Agenda item

Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL).

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Aled Ll. Evans

Cofnod:

Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL).

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Medi 2015 er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Nodwyd yr ystyrir y byddai estyniad pellach i’r modurdy yn creu adeilad a fyddai o raddfa a dyluniad estron i’r lleoliad o safbwynt adeilad atodol o’r fath ac fe fyddai’n or-ddatblygiad anghydnaws o’r safle.

 

Tynnwyd sylw bod lleoliad y cais oddi mewn Ardal Gadwraeth Llangybi a ni ystyrir y byddai graddfa, maint na ffurf yr estyniad yn gyson gydag adeiladau na phatrwm yr ardal gadwraeth.

 

         Nodwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau B4, B22 a B24 o’r CDUG.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn gwerthfawrogi’r ymweliad safle;

·         Bod disgrifio'r datblygiad fel ‘gor-ddatblygiad estron’ yn mynd braidd dros ben llestri;

·         Bod arwynebedd y tŷ yn ddigonol i dderbyn maint yr estyniad i’r modurdy;

·         Nad oedd gwrthwynebiad wedi dod i law gan gymdogion;

·         Y cwrtil eisoes wedi ei ymestyn;

·         Pwrpas yr adeilad yw darparu mwy o le i’r ymgeisydd gadw offer a hen beiriannau;

·         Na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar yr ardal gadwraeth;

·         Gobeithio y caniateir y cais.

 

          Cynigwyd a eiliwyd i wrthod y cais.

 

(c)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Nad oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r bwriad ac mai mater o farn ydoedd o ran ei faint;

·         Nad oedd arwydd i ddynodi’r llwybr a oedd yn rhedeg heibio’r safle fel llwybr cyhoeddus ac os caniateir dylid sicrhau bod arwydd o’r fath yno;

·         Bod y llwybr cyhoeddus ddim yn hygyrch i bobl anabl yn bresennol a byddai’r estyniad arfaethedig yn nes at y llwybr;

·         Bod yr ymgeisydd angen adeilad o’r maint yma ar gyfer adfer hen gelfi a oedd yn holl bwysig er parhau a gwarchod traddodiad;

·         Pryder o ran maint yr adeilad wedi cwblhau’r estyniad arfaethedig;

·         Bod estyniad mawr wedi ei ganiatáu yn barod a byddai’r estyniad arfaethedig yn or-ddatblygiad.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Bod ceisiadau cynllunio blaenorol wedi eu cefnogi a gwelir ymgais dameidiog i greu estyniad sydd yn cynyddu;

·         Bod yr estyniad a ganiatawyd o dan gais C13/0162/41/LL yn golygu y byddai cyfanswm arwynebedd llawr y modurdy yn 62m2 a thybir y byddai’n ddigonol ar gyfer y defnydd sydd yn is-wasanaethol i ddefnydd yr eiddo;

·         Na fyddai’r estyniad arfaethedig yn cyd-fynd â’r ardal gadwraeth gan y byddai’n hynod weledol;

·         Bod angen i estyniadau fod yn gymesur â’r adeilad gwreiddiol ag yn parchu’r lleoliad;

·         Bod arwyddion i ddynodi’r llwybr cyhoeddus wedi bod yn bresennol yn y gorffennol a chynhelir trafodaethau efo’r Uned Hawliau Tramwy o ran os byddai’r datblygiad yn amharu ar y llwybr.

 

(d)     Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais ond fe syrthiodd y cynnig. 

 

          Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd bod yr effaith weledol yn dderbyniol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.      5 mlynedd

2.      Unol â’r cynlluniau

3.      Llechi

4.      Deunyddiau i gyd-weddu

5.      Dim defnydd busnes o’r adeilad yn ei gyfanrwydd

6.      Cadw’r llwybr cyhoeddus yn glir

 

Dogfennau ategol: