Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr June Marshall, Owain Williams a Dilwyn Lloyd (Eilydd).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fuddiant personol yn Eitem 5 ar y rhaglen yn y ceisiadau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·         Cais Cynllunio Rhif C15/0485/46/LL oherwydd ei fod yn ffrindiau gyda’r sawl sy’n adeiladu’r darpariaeth glampio

·         Cais Cynllunio Rhif C15/0495/43/LL oherwydd ei fod yn fab i’r ymgeisydd

 

Roedd yr Aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)       Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Elfed Wyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C13/0611/18/AM)

·        Y Cynghorydd Sian Gwenllian (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0416/20/AM)

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0429/35/LL

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 342 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2015, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm)

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

6.

Cais Rhif C13/0611/18/AM - Rhiwgoch, Clwt-y-Bont, Caernarfon pdf eicon PDF 683 KB

Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd á mynedfa newydd.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Elfed Wyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd â mynedfa newydd.

 

(a)       Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y bu i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar 02.03.15 a bwriad y Pwyllgor oedd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion ar sail dau reswm sef gor-ddatblygu a diffyg darpariaeth llecyn chwarae. Oherwydd, ym marn yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio,  bod risg sylweddol i’r Cyngor o ran y penderfyniad i wrthod y cais a oedd yn groes i argymhelliad swyddogion, cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheoliadau sefydlog y Pwyllgor. Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yw er mwyn amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Ymhelaethwyd ar genfdir y cais gan nodi mai cais amlinellol yw hwn ar gyfer codi 17 o dai deulawr gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy ar safle sydd i’r de-orllewin o Ddeiniolen/Clwt y Bont ar lecyn o dir llwyd sydd wedi ei gynnwys oddi fewn i ffin datblygu’r pentref.  Mae’r bwriad hefyd yn cynnwys creu agoriad cerbydol i’r ffordd sirol dosbarth III gyfochrog.Yn flaenorol roedd ffatri International Safety Components wedi ei leoli ar y safle ond erbyn hyn mae’r safle wedi ei glirio o adeiladwaith y cyn-ffatri cynhyrchu nwyddau dringo. Yn bresennol, defnyddir rhan blaen o’r safle ar gyfer man parcio anffurfiol.

 

Caniatawyd cais blaenorol am 17 o dai (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) yng Ngorffennaf, 2010 gyda chytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau fod 2 dŷ allan o’r 17 yn dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd cais materion a gadwyd yn ôl o fewn y cyfnod statudol ac mae’r caniatâd bellach wedi rhedeg allan.

 

Tynnwyd sylw at ymateb i’r pyderon amlygwyd gan y Pwyllgor ynglyn â gwrthod y cais yn seiliedig ar or-ddatblygu, darpariaeth o lecyn chwarae a thai fforddiadwy. Esboniwyd ymhellach o safbwynt gor-ddatblygu nad oes cynnydd yn y nifer o dai a fwriedir yn y cais diweddaraf hwn o’i gymharu â’r cais a ganiatawyd yn 2010. Esboniwyd bod y polisi perthnasol yn datgan y gellir caniatau datblygiadau o 30 tŷ i bob hectar o dir a bod y cais  gerbron yn gofyn am 17 o dai gyda’r dwysedd yn 24 tŷ i’r hectar.  Felly nodwyd bod y dwysedd yn llai na’r hyn a nodir yn y polisi cynllunio.  Er mwyn ymateb i’r pryder ynglyn â pherygl i blant gerdded i gaeau chwarae cyfagos oherwydd diffyg palmant ar hyd y ffordd, bu i’r ymgeisydd ddiwygio’r cynllun safle i gynnwys darpariaeth o lecyn chwarae yng nghornel gogledd-dwyreiniol safle’r cais i greu man diogel i’r plant.  Cyflwynwyd amcan gwerth marchnad / gwerthiant y tai ac ystyrir bod y prisiau yn fforddiadwy o’u cymharu â ffigyrau prisiau tai ar gyfartaledd yn Neiniolen / Clwt y Bont.

  

Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol.

 

Ymhelaethwyd ar y risgiau i’r Cyngor wrthod y cais ac amlinellwyd opisynau i’r Pwyllgor pe byddir yn gwrthod y cais  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C15/0377/22/LL - Bryn Llys, Nebo, Caernarfon pdf eicon PDF 728 KB

Cais i gadw gwaith i ymestyn ty heb gydymffurfio a chaniatad  rhif C13/944/22/LL dyddiedig 07/01/2014

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i gadw gwaith i ymestyn heb gydymffurfio â chaniatad rhif C13/0944/22/LL.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais presennol yn dangos estyniad o ddyluniad tebyg i’r cynllun a ganiatawyd yn 2014 a’r ddyluniad allanol yn adlewyrchu lleoliad agoriadau y drysau a’r ffenestri fel y caniatad  blaenorol ac eithr bod yr estyniad  yn uwch o tua 1.0m a bod  hyd yr estyniad (yn cynnwys yr estyniad croes) tua 2.0m yn hirach na’r estyniad a ganiatawyd yn flaenorol. Noder bod waliau allanol yr estyniad bwriadedig yn cael eu gorchuddio gyda cherrig cae sylweddol a bod hyn yn ychwanegu at faint gorffenedig yr estyniad. Mae’r cais hwn, fel y caniatâd blaenorol yn cynnwys dymchwel rhan deulawr o’r tyddyn presennol ynghyd ac adeiladu estyniad unllawr yng nghornel deheuol y tyddyn.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus.

 

Cyflwynwyd y cais diwygiedig i’r Cyngor o ganlyniad i’r Uned Gorfodaeth dderbyn cwyn yn datgan nad oedd y gwaith o adeiladu'r estyniad yn cydymffurfio gyda'r hawl cynllunio. O ganlyniad i archwilio'r safle ynghyd â’r cynlluniau a ganiatawyd daeth i’r amlwg nad oedd gwaith adeiladu yn gaeth unol â’r cynlluniau a ganiatawyd ac yn dilyn trafod y mater gyda’r perchennog cyflwynwyd cais ôl gweithredol i’r Cyngor am ystyriaeth.

 

Pwysleiswyd bod yr egwyddor i godi estyniad i’r tyddyn eisoes wedi ei sefydlu oherwydd bod y cais cynllunio a ganiatwyd yn 2014 dal mewn grym hyd 2019.  Er bod maint yr estyniad sydd yn destun y cais presennol yn fwy na’r estyniad a ganiatwyd yn wreiddiol, ni ystyrir bod y gwahaniaeth yn ddigon i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod adeilad wedi ei godi ar y tir ond yn dilyn trafod gyda’r perchennog deallir mai dros dro yn unig ydoedd er hwyluso’r gwaith ar y .

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd y gwrthwynebydd y prif bwyntiau isod:

 

·         Fel perchennog eiddo gyferbyn â’r datblygiad roedd yn pryderu am uchder yr adeilad arfaethedig oherwydd ei fod yn llawer iawn uwch na’r hyn sydd eisoes o amgylch yr ardal

·         Mae'n gwrthddweud yr adran addasu ac ymestyn o Ganllawiau Dylunio Cyngor Gwynedd sy'n datgan na ddylai'r estyniad oruchafu’r adeilad gwreiddiol. Yn gyffredinol mai’n well eu bod yn llai o faint gyda llinellau crib isel a bod unrhyw fath o estyniad yn gyflenwol i'r adeilad gwreiddiol ac yn debyg yn gymesur â goleddf y to ac uchder

·         bod rhan o'r maes datblygu wedi cael ei gynnwys yn y gofrestr o feysydd o dirlun o ddiddordeb eithriadol yng Nghymru

·         Bod y datblygiad sydd heb ei ganiatáu  yn sylfaenol wahanol i'r cynllun a ganiateir felly bod amheuaeth pam nad yw’r datblygiad anawdurdodedig wedi bod yn destun cais cynllunio llawn o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref

·         Bod yr  adeilad eisoes wedi gosod cynsail yn rhinwedd estyniad a diffyg cydymffurfio â dogfennau adeiladu a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C15/0416/20/AM - Tir yn Ffordd Glan y Mor, Y Felinheli pdf eicon PDF 836 KB

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 14 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Sian Gwenllian

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 14 newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol.

 

(a)      Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron i godi 14 tŷ, creu mynedfa gerbydol a ffordd stad ynghyd a darparu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl i’w cynnwys oddi fewn i gais manwl (pe caniateir y cais amlinellol hwn). Yr unig fater  sy’n ffurfio rhan o’r cais amlinellol hwn yw'r fynedfa arfaethedig ac mae’r  materion sydd wedi’u cadw yn ôl yn ymwneud â thirweddu, edrychiadau, cynllun a graddfa.

 

Nodwyd y prif elfennau i’r cais sef:

 

·         darparu tai i gynnwys 8 byngalo, 4 tŷ dormer ynghyd a 2 dy ddeulawr ac wedi eu dylunio a’u gosod ar ffurf pâr gyda 4 o’r tai wedi eu cynnig fel tai fforddiadwy.

·         Creu 5 rhandir a mannau parcio cysylltiedig ar y rhan gwaelod o’r safle

·         Creu mynedfa newydd - er mwyn gwasanaethu’r tai bydd angen creu mynedfa

newydd oddi ar y ffordd sirol ddi-ddosbarth cyfagos (Ffordd Glan y Môr). Er mwyn galluogi creu’r fynedfa a chael gwelededd safonol ynghyd a chreu llwybr troed newydd bydd y clawdd sy’n gwahanu’r safle o’r ffordd sirol yn cael ei ddymchwel ar hyd holl ffin ogleddol y safle.

 

Ymhelaethwyd ar y polisïau perthnasol a gan ystyried cyd-destun y polisïau a’r canllawiau lleol roedd yn glir nad yw’r bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor a’i fod yn groes i bolisïau a chanllawiau lleol ynghyd â chyngor a gynhwysir yn nogfennau Llywodraeth Cymru ar sail lleoliad, mwynderau gweledol, effaith ar safleoedd o bwysigrwydd archeolegol, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt.

 

O ystyried yr holl asesiadau argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais oherwydd nad yw’n dderbyniol ar sail yr egwyddor o ddatblygiad tai yn y lleoliad dan sylw, effaith ar heneb gofrestredig, effaith ar fwynderau gweledol, effaith ar ddiogelwch ffyrdd a cholled o glawdd a gwrych.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Apeliwyd i’r Pwyllgor ohirio rhag penderfynu ar y cais

·         Bod safle’r cais gyferbyn â ffin datblygu y Felinheli fel amlinellir yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd

·         Bod y bwriad yn cynnig 14 gyda 4 ohonynt yn rhai fforddiadwy sydd yn gyfatebol i 30% o’r cyfanswm

·         Ceir amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau yn Felinheli a chredir bod rhain yn ddigonol ar gyfer tyfiant yn y boblogaeth all ddeillio o’r datblygiad arfaethedig

·         Bod 64.3% o boblogaeth Ward y Felinheli yn siarad Cymraeg o’i gymharu a 65.4% yng Ngwynedd

·         Bod yr amrywiaeth o dai sy’n cael eu cynnig yn debygol o ddenu pobl sengl, teuluoedd hŷn a theuluoedd gyda phlant a gall y datblygiad gael effaith bositif ar yr Ysgol gynradd  leol drwy gynyddu’r nifer disgyblion

·         Bod nifer o fewnfudwyr yn Ward y Felinheli wedi cynyddu o 191 i 280 - 46.6% rhwng 1991  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C15/429/35/LL - Llwyn Madyn, Muriau, Criccieth pdf eicon PDF 674 KB

Estyniad llawr cyntaf gan gynnwys codi lefel y to creu balcony a newidiadau i’r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn gwrthod cais C14/1152/35/LL)

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eirwyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer estyniad llawr cyntaf gan gynnwys codi lefel y to, creu balconi a newidiadau i’r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn gwrthod cais C14/1152/35/LL).

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth ar gefndir y cais a’i fod yn ail-gyflwyniad o gais blaenorol a gafodd ei wrthod ym mis Ionawr eleni ar sail pwerau dirprwyedig.  Golygai’r bwriad ymestyn byngalo gromen (dormer) presennol i greu ty sylweddol deulawr yn ei le.  Byddai lefel to’r prif dy’n codi o 6m i 8m, tra byddai lefel to’r estyniad unllawr presennol 4.2m o uchder yn codi i 6.7m.  Byddai gan yr adeilad doeau brig o lechi a waliau rendr wedi’u paentio.

 

Tra nad oes gwrthwynebiad i safon y dyluniad na’r deunyddiau ond ei fod yn bwysig ystyried lleoliad y bwriad gan ei fod wedi ei leoli mewn stad o dai gyda dyluniadau cyson, sef byngalos gromen ac yn unllawr neu unllawr a hanner.  Byddai’r adeilad ar ôl ei ymestyn yn adeilad swmpus a fyddai’n gwbl wahanol i eiddo o amgylch ac fe ystyrir y byddai’n nodwedd anghydnaws i’r drefwedd ac i’r rhan yma o Gricieth.  Noda’r polisiau y Cynllun Datblygu bod yn rhaid i ddatblygiadau newydd barchu eu safle a’ cyffiniau o ran graddfa, maint a ffurf y datblygiad ac yn yr achos hwn ni ystyrir bod y cynnig yn gwneud hynny.

 

Lleolir y mewn cwrtil sylweddol a chytunir y byddai’n gwbl bosibl codi estyniad i’r o fewn y cwrtil heb niwed arwyddocaol i gymeriad a mwynderau gweledol yr ardal.  Fodd bynnag ni gytunwyd bod y dyluniad a gynigir yn briodol ar gyfer y safle.  Ystyrir felly bod y dyluniad yn gwbl anaddas ar gyfer y safle hwn ac yn groes i bolisiau cynllunio perthnasol.  Gall ei ganiatau hefyd osod cynsail a all newid cymeriad y stad yn llwyr.   O ystyried yr holl ystyriaethau argymhellir bod y Pwyllgor yn gwrthod y cais am y rhesymau a restrir yn adroddiad y swyddogion cynllunio.

 

Nodwyd ymhellach bod cais hwyr wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i ddangos lluniau o rannau o’r stad ond nodwyd bod yr hyn a gyflwynwyd ar ffurf sleidiau gan yr Adran Gynllunio yn adlewyrchu cyd-destun y safle yn gwbl eglur i’r Pwyllgor.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn anhapus nad oedd wedi cael cyflwyno’r lluniau i’r Pwyllgor gan nad oedd lluniau’r Adran Gynllunio yn dangos bod dau eisoes ar y stad

·         Bu i ddau gael eu hadeiladu ar y stad yn y 50au a rheiny yn dai deulawr 4 llofft

·         Bod yr estyniad yn golygu codi’r lefel 2m yn unig

·         Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan gymdogion

·         O safbwynt cysondeb, bod pob math o wahanol dai yn bodoli ar y stad ac ni ofynnir am unrhyw beth allan o’r cyffredin

·         Bod llawer o dai wedi eu hadeiladu yng Nghricieth yn ddiweddar sy’n llawer iawn gwaeth na’r hyn a ofynnir ac nid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C15/0460/15/LL - Bryn Padarn, 19 Rallt Goch, Llanberis pdf eicon PDF 899 KB

Cais llawn i godi tŷ newydd ar ffurf byngalo dormer 3 ystafell wely, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol.

 

 Aelod Lleol:  Cynghorydd Trevor Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi ty newydd ar ffurf byngalo dormer 3 ystafell wely, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffiniau datblygu pentref Llanberis ac yn rhan o gwrtil eiddo domestig presennol, mae’n dir sydd yn ymestyn cryn dipyn i flaen yr eiddo hwn ag ar lefel uwch na’r ffordd gyhoeddus gyfochrog ag yn greigiog mewn mannau.

 

Cydnabyddir fod dyluniad yr adeilad yma yn gyfoes o fewn yr ardal leol yma o’i gymharu gydag adeiladau eraill. Er hynny, ni chredir fod un patrwm pendant i ffurf adeiledig yr ardal.  Mae barn ynglŷn â beth sydd yn gwneud dyluniad da yn fater goddrychol ac yn yr achos yma, ni chredir y byddai yn amharu i raddau annerbyniol ar unrhyw ffurf bendant bresennol.

 

Credir felly fod y bwriad o ran ei ddyluniad a gorffeniad yn dderbyniol yn yr achos yma ac na fyddai ar sail y materion hyn yn effeithio’n niweidiol ar fwynderau gweledol yr ardal leol i raddau annerbyniol. Credir felly fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau B22 a B25 o’r CDU.

 

O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y safle yn uwch na’r ffyrdd cyfagos ac felly mi fyddai adeiladu adeilad ar y tir hwn o edrych o gyfeiriad y lonydd yma, yn amlwg o fewn y dirwedd leol. Er hynny, mae patrwm adeiledig yr ardal leol yn cynnwys tai ar safleoedd dyrchafedig ac felly ni fyddai yn gwbl unigryw yn hynny o beth.

 

Nodwyd bod dyluniad yr eiddo wedi ystyried effeithiau gor-edrych ar gymdogion cyfagos. Mae’r elfen gwydr amlycaf ar flaen yr adeilad yn edrych dros ofod weddol agored bresennol ac felly ni chredir y byddai gor-edrych amlwg yn deillio o’r edrychiadau yma.  Mae ffurf adeiledig ddwys yr ardal bresennol yn golygu fod gor-edrych yn anorfod i raddau, ond fe welir yn yr achos yma fod gwir ymgais wedi ei wneud i osgoi gor-edrych gormodol o ganlyniad i godi’r adeilad hwn yn y ffurf fel y bwriedir

 

O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, codwyd pryderon ynglŷn â’r bwriad o safbwynt effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a’i ddefnyddwyr.  Nodwyd bod mynedfa gerbydol bresennol i mewn i’r safle gan ddarparu llecynnau parcio ar gyfer yr eiddo presennol. Mae’r fynedfa hon yn cael ei addasu er mwyn sicrhau mynedfa briodol ac mae’r ddarpariaeth parcio ar gyfer yr eiddo presennol yn cael ei symud i ran arall o’u cwrtil.

 

Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth gan awgrymu cynnwys amodau safonol ynghlwm a’r datblygiad. O ganlyniad, ni chredir y byddai’r bwriad yn annerbyniol o safbwynt materion priffyrdd a thrwy hynny yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau CH33 a CH36 o’r CDU.

 

Yn unol â’r ystyriaethau uchod a’r holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C15/0485/46/LL - Land near Ty Bwlcyn, Dinas, Pwllheli pdf eicon PDF 647 KB

Gosod 5 pod “glampio” ac adeiladu bloc cyfleusterau cegin / toiledau ynghyd â safle parcio a newid defnydd llyn o amaethyddol i dwristiaeth.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Simon Glyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i osod 5 pod “glampio” ac adeiladu bloc cyfleusterau cegin / toiledau ynghyd â safle parcio a newid defnydd llyn o amaethyddol i dwristiaeth.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi ei fod ar gyfer gosod pump pod ‘glampio’ a thoiled compost ynghyd ag adeiladu bloc cyfleusterau cegin/toiledau a darpariaeth parcio ar dir yn Nhŷ Bwlcyn, Dinas. Gofynnir hefyd am newid defnydd llyn amaethyddol presennol i ddefnydd twristiaeth, er mwyn i ymwelwyr i’r safle ei ddefnyddio ar gyfer  pysgota a hamdden. Byddai’r podiau o wneuthuriad pren ac wedi eu gosod ar gae i’r gogledd ddwyrain o’r llyn, ac wedi eu lleoli o amgylch ffiniau coediog y cae. Byddai’r adeilad a’r safle parcio wedi eu lleoli ar waelod llethr yn agos i fythynnod gwyliau eiddo Tŷ Bwlcyn a bwriedir gwella llwybr presennol i gysylltu’r parcio gyda’r cae ble lleolir y podiau. Bwriedir cysylltu i’r tanc septig presennol sydd ar y safle.

 

Lleolir y safle yng nghefn gwlad agored ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bwriedir ail sefydlu mynedfa ddiddefnydd bresennol i’r ffordd ddi-ddosbarth fel mynediad i’r datblygiad, gan ei lledu a gwella’r gwelededd.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod polisi D19 yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol, gwersylla ac unedau teithiol newydd os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a nodir. Yn eu mysg yw’r angen bod dyluniad, gosodiad a gwedd y datblygiad o safon uchel a’i fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol.

 

Ystyrir ceisiadau am ‘bodiau’ o dan bolisïau carafanau teithiol, gan mai unedau symudol/gwersylla ydynt i bob pwrpas.  Byddant yn unedau o fath symudol, lle y gellir eu symud yn gymharol rhwydd o amgylch y cae. Credir bod y cae dan sylw yn addas i ddatblygiad o’r fath gan bod tir uwch i’r cefn a haen drwchus o lystyfiant ar y ffiniau, sy’n golygu y byddant yn guddiedig ac allan o olwg y cyhoedd a’r tai agosaf. Ni ragwelir cynnydd sylweddol mewn trafnidiaeth yn sgil y cais, o ystyried graddfa fechan y bwriad ac mae'n debygol y bydd y drafnidiaeth wedi ei gyfyngu i geir a beiciau, yn hytrach na cherbydau tynnu fel safleoedd carafanau teithiol arferol.  Gan mai ail sefydlu mynedfa bresennol yw’r nod i ffordd ddi-ddosbarth, nid oes angen caniatâd cynllunio a gellir ei gwella heb achosi niwed arwyddocaol i nodweddion y dirwedd. Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn nhermau maen prawf 2 polisi D19.

 

Bwriedir lleoli’r podiau ar y cae dros y tymor gwyliau yn unig, gyda’r ymgeisydd yn nodi bwriad i’w symud un ai i gornel cuddiedig o’r cae neu i’r maes parcio dros y gaeaf.

 

            O bwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, ystyrir bod egwyddor o sefydlu safle glampio 5 pod, codi adeilad cyfleusterau a gwaith cysylltiedig yn dderbyniol yn y lleoliad anymwthiol hwn. Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a’r polisïau a drafodwyd uchod ac felly yn dderbyniol i’w ganiatáu gydag amodau cynllunio perthnasol.

 

(b)       Cynigiwyd ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C15/0495/43/LL - Gwynus Caravan Park and Golf Course, Pistyll, Pwllheli pdf eicon PDF 663 KB

Uwchraddio 10 carafan sefydlog bresennol gan ail leoli 5 i gae 471 a’r 5 arall i gae 470, ymestyn y safle carafanau i ran o gae 470, gostwng y nifer o garafanau teithiol o 55 i 52, ail leoli carafanau teithiol o gae 471 i gae 472, cynyddu'r arwynebedd ar gyfer storio 40 o garafanau teithiol ar gae 472 dros fisoedd y gaeaf, codi derbynfa newydd ar safle'r cytiau moch yn unol â’r caniatad roddwyd eisoes.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Llywarch Bowen Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i uwchraddio - 10 carafan sefydlog bresennol gan ail-leoli 5 i gae 471 a’r 5 arall i gae 470, ymestyn y safle carafanau i ran o gae 470, gostwng y nifer o garafanau teithiol o 55 i 52, ail-leoli carafanau teithiol o gae 471 i gae 472, cynyddu’r arwynebedd ar gyfer storio 40 o garafanau teithiol ar gae 472 dros fisoedd y gaeaf, codi derbynfa newydd ar safle’r cytiau moch yn unol â’r caniatad roddwyd eisoes.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y cynhaliwyd trafodaethau gyda asiant yr ymgeisydd ynglyn â’r bwriad.  Fel rhan o’r uwchraddio byddai y niferoedd o garafanau teithiol  o fewn y safle yn ei gyfanrwydd yn cael ei leihau o 55 i 52.  Byddai’r bwriad hefyd yn fodd o reoleiddio lleoli 9 carafan deithiol ar gae 4942. 

  

            Yn bresennol mae caniatâd cynllunio yn bodoli ar gyfer lleoli cyfanswm o 10 carafán sefydlog a 55 carafán deithiol ar y safle.  Mae caniatâd hefyd yn bodoli ar gyfer storio 40 o garafanau teithiol ar ran gogleddol cae 472 yn ystod misoedd y gaeaf.  Yn bresennol mae caniatâd cynllunio ar gyfer defnyddio cae 470 fel cwrs golff a’r safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

            O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod polisi D17 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn caniatáu cynigion i uwchraddio safleoedd carafanau sefydlog presennol gan gynnwys estyniadau bach i arwynebedd tir, adleoli unedau, cynnydd bychan yn y niferoedd  a chyfnewid llecynnau teithiol am unedau carafannau gwyliau sefydlog os gellir cydymffurfio â’r 3 maen prawf perthnasol. 

 

Esboniwyd bod y cais hefyd yn cynnwys bwriad i ymestyn y safle storio carafanau teithiol dros fisoedd y gaeaf i gynnwys cae 472 yn ei gyfanrwydd.  Ni fwriedir cynyddu’r niferoedd o garafanau teithiol a fyddai’n cael eu storio.  Mae y rhan o gae 472 y bwriedir ymestyn y safle storio iddo yn un gyda thyfiant o’i amgylch ac ni ystyrir y byddai’n safle ymwthiol yn y dirwedd. Ystyrir fod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi D21 CDUG.

 

            Nodir hefyd fod yr Uned AHNE wedi datgan y byddai’r datblygiad i’w weld o’r lon rhwng Pistyll a Phentreuchaf.  Er y cytunir y gellir cael cipolwg o’r safle o rannau o’r ffordd yma ni ystyrir yn sgil y plannu sydd wedi ei ymgymryd dros y blynyddoedd a lleoliad y safle sydd i’w ymestyn i’r gogledd o ffin y safle carafanau presennol y byddai’r bwriad i’w weld yn eglur o’r lon rhwng Pistyll a Phentreuchaf nag ychwaith o ffyrdd eraill yn y cyffiniau.  Yn sgil yr uchod, y sefyllfa bresennol a’r hyn sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r cais ni ystyrir y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr AHNE ac felly ei fod yn dderbyniol yng nghyd-destun polisi B8 CDUG.

 

Gorwedd y safle hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Llyn ac Ynys Enlli.  Fodd bynnag ni ystyrir y byddai’r bwriad yn groes i  Bolisi B12 CDUG gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.