Agenda item

Estyniad llawr cyntaf gan gynnwys codi lefel y to creu balcony a newidiadau i’r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn gwrthod cais C14/1152/35/LL)

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eirwyn Williams

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer estyniad llawr cyntaf gan gynnwys codi lefel y to, creu balconi a newidiadau i’r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn gwrthod cais C14/1152/35/LL).

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth ar gefndir y cais a’i fod yn ail-gyflwyniad o gais blaenorol a gafodd ei wrthod ym mis Ionawr eleni ar sail pwerau dirprwyedig.  Golygai’r bwriad ymestyn byngalo gromen (dormer) presennol i greu ty sylweddol deulawr yn ei le.  Byddai lefel to’r prif dy’n codi o 6m i 8m, tra byddai lefel to’r estyniad unllawr presennol 4.2m o uchder yn codi i 6.7m.  Byddai gan yr adeilad doeau brig o lechi a waliau rendr wedi’u paentio.

 

Tra nad oes gwrthwynebiad i safon y dyluniad na’r deunyddiau ond ei fod yn bwysig ystyried lleoliad y bwriad gan ei fod wedi ei leoli mewn stad o dai gyda dyluniadau cyson, sef byngalos gromen ac yn unllawr neu unllawr a hanner.  Byddai’r adeilad ar ôl ei ymestyn yn adeilad swmpus a fyddai’n gwbl wahanol i eiddo o amgylch ac fe ystyrir y byddai’n nodwedd anghydnaws i’r drefwedd ac i’r rhan yma o Gricieth.  Noda’r polisiau y Cynllun Datblygu bod yn rhaid i ddatblygiadau newydd barchu eu safle a’ cyffiniau o ran graddfa, maint a ffurf y datblygiad ac yn yr achos hwn ni ystyrir bod y cynnig yn gwneud hynny.

 

Lleolir y mewn cwrtil sylweddol a chytunir y byddai’n gwbl bosibl codi estyniad i’r o fewn y cwrtil heb niwed arwyddocaol i gymeriad a mwynderau gweledol yr ardal.  Fodd bynnag ni gytunwyd bod y dyluniad a gynigir yn briodol ar gyfer y safle.  Ystyrir felly bod y dyluniad yn gwbl anaddas ar gyfer y safle hwn ac yn groes i bolisiau cynllunio perthnasol.  Gall ei ganiatau hefyd osod cynsail a all newid cymeriad y stad yn llwyr.   O ystyried yr holl ystyriaethau argymhellir bod y Pwyllgor yn gwrthod y cais am y rhesymau a restrir yn adroddiad y swyddogion cynllunio.

 

Nodwyd ymhellach bod cais hwyr wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i ddangos lluniau o rannau o’r stad ond nodwyd bod yr hyn a gyflwynwyd ar ffurf sleidiau gan yr Adran Gynllunio yn adlewyrchu cyd-destun y safle yn gwbl eglur i’r Pwyllgor.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn anhapus nad oedd wedi cael cyflwyno’r lluniau i’r Pwyllgor gan nad oedd lluniau’r Adran Gynllunio yn dangos bod dau eisoes ar y stad

·         Bu i ddau gael eu hadeiladu ar y stad yn y 50au a rheiny yn dai deulawr 4 llofft

·         Bod yr estyniad yn golygu codi’r lefel 2m yn unig

·         Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan gymdogion

·         O safbwynt cysondeb, bod pob math o wahanol dai yn bodoli ar y stad ac ni ofynnir am unrhyw beth allan o’r cyffredin

·         Bod llawer o dai wedi eu hadeiladu yng Nghricieth yn ddiweddar sy’n llawer iawn gwaeth na’r hyn a ofynnir ac nid oedd ym marn yr ymgeisydd yn or-ddatblygiad   

 

(c)       Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei fod yntau yn anhapus nad oedd modd cyflwyno lluniau’r ymgeisydd a’i fod yn gefnogol i’r cais gerbron.  Nododd ymhellach nad oedd gwrthwynebiadau gan yr ymgynghoriadau canlynol:

 

·         Cyngor Tref Cricieth

·         Trigolion Cricieth

·         Cymdogion  cyfagos

·         Uned Trafnidiaeth y Cyngor

 

Cyfeiriwyd at bolisi B22 sy’n nodi bod y safle wedi ei leoli mewn safle amlwg ar gyffordd rhwng dwy ffordd gyhoeddus. Teimlwyd bod hyn yn gamarweiniol gan  bod y ffordd yn ddi-ddosbarth, heb balmant ac yn ffordd mewnol a ddefnyddir gan drigolion y stad yn unig.    

 

(ch)   Cynigwyd ac eilwyd i’r Pwyllgor Cynllunio fynd i ymweld â’r safle.

 

Penderfynwyd:            Gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

Dogfennau ategol: