Agenda item

Gosod system ynni ffotovoltaidd (pv) ar ddaear hyd at 4.42 mw ar 14.22 o dir amaethyddol a gwaith cysylltiol gan gynnwys dau adeilad is-orsaf a ffensys diogelwch a strwythurau trawsnewid.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Aled Ll. Evans

Cofnod:

Gosod system ynni ffotofoltaidd (pv) ar ddaear hyd at 4.42 MW ar 14.22 o dir amaethyddol a gwaith cysylltiol gan gynnwys dau adeilad is-orsaf a ffensys diogelwch a strwythurau trawsnewid.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle yng nghefn gwlad agored yn y dirwedd donnog sydd rhwng ucheldiroedd canol Llŷn â Bae Ceredigion gyda chloddiau a gwrychoedd o amgylch caeau'r safle a chaeau eraill yr ardal.

 

         Nodwyd yr ystyrir bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau C1, C27 a C28 o’r CDUG ac yn cyd-fynd gyda Pholisi Strategol 9 ar gyfer darparu ynni o ffynonellau adnewyddadwy.

 

         Amlygwyd gwrthwynebiad a dderbyniwyd oddi wrth berchennog ffermdy cyfagos yn bennaf ar sail yr effaith ar y tirlun a'r golygfeydd o'i eiddo. Wrth dderbyn ei fod yn bosibl bydd rhannau o'r safle yn weladwy o'r eiddo, oherwydd ffurf y tir, tyfiant presennol a phellter yr eiddo o'r safle, dros 360m, ni chredir bydd y datblygiad yn ormesol i breswylwyr y ffermdy ac na fyddai'r effaith ar y tirlun mor niweidiol i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

         Tynnwyd sylw at gynllun lleoli’r paneli solar a rannwyd gyda’r aelodau yn y cyfarfod ynghyd â sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod y Swyddog Coed wedi adnabod bod helygen lwyd hynafol yn tyfu ar y safle ac argymhellir gosod amod bod rhaid amddiffyn y goeden yn ystod y datblygiad.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod eu fferm deuluol gyfagos i safle’r cais a tra’n gefnogol i ddatblygiadau solar eu bod o’r farn y dylid eu gosod ar doeau adeiladau yn hytrach nac ar y tir;

·         Nad oedd y Cyngor Cymuned yn ymwybodol o’u pryderon;

·         Y dylai’r aelodau wedi ymweld â’r safle;

·         Bod cae rhif 2 wedi ei leoli ar fryn sydd yn edrych i lawr ar y fferm;

·         Nad oedd plannu coed yn ymateb priodol o ran sgrinio;

·         Eu pryder o ran graddfa a maint y datblygiad a fyddai’n gyfystyr â 15 cae pêl droed;

·         Byddai’r tir yn ddiwydiannol yn hytrach na amaethyddol os caniateir y cais;

·         Y byddai effaith ar fwynderau’r ffermdy oherwydd llacharedd yn ogystal â’r risg o gynyddu damweiniau.

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod yr adroddiad yn arfarniad helaeth o’r cais a chytunir efo’r casgliadau;

·         Na fyddai effaith gweledol sylweddol o ganlyniad i’r datblygiad;

·         Bod y tir lle bwriedir lleoli’r datblygiad yn dir amaethyddol dosbarth 4 a 5 felly ni chollir tir amaethyddol gwerthfawr;

·         Nad oedd y bwriad yn groes i unrhyw bolisi;

·         Y parchir barn y gwrthwynebydd ond bod y materion perthnasol wedi eu hystyried yn yr asesiad;

·         Y byddai rhai rhannau o’r datblygiad i’w weld o fannau eraill ond y gwnaed ymgais i ddethol y caeau byddai’n effeithio lleiaf a bwriedir cyfoethogi’r cysgod aeddfed o goed a gwrychoedd ar hyd ffin orllewinol y datblygiad;

·         Y derbyniwyd llythyr o gefnogaeth gan gynrychiolwyr Hafan y Môr ac os caniateir y cais fe gynhelir trafodaethau â’r cwmni yng nghyswllt bodloni eu hanghenion ynni gwyrdd.

 

         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad::

·         Bod y cais yn cyrraedd y gofynion a’i fod yn hynod bwysig cynnal diwydiant yng nghefn gwlad gan ddod i gyfaddawd o ran gwarchod y dirwedd a ffyniant economaidd;

·         Bod effaith gweledol yn orddrychol;

·         Bod ffordd yr ariannir datblygiadau ynni adnewyddol yn newid diwedd mis heblaw bod datblygiad wedi derbyn caniatâd cynllunio;

·         Er yn cydymdeimlo efo’r gwrthwynebydd yn gefnogol i’r bwriad gan fod safle’r cais wrth ymyl is orsaf drydan;

·         Bod darpar brynwr posib yn lleol i’r ynni a gynhyrchir;

·         Bod datblygiadau ynni adnewyddol yn bwysig o ystyried ein gorddibyniaeth ar olew a nwy;

·         Bod astudiaethau niferus rhyngwladol yn dangos nad oes effaith ar dwristiaeth.

 

(d)     Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad:

·         O ystyried bod safle’r cais wedi ei leoli wrth ymyl Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau, a fyddai’n bosib lleihau’r datblygiad?

·         Y nodir na welir y datblygiad llawer o’r briffordd ond nodwyd hyn yn ogystal wrth ystyried cais Parciau Farm, Griffiths Crossing, Caernarfon sydd yn weladwy o’r briffordd;

·         Ni fyddai’r datblygiad yn creu cyflogaeth leol;

·         Effaith ar y ffermdy cyfagos yn annerbyniol;

·         Ddim yn cydweld efo ynni gwyrdd a’r ffordd yr ariannir;

·         Y byddai effaith gweledol o ganlyniad i’r datblygiad;

·         Nad oedd asesiad ardrawiad effaith ynni o’r math hwn ar y dirwedd wedi ei wneud fel y gwnaed yng nghyd-destun tyrbinau gwynt ac felly bod peryg gosod cynsail i geisiadau’r dyfodol heb wybod yr effaith;

·         Amheuaeth o ran maint y datblygiad a’r effaith y gallai gael ar dwristiaeth.

 

(dd)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Rhoddwyd ystyriaeth i ddynodiadau bioamrywiaeth wrth asesu’r cais a bod yr hyn a welir yn dderbyniol gyda dim ond cipolwg o’r datblygiad i’w weld oherwydd y dirwedd donnog a’r coed;

·         Nad oedd Canllawiau Cynllunio Atodol wedi eu llunio ar gyfer ynni solar fel a greuwyd ar gyfer ynni gwynt ar y tir ond comisiynwyd cwmni Gillespies yn ddiweddar i asesu sensitifrwydd a chapasiti'r dirwedd i ymdopi gyda mathau penodol o ddatblygiadau;

·         Bod tystiolaeth gadarn o’r capasiti ar gyfer datblygiadau o’r fath a’r CDUG yn cefnogi datblygiadau solar sydd yn llai na 5 MW;

·         O ran ceisiadau o’r fath yn y dyfodol, bod angen dod i benderfyniad ar y cais hwn drwy ystyried y tystiolaeth presennol a byddai ystyriaethau o ran effaith gronnus datblygiadau o’r math yma i’w wneud efallai pan ddaw ceisiadau eraill gerbron;

·         Bod ymgais i liniaru’r effaith weledol. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.     5 mlynedd

2.     Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau

3.     Rhaid lleoli’r paneli yn y lleoliadau a ddangosir ar y cynlluniau neu fel y cytunwyd mewn ysgrifen gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.     Cytuno deunyddiau/lliwiau'r fframiau a’r gorchudd di-llacharedd.

5.     Cytuno ar ddeunyddiau/lliwiau'r ffens a’r polion camerâu

6.     Cytuno a chwblhau cynllun tirlunio a chynllun rheolaeth tirlunio

7.     Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Dŵr Wyneb a Chynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol.

8.     Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Bioamrywiaeth ac Asesiad Risg Bioddiogelwch.

9.     Cytuno a gweithredu cynllun rheoli llif traffig gwaith

10.   Cytuno a gweithredu Rhaglen Waith Archeolegol

11.   Dylid gosod unrhyw geblau trydan o’r datblygiad i’r cysylltiad trydanol o dan ddaear, a’i gytuno yn gyntaf gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

12.   O fewn 25 mlynedd i gwblhau'r datblygiad neu o fewn 12 mis i'r paneli solar a ganiateir drwy hyn beidio cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan, rhaid eu tynnu’n barhaol oddi ar y tir ac adfer y safle yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol.

13.   Amodau safonol Dŵr Cymru

14.   Cytuno deunyddiau allanol yr holl adeiladau.

15.   Amodau Priffyrdd.

16.   Rhaid gyrru manylion system goleuo'r safle, gan gynnwys math, union leoliad, lefel goleuedd a'r modd o ddiogelu rhag llygredd neu orlif golau i'r Awdurdod Cynllunio Lleol am gymeradwyaeth ysgrifenedig ac i fod yn gwbl weithredol cyn fo'r datblygiad a ganiateir trwy hyn yn cael ei gwblhau a'r safle yn dod yn weithredol.

17.  Gwarchod coeden helygen lwyd hynafol sydd ar y safle

Dogfennau ategol: