyno’r
cais ond parhawyd gyda cais ar gyfer estyniad o’r maint yma gan dyma fyddai’n
diwallu eu hanghenion teuluol;
·
Nad oedd y tŷ wedi ei
leoli mewn man sensitif a bod ceisiadau am dai wedi eu caniatáu yn y gorffennol
yng nghefn gwlad agored;
·
Cymdogion, Cyngor Cymuned Llanddeiniolen
a’r gymuned yn gefnogol i’r bwriad;
·
Bod tŷ 4 llofft ym Methel costio oddeutu £230,000 ac felly estyniad oedd yr
unig opsiwn;
·
Bod angen cefnogi pobl ifanc
er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymunedau;
·
Bod addasiad i’r cynllun
gwreiddiol o ran lleoliad ffenestr ar gefn yr estyniad arfaethedig oherwydd
pryderon goredrych;
·
Y gellir
sicrhau cynnal yr Iaith Gymraeg yn y pentref drwy ganiatáu’r cais;
·
Ei fod yn deall barn y
swyddogion ond bod angen bod yn hyblyg i anghenion lleol.
Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais yn groes i argymhelliad y swyddogion.
(ch) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Nad oedd y bwriad yn or-ddatblygiad;
·
Bod y dyluniad yn dderbyniol a byddai’r estyniad yn gweddu;
·
Cyfle i gefnogi’r Aelod Lleol a phobl ifanc
lleol drwy ganiatáu’r cais;
·
Cydnabod bod yr estyniad yn
fawr o gymharu â’r tŷ gwreiddiol
ond ni fyddai
estyniad llai yn diwallu anghenion
y teulu;
·
Bod dwysedd uchel o dai yn
yr ardal yn barod a ni
fyddai’r estyniad yn amharu;
·
Amgylchiadau arbennig i ganiatáu’r
cais gan y collir teulu o’r
ardal os gwrthodir y cais;
·
Bod polisïau yn erbyn pobl
leol;
·
Ni ddylid ystyried materion personol a byddai caniatáu’r estyniad yn gwneud gwerth
yr eiddo allan o gyrraedd unigolion yn y dyfodol.
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-
·
Nad oedd cyfiawnhad caniatáu’r
cais o ran pwy sydd yn byw yn yr eiddo;
·
Mai materion dyluniad pur oedd
o dan sylw;
·
Bod y polisïau yn gefnogol i
ddatblygiadau oedd yn cyrraedd y meini prawf gofynnol a bod angen i’r estyniad
barchu maint a graddfa'r eiddo presennol.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. 5 mlynedd
2. Yn unol gyda’r cynlluniau
3. Tynnu PD ffenestri ychwanegol
4. Llechi
5. Deunyddiau i’w cytuno
Dogfennau ategol: