Agenda item

Amrywio Amod Rhif 8 ar ganiatad cynllunio cyfeirnod C09M/0060/00/LL at gwblhau’r ffordd stad ynghyd â goleuo. 

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gethin Glyn Williams

Cofnod:

Cais llawn i amrywio amod Rhif 8 ar ganiatad cynllunio cyfeirnod C09M/0060/00/LL sydd yn cyfeirio at gwblhau’r ffordd stad ynghyd â goleuo.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y rhoddwyd amod yn wreiddiol ar ganiatâd yn 2011 i godi tri annedd preswyl ar wahân ar leiniau oedd yn ffurfio rhan o stad o dai annedd er mwyn gwarchod buddiannau’r briffordd.  Gofynnir y cais gerbron am ddileu’r angen i ddarparu golau stryd drwy ddiwygio’r rhan hwn o’r amod.  Ymwelwyd â’r safle gan swyddogion a gweld bod y gerbydlon a’r palmentydd wedi eu hwynebu’n derfynol gyda tharmac.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â’r ffurflen sylwadau hwyr a gyflwynwyd i’r Aelodau.

 

O ystyried bod y ffordd stad wedi ei chwblhau credir mai’r brif ystyriaeth cynllunio wrth ddelio â’r cais gerbron yw effaith dileu darparu golau stryd ar ddiogelwch ffyrdd a mwynderau’r gymdogaeth leol.  Yn ystod ymchwilio’r cais, derbyniwyd cadarnhad gan asiant yr ymgeisydd nad oedd y tir a oedd yn destun yr amod ym mherchnogaeth yr ymgeisydd a ddim yn gallu derbyn caniatâd y cwmni a oedd yn berchen ar y tir i ddarparu golau stryd ar safle.  Trafodwyd y mater hwn gan y swyddogion cynllunio a swyddogion yr Uned Trafnidiaeth a’r datblygwr gan benderfynu cyflwyno cais i ddiwygio amod.

 

Nodwyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth yn ystyried bod angen darparu golau stryd er mwyn cymhwyso trafnidiaeth o’r datblygiad yn ddiogel ac effeithlon gan na fyddai cynnwys darpariaeth o’r fath yn amau ar ddiogelwch ffyrdd. Cadarnhawyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth yn gwrthwynebu’r cais.

 

Yn ogystal roedd amheuaeth os gellid gorfodi’r amod o gwbl oherwydd nad oedd y tir yn ffurfio rhan o’r stad ac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.

 

O safbwynt ymateb i bryderon sydd wedi eu codi am effaith peidio darparu golau stryd ar ddiogelwch defnyddwyr y ffordd a chynnydd mewn achosion o dor cyfraith yn sgil peidio darparu golau stryd, ni ystyrir bod sail wirioneddol i bryderu oherwydd bod nifer o dai preswyl yn gor edrych y fordd sydd yn golygu fod gwyliadwriaeth naturiol yn bodoli gyda’r stad yn weddol agored ei natur.

 

Tra’n derbyn bod pryderon wedi eu lleisio, ni ystyrir bod y gwrthwynebiadau yn gorbwyso’r ffaith bod y ffordd stad yn ei ffurf orffenedig yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ffyrdd ac na fyddai diffyg darpariaeth golau stryd yn amharu ar fwynderau’r gymdogaeth leol.  Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatau’r cais yn ddiamod.  

 

(b)       Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

(c)       Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad:

 

·         Byddai ei ganiatau yn gosod cynsail i’r dyfodol

·         Pryder o ystyried nifer y tai ar y stad ynglyn â diogelwch plant ar y stad yn enwedig ar nosweithiau yn ystod y gaeaf

·         Nad oedd y Cyngor wedi gwneud ymgais i orfodi’r amod

·         Gofynnwyd beth yw ‘r nifer o dai ar stadau lle mae angen golau stryd yn statudol?

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yn rhaid bod yn gyson ac ymdrin â phob cais ar ei haeddiant.   O edrych yn ôl ar hanes y caniatad gwreiddiol, efallai mai dymuniad y Pwyllgor bryd hynny oedd cael gwelliant i’r ffordd.  Ceir esiampl yma lle mae swyddogion gorfodaeth wedi cydweithio gyda’r datblygwr er mwyn dod i ddatrysiad derbyniol, gan mai annodd buasai gorfodi’r amod gan nad oedd y datblygwr / ymgeisydd yn berchennog ar y rhan yma o’r ffordd stad oedd destun yr amod cynllunio Nodwyd bod y datblygwyr eisoes wedi cydymffurfio hefo’r hyn a ofynnir amdano yn y cais ger bron a bod hyn yn ddatrysiad derbyniol a rhesymol dan yr amgylchiadau.

 

(d)       O safbwynt materion trafnidiaeth, esboniodd yr Uwch Beiriannydd Swyddog Rheolaeth Datblygu bod amodau yn cael eu defnyddio ar gyfer ceisiadau am stadau lle ceir 6 neu fwy o dai a lle mae bwriad gan ddatblygwr i drosglwyddo ffordd drosodd i’r Cyngor i’w mabwysiadu.  Yn yr achos gerbron, ategwyd nad oedd modd gorfodi rhoi golau stryd ac nad oedd hynny’n angenrheidiol o safbwynt diogelwch defnyddywr y ffordd.. Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu darn o’r ffordd ac y byddir yn barod i’w derbyn pe byddai’r ymgeisydd yn gwneud cais drwy’r broses statudol.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig i’w ganiatau.

 

Penderfynwyd:             Caniatau’r cais yn ddiamod.

Dogfennau ategol: