Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Michael Sol Owen yn Gadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio am y flwyddyn 2015/16.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio am y flwyddyn 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Cynghorwyr Craig ab Iago, Dyfrig Wynn Jones, W Tudor Owen, John Pughe Roberts, Eric Merfyn Jones (Eilydd) a Gethin Glyn Williams (Aelod Lleol).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Owain Williams fuddiant personol yn Eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C14/1107/34/LL oherwydd ei fod yn berchen darn o dir gerllaw Fferm Graianog, Llanllyfni, lle mae gan yr ymgeisydd safle carafanau arall a’i fod hefyd yn berchennog safle carafanau ei hun.

 

Roedd yr Aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir.

 

(b)       Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd John Wyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C14/1111/25/LL)

·        Y Cynghorydd June E. Marshall (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C14/1234/11/LL)

·        Y Cynghorydd John B. Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0158/39/AM)

·        Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0164/44/LL)

·        Y Cynghorydd Gweno Glyn (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0201/32/RC)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

(c)        Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant personol yn Eitem 7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C14/1012/14/LL) oherwydd cysylltiad personol agos gyda’r gwrthwynebydd ac fe adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais hwn.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 305 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2015, fel rhai cywir.

 

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm).

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

 

8.

Cais Rhif C14/0240/15/MG - Tir ger Ffordd Ty Du Road, Llanberis, Caernarfon pdf eicon PDF 512 KB

Cais Materion a gadwyd yn ô lar gyfer codi 11 annedd preswyl fel ganiatwyd o dan gyfeirnod C11/1103/15/AM.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Trevor Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 11 annedd preswyl fel a ganiatawyd o dan gyfeirnod C11/1103/15/AM.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl i gynnwys maint, ymddangosiad a thirlunio. Bwriedir codi 11 deulawr gyda mynediad a ffordd gerbydol oddi ar y ffordd gyhoeddus gyfagos gyda’r tai yn amrywio mewn maint i gynnwys cymysgedd o dai 4 a 3 ystafell wely.  

 

Cyfeiriwyd at y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol.  Tynnwyd sylw at yr ymgynghoriadau cyhoeddus a oedd yn cynnwys gwrthwynebiadau gan drigolion lleol ond yn dilyn rhoi ystyriaeth lawn i’r pryderon ni chredir y byddai dyluniad a gosodiad y tai yn debygol o amharu ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal i raddfa annerbyniol.  Nodwyd ymhellach bod y safle wedi gordyfu a thrwy ddatblygu’r safle y byddir yn gwaredu rhywogaethau ymwthiol mewn ffordd ddiogel.  

 

Ystyrir bod materion trafnidiaeth yn dderbyniol ynghyd ag asesiadau ffurfiol bioamrywiaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod y safle yn wlyb oherwydd y diffyg cynnal a chadw dyfrffos  yn y gorffennol.  Cyflwynwyd pryderon ynglŷn ag effaith llifogydd yn enwedig ar dai cyfagos ac ar diroedd yn is i lawr o’r safle ond er hyn, ni wrthwynebwyd y cais gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru nag ychwaith Uned Draenio Tir y Cyngor a bod amodau priodol wedi eu cynnig er mwyn gwarchod y sefyllfa.  Yn sgil y pryderon a gyflwynwyd, gofynnwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â strategaeth gwaredu dŵr wyneb tu fewn ac i ffwrdd o’r safle a chyflwynwyd y wybodaeth yn ddiweddarach gan yr ymgeisydd a oedd yn dderbyniol. 

 

Tynnwyd sylw at sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Uned Draenio Tir y Cyngor ar y ffurflen sylwadau hwyr a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor sydd yn gefnogol i’r bwriad arfaethedig yn ddarostyngedig i amodau priodol. Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau yn ymwneud â draenio’r safle, a chario allan gwaith yn unol ag argymhellion yn yr adroddiad coed a Bioamrywiaeth.  

 

(b)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)    Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â diffyg cyfeiriad i dai fforddiadwy, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai cais yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl oedd gerbron a bod yr egwyddor o sefydlu’r 11 wedi ei ganiatáu yn 2012 a’r rheswm pennaf dros beidio neilltuo canran o’r tai yn rhai fforddiadwy ydoedd hyfywdra’r datblygiad o ystyried natur y tir a materion draenio fyddai’n gostu                

 (ch)  Ychwanegodd Aelod bod prinder tai a thir yn Llanberis ar gyfer adeiladu a’i bod yn ymwybodol bod yr Aelod Lleol yn gefnogol i’r cais.

 

Penderfynwyd:            Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb ffafriol gan yr Uned Draenio Tir ynglyn a threfniadau gwarchod y dyfrffos ar y safle  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C14/1012/14/LL - Welcome Furniture, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon pdf eicon PDF 559 KB

Gosod uned llosgi biomas newydd oddi fewn i gysgodfan presennol, codi simdde newydd ynghyd â chreu estyniad i gadw peiriant rhwygo.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd W. Tudor Owen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i osod uned llosgi biomas newydd oddi fewn i gysgodfan presennol, codi simdde newydd ynghyd â chreu estyniad i gadw peiriant rhwygo.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod tair elfen i’r datblygiad sef gosod uned biomas newydd yn lle’r uned bresennol, gosod simdde newydd uwchben yr uned biomas a chreu estyniad bach yng nghefn yr eiddo ar gyfer peiriant rhwygo.  Ystyriwyd nifer o agweddau wrth asesu’r cais yng nghyd-destun mentrau presennol a chredir bod yr egwyddor yn dderbyniol. Ni chredir y byddai’r datblygiad yn achosi difrod arwyddocaol i’r ardal o amgylch y safle er gwaethaf derbyn gwrthwynebiadau sy’n cyfeirio at broblemau presennol sy’n achosi pryder i drigolion lleol ar sail aflonyddwch sŵn a llygredd.  Pwysleisiwyd bod yr egwyddor o sefydlu’r safle wedi ei ganiatau ers 2002 a bod y cynnig diweddaraf wedi ei leoli oddi fewn i gwrtil safle diwydiannol.  Credir ymhellach na fyddai graddfa’r bwriad yn amharu’n arwyddocaol ar yr amgylchedd o ystyried lleoliad y gwaith union gyferbyn â’r adeiladwaith presennol.    Cyfeiriwyd hefyd bod yr amcanion uchod wedi eu hadlewyrchu yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru.

 

O safbwynt mwynderau gweledol, er bod rhan fwyaf o’r offer wedi eu lleoli o dan gribau’r toeau’r uned bod un simdde/echdynnydd eisoes wedi ei leoli oddeutu 2m uwchben un crib. Nodwyd bod lleoliad yr offer a’r strwythurau cysylltiol wedi eu rheoli a’u siapio gan ofynion statudol cyrff rheoleiddio ac nid yw’n bosib eu gorchuddio gydag arwisg.  Nid yw’n hawdd ceisio cymhathu strwythurau diwydiannol o’r fath i’r amgylchedd oherwydd natur yr adeiladau eu hunain.  Er hyn, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ceisio lleihau  effaith gweledol y strwythurau ychwanegol er mwyn i’r estyniad arfaethedig gydweddu i’r estyniad presennol.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais hwn yn ymwneud â sŵn ac aflonyddwch a phryder bod y biomas presennol yn rhedeg 24 awr am 7 diwrnod yr wythnos sydd yn groes i’r amodau cynllunio ar y ceisiadau blaenorol sydd yn cyfyngu ar bryd y gellir defnyddio’r offer ynghyd ag isafswm lefelau sŵn.  Yn amlwg o dderbyn y gwrthwynebiadau bod tor-amod wedi digwydd.  Nodwyd bod Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ynghyd â’r Uned Gorfodaeth yn ymwybodol o’r sefyllfa ond gan fod y cais cyfredol wedi ei gyflwyno byddir yn atal cymryd camau gorfodaeth ar hyn o bryd.  Pe byddir yn caniatáu’r cais, gwelir bod cyfle i ymgymryd â mesuriadau lliniaru er mwyn sicrhau bod yr offer newydd yn cydymffurfio â gofynion lefelau swn statudol gan obeithio na fydd ardrawiad sylweddol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos. Gellir gosod amodau cynllunio ar gyfer oriau gweithio’r offer ynghyd â gosod lefelau uchafswm swn a fydd yn deillio o’r uned biomas a’r peiriant rhwygo.  Pe bai sefyllfa yn codi yn y dyfodol ynglyn â thor-amod, gellir ymgymryd â mesurau gorfodaeth priodol bryd hynny.

 

Yn ogystal, derbyniwyd gwrthwynebiadau ynglyn a gollyngiadau llygryddion i’r awyr a chadarnhawyd bod yr Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi ymgymryd ag asesiadau ac wedi dod i gasgliad nad oes perygl i’r boblogaeth leol ar sail dirywiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C14/1107/34/LL - Touring Caravan and Camping Site, Cae Clyd, Clynnog Road, Pontllyfni, Caernarfon, LL54 5EE pdf eicon PDF 411 KB

Amrywio Amod Rhif 3 o ganiatad cynllunio C11/0836/34/LL i ganiatau 15 carafan symudol a 15 uned symudol cymysg yn lle 15 carafan symudol a 30 pabell.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Owain Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i amrywio amod Rhif 3 o ganiatâd cynllunio C11/0863/34/LL i ganiatau 15 carafán symudol a 15 uned symudol gymysg yn lle 15 carafán symudol a 30 pabell.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn cynnwys trefniant mewnol newydd ar gyfer yr unedau sy’n defnyddio’r safle ynghyd â gwaith tirlunio a phlannu coed er mwyn gwella’r sgrinio o’r tu allan a chodi ansawdd yr amgylchedd mewnol.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol a’r sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan y Cyngor Cymuned ac Uned Polisi’r Cyngor.

 

Ystyrir bod y cais i amnewid 30 pabell am 15 o unedau gwyliau cymysg yn dderbyniol ac argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatáu yn unol â’r amodau amlinellwyd yn yr adroddiad ynghyd â dau amod ychwanegol sef cyfyngu’r defnydd i wyliau teithiol yn unig ac i’r perchennog gadw cofrestr.

 

(b)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais.

 

(c)       Mewn ymateb i bryder gan Aelod ynglyn â sicrwydd nad yw’r carafanau yn cael eu gadael ar y safle, nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y ddau amod a grybwyllwyd uchod yn cyfarch hyn.  

 

Penderfynwyd:             Caniatau’r cais yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.    5 mlynedd

2.    Gwaith yn unol â’r cynlluniau

3.    Amodau Tirlunio

4.    Cyfyngiad niferoedd – 15 carafan symudol a 15 uned symudol gymysg yn unig

5.    Cyfyngiad tymor  1 Mawrth hyd 31 Hydref

6.    Cyfyngu’r defnydd i wyliau teithiol yn unig

7.    Perchennog i gadw cofrestr

11.

Cais Rhif C14/1111/25/LL - Coed Fodol, Y Felinheli, Gwynedd. pdf eicon PDF 613 KB

Darparu safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys 8 llecyn caled gyda unedau parhaol, creu mynedfa a trac gerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd â gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu.  

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd John Wyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i ddarparu safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys 8 llecyn caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd â gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu.

 

(a)       Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais uchod wedi ei ohirio ac y bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio oherwydd cyfarwyddyd a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â safleoedd preifat i sipsiwn. 

 

 

Penderfynwyd:             Gohirio ystyried y cais.

 

12.

Cais Rhif C14/1234/11/LL - Maes Glas, Canolfan Brailsford, Ffriddoedd Road, Bangor, Gwynedd. pdf eicon PDF 694 KB

Cadw llawr caled a lloches beics arfaethedig.  

 

Aelodau Lleol:  Cynghorwyr Mair E. Rowlands a June Marshall

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i gadw llawr caled a lloches beics arfaethedig.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais gerbron yn rhannol ôl-weithredol gyda’r bwriad i gadw llain galed o wastraff llechi ac i osod wyth bolard ar hyd ochr ogledd dwyreiniol yr ardal ynghyd â lloches beics sy’n ffurfio rhan o gampws Prifysgol Bangor. 

 

Nodwyd bod yr ardal wedi ei ddefnyddio yn ddiweddar  fel maes parcio anffurfiol yn achlysurol.

 

Cymeradwywyd cais cynllunio blaenorol i wella’r ganolfan ac yn ystod y cyfnod adeiladu, sefydlwyd llain galed ar lecyn o dir gwyrdd er mwyn lleoli cynwysyddion.  Ar ôl y gwaith cafodd y cynwysyddion eu symud i ffwrdd ond erys y llain galed sy’n destun y cais hwn ynghyd â’r lloches beics arfaethedig.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau strategol perthnasol ac ystyrir bod y cais yn dderbyniol ar sail egwyddor.

 

O ran mwynderau gweledol, ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol ac nad yw’n cael effaith andwyol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y drefwedd gyfagos na’r amgylchedd hanesyddol. 

 

Nodwyd y codwyd pryderon gan breswylwyr cyfagos y byddai’r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio cerbydau.  Derbyniwyd llythyr gan y brifysgol yn datgan nad oes unrhyw fwriad i ddefnyddio’r llain galed fel maes parcio ac y bydd bolardiau’n cael eu codi i rwystro mynediad ar gyfer y pwrpas hwn.  Fodd bynnag, nododd y Brifysgol bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfergweithgareddauawyr agored, sef digwyddiadau gan fyfyrwyr ar ddiwrnodau agored.  Er mwyn datrys pryderon y trigolion, ystyrir y dylid atodi amodau ar unrhyw ganiatâd yn rhwystro’r llain galed rhag cael ei ddefnyddio fel ardal parcio cerbydau neu ar gyfer cynnal digwyddiad, achlysur neu weithgaredd gan y Brifysgol.  Petai’r fath amodau’n cael eu gosod, byddent yn goresgyn unrhyw wrthwynebiad cynllunio i’r cais ac o ganlyniad byddai’r datblygiad yn dderbyniol a byddai’n cydymffurfio â’r polisi perthnasol.  Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau amlinellir yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd  ar ran preswylydd rhif 26 Ffordd Ffriddoedd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod y tir yn flaenorol heb ei ddatblygu ac asiant y Brifysgol yn camgymryd wrth gyfeirio ato mewn termau polisi fel tir a ddatblygwyd o'r blaen

·         Rhagdybiaeth y polisi yw ei fod yn cael ei ddychwelyd i'w statws fel tir heb

ei ddatblygu a bod amheuaeth bod y Brifysgol yn ennill caniatâd ar gyfer datblygiadau drwy ymgripio ychydig ar y tro 

·         Yn nhermau polisi'r prif gyfiawnhad a gyflwynwyd yw parcio beiciau a chredir bod asiant y Brifysgol wedi awgrymu parcio beiciau am yr union bwrpas a heb fod cyfiawnhad nid oes cefnogaeth polisi ar gyfer y cais hwn

·         Bod yr ardal ar gyfer y beiciau yn fychan o’i gymharu â’r llecyn llechi a’i fod ger y neuadd chwaraeon ac y gellid ei ddarparu heb lain galed neu lecyn llechi

·         Bod digon o fannau cadw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C15/0051/00/LL - Lleiniau 31-32 Ffordd Pentre Mynach, Abermaw, Gwynedd. pdf eicon PDF 518 KB

Amrywio Amod Rhif 8 ar ganiatad cynllunio cyfeirnod C09M/0060/00/LL at gwblhau’r ffordd stad ynghyd â goleuo. 

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gethin Glyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i amrywio amod Rhif 8 ar ganiatad cynllunio cyfeirnod C09M/0060/00/LL sydd yn cyfeirio at gwblhau’r ffordd stad ynghyd â goleuo.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y rhoddwyd amod yn wreiddiol ar ganiatâd yn 2011 i godi tri annedd preswyl ar wahân ar leiniau oedd yn ffurfio rhan o stad o dai annedd er mwyn gwarchod buddiannau’r briffordd.  Gofynnir y cais gerbron am ddileu’r angen i ddarparu golau stryd drwy ddiwygio’r rhan hwn o’r amod.  Ymwelwyd â’r safle gan swyddogion a gweld bod y gerbydlon a’r palmentydd wedi eu hwynebu’n derfynol gyda tharmac.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â’r ffurflen sylwadau hwyr a gyflwynwyd i’r Aelodau.

 

O ystyried bod y ffordd stad wedi ei chwblhau credir mai’r brif ystyriaeth cynllunio wrth ddelio â’r cais gerbron yw effaith dileu darparu golau stryd ar ddiogelwch ffyrdd a mwynderau’r gymdogaeth leol.  Yn ystod ymchwilio’r cais, derbyniwyd cadarnhad gan asiant yr ymgeisydd nad oedd y tir a oedd yn destun yr amod ym mherchnogaeth yr ymgeisydd a ddim yn gallu derbyn caniatâd y cwmni a oedd yn berchen ar y tir i ddarparu golau stryd ar safle.  Trafodwyd y mater hwn gan y swyddogion cynllunio a swyddogion yr Uned Trafnidiaeth a’r datblygwr gan benderfynu cyflwyno cais i ddiwygio amod.

 

Nodwyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth yn ystyried bod angen darparu golau stryd er mwyn cymhwyso trafnidiaeth o’r datblygiad yn ddiogel ac effeithlon gan na fyddai cynnwys darpariaeth o’r fath yn amau ar ddiogelwch ffyrdd. Cadarnhawyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth yn gwrthwynebu’r cais.

 

Yn ogystal roedd amheuaeth os gellid gorfodi’r amod o gwbl oherwydd nad oedd y tir yn ffurfio rhan o’r stad ac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.

 

O safbwynt ymateb i bryderon sydd wedi eu codi am effaith peidio darparu golau stryd ar ddiogelwch defnyddwyr y ffordd a chynnydd mewn achosion o dor cyfraith yn sgil peidio darparu golau stryd, ni ystyrir bod sail wirioneddol i bryderu oherwydd bod nifer o dai preswyl yn gor edrych y fordd sydd yn golygu fod gwyliadwriaeth naturiol yn bodoli gyda’r stad yn weddol agored ei natur.

 

Tra’n derbyn bod pryderon wedi eu lleisio, ni ystyrir bod y gwrthwynebiadau yn gorbwyso’r ffaith bod y ffordd stad yn ei ffurf orffenedig yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ffyrdd ac na fyddai diffyg darpariaeth golau stryd yn amharu ar fwynderau’r gymdogaeth leol.  Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatau’r cais yn ddiamod.  

 

(b)       Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

(c)       Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad:

 

·         Byddai ei ganiatau yn gosod cynsail i’r dyfodol

·         Pryder o ystyried nifer y tai ar y stad ynglyn â diogelwch plant ar y stad yn enwedig ar nosweithiau yn ystod y gaeaf

·         Nad oedd y Cyngor wedi gwneud ymgais i orfodi’r amod

·         Gofynnwyd beth yw ‘r nifer o dai ar stadau lle mae angen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif C15/0158/39/AM - Tir ger Minffordd, Lon Engan, Llanengan, Pwllheli, Gwynedd. pdf eicon PDF 528 KB

Adeiladu tŷ annedd tair ystafell wely a modurdy.  

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd John B. Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol i adeiladu annedd tair ystafell wely a modurdy.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron ar gyfer codi deulawr sy’n cynnwys modurdy cysylltiol.  Er bod y materion wedi eu cadw yn ôl cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer rhoi syniad o’r math o y bwriedir ei leoli ar y safle.

 

Derbyniwyd ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeiladu’r ar y safle dan sylw a rhoddwyd neges glir a phendant bod y safle yn gorwedd bryn bellter y tu allan i’r ffin datblygu ac na fyddai modd cefnogi’r cais.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol ynghyd â’r sylwadau i’r ymgynghoriadau cyhoeddus.

 

Ystyrir na fyddai’r bwriad yn dderbyniol gyda’r dyluniad yn rhy fawr a swmpus i’r lleoliad dan sylw.  Byddai’n debygol o arwain at or-edrych ac yn groes i bolisïau perthnasol.  Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y rhesymau amlinellir yn yr adroddiad gerbron.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod ef a’i ddarpar briod yn bobl leol i’r ardal, yn rhentu ar y funud ac nad oedd llawer o siawns i brynu tai o gwmpas yr ardal oherwydd eu bod allan o’u cyrraedd yn ariannol

·         Eu bod fel cwpl yn gweithio’n lleol ac yn awyddus i fyw o gwmpas y pentref ac ar ôl priodi yn dymuno magu teulu yn yr ardal

·         Ei fod yn rhentu ers oddeutu 6 mlynedd a’u bod wedi cael cynnig prynu’r tir dan sylw ac yn gyfle gwych i fedru adeiladu eu hunain 

 

(c)       Cefnogwyd y cais gan yr Aelod Lleol (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ac fe wnaed y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Rhestrwyd nifer o dai sydd wedi eu datblygu o gwmpas y tir dan sylw ac ni chredir ei fod wedi ei leoli mewn cefn gwlad

·         Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan y cyrff statudol i’r datblygiad arfaethedig heblaw ynglyn â deunyddiau a fwriedir ei ddefnyddio ond rhaid ysytried bod y dyluniad yn un modern

·         Mai dim ond dau le sydd i’w ddatblygu yn Llanengan

·         Derbyniwyd un gwrthwynebiad gan berchennog eiddo Minffordd ynglyn ag uchder y modurdy a phe byddai’r ymgeisydd yn ei leihau byddai’r gwrthwynebydd yn hapus

·         Bod digon o le parcio

·         Nad oedd modd i’r cwpl brynu a’u bod yn gweithio’n lleol ac yn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw yn yr ardal

·         Bod Llanengan yn bentref bywiog a chredir bod y datblygiad arfaethedig yn cyfarch anghenion y cwpl ac y dylid eu cefnogi  

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac yn gwbl groes i bolisiau cynllunio ac nad oedd cyfiawnhad i’w ganiatau.  Atgoffwyd yr Aelodau mai polisiau’r Cyngor oedd yn rhwystro’r math yma o ddatblygiad o ran  egwyddor..  Awgrymwyd ymhellach y gallasai’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Cais Rhif C15/0164/44/LL - 23 Ralph Street, Borth-y-Gest, Porthmadog. pdf eicon PDF 487 KB

Estyniad i adeilad allanol presennol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer estyniad i adeilad allanol presennol.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais i ymestyn dau adeilad gardd to fflat presennol sydd wedi’u gosod mewn siâp L i greu un adeilad to brig ym mhendraw gardd teras.  Eglurwyd na fyddai hyd na lled yr adeilad ddim mwy na’r ddwy ochr i’r “L” presennol (5.6m x 6.2m) ac ni fyddai’r to ddim uwch na tho adeilad gardd y ty drws nesaf.  Nodwyd oherwydd natur yr ardal a’r lefelu tir mai’n anorfod fod peth gor-edrych yn bodoli rhwng y tai a’r gerddi.

 

O safbwynt pryderon amlygwyd gan berchennog y ty drws nesaf i’r gogledd (Rhif 25) ynglyn a gor-edrych, ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol i’r fath raddau ei fod yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl / preifatrwydd tai cyfagos.  Gan i’r datblygiad redeg ar hyd rhan o ffin gardd rhif 25 drws nesaf, derbynnir yr achosir peth cysgodi i ben gardd yr eiddo hwn ond ni ystyrir y byddai niwed arwyddocaol i fwynderau gweledol ty na gardd rhif 25 nac unrhyw dy arall ychwaith.

 

Datganwyd pryder ynghylch effaith y ffenestri to yn llethr cefn to’r adeilad a’r posibilrwydd o or-edrych neu lygredd olau, ac fe nodwyd bod modd rhoi amod priodol ynghylch ffenestr to afloyw i oresgyn y pryder.

 

Yn dilyn ystyried yr holl ystyriaethau perthnasol, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig i amodau amlinellir yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod gwendid gyda’r cynllun yn yr ystyr nad yw'n rhoi proffil cywir o'r tir

·         Bod y tir yn disgyn yn sydyn i'r chwith o'r adeilad ac os yw'n ymestyn 3m oddi wrth y wal byddai'n effeithio ar yr ardd gyfagos

·         Nid yw'n ddefnyddiol bod lefel y llawr ar yr un uchder ag ystafelloedd gwely Rhif  25

·         Ni chytunir â phwynt 5.6 o’r adroddiad sy’n nodi bod goredrych yn bodoli eisoes - nid yw hyn yn gywir

·         Bod gardd rhif 23 yn is na rhif 25

·         Bod gan Rif 25 patio sy'n mesur 1.25m islaw lefel yr adeilad arfaethedig felly bod rhywfaint o breifatrwydd yn cael ei ddileu oherwydd bod yr adeilad yno

·         Yn ogystal bod hyn yn gwaethygu’r broblem o gysgodi - mae dau fan lle gellir  eistedd y tu allan yn  rhif 25 a pe byddir yn caniatáu adeilad i fod 3.6m o uchder ac ymestyn 3m o’i flaen golygai y bydd hyn yn creu i’r lle fod yn dywyll

·         Bod patio rhif 25 yn is na'r lefel ac felly yn cael ei effeithio yn sylweddol

·         Bod y to yn rhy uchel, o’i  gymharu â rhif 21 a bod gweddill y stryd gyfan yn is ac nid oes yr un yn ymestyn i'r prif dŷ fel sy'n digwydd gyda'r cais hwn

·         Cyfeiriwyd at Bolisi B22  a thynnu sylw bod gan y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cais Rhif C15/0201/32/RC - Stad Congl Meinciau, Botwnnog, Pwllheli. pdf eicon PDF 489 KB

Diddymu Cytundeb 106 Tai Fforddiadwy.  

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gweno Glyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i ddiddymu Cytundeb 106 Tai Fforddiadwy.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn ymwneud â thynnu Cytundeb 106 er mwyn i Grŵp Cynefin fedru benthyca arian ar gyfer cyllido datblygiadau tai cymdeithasol / fforddiadwy newydd.  Tynnwyd i sylw nad oedd yn fwriad gwerthu’r tai arstad Congl Meinciau a phwysleisir y byddai polisiau gosod lleol Grŵp Cynefin yn parhau i fod mewn grym i reoli’r denantiaeth y stad i’r dyfodol i rai mewn angen cymunedol am dai fforddiadwy.

 

Noda’r ddeddfwriaeth berthnasol bod angen i awdurdod sy’n derbyn cais i newid neu ddiddymu ymrwymiad cynllunio ystyried os yw’r ymrwymiad yn cyflawni pwrpas defnyddiol yn nhermau cynllunio. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn dweud bod y rhaid i’r pwrpas defnyddiol fod yr un peth â’r gwreiddiol. Bydd yn bwysig felly ystyried os yw’r amgylchiadau cynllunio wedi newid ers y caniatâd gwreiddiol.      

 

Nodwyd ymhellach nad yw cefndir polisi cynllunio lleol wedi newid ers i’r cais gael ei ganiatáu yn 2009 ac mae Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn parhau i fod yn weithredol. Mae maint y tai yn disgyn o dan ganllawiau maint a nodir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy (Tachwedd, 2009) ac i bob pwrpas mae eu maint yn rheoli eu fforddiadwyedd i’r dyfodol. Cyfyngir ar eu maint i’r dyfodol trwy amod cynllunio, sydd  wedi ei osod i dynnu rhai nodweddion o hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir yn ôl. 

 

Caniatawyd sawl cais gan y Pwyllgor Cynllunio yn ddiweddar ar gyfer tai newydd i gymdeithasau tai mewn sawl man yng Ngwynedd megis dau gais ym Maesgeirchen, Bangor, Lon Abererch, Pwllheli, Pendre Gardens, Tywyn a'r Wern yn y Felinheli. Mae’n bwysig nodi na ofynnwyd am Gytundebau 106 Fforddiadwy ar y rhain oherwydd ystyriwyd bod rheoliadau statudol y cymdeithasau tai a’u  polisïau gosod yn ddigonol i reoli tenantiaeth/ preswyliaeth i rai mewn angen lleol/ cymunedol fforddiadwy (fel y buasai’r Cytundebau 106 hefyd wedi ei wneud).

 

Yn yr achos hwn nodwyd bod Grŵp Cynefin yn paratoi tai cymdeithasol ar rent i drigolion lleol dan ei gyfrifoldeb statudol ac fe adlewyrchir hyn yn eu Polisi Gosod. Ni fydd y polisi gosod yng Nghongl Meinciau yn newid yn sgil tynnu’r cytundeb, a bydd y gymdeithas dai yn parhau i asesu tenantiaid ar sail eu hanghenion, sef eu bod gyda chysylltiad â’r gymuned leol ers deng mlynedd ac yn erbyn eu system bwyntiau. O ystyried bod polisi gosod mewn grym, gellir dadlau felly bod y cytundeb 106 fforddiadwy yn ddianghenraid gan fod trefniadau priodol a boddhaol ar gael i gyfyngu meddiannaeth, yn unol â maen prawf 4 polisi CH7 CDUG.

 

Ar sail yr wybodaeth sydd wedi dod i law, gan gynnwys Polisi Gosod Lleol Grŵp Cynefin a’r eglurhad a gyflwynwyd ganddynt, ynghyd a hanes cynllunio a’r ffaith na roddir cytundebau 106 ar geisiadau tai cymdeithasol newydd, ni ystyrir bod gan yr ymrwymiad sy’n destun i’r cais hwn unrhyw ddiben cynllunio defnyddiol yn ymwneud a pholisïau cyfredol mwyach ac mae modd cyflawni hyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16.