Uwchraddio 10 carafan sefydlog bresennol gan ail leoli 5 i gae 471 a’r 5 arall i gae 470, ymestyn y safle carafanau i ran o gae 470, gostwng y nifer o garafanau teithiol o 55 i 52, ail leoli carafanau teithiol o gae 471 i gae 472, cynyddu'r arwynebedd ar gyfer storio 40 o garafanau teithiol ar gae 472 dros fisoedd y gaeaf, codi derbynfa newydd ar safle'r cytiau moch yn unol â’r caniatad roddwyd eisoes.
Aelod Lleol: Cynghorydd Llywarch Bowen Jones
Cofnod:
Cais llawn i uwchraddio - 10 carafan sefydlog bresennol gan ail-leoli 5 i gae 471 a’r
5 arall i gae 470, ymestyn y safle carafanau i ran o gae 470, gostwng y nifer o garafanau teithiol o 55 i 52, ail-leoli carafanau teithiol o gae 471 i gae
472, cynyddu’r arwynebedd ar gyfer storio
40 o garafanau teithiol ar gae 472 dros
fisoedd y gaeaf, codi derbynfa newydd
ar safle’r cytiau moch yn
unol â’r caniatad roddwyd eisoes.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y cynhaliwyd trafodaethau gyda asiant yr ymgeisydd
ynglyn â’r bwriad. Fel rhan o’r uwchraddio byddai y niferoedd o garafanau teithiol o fewn y safle yn ei gyfanrwydd yn cael ei
leihau o 55 i 52. Byddai’r bwriad hefyd
yn fodd o reoleiddio lleoli 9 carafan deithiol ar gae 4942.
Yn bresennol mae caniatâd cynllunio yn bodoli ar gyfer lleoli cyfanswm o 10
carafán sefydlog a 55 carafán deithiol ar y safle. Mae caniatâd hefyd yn bodoli ar gyfer storio
40 o garafanau teithiol ar ran gogleddol cae 472 yn ystod misoedd y gaeaf. Yn bresennol mae caniatâd cynllunio ar gyfer
defnyddio cae 470 fel cwrs golff a’r safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o
fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
O
safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod polisi D17 o Gynllun Datblygu Unedol
Gwynedd yn caniatáu cynigion i uwchraddio safleoedd carafanau sefydlog
presennol gan gynnwys estyniadau bach i arwynebedd tir, adleoli unedau, cynnydd
bychan yn y niferoedd a chyfnewid
llecynnau teithiol am unedau carafannau gwyliau
sefydlog os gellir cydymffurfio â’r
3 maen prawf perthnasol.
Esboniwyd bod y cais hefyd yn cynnwys bwriad i ymestyn y safle storio carafanau teithiol
dros fisoedd y gaeaf i gynnwys cae 472 yn ei gyfanrwydd. Ni fwriedir cynyddu’r niferoedd o
garafanau teithiol a fyddai’n cael eu storio.
Mae y rhan o gae 472 y bwriedir ymestyn y
safle storio iddo yn un gyda thyfiant o’i amgylch ac ni ystyrir y byddai’n
safle ymwthiol yn y dirwedd. Ystyrir fod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi
D21 CDUG.
Nodir hefyd fod yr Uned AHNE
wedi datgan y byddai’r datblygiad i’w weld o’r lon rhwng Pistyll a Phentreuchaf. Er y
cytunir y gellir cael cipolwg o’r safle o rannau o’r
ffordd yma ni ystyrir yn sgil y plannu sydd wedi ei ymgymryd dros y blynyddoedd
a lleoliad y safle sydd i’w ymestyn i’r gogledd o ffin y safle carafanau
presennol y byddai’r bwriad i’w weld yn eglur o’r lon rhwng Pistyll a Phentreuchaf nag ychwaith o ffyrdd eraill yn y
cyffiniau. Yn sgil yr uchod, y sefyllfa
bresennol a’r hyn sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r cais ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn cael effaith andwyol ar yr AHNE ac felly ei fod yn dderbyniol yng
nghyd-destun polisi B8 CDUG.
Gorwedd y safle hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Llyn ac Ynys Enlli. Fodd
bynnag ni ystyrir y byddai’r bwriad yn groes i
Bolisi B12 CDUG gan na fyddai’n ddatblygiad ar y fath raddfa ac mor fawr
fel y byddai’n cael effaith mwy nag effaith leol ar y dirwedd hanesyddol
Ystyrir y byddai’r bwriad yn gwella gosodiad y
safle ac yn caniatáu lleoli’r unedau teithiol mewn un rhan o’r safle yn hytrach
nag yn ei ffurf bresennol sy’n fwy gwasgaredig.
Mae’r cais yma hefyd wedi cyflwyno cynllun manwl o sut y bwriedir gosod
allan y safle a byddai cael un caniatâd ar gyfer y safle yn lanach ac yn haws
i’w reoli na’r caniatadau tameidiog sydd wedi eu
caniatáu dros y blynyddoedd. Byddai’r
bwriad yn cael ei wneud mewn camau a fyddai’n sicrhau na fyddai newidiadau
amlwg i’w gweld dros nos ac yn fodd o sicrhau fod y datblygiad yn cael ei wneud
yn drefnus gan gadw at y niferoedd o garafanau fyddai wedi ei ganiatáu.
(b) Cynigiwyd, eilwyd a phleidleiswyd yn unfrydol i
ganiatau’r cais.
(c) Mewn ymateb i ymholiad
gan Aelod ynglyn â chyfrifoldeb o’r man pasio, esboniodd yr Uwch
Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod y ffordd i’r safle wedi
ei mabwysiadu yn rhannol ond
bod angen ymgymryd â gwaith ychwanegol ar y man pasio (sef tarmacio) fel
rhan o’r cais blaenorol cyn i’r Cyngor
ei fabwysiadu.
Penderfynwyd: Caniatáu gyda’r amodau
canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Unol gyda’r cynlluniau.
3. Y gwaith uwchraddio i’w gwblhau yn unol
gyda’r 6 rhan datblygu sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac y dylid cwblhau
un cam o’r gwaith uwchraddio cyn symud ymlaen i’r rhan nesaf.
4. Cyfanswm o 10 uned sefydlog yn unig.
5. Cyfanswm o 52 uned deithiol yn unig.
6. Tymor gwyliau carafannau
sefydlog.
7. Tymor gwyliau carafannau
teithiol.
8. Defnydd gwyliau yn unig – carafannau sefydlog a teithiol.
9. Cadw cofrestr o ddefnyddwyr.
10. Cytuno lliw'r unedau sefydlog newydd a
rhai sy’n cael eu cyfnewid yn y dyfodol.
11. Y mannau pasio ar y trac fyny at y safle
yn cael eu hadeiladu hyd at safon fabwysiedig cyn i’r carafannau
sefydlog sydd yn cael eu hail leoli gael eu meddiannu.
12. Y trac dros dro sydd i’w greu i gael
mynediad i gae 470 i gael ei ddileu a’r tir i gael ei
adfer i’w gyflwr presennol cyn cychwyn ar bedwerydd cam y datblygiad.
13. Yn dilyn cael gwared o’r ffordd dros dro
yn unol ag amod 13 uchod bydd mynediad i’r unedau a leoli’r ar gae 470 drwy gae 471 yn unig.
14. Cytiau moch i’w gofnodi drwy gofnod
ffotograffau a drwy law a chyflwyno copi i’r ACLl a’r
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru cyn eu dymchwel.
15. Llechi
Cymreig i do’r adeilad dderbynfa newydd.
16. Ffenestri a drysau newydd yr adeilad
derbynfa newydd o wneuthuriad pren
17. Nwyddau dŵr glaw'r adeilad derbynfa
newydd i fod o wneuthuriad alwminiwm.
18. Edrychiadau gorllewinol a deheuol yr adeilad
dderbynfa newydd i gael ei orffen gyda charreg i’w ail-ddefnyddio o’r cytiau
moch presennol.
19. Cyfyngu defnydd o’r adeilad derbynfa
newydd i ddefnydd sy’n gysylltiedig gyda’r safle carafannau
yn unig.
20. Tirlunio.
21. Dim storio cychod ar y tir.
22. Uchafswm o 40 carafan
teithiol i gael eu storio dros fisoedd y gaeaf yn cae rhif 472.
23. Y carafannau
teithiol sy’n cael eu storio i’w lleoli o fewn 1 medr i’w gilydd.
24. Unrhyw olau i’w osod ym ‘mhorch’ yr adeilad newydd unai yn gweithio ar amserydd neu yn un sy’n ymateb i symudiad.
Dogfennau ategol: