Agenda item

Cadw llawr caled a lloches beics arfaethedig.  

 

Aelodau Lleol:  Cynghorwyr Mair E. Rowlands a June Marshall

Cofnod:

Cais llawn i gadw llawr caled a lloches beics arfaethedig.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais gerbron yn rhannol ôl-weithredol gyda’r bwriad i gadw llain galed o wastraff llechi ac i osod wyth bolard ar hyd ochr ogledd dwyreiniol yr ardal ynghyd â lloches beics sy’n ffurfio rhan o gampws Prifysgol Bangor. 

 

Nodwyd bod yr ardal wedi ei ddefnyddio yn ddiweddar  fel maes parcio anffurfiol yn achlysurol.

 

Cymeradwywyd cais cynllunio blaenorol i wella’r ganolfan ac yn ystod y cyfnod adeiladu, sefydlwyd llain galed ar lecyn o dir gwyrdd er mwyn lleoli cynwysyddion.  Ar ôl y gwaith cafodd y cynwysyddion eu symud i ffwrdd ond erys y llain galed sy’n destun y cais hwn ynghyd â’r lloches beics arfaethedig.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau strategol perthnasol ac ystyrir bod y cais yn dderbyniol ar sail egwyddor.

 

O ran mwynderau gweledol, ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol ac nad yw’n cael effaith andwyol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y drefwedd gyfagos na’r amgylchedd hanesyddol. 

 

Nodwyd y codwyd pryderon gan breswylwyr cyfagos y byddai’r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio cerbydau.  Derbyniwyd llythyr gan y brifysgol yn datgan nad oes unrhyw fwriad i ddefnyddio’r llain galed fel maes parcio ac y bydd bolardiau’n cael eu codi i rwystro mynediad ar gyfer y pwrpas hwn.  Fodd bynnag, nododd y Brifysgol bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfergweithgareddauawyr agored, sef digwyddiadau gan fyfyrwyr ar ddiwrnodau agored.  Er mwyn datrys pryderon y trigolion, ystyrir y dylid atodi amodau ar unrhyw ganiatâd yn rhwystro’r llain galed rhag cael ei ddefnyddio fel ardal parcio cerbydau neu ar gyfer cynnal digwyddiad, achlysur neu weithgaredd gan y Brifysgol.  Petai’r fath amodau’n cael eu gosod, byddent yn goresgyn unrhyw wrthwynebiad cynllunio i’r cais ac o ganlyniad byddai’r datblygiad yn dderbyniol a byddai’n cydymffurfio â’r polisi perthnasol.  Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau amlinellir yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd  ar ran preswylydd rhif 26 Ffordd Ffriddoedd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod y tir yn flaenorol heb ei ddatblygu ac asiant y Brifysgol yn camgymryd wrth gyfeirio ato mewn termau polisi fel tir a ddatblygwyd o'r blaen

·         Rhagdybiaeth y polisi yw ei fod yn cael ei ddychwelyd i'w statws fel tir heb

ei ddatblygu a bod amheuaeth bod y Brifysgol yn ennill caniatâd ar gyfer datblygiadau drwy ymgripio ychydig ar y tro 

·         Yn nhermau polisi'r prif gyfiawnhad a gyflwynwyd yw parcio beiciau a chredir bod asiant y Brifysgol wedi awgrymu parcio beiciau am yr union bwrpas a heb fod cyfiawnhad nid oes cefnogaeth polisi ar gyfer y cais hwn

·         Bod yr ardal ar gyfer y beiciau yn fychan o’i gymharu â’r llecyn llechi a’i fod ger y neuadd chwaraeon ac y gellid ei ddarparu heb lain galed neu lecyn llechi

·         Bod digon o fannau cadw beics yn bodoli’n barod ac sydd yn wag ac os oes angen rhai ychwanegol mai’r lle gorau i’w gosod yw wrth y brif fynedfa i’r Neuadd Chwaraeon ac nid ar y safle arfaethedig sydd wrth ochr yr adeilad

·         Os yw’r Brifysgol wedi bod eisiau mwy o le ar gyfer beiciau gallent fod wedi eu cynnwys wrth ail-ddatblygu’r safle hwn yn ddiweddar

·         Bod gardd Rhif 26 Ffordd Ffriddoedd ar ddwy lefel, un o dan dir y Brifysgol a’r llall yn is lawr

·         Fe fydd preswylydd Rhif 26 a chymdogion yn cael eu poeni gyda sŵn parhaus ac yn colli preifatrwydd pe ganiateir y cais

·         Pe byddai’r lloches beics yn cael ei roi yno byddai’n annog pobl i ymgynull wrth ymyl gardd rhif 26

·         Bod gardd rhif 26 wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol fel llwybr byr i’r safle bws sydd gyferbyn â rhif 26

·         Gwelwyd yn y gorffennol pobl yn taflu gwastraff llechi i’r ardd

·         Noda’r Brifysgol y byddai’n gyfle i greu safle sydd heb ei ddefnyddio o’r blaen i ddefnydd mwy buddiol megis safle gweithgareddau awyr agored sydd wedi digwydd ac wedi ei ddefnyddio ar gyfer plygu tarpolin yn ogystal â dosbarthbootcamp” a bod y  swn yn erchyll ac a fydd yn cynyddu

·         Er gwaethaf i’r Swyddog Prosiect y Brifysgol nodi ar 14 Rhagfyr y byddai’n atal mynediad ar gyfer parcio ceir, roedd cerbydau wedi bod yn parcio’n rheolaidd ar y safle gyda thystiolaeth ddiweddar iawn ar 16 Ebrill

·         Nid oedd problem gyda pharcio cerbydau pan oedd y llecyn yn laswellt a’r ateb syml a mwyaf amgylcheddol i’r Brifysgol fyddai adfer y llecyn yn ôl yn dir glas

·         Pe byddir yn caniatau’r cais bydd yn gyfle i ddatblygu’r safle ymhellach i’r dyfodol

 

(c)        Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) fel a ganlyn:

 

·         Roedd y tir dan sylw yn dir glas ac yn gweithredu fel byffer rhwng Canolfan  Chwaraeon Brailsford a'r eiddo preswyl

·         Yn ddiweddar mae'r brifysgol wedi  ymgymryd â  gwaith ac wedi  defnyddio’r  tir i storio cynwysyddion ar yr amod bod y tir yn cael ei adfer fel tir glas cyn gynted â bod y gwaith wedi'i gwblhau

·         Ni fu i’r tir gael ei adfer yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol, ac fe’i ddefnyddiwyd ar gyfer maes parcio heb awdurdod ar gyfer cerbydau a bysiau

·         Yn dilyn derbyn cwynion ni ddefnyddiwyd y tir fel maes parcio a chyflwynodd y Brifysgol y cais cynllunio

·         Mae'r adroddiad yn datgan bod y tir hwn yn dir a ddatblygwyd o'r blaen a bod ail-ddatblygu yn cael ei ganiatáu o dan bolisi strategol 6 ond nodwyd bod eithriad i’r polisi os bydd y tir yn cael ei ddefnyddio fel tir byffer yna ni ddylid ei ddatblygu

·         Bod gan bolisi Strategol 6 nod o warchod mwynderau a thir glas -  i sicrhau nad yw tir newydd yn cael ei ddatblygu a bod angen ail-ddefnyddio tir sydd eisoes wedi cael ei ddatblygu yn y gorffennol

·         Pwysleisir hefyd bod yn rhaid i'r ardal a gwmpesir gan wastraff llechi o dan hawl datblygu a ganiateir gael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol unwaith y bydd y defnydd dros dro wedi dod i ben ac felly dylai'r brifysgol ail-hadu’r ardal hon

·         Croesawir yr amodau i gadw gwrychoedd, codi bolardiau ac i wahardd parcio

·         Os bydd yr amodau hyn yn cael eu gosod pam y dylai'r ardal fod yn ardal lechi ac oni ddylid ei adfer yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol 

·         Gofynnwyd i'r pwyllgor sicrhau bod y Brifysgol yn adfer y tir glas

 

(ch)   Cynigiwyd ac eilwyd i wrthod y cais am y rhesymau canlynol:

 

·         Nad oedd y tir glas wedi ei adfer yn ôl fel ag yr oedd yn wreiddiol

·         Y byddai ei ganiatau yn effeithio ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos

 

(d)       Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai cais ôl-weithredol yw’r cais i gadw’r llain galed a bod y Brifysgol yn ceisio rheoleiddio’r sefyllfa yn dilyn gwneud gwaith.    Nid oes gofyn i’r datblygwr roi'r tir yn ôl yn dir glas ac nad oedd yn rheswm cynllunio dilys i wrthod y cais. Rhaid ystyried beth yw effaith y llecyn caled hefo amodau cynllunio sydd yn atal parcio a digwyddiadau gan y Brifysgol o’i gymharu â’i effaith yn flaenorol pan oedd yn lecyn gwyrdd heb unrhyw amodau cynllunio i reoli ei ddefnydd. Eglurwyd ymhellach o’i ddefnydd blaenorol fel llecyn glas, tebygolrwydd ydoedd bod rhan ohono yn gallu cael ei ddefnyddio heb unrhyw fath o ganiatâd cynllunio o gwbl.  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor bod yr amodau cynllunio yn goresgyn amhariaeth ar fwynderau trigolion. Eglurwyd ymhellach bod yn rhaid bod yn ofalus oherwydd pe byddir yn ail-hadu’r safle ni fyddai angen unrhyw ganiatâd gan y Brifysgol i’w ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau.  Roedd y cais cynllunio gerbron er mwyn hwyluso ac yn sgôp i fedru rheoli defnydd y tir. 

 

(dd)   Esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr ymhellach nad oedd yn briodol i ohirio ystyried newid lleoliad y cais oherwydd bod y safle yn rhannol weithredol beth bynnag ac gan mae hwn oedd y cais ger bron i’w ystyried.  

 

(e)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gwnaed sawl sylw i gynnwys:

 

·         tynnu’r cais yn ôl a chynnal trafodaeth bellach ynghylch ail-sefydlu’r llecyn glas

·         pryder ynglyn a thynnu’r bolardiau mewn amser

·         gwell sgrinio ac awgrym i ofyn i’r Brifysgol godi ffens rhwng ffin y tai preswyl a’r llecyn dan sylw 

 

(f)        Yn dilyn y trafodaethau uchod, tynnodd yr eilydd ei gynnig yn ôl. Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i drafodaethau pellach gan y swyddogion ar gyfer mwy o dirlunio a chodi ffens ychwanegol ar y ffin.  Pleidleisiwyd ar y cynnig hwn ac ar bleidlais y Cadeirydd fe gariwyd y cynnig. 

 

Penderfynwyd:             Caniatau’r cais yn ddarostyngedig i drafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglyn â thirlunio a chodi ffens ychwanegol ynghyd â’r amodau canlynol:

 

1.            Yn unol â’r cynlluniau  

2.            Cadw’r gwrych

3.            Y bolardiau i’w gosod o fewn 1 mis 

4.                        Nid yw ardal y llain galed i gael ei defnyddio ar gyfer parcio cerbydau ar unrhyw adeg.

5.          Ni chaiff y safle ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, achlysur na gweithgareddau awyr agored.

 

Dogfennau ategol: