Agenda item

Estyniad i adeilad allanol presennol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer estyniad i adeilad allanol presennol.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais i ymestyn dau adeilad gardd to fflat presennol sydd wedi’u gosod mewn siâp L i greu un adeilad to brig ym mhendraw gardd teras.  Eglurwyd na fyddai hyd na lled yr adeilad ddim mwy na’r ddwy ochr i’r “L” presennol (5.6m x 6.2m) ac ni fyddai’r to ddim uwch na tho adeilad gardd y ty drws nesaf.  Nodwyd oherwydd natur yr ardal a’r lefelu tir mai’n anorfod fod peth gor-edrych yn bodoli rhwng y tai a’r gerddi.

 

O safbwynt pryderon amlygwyd gan berchennog y ty drws nesaf i’r gogledd (Rhif 25) ynglyn a gor-edrych, ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol i’r fath raddau ei fod yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl / preifatrwydd tai cyfagos.  Gan i’r datblygiad redeg ar hyd rhan o ffin gardd rhif 25 drws nesaf, derbynnir yr achosir peth cysgodi i ben gardd yr eiddo hwn ond ni ystyrir y byddai niwed arwyddocaol i fwynderau gweledol ty na gardd rhif 25 nac unrhyw dy arall ychwaith.

 

Datganwyd pryder ynghylch effaith y ffenestri to yn llethr cefn to’r adeilad a’r posibilrwydd o or-edrych neu lygredd olau, ac fe nodwyd bod modd rhoi amod priodol ynghylch ffenestr to afloyw i oresgyn y pryder.

 

Yn dilyn ystyried yr holl ystyriaethau perthnasol, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig i amodau amlinellir yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod gwendid gyda’r cynllun yn yr ystyr nad yw'n rhoi proffil cywir o'r tir

·         Bod y tir yn disgyn yn sydyn i'r chwith o'r adeilad ac os yw'n ymestyn 3m oddi wrth y wal byddai'n effeithio ar yr ardd gyfagos

·         Nid yw'n ddefnyddiol bod lefel y llawr ar yr un uchder ag ystafelloedd gwely Rhif  25

·         Ni chytunir â phwynt 5.6 o’r adroddiad sy’n nodi bod goredrych yn bodoli eisoes - nid yw hyn yn gywir

·         Bod gardd rhif 23 yn is na rhif 25

·         Bod gan Rif 25 patio sy'n mesur 1.25m islaw lefel yr adeilad arfaethedig felly bod rhywfaint o breifatrwydd yn cael ei ddileu oherwydd bod yr adeilad yno

·         Yn ogystal bod hyn yn gwaethygu’r broblem o gysgodi - mae dau fan lle gellir  eistedd y tu allan yn  rhif 25 a pe byddir yn caniatáu adeilad i fod 3.6m o uchder ac ymestyn 3m o’i flaen golygai y bydd hyn yn creu i’r lle fod yn dywyll

·         Bod patio rhif 25 yn is na'r lefel ac felly yn cael ei effeithio yn sylweddol

·         Bod y to yn rhy uchel, o’i  gymharu â rhif 21 a bod gweddill y stryd gyfan yn is ac nid oes yr un yn ymestyn i'r prif dŷ fel sy'n digwydd gyda'r cais hwn

·         Cyfeiriwyd at Bolisi B22  a thynnu sylw bod gan y cyhoedd fynediad i gefn yr adeilad hwn ac os bydd crib yr adeilad hwn yn uchel byddent yn colli’r olygfa honno

 

(c)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·            Bod camddealltwriaeth sylweddol o ran beth yw'r bwriad

·            Ei fod wedi cyfarfod â chymaint o drigolion lleol ag y bo modd, ond nid    

       preswylydd rhif 25 er ei fod wedi ceisio trefnu cyfarfod

·            Bod maint gwirioneddol yr adeilad yn golygu mai’r to yw'r agwedd sy’n

       dylanwadu ond ni fydd yn uwch na'r eiddo cyfagos sef rhif 21 sydd  

       wedyn yn pennu lle mae lefel llawr o fewn yr estyniad

·            Bod lefel yr ardd yn eithaf gwastad yr holl ffordd o'r wal gefn  

       presennol i ble mai'n ymestyn ar hyn o bryd, ac yna yn disgyn i ffwrdd  

       y tu hwnt i'r ardd isaf

·            Ni fydd lefel  y slab mor uchel â’r wal

·            Gwelir fudd i rhif 25 gan y bydd lefel yr ardd yn cael ei leihau – ni  

       fwriedir cynyddu uchder y lefel gardd a gwneir pob ymdrech i geisio

       cynnal cysylltiadau cymdogol

·              Byddir yn defnyddio'r ardal patio sydd yn  3m is na chefn y tŷ

·              Bod rhai o'r materion yn y gwrthwynebiad yn gamarweiniol a byddir yn gwneud popeth i sicrhau sgrinio ychwanegol os oes angen

 

(ch)   Cefnogwyd y cais gan yr Aelod lleol (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ond mynegodd bryder ynglyn â’r ffenestr yn y to ac a fyddai modd lliniaru’r pryder ynglyn â goredrych.

 

(d)      Mewn ymateb i’r uchod, sicrhaodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu y byddai modd goresgyn y broblem gor-edrych drwy gyflwyno amod ar gyfer rhoi ffenestr afloyw ac sydd ddim yn agor.

 

(dd)   Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion cynllunio.

 

(e)      Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn ag amod ar gyfer defnydd yr adeilad, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu na fydd angen rhoi amod gan mai adeilad atodol i’r a fwriedir sy’n cynnwys un ystafell.  

 

(f)        Pleidleiswyd  i ganiatau’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion cynllunio. 

 

Penderfynwyd:             Caniatau’r cais yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.            5 mlynedd

2.            Datblygiad yn cydymffurfio gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd

3.            To llechi a deunyddiau

4.            Ffenestri to afloyw sydd wedi’u cau’n barhaol yn unig

 

Nodyn: Deddf Wal Gydrannol

Dogfennau ategol: