Adeiladu tŷ annedd tair ystafell wely a modurdy.
Aelod Lleol: Cynghorydd John B. Hughes
Cofnod:
Cais amlinellol i adeiladu tŷ
annedd tair ystafell wely a modurdy.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai cais
amlinellol oedd gerbron ar gyfer
codi tŷ deulawr sy’n cynnwys
modurdy cysylltiol. Er bod y materion wedi eu
cadw yn ôl
cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer rhoi
syniad o’r math o dŷ y bwriedir
ei leoli ar y safle.
Derbyniwyd ymholiad cyn cyflwyno cais ar
gyfer adeiladu’r tŷ ar y safle
dan sylw a rhoddwyd neges glir a phendant bod y safle yn gorwedd
bryn bellter y tu allan
i’r ffin datblygu ac na fyddai modd cefnogi’r
cais.
Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol ynghyd â’r sylwadau i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus.
Ystyrir na fyddai’r
bwriad yn dderbyniol gyda’r dyluniad yn rhy
fawr a swmpus i’r lleoliad dan
sylw. Byddai’n debygol o arwain at or-edrych ac yn groes
i bolisïau perthnasol. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y rhesymau amlinellir yn yr adroddiad
gerbron.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod ef
a’i ddarpar briod yn bobl
leol i’r ardal, yn rhentu
tŷ ar y funud ac nad oedd
llawer o siawns i brynu tai o gwmpas
yr ardal oherwydd eu bod allan o’u cyrraedd
yn ariannol
·
Eu bod fel cwpl yn gweithio’n lleol
ac yn awyddus i fyw o gwmpas
y pentref ac ar ôl priodi yn
dymuno magu teulu yn yr
ardal
·
Ei fod yn rhentu ers oddeutu
6 mlynedd a’u bod wedi cael cynnig
prynu’r tir dan sylw ac yn
gyfle gwych i fedru adeiladu
tŷ eu hunain
(c) Cefnogwyd y cais gan yr
Aelod Lleol (nad oedd yn
Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ac fe wnaed
y prif bwyntiau canlynol:
·
Rhestrwyd nifer o dai sydd wedi eu
datblygu o gwmpas y tir dan sylw
ac ni chredir ei fod wedi
ei leoli mewn cefn gwlad
·
Ni dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiad gan y cyrff statudol
i’r datblygiad arfaethedig heblaw ynglyn â deunyddiau a fwriedir ei ddefnyddio
ond rhaid ysytried bod y dyluniad yn un modern
·
Mai dim ond dau le sydd
i’w ddatblygu yn Llanengan
·
Derbyniwyd un gwrthwynebiad gan
berchennog eiddo Minffordd ynglyn ag uchder y modurdy a phe byddai’r ymgeisydd
yn ei leihau
byddai’r gwrthwynebydd yn hapus
·
Bod digon
o le parcio
·
Nad oedd modd i’r cwpl brynu
tŷ a’u bod yn gweithio’n lleol
ac yn cadw’r iaith Gymraeg yn
fyw yn yr
ardal
·
Bod Llanengan
yn bentref bywiog a chredir bod y datblygiad arfaethedig yn cyfarch anghenion
y cwpl ac y dylid eu cefnogi
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig wedi ei leoli
yng nghefn gwlad ac yn gwbl
groes i bolisiau
cynllunio ac nad
oedd cyfiawnhad i’w ganiatau. Atgoffwyd yr Aelodau mai
polisiau’r Cyngor oedd yn rhwystro’r
math yma o ddatblygiad o ran egwyddor.. Awgrymwyd ymhellach y gallasai’r ymgeiswyr gael
eu hasesu gan Tai Teg i
weld os oeddent yn cymhwyso am dy fforddiadwy ac i weld os oedd
eiddo priodol ar gael fyddai’n
cwrdd a’u anghenion. Pwysleiswyd pe byddai’r Pwyllgor yn caniatau’r cais
yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio ni fyddai
dewis ond i’w gyfeirio i
gyfnod cnoi cil.
(d) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r
cais oherwydd yr angen lleol,
prinder tai a bod yr ymgeiswyr yn gweithio’n lleol.
(dd) Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid y cynnig i’w ganiatau:
·
Bod tai yn Abersoch dros
£250,000 ac allan o gyrraedd
pobl leol
·
Y dylid
brwydro i gadw cyplau ifanc
yn lleol
·
Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r
datblygiad
·
Tra’n derbyn bod polisiau
cynllunio, dylid trafod opsiynau er mwyn helpu
pobl ifanc i aros yn
lleol
·
Gofynnwyd a fyddai’n bosibl caniatau’r cais a gosod amod Cytundeb
106 ar y caniatad?
(e) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, eglurwyd fel a ganlyn:
·
Nad oedd tystiolaeth ysgrifenedig wedi ei dderbyn gan
Tai Teg i gefnogi’r angen lleol am dy fforddiadwy
·
Nad oedd y datblygiad wedi ei gyflwyno
fel tŷ fforddiadwy a’i fod yn gais
ar gyfer tŷ ar y farchnad
agored
·
Bod y cais yn gwbl
groes i’r polisiau cynllunio
(f)
Pleidleiswyd ar y cynnig i ganiatau’r cais
ond fe
syrthiodd y cynnig hwn.
(ff) Cynigwyd, eilwyd a phleidleisiwyd i wrthod y cais
ac awgrymu ymhellach, tra’n cydymdeimlo â’r cwpl ifanc,
eu bod yn cyflwyno cais i
Dai Teg ar gyfer cael eu
hasesu I weld os oeddent yn cymhwyso
am dŷ fforddiadwy. Fe gariodd y bleidlais i wrthod
y cais yn unol ag argymhelliad
y swyddogion cynllunio.
Penderfynwyd: Gwrthod
y cais am y rhesymau canlynol:
1. Mae’r bwriad ar
gyfer adeiladu tŷ annedd newydd yng nghefn
gwlad heb unrhyw gyfiawnhad ar ei gyfer
ac felly yn annerbyniol ar sail egwyddor ac yn groes i
ofynion Polisi C1 a CH9 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ynghyd a’r canllawiau a geir yng Nghanllaw
Cynllunio Atodol: Adeiladu Tai Newydd yng Nghefn Gwlad,
Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar Gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy ynghyd â Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 ar Dai.
2. Mae’r dyluniad darluniadol a gyflwynwyd o raddfa rhy fawr
a swmpus i’r safle ac yn cynnwys
nifer o nodweddion anghydweddol gyda’r ardal oddi amgylch
ac felly ni ystyrir fod dyluniad y tŷ na’r cyfuniad
o ddeunyddiau yn addas ar gyfer
y safle sydd wedi ei leoli
o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardal Cadwraeth ac felly ei fod yn groes
i Bolisïau B4, B8, B22 a
B25 CDUG.
2. Byddai’r bwriad fel a ddangosir ar y cynlluniau darluniadol a gyflwynwyd yn rhan o’r
cais yn debygol
o arwain at or-edrych a cholli preifatrwydd i dai cyfagos. Ystyrir felly fod y bwriad yn
groes i Bolisi
B23 CDUG.
Dogfennau ategol: