Cais Materion a gadwyd yn ô lar gyfer codi 11 annedd preswyl fel ganiatwyd o dan gyfeirnod C11/1103/15/AM.
Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards
Cofnod:
Cais materion a gadwyd yn ôl ar
gyfer codi 11 annedd preswyl fel a ganiatawyd o dan gyfeirnod C11/1103/15/AM.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion
a gadwyd yn ôl i gynnwys
maint, ymddangosiad a thirlunio. Bwriedir codi 11 tŷ deulawr gyda mynediad
a ffordd gerbydol oddi ar y ffordd
gyhoeddus gyfagos gyda’r tai yn
amrywio mewn maint i gynnwys
cymysgedd o dai 4 a 3 ystafell wely.
Cyfeiriwyd at y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Tynnwyd sylw at yr ymgynghoriadau
cyhoeddus a oedd yn cynnwys gwrthwynebiadau
gan drigolion lleol ond yn
dilyn rhoi ystyriaeth lawn i’r pryderon ni
chredir y byddai dyluniad a gosodiad y tai yn debygol o amharu
ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal i
raddfa annerbyniol. Nodwyd ymhellach bod y safle
wedi gordyfu a thrwy ddatblygu’r safle y byddir yn gwaredu rhywogaethau
ymwthiol mewn ffordd ddiogel.
Ystyrir bod materion trafnidiaeth yn dderbyniol ynghyd
ag asesiadau ffurfiol bioamrywiaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod y safle yn wlyb
oherwydd y diffyg cynnal a chadw dyfrffos yn y gorffennol. Cyflwynwyd pryderon ynglŷn ag effaith llifogydd yn enwedig
ar dai cyfagos
ac ar diroedd yn is i lawr
o’r safle ond er hyn,
ni wrthwynebwyd y cais gan Gyfoeth
Naturiol Cymru, Dŵr Cymru nag ychwaith Uned Draenio
Tir y Cyngor a bod amodau priodol wedi eu cynnig
er mwyn gwarchod
y sefyllfa. Yn sgil y pryderon
a gyflwynwyd, gofynnwyd i Cyfoeth Naturiol
Cymru am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â strategaeth gwaredu dŵr wyneb tu fewn
ac i ffwrdd o’r safle a chyflwynwyd
y wybodaeth yn ddiweddarach gan yr ymgeisydd a
oedd yn dderbyniol.
Tynnwyd sylw at sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Uned Draenio Tir
y Cyngor ar y ffurflen sylwadau hwyr a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor sydd
yn gefnogol i’r bwriad arfaethedig
yn ddarostyngedig i amodau priodol. Yn seiliedig ar yr holl
ystyriaethau, argymhelliad
y swyddogion cynllunio ydoedd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig
i amodau yn ymwneud â draenio’r
safle, a chario allan gwaith
yn unol ag argymhellion yn yr adroddiad coed
a Bioamrywiaeth.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais.
(c) Mewn ymateb i
ymholiad ynglyn â diffyg cyfeiriad i dai fforddiadwy,
nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai cais yn
ymwneud â materion a gadwyd yn ôl
oedd gerbron a bod yr egwyddor o sefydlu’r
11 tŷ wedi ei ganiatáu yn
2012 a’r rheswm pennaf dros beidio
neilltuo canran o’r tai yn rhai
fforddiadwy ydoedd hyfywdra’r datblygiad o ystyried natur y tir a materion draenio fyddai’n gostu
(ch) Ychwanegodd Aelod
bod prinder tai a thir yn Llanberis
ar gyfer adeiladu a’i bod yn ymwybodol bod yr Aelod Lleol
yn gefnogol i’r cais.
Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatau’r
cais yn ddarostyngedig
i dderbyn ymateb ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir ynglyn a threfniadau gwarchod y dyfrffos ar y safle ac i
amodau perthnasol yn ymwneud gyda:
1.
Amod traenio perthnasol
2. I
gario allan
y gwaith yn unol gyda’r argymhellion
yn yr Adroddiad
Coed a Bioamrywiaeth (fel y’i diweddarwyd
ers y cais amlinellol)
Dogfennau ategol: