Agenda item

Gosod uned llosgi biomas newydd oddi fewn i gysgodfan presennol, codi simdde newydd ynghyd â chreu estyniad i gadw peiriant rhwygo.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd W. Tudor Owen

Cofnod:

Cais llawn i osod uned llosgi biomas newydd oddi fewn i gysgodfan presennol, codi simdde newydd ynghyd â chreu estyniad i gadw peiriant rhwygo.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod tair elfen i’r datblygiad sef gosod uned biomas newydd yn lle’r uned bresennol, gosod simdde newydd uwchben yr uned biomas a chreu estyniad bach yng nghefn yr eiddo ar gyfer peiriant rhwygo.  Ystyriwyd nifer o agweddau wrth asesu’r cais yng nghyd-destun mentrau presennol a chredir bod yr egwyddor yn dderbyniol. Ni chredir y byddai’r datblygiad yn achosi difrod arwyddocaol i’r ardal o amgylch y safle er gwaethaf derbyn gwrthwynebiadau sy’n cyfeirio at broblemau presennol sy’n achosi pryder i drigolion lleol ar sail aflonyddwch sŵn a llygredd.  Pwysleisiwyd bod yr egwyddor o sefydlu’r safle wedi ei ganiatau ers 2002 a bod y cynnig diweddaraf wedi ei leoli oddi fewn i gwrtil safle diwydiannol.  Credir ymhellach na fyddai graddfa’r bwriad yn amharu’n arwyddocaol ar yr amgylchedd o ystyried lleoliad y gwaith union gyferbyn â’r adeiladwaith presennol.    Cyfeiriwyd hefyd bod yr amcanion uchod wedi eu hadlewyrchu yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru.

 

O safbwynt mwynderau gweledol, er bod rhan fwyaf o’r offer wedi eu lleoli o dan gribau’r toeau’r uned bod un simdde/echdynnydd eisoes wedi ei leoli oddeutu 2m uwchben un crib. Nodwyd bod lleoliad yr offer a’r strwythurau cysylltiol wedi eu rheoli a’u siapio gan ofynion statudol cyrff rheoleiddio ac nid yw’n bosib eu gorchuddio gydag arwisg.  Nid yw’n hawdd ceisio cymhathu strwythurau diwydiannol o’r fath i’r amgylchedd oherwydd natur yr adeiladau eu hunain.  Er hyn, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ceisio lleihau  effaith gweledol y strwythurau ychwanegol er mwyn i’r estyniad arfaethedig gydweddu i’r estyniad presennol.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais hwn yn ymwneud â sŵn ac aflonyddwch a phryder bod y biomas presennol yn rhedeg 24 awr am 7 diwrnod yr wythnos sydd yn groes i’r amodau cynllunio ar y ceisiadau blaenorol sydd yn cyfyngu ar bryd y gellir defnyddio’r offer ynghyd ag isafswm lefelau sŵn.  Yn amlwg o dderbyn y gwrthwynebiadau bod tor-amod wedi digwydd.  Nodwyd bod Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ynghyd â’r Uned Gorfodaeth yn ymwybodol o’r sefyllfa ond gan fod y cais cyfredol wedi ei gyflwyno byddir yn atal cymryd camau gorfodaeth ar hyn o bryd.  Pe byddir yn caniatáu’r cais, gwelir bod cyfle i ymgymryd â mesuriadau lliniaru er mwyn sicrhau bod yr offer newydd yn cydymffurfio â gofynion lefelau swn statudol gan obeithio na fydd ardrawiad sylweddol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos. Gellir gosod amodau cynllunio ar gyfer oriau gweithio’r offer ynghyd â gosod lefelau uchafswm swn a fydd yn deillio o’r uned biomas a’r peiriant rhwygo.  Pe bai sefyllfa yn codi yn y dyfodol ynglyn â thor-amod, gellir ymgymryd â mesurau gorfodaeth priodol bryd hynny.

 

Yn ogystal, derbyniwyd gwrthwynebiadau ynglyn a gollyngiadau llygryddion i’r awyr a chadarnhawyd bod yr Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi ymgymryd ag asesiadau ac wedi dod i gasgliad nad oes perygl i’r boblogaeth leol ar sail dirywiad yn ansawdd yr aer. 

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig sydd yn dangos bod y peiriant rhwygo wedi ei osod tu fewn i’r cysgodfan.

 

Nodwyd bod argymhelliad y swyddogion cynllunio yn wahanol i’r hyn sydd o fewn yr adroddiad sef:

 

·         newid amod safonol o 5 mlynedd i flwyddyn fel bo’r ymgeisydd yn gweithredu’r caniatad gyn gynted a phosibl ac er mwyn dod dros y broblem tor-amod cynllunio sy’n digwydd ar hyn o bryd.        

·      gofyn i’r Pwyllgor roi hawl i’r swyddogion drafod ymhellach gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd ynglyn â chynnwys amodau (4 a 5 yn yr adroddiad) ynglyn ag oriau gweithredu’r y caniatad a lefelau swn (gan hefyd ystyried yr oriau gwaith sydd eisoes wedi derbyn caniatad cynllunio drwy geisiadau blaenorol).

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Ei fod yn cynrychioli preswylwyr Llain y Felin, Rhosbodrual, Caernarfon

·         Tra’n derbyn bod y tai yn ffinio â stad ddiwydiannol a bod gan Welcome Furniture hawl i redeg busnes ac yn cyflogi pobl leol, nid oedd y gwrthwynebiad yn un afresymol

·         Nid oedd gan y gwrthwynebydd broblem hefo’r sŵn yn ystod oriau gwaith yn ystod yr wythnos ond gwrthwynebai am y swn tu allan i oriau gwaith a thros y penwythnos, fin nosau a gwyliau banc

·         Bod y broblem yn hanesyddol gyda’r gweithredwr yn torri amod cynllunio ers 2002

·         Derbyniwyd hawl cynllunio yn 2011 i osod llosgwr  coed a chytunwyd i’r oriau gweithredu ond er hynny gweithredir 24 awr am 7 diwrnod o’r wythnos

·         Disgrifiwyd y sŵn fel sŵn haid o wenyn drwy’r adeg ac ni ellir agor y ffenestri yn ystod yr haf nac ychwaith medru eistedd allan yn yr ardd ar fin nosau

·         Er bod y gweithredwr yn nodi y byddai’r sŵn ddim mwy na 23dB nid yw yn wybyddus beth fyddai arwyddocâd hynny a bod y sŵn ar hyn o bryd yn broblem ac yn creu niwsans

·         Apeliwyd ar i’r Pwyllgor wrthod y cais neu gyfyngu ar oriau gweithio yn enwedig yn ystod y nos, penwythnosau a gwyliau banc

 

(c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nodd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod bwriad i leihau’r lefel sŵn yr uned biomas i 23dB ac y byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwastraff sydd fel arall yn gorfod mynd i safle tirlenwi  sydd yn gostus

·         Bod y busnes yn cyflogi 140 unigolion ar hyn o bryd

·         Gweithredwyd yr uned echdynnu am 24 awr ac er mwyn lliniaru’r broblem sŵn  lleolwyd yr uned  mewn lleoliad pellaf posibl i ffwrdd o’r tai

·         Bod yr uned biomas yn bodoli’n barod a’r cynllun gerbron ydoedd i roi uned biomas newydd fel y byddai yn llawer mwy effeithiol

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i amodau priodol i liniaru sŵn i’r trigolion cyfagos a gofynnwyd bod y safle yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth o’r amodau gweithredu.

 

(d)       Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod gan Adran Gwarchod y Cyhoedd arbenigedd o safbwynt lefelau sŵn a chyfeiriwyd at farn yr Adran honno o fewn yr adroddiad eu bod yn fodlon gyda’r datblygiad arfaethedig ond rhaid sicrhau amodau llym o ran gweithrediad yr unedau.   Tynnwyd sylw bod sgil effeithiau’r sŵn yn amrywio ac yn ddibynnol ar weithrediad y gwahanol unedau megis yr uned biomas a fydd yn 23dB a’r gweithgaredd echdynnu sydd yn hanesyddol wedi bod yn broblemus.  Rhaid cofio bod hwn yn ymgais i resymoli gweithgaredd sydd wedi bod yn broblemus dros y blynyddoedd a’i fod yn anodd cloriannu’r effaith i’r trigolion gyda chyflogaeth ar stad ddiwydiannol sydd yn bodoli ers blynyddoedd.  Fodd bynnag, rhaid gwneud yn sicr nad yw’r gweithgareddau yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau trigolion cyfagos.  Ystyrir bod y cais gerbron yn gyfle i resymoli’r sefyllfa a phe byddir yn caniatau’r cais byddai’n gyfle i sicrhau amodau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd a fyddai’n rheoli amseroedd gweithredu’r unedau bwriedig ac o ganlyniad yn sicrhau gwarchodaeth i’r trigolion lleol ac yr un pryd yn sicrhau na fyddai’n cael effaith ar hyfywdra'r busnes.     

 

(e)       Gwnaed y sylwadau canlynol gan Aelodau:

 

·         Cydymdeimlwyd â’r ymgeisydd yn sgil bo cyflogaeth yn hynod bwysig i’r ardal a chydymdeimlwyd hefyd â’r gwrthwynebydd o safbwynt mwynderau ac y dylid cael cydbwysedd a modd i fonitro’r safle     

·         Pryder nad yw’r ymgeisydd wedi glynu at yr amodau yn y gorffennol a bod cyfnod o flwyddyn yn amser hir i fod yn dioddef swn

·         Y byddai Ymweliad Safle yn ddefnyddiol er mwyn i’r Aelodau fedru clywed y sŵn eu hunain 

·         Tra’n derbyn bod yr uned biomas i’w weithredu am 24 awr a bod llawer o weithgareddau o’i gwmpas, oni ellir dadansoddi yn union yr elfen sŵn o’r safle yn ei chyfanrwydd ac a yw’n bosibl lleihau’r swn i 23dB fel awgryma’r ymgeisydd

 

(f)        Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:

 

·         Mai’r rheswm o gyfyngu’r gweithrediad i flwyddyn ydoedd bod yr ymgeisydd yn  awyddus i weithredu ar drefniadau sy’n rhesymoli’r sefyllfa sŵn mor fuan ag sy’n bosibl ac y byddai’n afresymol i roi caniatâd dros dro

·         Byddir yn llunio amod, mewn ymgynghoriad ag Adran Gwarchod y Cyhoedd i sicrhau bod y gwaith sy’n lliniaru effeithiau sŵn yn cael ei weithredu o fewn cyfnod byrraf posibl

·         Y byddai modd cymryd camau o safbwynt gorfodaeth cynllunio neu o dan ddeddfwriaeth Gwarchod y Cyhoedd pe na fyddir yn cydymffurfio â’r amodau perthnasol ac y byddai’n ofynnol bod yn llawer mwy cadarn ynglyn ag unrhyw elfennau o dor-amod.

·         Ni fyddai o fudd ymweld â’r safle heblaw i glywed y sŵn cefndirol sy’n bodoli’n barod ac y byddai hyn yn oedi ar weithrediad i liniaru’r broblem sŵn sy’n destun o’r cais gerbron 

·         Bod asesiad sŵn trylwyr wedi ei gwblhau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd gyda’r lefelau sŵn yn amrywio yn ddibynnol ar y gweithgaredd. 

·         Bod yr uned biomas arfaethedig yn fwy modern a  gellir gofyn i’r ymgeisydd gadarnhau bod ffigyrau lefelau’r sŵn yn gywir

·         Bod yr Aelod lleol wedi datgan ar lafar ei fod yn gefnogol i’r cais

 

(ff)   Nododd un Aelod ei wrthwynebiad i’w ganiatau ac yn siomedig bod yr ymgeisydd ac Adran Gwarchod y Cyhoedd yn ymwybodol bod tor-amod wedi digwydd yn y gorffennol a chwestiynwyd a ellir bod yn ffyddiog na fyddai hyn yn digwydd eto

 

Penderfynwyd:             Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais  yn ddarostyngedig  i ail-ymgynghori ymhellach gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ynglyn ag amodau priodol yn ymwneud â lefelau swn / amseroedd gweithredu'r uned biomas, uned echdynnu llwch a’r peiriant rhwygo ac yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.            1 flwyddyn.

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Cyflwyno manylion parthed gorffeniadau allanol.

4.           Ni chaniateir i’r uned biomas, peiriant rhwygo na’r uned echdynnu llwch  cael eu defnyddio ar unrhyw ddydd Sul na Gwyliau Banc.

5.           Cyn defnyddio’r uned biomas at unrhyw ddiben  rhaid cwblhau asesiad monitro swn llawn gan gwmni annibynnol sydd i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd hyn yn galluogi’r Awdurdod i sicrhau na fydd unrhyw swn a gynhyrchir o ganlyniad i weithredu’r uned biomas ac unrhyw offer cysylltiedig fod yn uwch na’r lefelau swn cytunedig...

6.           Dim ond tanwydd sy’n cael ei gydnabod yn addas gan wneuthurwyr yr uned biomas ac sy’n deillio o’r busnes Welcome Furniture gaiff ei losgi yn yr uned biomas. Ni chaniateir i danwydd gael ei gario i mewn o unrhyw darddiad allanol heb dderbyn yn gyntaf caniatâd ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol

7.           Ni chaniateir i loriau sydd yn sefyll yn y man llwytho (yn yr ardal a amlinellir mewn gwyrdd ar y cynllun sydd ynghlwm a’r caniatâd hwn) neu sy’n dadlwytho adael yr injan yn rhedeg tra ar y safle.

8.           Ni chaiff uchder y simdde fod yn llai na 5m uwchben cribau toeau’r uned ddiwydiannol (uchder cyfunol o 15m) er mwyn sicrhau gwasgariad digonol o allyriadau llygryddion o’r simdde ei hun.

9.           Unrhyw amodau fydd yn deillio o drafodaethau pellach gyda Adran Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud gyda dyddiau ac oriau gweithredu yr unedau/peiriannau sy’n destun y cais a gweithredu o fewn lefelau swn perthnasol

Dogfennau ategol: